Guidance

Cyfamod Cymdeithas Sifil – Crynodeb o ganfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

Updated 24 October 2025

1. Rhagarweiniad

Mae’r Prif Weinidog wedi’i gwneud hi’n flaenoriaeth i ailsefydlu’r berthynas â chymdeithas sifil a magu partneriaeth newydd a all ddefnyddio potensial llawn cymdeithas sifil i ailadeiladu ein gwlad a chyflawni yn erbyn 5 cenhadaeth y llywodraeth.

Ym mis Hydref 2024, ymrwymodd y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ddatblygu Cyfamod Cymdeithas Sifil a fydd yn gweithredu fel sylfaen ar sail egwyddorion ar gyfer y berthynas newydd hon, yn ogystal â bod yn symbol o gydnabyddiaeth Llywodraeth y DU o’r sector fel partner dibynadwy ac annibynnol. Fel cam cyntaf, fe wnaethant lansio dogfen Fframwaith Cyfamod yn nodi’r uchelgais, y cwmpas a’r egwyddorion allweddol arfaethedig a ddylai fod yn sail i’r berthynas newydd. Hefyd sbardunodd y lansiad ymarfer ymgysylltu uchelgeisiol, dan arweiniad y DCMS mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) a Chymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol (ACEVO), i gael barn ar y Cyfamod a chlywed am brofiadau partneriaethau o weithio’n uniongyrchol y tu fewn i gymdeithas sifil a chyrff y llywodraeth.

Cwestiynau ymgysylltu allweddol

Ai’r 4 egwyddor allweddol – cydnabyddiaeth, partneriaeth, cyfranogiad, tryloywder – yw’r rhai cywir?

Beth sy’n galluogi partneriaeth effeithiol a beth yw’r enghreifftiau o arfer da?

Beth yw’r rhwystrau i bartneriaethau a chydweithredu ystyrlon?

Sut ydyn ni’n defnyddio gallu rhagorol cymdeithas sifil i arloesi a dod o hyd i atebion newydd i broblemau cymdeithasol a sut ydyn ni’n cefnogi’r meddylfryd hwnnw i gydio ar draws y sector?

Sut ydyn ni’n sicrhau bod y Cyfamod hwn yn dal dŵr ac yn effeithiol?

Sut ydyn ni’n dod â’r berthynas newydd yn fyw, yn enwedig yn y cyd-destun economaidd presennol?

Ein nod oedd cyrraedd pob un yng nghymdeithas sifil ledled y DU yn ogystal â llywodraeth a chyrff cyhoeddus ar bob lefel. Yn benodol, roeddem am glywed gan sefydliadau nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i roi eu barn i’r llywodraeth, fel grwpiau cymunedol bach. Er mwyn helpu gyda chyrraedd y cynulleidfaoedd amrywiol hyn, fe wnaethom ddarparu ystod eang o gyfleoedd ymgysylltu gan gynnwys:

  • Arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan NCVO y gwnaeth 488 o sefydliadau cymdeithas sifil ei gwblhau

  • Cynhaliodd NCVO gyfres o 16 o sesiynau ymgysylltu ‘galw heibio’ hygyrch lle rhannodd sefydliadau farn ar lafar ac yn ystod trafodaethau, 18 cyfweliad manwl ag arweinwyr cymdeithas sifil ac ystod o ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid

  • Cynhaliodd y DCMS a Rhif 10 gyfres o drafodaethau bord gron thematig, gan gynnwys trafodaethau yng nghwmni mentrau cymdeithasol, sefydliadau seilwaith lleol, sefydliadau dan arweiniad BME a grwpiau ffydd

  • Cyflwynodd 92 o sefydliadau cymdeithas sifil ymatebion ysgrifenedig a thystiolaeth yn uniongyrchol i’r DCMS

Ymgysylltodd y DCMS hefyd ar draws ac ar led y llywodraeth a chafodd 72 o ymatebion gan adrannau Whitehall, awdurdodau lleol, awdurdodau strategol a llywodraethau datganoledig. I gael trosolwg llawn o’r broses ymgysylltu, gweler Atodiad A.

Dros gyfnod o 8 wythnos, clywson ni gan dros 1,200 o sefydliadau o bob rhan o gymdeithas sifil, adrannau Whitehall, awdurdodau lleol, awdurdodau strategol a llywodraethau datganoledig. Clywsom gan sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithredu ym mhob cwr o’r DU; o sefydliadau cymunedol micro ar lawr gwlad, i’r rheini sydd â throsiant dros £100 miliwn bob blwyddyn. Clywsom hefyd gan ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau rheng flaen, sefydliadau seilwaith, undebau llafur, sefydliadau ymchwil ac eiriolaeth. Mae ystod yr ymatebwyr yn golygu bod hwn yn un o’r ymarferion ymgysylltu helaethaf a gynhelir ar draws cymdeithas sifil. Mae Atodiad A yn rhoi dadansoddiad manylach o’r gwaith ymgysylltu hwn.

Mae canfyddiadau’r cyfnod ymgysylltu wedi’u nodi yn y ddogfen hon ac mae’r mewnwelediadau hyn wedi llywio datblygiad y Cyfamod terfynol yn uniongyrchol, dan arweiniad y DCMS ac mewn cydweithrediad agos â grwpiau cynghori o gymdeithas sifil a Whitehall.

Mae NCVO hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o’r canfyddiadau o’u gwaith hymgysylltu â chymdeithas sifil.

Rydym yn diolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith ymgysylltu hwn.

2. Egwyddorion y Cyfamod

Mae Fframwaith Cyfamod Cymdeithas Sifil yn nodi 4 egwyddor, rydyn ni wedi’u cynnig, a fyddai wrth wraidd y Cyfamod a byddai’n sail i’r berthynas yn y dyfodol. Datblygwyd y rhain gan y DCMS mewn cydweithrediad agos â chyrff allweddol cymdeithas sifil, gan gynnwys NCVO ac ACEVO.

Y 4 egwyddor lefel uchel arfaethedig

  1. Cydnabyddiaeth: i sicrhau cymdeithas sifil gref ac annibynnol.

  1. Partneriaeth: i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu a bod polisïau’n cael eu llunio yn effeithiol, ac i sicrhau bod dysgu arfer da yn digwydd ar y cyd.

  1. Cyfranogiad: i sicrhau bod pobl a chymunedau yn gallu cael eu clywed a gwneud gwahaniaeth.

  1. Tryloywder: i sicrhau bod gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth yr wybodaeth sydd ei hangen i wasanaethu pobl a chymunedau orau.

Nod craidd i’n gwaith ymgysylltu oedd profi a oedd cefnogaeth i Gyfamod newydd a chasglu barn ar ein hegwyddorion arfaethedig. Fe wnaethom ofyn ‘Ai’r 4 egwyddor allweddol – cydnabyddiaeth, partneriaeth, cyfranogiad, tryloywder – yw’r rhai cywir?’, yn ogystal â gofyn am awgrymiadau i wella neu ychwanegu at yr egwyddorion.

Roedd cefnogaeth sylweddol am Gyfamod Cymdeithas Sifil newydd ar sail egwyddorion, ar draws y grwpiau y gwnaethon ni ymgysylltu â nhw. Dywedodd 80% o’r ymatebwyr i arolwg ar-lein NCVO eu bod yn teimlo bod angen Cyfamod i wella’r berthynas rhwng sefydliadau cymdeithas sifil a’r llywodraeth.

Hefyd roedd adrannau’r llywodraeth genedlaethol ac awdurdodau lleol yn cefnogi nodau ac amcanion y Cyfamod.

Rydym yn cydnabod yn llwyr bwysigrwydd Fframwaith Cymdeithas Sifil newydd a’r rôl y bydd hwn yn ei chwarae wrth wella a chryfhau rôl y sector.

- Awdurdod lleol

Rydym yn credu bod eich Fframwaith Cyfamod a’r 4 egwyddor lefel uchel o gydnabyddiaeth, partneriaeth, cyfranogiad a thryloywder yn cyd-fynd yn agos â’n cytundeb X, ac rydym yn rhannu’r un pwrpas, sef mynd i’r afael â heriau ac anghydraddoldebau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn.

- Awdurdod lleol

Roedd hefyd gefnogaeth helaeth i’r egwyddorion arfaethedig ar draws cymdeithas sifil a’r llywodraeth. Roedd ymatebion gan lywodraeth leol a chenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd y 4 egwyddor a’u gwerth wrth weithio’n effeithiol gyda chymdeithas sifil. Roedd sefydliadau cymdeithas sifil yn meddwl bod yr egwyddorion yn gynhwysfawr, ac yn fan cychwyn da i berthynas effeithiol rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus.

Ar y cyfan, roedd neges gref oddi wrth bob un grŵp o randdeiliaid yn sôn bod y 4 egwyddor at ei gilydd yn cynrychioli sylfaen gadarn a fframwaith ar gyfer perthynas rhwng cymdeithas sifil a’r llywodraeth yn y dyfodol.

Mae’r 4 egwyddor o Gydnabyddiaeth, Partneriaeth, Cyfranogiad a Thryloywder yn gadarn ac yn cael eu cefnogi. [Mae’n g]adarnhaol iawn bod gwerth cymdeithas sifil yn cael ei gydnabod, a bod llais cryf yn cael ei roi i sefydliadau cymdeithas sifil. Bydd yr egwyddorion hyn yn helpu gyda sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu a bod polisïau’n cael eu llunio yn effeithiol, yn ogystal ag annog sgyrsiau ystyrlon a helpu gyda chael gwared ar rwystrau i sefydliadau llai.

- Awdurdod lleol

Yr egwyddorion o gydnabyddiaeth, partneriaeth, cyfranogiad a thryloywder yw’r rhai cywir. Byddant yn helpu gyda meithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, ac yn sicrhau y gall sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i ddarparu buddion i gleifion a chymdeithas ehangach.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Rydym yn cytuno â ffocws y 4 egwyddor hyn, sy’n adlewyrchu’r rôl y mae cymdeithas sifil yn ei chwarae wrth gefnogi ardaloedd a chymunedau ffyniannus a gwydn.

- Adran o’r llywodraeth ganolog

Mae’r egwyddorion allweddol sydd wedi’u hamlinellu yn y Cyfamod yn bwysig ac yn briodol i adeiladu ar y perthnasoedd sydd eisoes yn bodoli ar lefel leol a gellir eu gwella ymhellach.

- Awdurdod lleol

Mae’r egwyddorion hyn at ei gilydd yn darparu fframwaith ar gyfer meithrin ymddiriedaeth, cydweithredu a rhannu cyfrifoldeb, sy’n hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â heriau cymdeithasol cymhleth. Maent yn helpu gydag alinio amcanion cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil, gan sicrhau bod polisïau a mentrau yn effro i anghenion cymunedau.

- Awdurdod lleol

Fodd bynnag, er bod cefnogaeth glir i’r 4 egwyddor arfaethedig, roedd rhai ymatebion yn awgrymu y dylem eu cryfhau trwy gynnwys y themâu canlynol, neu osod pwyslais cryfach, er enghraifft:

  • Gwerth a rôl cymdeithas sifil, gan gynnwys ei hannibyniaeth, ei harbenigedd a’i chyrhaeddiad

  • Ymddiriedaeth a chyd-barch

  • Cyd-atebolrwydd

  • Gwrando ar amrywiaeth o leisiau, gan gynnwys lleisiau pobl ifanc

  • Cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio

  • Cynaliadwyedd (ariannol ac amgylcheddol)

  • Arloesedd

  • Tegwch a hawliau dynol

  • Gwrth-hiliaeth

  • Gwerth cymdeithasol a chydlyniad cymdeithasol

Roedd gwahaniaeth barn o ran faint o fanylion i’w cynnwys yn yr egwyddorion, a pha mor benodol yw’r manylion hynny. Roedd llawer o ymatebwyr yn cydnabod bod yr egwyddorion yn rhai lefel uchel, ac awgrymodd yr ymatebwyr fod hyn yn beth da; roedd hyn yn caniatáu hyblygrwydd o ran sut mae rhoi’r egwyddorion ar waith mewn gwahanol gyd-destunau. Awgrymwyd bod hyn hefyd yn helpu i alinio â threfniadau presennol partneriaethau mewn ardaloedd lleol neu yn y cenhedloedd datganoledig, er enghraifft.

Fodd bynnag, tynnodd ymatebwyr eraill sylw at awydd am fanylion mwy penodol am sut y byddai’r egwyddorion yn gweithredu, a sut bydden nhw’n edrych yn ymarferol.

Mae’n ymddangos bod y 4 egwyddor hyn yn benawdau digonol, ond yn gyffredinol bydd angen diffiniadau clir er mwyn bod yn rhai ystyrlon yn ymarferol.  Byddem yn awgrymu eu bod yn cael eu diffinio ymhellach mewn cydweithrediad â’r sector.

- Adran o’r llywodraeth ganolog

Rwy’n credu eu bod yn ddechrau defnyddiol, ond gallen nhw fod yn eiriau yn unig – fe fydd hi’n dda i ddiffinio beth maen nhw’n ei olygu.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Yn gysylltiedig â hyn, neges allweddol arall oedd, er bod yr egwyddorion yn ddechrau da, nid ydynt yn ddigonol ar eu pennau eu hunain. Bydd gwireddu’r Cyfamod ar lawr gwlad yn nod hirdymor sy’n gofyn am weithredu parhaus ac ystyrlon ar draws cymdeithas sifil a’r llywodraeth. Mae’r thema hon yn cael ei harchwilio ymhellach yn Adran 5.

Cytunwn yn bennaf, ond mae’n rhaid i’r egwyddorion gael eu rhoi ar waith a’u monitro, a bod cerrig milltir allweddol yn cael eu rhoi ar waith.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Gallai Cyfamod fod yn werthfawr os yw’n digwydd ar y cyd â chynllun gweithredu sy’n amlinellu camau ac ymrwymiadau pendant i gryfhau’r berthynas. Dylai cynllun o’r fath gael ei gefnogi gan fecanweithiau o atebolrwydd sy’n mesur effaith a llwyddiant y Cyfamod.

- Awdurdod lleol

Rwy’n teimlo bod bwriad yr egwyddorion drafft ar y trywydd iawn – ond ni allaf weld unrhyw drafodaeth o amgylch ‘rhoi’r peth ar waith’. Yn ddiau, nid sut rydyn ni’n meddwl y dylen ni symud ymlaen yw’r unig bwynt, ond beth allwn ni ei wneud i symud ymlaen hefyd.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae’n beth positif bod y 4 egwyddor hynny wedi’u creu, ond nid yw’n glir sut maen nhw’n mynd i arwain at weithredu a newid. Mae angen gweithredoedd ymarferol a cherrig milltir ar sefydliadau cymdeithas sifil i sicrhau atebolrwydd.

- Sefydliad cymdeithas sifil

3. Pa ffactorau sy’n galluogi perthnasoedd effeithiol?

Gofynnon ni ‘Beth sy’n galluogi partneriaeth effeithiol a beth yw’r enghreifftiau o arfer da?’ Clywsom neges glir a chyson gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth fod y ffactorau allweddol yn cynnwys:

  • Ymddiriedaeth, gwerth a chyd-barch

  • Alinio strategol

  • Cyfathrebu rhagweithiol

  • Cyfranogiad a chydweithrediad cynnar a chynhwysol

  • Cyllid cynaliadwy, heb gyfyngiadau

  • Modelau comisiynu hyblyg a chydweithredol

Ymddiriedaeth, gwerth a chyd-barch

Neges gref oedd bod ymddiriedaeth, gwerth a chyd-barch yn sylfaen i weithio’n dda fel partneriaeth, rhwng sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus.

Mae’n rhaid i’r llywodraeth a chymdeithas sifil fod ag chyd-ymddiriedaeth a chyd-barch.

- Awdurdod lleol

Tynnodd sawl un sylw at bwysigrwydd parch gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus tuag at werth ac arbenigedd cymdeithas sifil; gan gynnwys ei chryfder a’i hamrywiaeth, ei rôl fel eiriolwr dros gymunedau, ei gallu i gynnwys y rheini sydd â phrofiad byw yn rhan o’r sgwrs, a’i hyblygrwydd i addasu ac ymateb i sefyllfaoedd yn gyflym ac yn arloesol.

Fel partner cyflawni, mae CSOs (sefydliadau cymdeithas sifil) yn chwarae rôl hanfodol wrth gyflawni blaenoriaethau Adran X. Mae ganddynt rinweddau ac arbenigeddau penodol a all olygu eu bod yn y sefyllfa orau i gyflawni mewn cyd-destunau penodol a bod y rhain yn eu galluogi i gyrraedd cymunedau ymylol na all gweithredwyr eraill eu cyrraedd.

- Adran o’r llywodraeth ganolog

Parch a dealltwriaeth o’r arbenigedd o fewn cymdeithas sifil.  Cydnabod gallu cymdeithas sifil i “fanteisio ar” brofiad byw unigolion.  Ymddiried mewn cymdeithas sifil i weithredu fel partner wrth lunio polisi a chyflawni, tra byddwch yn cefnogi ei rôl fel asiant allanol dros newid ac eiriolaeth.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae sefydliadau cymdeithas sifil yn ffynnu pan fyddwch yn ymddiried ynddynt i ddylunio a darparu datrysiadau wedi’u teilwra i anghenion lleol, yn aml oherwydd pa mor agos ydyn nhw at y cymunedau y maen nhw’n ceisio eu gwasanaethu a’r ffaith eu bod yn aelodau o’r cymunedau hynny.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd rhai sylw at allu’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i anfon neges bwerus pan fyddant yn cydnabod yn benodol werth a chyfraniad cymdeithasol ac economaidd ehangach cymdeithas sifil.

Cydnabod rôl sylfaenol cymdeithas sifil trwy gydnabod ei chyfraniad hanfodol i dwf a ffyniant cymdeithasol yn rheolaidd. Mae’r cadarnhad hwn yn helpu gyda magu hyder a chymhelliant o fewn y sector.

- Awdurdod lleol

Astudiaeth achos – Awdurdod Llundain Fwyaf: cynyddu ymddiriedaeth gyda chymdeithas sifil a chymunedau yn ystod ac ar ôl COVID

Yn ystod yr ymateb i bandemig COVID-19, cydweithiodd Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA) â chymdeithas sifil Llundain, gan gynnal byrddau crwn ar-lein, sesiynau briffio iechyd cyhoeddus, a digwyddiadau Sgwrs Fawr (‘Big Conversation’). Gan weithio gyda phartneriaid iechyd, chwaraeodd y fforymau hyn ran hanfodol wrth gefnogi profion a chael brechlynnau, adeiladu ymddiriedaeth, a rhannu gwybodaeth gywir a diwylliannol ddigonol.

Yn dilyn y pandemig, roedd penderfyniad i gymryd yr hyn a oedd wedi’i ddysgu o’r cydweithredu, gan wreiddio’r dulliau hyn ymhellach mewn rhaglenni brechu a gwaith o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Digwyddodd hyn yn bennaf drwy’r Partneriaeth Tegwch Iechyd Hanesyddol Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn, parhawyd â sesiynau briffio am wybodaeth am iechyd cyhoeddus, y GLA a’r GIG, a oedd yn ymdrin â materion fel parodrwydd ar gyfer y gaeaf ac iechyd meddwl.

Mae’r GLA wedi cryfhau perthnasoedd ymhellach â phartneriaid cymunedol a ffydd trwy eu dull o ymdrin â gwydnwch, gan gynnwys cyd-gynhyrchu’r Partneriaeth Argyfyngau Cymunedau Llundain (LCEP); dull o gydlynu parodrwydd ac ymateb i argyfwng, sydd wedi’i arwain gan gymdeithas sifil. Mae LCEP yn eistedd ar Fforwm Gwydnwch Llundain, ochr yn ochr â gwasanaethau brys ac asiantaethau cyhoeddus eraill, gan ddod â gwerth mewnwelediad a lleisiau cymunedol i ymateb brys yn Llundain. Mae hyn wedi helpu gydag adeiladu ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a chydweithredu â chymdeithas sifil mewn ymateb i ddigwyddiadau.

Prif wersi: Gall cydweithio â chymdeithas sifil cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau gryfhau gwydnwch ac, yn achos y pandemig, wella canlyniadau o ran iechyd fel cael brechlynnau. Gall modelau sydd wedi’u harwain gan y gymuned gynyddu ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod negeseuon a dull o weithredu’r llywodraeth yn ddiwylliannol ddigonol. Ar ben hynny, trwy gydnabod gwerth sefydliadau cymdeithas sifil o ran eu cyrhaeddiad yng nghymunedau lleol, mae’r GLA wedi gallu gweithio’n effeithiol gyda’r sector i fynd i’r afael â heriau cyffredin.

Alinio strategol

Hefyd cafodd alinio strategol, hynny yw blaenoriaethau a nodau cyffredin, yn aml eu hamlygu fel ffactor allweddol i bartneriaethau a chydweithredu llwyddiannus. Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith bod gan bartneriaethau cryf weledigaeth a phwrpas cyffredin ar sail paramedrau sydd wedi’u diffinio’n glir, pan fo pob parti yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau.

Mae nodau a blaenoriaethau cyffredin yn hollbwysig, gan sicrhau alinio amcanion a gweledigaeth unedig ar gyfer canlyniadau. Datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r galw am wasanaethau a’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu yn y cymunedau, a bod y cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus i gefnogi ffyrdd o gyflawni hyn.

- Awdurdod lleol

Pwrpas clir. O’r dechrau’n deg pan fyddwch yn gweithio gydag unrhyw bartneriaid, cytuno ar weledigaeth, strwythur, gwaith llywodraethu, egwyddorion ar gyfer cydweithio, a sut y gall pob parti elwa. Dylai hyn gael ei gefnogi gan gyfarfodydd rheolaidd, strwythuredig i hwyluso deialog a chydweithredu parhaus, magu ymddiriedaeth a sicrhau integreiddio adborth parhaus.

- Llywodraeth ganolog

Mae ymatebion eraill hefyd yn tynnu sylw at y ffaith efallai fod gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth flaenoriaethau ac agendâu gwahanol yn aml, ond mae modd dod o hyd i dir cyffredin rhyngddynt os oes ewyllys da a bwriad i wneud hynny. 

Peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod nhw [nodau cymdeithas sifil] yr un fath â nodau’r llywodraeth – gweithiwch gan fod yn ymwybodol o’n diddordebau cyffredin.

- Llywodraeth ganolog

Astudiaeth Achos – Cyngor Dinas Caergrawnt: adeiladu nodau cyffredin ac alinio â’r Strategaeth Adeiladu Cyfoeth Cymunedol

Mae gan Gyngor Dinas Caergrawnt strategaeth wrth-dlodi ers 2014 wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb. Dros y deng mlynedd ddiwethaf, mae dull y cyngor o weithredu wedi esblygu. Roedd y cyngor yn cydnabod, er mwyn mynd i’r afael ag achosion hirdymor a hirsefydlog tlodi, fod angen iddo roi dull cyffredin ar waith sy’n cyfuno “arweinyddiaeth y cyngor a chydweithio â chymunedau lleol ac ystod o bartneriaid lleol a rhanddeiliaid allweddol i wneud y gorau o’n heffaith ar y cyd”. Arweiniodd hyn at ddatblygu strategaeth Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (CWB), a fabwysiadwyd yn 2024.

Nod y dull CWB o weithredu yw mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi tlodi trwy weithio’n gyfannol ar draws sectorau tuag at weledigaeth a nod cyffredin gyda’r holl randdeiliaid; trwy gyfuno asedion, cyfrifoldebau statudol ac ymgasglu rôl y cyngor â’r gwasanaethau, dulliau a’r perthnasoedd y gall y sectorau cymunedol, gwirfoddol, busnes a chyhoeddus eu darparu.

Mae prif themâu yn tanlinellu dull CWB y Cyngor o weithredu, gan gynnwys:

  • sicrhau bod dull cyfannol ar y cyd o fynd i’r afael â thlodi bob amser wrth wraidd rhaglenni a phrosiectau yn y dyfodol; gweithio ar draws sefydliadau a sectorau er mwyn creu datrysiadau

  • sut y gall y cyngor archwilio cyfleoedd i ddefnyddio ei arweinyddiaeth a’i asedion i gynhyrchu cyfoeth yn ôl i’r gymuned, gan gynnwys gwerth cymdeithasol o gontractau a gwell ddefnydd o adeiladau a thir y cyngor

  • gweithio gyda’r sector preifat lleol i gefnogi economi leol gynaliadwy a chynhwysol

Mae egwyddorion newydd y strategaeth CWB yn cael eu henghreifftio gan brosiect ‘Shaping Abbey’. Mae ‘Shaping Abbey’ yn dwyn ynghyd drigolion lleol, cymdeithas sifil a phartneriaid sector preifat, ochr yn ochr â buddsoddiad o £100 miliwn a gefnogir gan y cyngor a Llywodraeth y DU i ailddatblygu rhannau o ward Abbey yng ngogledd-ddwyrain Caergrawnt. Yma, mae trigolion a grwpiau cymunedol wedi bod yn rhan annatod o lunio dyfodol ward Abbey, ac wedi bod yn rhan o sgyrsiau “Shaping Abbey”, lle mae lleisiau cymunedol wedi bod yn ganolog i ddatblygiad yr ardal. Mae rhaglen gysylltiedig “Focus on Abbey”, yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n canolbwyntio ar y ardal leol.

Prif wersi: Trwy ei Strategaeth Adeiladu Cyfoeth Cymunedol, datblygodd Cyngor Dinas Caergrawnt ddull partneriaeth newydd gyda sefydliadau cymdeithas sifil lleol, a rhanddeiliaid lleol ehangach, ar sail gweledigaeth gyffredin i fynd i’r afael â thlodi ar draws y ddinas.

Cyfathrebu rhagweithiol

Clywsom neges glir iawn gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth bod cyfathrebu rhagweithiol a rheolaidd yn galluogi gwell berthnasoedd a phartneriaethau effeithiol. Mae cyfathrebu gonest, agored a thryloyw yn hollbwysig i adeiladu ymddiriedaeth rhwng partïon, yn enwedig yn ystod y camau cynnar o adeiladu perthynas neu mewn amgylchiadau heriol.

Mae cyfathrebu agored a thryloyw, yn enwedig pan nad yw pethau mor gadarnhaol ag oedden nhw wedi disgwyl i ddechrau, yn adeiladu ymddiriedaeth a pharch rhwng partneriaid.

- Awdurdod lleol

Mae adeiladu ymddiriedaeth drwy ddeialog agored rheolaidd yn meithrin cydweithio** - Sefydliad cymdeithas sifil

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at y ffaith bod y dulliau mwyaf effeithiol o gyfathrebu ac ymgysylltu yn tueddu i fod yn rheolaidd, strwythuredig ac yn rhoi cyfleoedd a mannau ar gyfer gwrando a thrafod yn fwriadol.

Sianeli cyfathrebu clir ac agored, gyda chefnogaeth strwythurau sy’n hwyluso trafodaethau agored ac ymgysylltu ystyrlon.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Neges glir arall oedd bod cyfathrebu a thrafod fwyaf effeithiol pan fydd yn adeiladol ac yn canolbwyntio ar ddatrysiadau.

Dylai cymdeithas sifil ganolbwyntio ar ddatrysiadau: ymgysylltu â’r llywodraeth trwy gyflwyno syniadau gweithredadwy, nid beirniadaeth yn unig, i ddangos parodrwydd i gydweithio.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae osgoi safbwyntiau gwrthwynebol a cheisio trafodaeth adeiladol i ddatblygu datrysiadau yn bwysig.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Astudiaeth achos – Cyngor Dinas Leeds: adeiladu partneriaethau effeithiol trwy gyfathrebu ac ymgysylltu rhagweithiol

Mae Cyngor Dinas Leeds yn adeiladu partneriaethau cryf gyda chymdeithas sifil trwy gyfathrebu ac ymgysylltu cyson, rhagweithiol. Wrth wraidd hyn mae’r Bartneriaeth Trydydd Sector, fforwm strategol sy’n dod ag uwch-arweinwyr ynghyd o’r Cyngor, y GIG, prifysgolion, yr Awdurdod Cyfunol, Third Sector Leeds, a chynrychiolwyr eraill cymdeithas sifil. Mae’r platfform hwn yn galluogi trafodaeth gynnar, agored ar faterion allweddol ledled y ddinas, i gefnogi sector cymdeithas sifil gwydn a ffyniannus sy’n parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i drigolion Leeds.

Mae’r Bartneriaeth yn cyfarfod bob deufis gydag agendâu wedi’u cyd-gynhyrchu a diweddariadau’n cael eu rhannu’n rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys trosolwg blynyddol o sefyllfa ariannol y cyngor, cyllideb arfaethedig, a risgiau allweddol. Mae’r mewnwelediadau hyn yn helpu i reoli disgwyliadau a llywio negeseuon oddi wrth gymdeithas sifil. Yn ogystal, mae cyfarfodydd brecwast bob dwy flynedd yn dod ag arweinwyr cymdeithas sifil a chyngor ynghyd i alinio â strategaethau lobïo a gwneud y mwyaf o’r effaith gymdeithasol.

Mae’r cyfleoedd ymgysylltu rheolaidd hyn wedi helpu i adeiladu ymddiriedaeth, gwreiddio safbwyntiau cymdeithas sifil mewn datblygu strategaeth, a chefnogi cyfathrebu tryloyw, dwyffordd. Mae hefyd yn cryfhau cydweithio, gan helpu i sicrhau bod penderfyniadau yn cyd-fynd yn agos ag anghenion y gymuned.

Prif wersi: Cefnogir cyfathrebu cyson a rhagweithiol trwy ddarparu mannau diffiniedig ar gyfer ymgysylltu rheolaidd rhwng partneriaid, ochr yn ochr â thryloywder wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer adeiladu partneriaethau effeithiol a dibynadwy.

Cydweithredu cynnar a chynhwysol

Clywsom gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth fod cydweithredu cynnar a chynhwysol yn allweddol. Tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at y ffaith y gall ymgysylltu cynnar helpu i fanteisio ar arbenigedd cyfunol pob sector, chasglu adnoddau ynghyd tuag at nodau cyffredin, helpu cyrff cyhoeddus i feddwl am faterion yn gyfannol ac osgoi meddwl ynysig. Gall gysylltu â chymdeithas sifil yn gynnar hefyd helpu i nodi canlyniadau anfwriadol, heriau o ran cyflawni a risgiau yn gynnar fel bod modd dylunio i osgoi’r risgiau hynny, neu ddatblygu lliniariadau.

Ymgysylltu cynnar ac ystyrlon trwy ddull o gyd-ddylunio sy’n galluogi lleisiau cymunedol amrywiol i gael eu clywed ac ymyriadau i gael eu siapio ar y cyd.

- Awdurdod lleol

Symud i ffwrdd o strategaethau ynysig. Mae sefydliadau cymdeithas sifil yn gweithio ar draws gwahanol sectorau ac adrannau. Mae angen dull cyfannol ar draws y llywodraeth o ymgysylltu â nhw.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Nododd llawer hefyd fod angen i gydweithredu ystyrlon gynnwys ystod eang o safbwyntiau a phersbectifau. Tynnwyd sylw at gyd-gynhyrchu a dulliau cyfranogol o ddylunio yn aml fel offer a dulliau effeithiol o weithredu. Roedd barn gref y bydd cydweithio ystyrlon ag ystod amrywiol o leisiau yn gwella polisi a gwneud penderfyniadau, ac mae gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth rôl i’w chwarae wrth gyflawni hyn.

Sicrhau bod lleisiau amrywiol, gan gynnwys cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli, yn rhan o’r broses ymgynghori a llunio polisïau.

- Awdurdod lleol

Trwy wahodd cymdeithas sifil (a dinasyddion) i chwarae rôl fwy cydgynghorol wrth lunio polisi, gallwn ddod ag ystod ehangach o safbwyntiau a datblygu polisi gwell, o ganlyniad.

- Llywodraeth ganolog

Cynnwys mwy o gyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu gyda chymdeithas sifil i ganiatáu i bobl sydd â phrofiad byw gyfrannu at lunio polisïau. Mae cynnwys pobl â phrofiad byw yn sicrhau bod lleisiau pobl yn ganolog i lunio’r polisïau, a bod eu safbwyntiau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth amrywiol yn cael eu hystyried.

- Llywodraeth ganolog

Dylai cyrff cyhoeddus ymgysylltu’n ystyrlon â sefydliadau cymdeithas sifil trwy neilltuo amser i wrando, deall gwahanol safbwyntiau, a meithrin ymddiriedaeth. Dylai cyrff cyhoeddus flaenoriaethu allgymorth bwriadol i sefydliadau, sy’n cynrychioli ac yn gwasanaethu cymunedau ymylol, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.

- Awdurdod lleol

Astudiaeth achos – Y Cynllun Helpu Gwaith i Dalu ar ei Ganfed: cydweithredu cynnar a chynhwysol â rhanddeiliaid

O’r diwrnod cyntaf yn y swydd, gosododd y llywodraeth ei hymrwymiad i greu swyddi sy’n darparu diogelwch, yn trin gweithwyr yn deg, ac yn talu cyflog digonol. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, ymrwymodd y llywodraeth i barhau i weithio’n agos mewn partneriaeth â busnesau ac undebau llafur ar lefel weinidogol a swyddogol. Mae’r gwaith tairochrog hwn wedi’i wreiddio yn y gwaith o gyflawni’r Cynllun Helpu Gwaith i Dalu ar ei Ganfed ac fel rhan o ddatblygiad Bil Hawliau Cyflogaeth nodedig y llywodraeth.

Mae’r ffordd hon o weithio wedi cynnwys nifer o sesiynau ymgysylltu i glywed barn onest ac amrywiol o ystod o safbwyntiau a chefndiroedd. Mae’r mewnwelediadau a’r adborth arbenigol a manwl a gafwyd o’r gwaith tairochrog wedi bod yn amhrisiadwy wrth gael y manylion ar draws y Cynllun Helpu Gwaith i Dalu ar ei Ganfed a’r Bil Hawliau Cyflogaeth yn iawn. O hawliau newydd ar oriau gwarantedig, i dâl salwch, ac i ddiogelu rhag diswyddo annheg, mae cynrychiolwyr undebau llafur a busnesau wedi cymryd rhan weithredol mewn llywio datblygu polisi, a byddant yn dal ati i gyfrannu yn ystod y cam o roi’r cyfan ar waith.

Mae’r dull cydweithredol hwn o weithredu wedi sicrhau bod datblygu’r Cynllun Helpu Gwaith i Dalu ar ei Ganfed a’r Bil Hawliau Cyflogaeth wedi elwa o arbenigedd ymarferol a safbwyntiau cynrychiolwyr cyflogwyr a chyflogeion. Mae Gweinidogion a Chyfarwyddiaeth Hawliau Cyflogaeth yr Adran Busnes a Masnach wedi ymgysylltu â thros 190 o randdeiliaid; gan sicrhau bod y llywodraeth yn ymgysylltu ar raddfa eang ac yn ddwfn i’r pwnc. Bydd y polisïau sy’n deillio o hynny yn engrhaifft o’r gwelliant mwyaf i hawliau gweithwyr ers oes gyfan.

Prif wersi: Mae cydweithio cynnar a helaeth â rhanddeiliaid allweddol yn hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth cyflogaeth effeithiol a derbyniol. Dylai’r dull hwn o weithredu gael ei gynnal trwyddi draw ym maes datblygu polisïau. Mae gwreiddio gwaith tairochrog yn meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r materion ac yn helpu i liniaru canlyniadau anfwriadol.

Cyllid cynaliadwy ac anghyfyngedig

Roedd neges gyson gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth y gall cyllid cynaliadwy ac anghyfyngedig ddarparu’r sefydlogrwydd a’r hyblygrwydd sydd ei angen ar bartneriaethau effeithiol i dyfu a datblygu. Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith bod cost ynghlwm wrth waith ymgysylltu a chydweithredu i sefydliadau cymdeithas sifil, ac y dylai gwaith cyllido ystyried hyn.

Mae cyllid ac adnoddau yn chwarae rhan hanfodol wrth sefydlu a chynnal partneriaethau, yn enwedig o fewn sector cymdeithas sifil. Mae cyllid digonol, aml-flwyddyn, anghyfyngedig yn galluogi sefydliadau i fuddsoddi mewn seilwaith, adnoddau a phersonél angenrheidiol, sy’n anhepgor ar gyfer cydweithredu effeithiol wrth fynd i’r afael â materion cymdeithasol. Mae cyllid digonol nid yn unig yn galluogi cyflawni prosiectau ond hefyd yn arwydd o ymrwymiad i’r bartneriaeth, gan feithrin ymddiriedaeth a chymhelliant ymhlith rhanddeiliaid. Mae’n galluogi sefydliad i ganolbwyntio ar weithgaredd gwirioneddol effeithiol yn hytrach na chael ei lywio gan yr angen i fodloni gofynion ariannwyr fesul prosiect.

- Awdurdod lleol

Mae angen i gyllid cynaliadwy ac ystyrlon gefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i weithredu ac ymgysylltu â chyrff cyhoeddus.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at allu cyrff sector cyhoeddus i gefnogi ‘r gwaith o fagu partneriaeth â chymdeithas sifil trwy fathau eraill o rannu adnoddau a meithrin galluoedd. Gall hyn, meddai rhai ymatebwyr, hefyd gefnogi cymdeithas sifil i arloesi.

[Beth sy’n cefnogi perthynas effeithiol rhwng sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus?] Rhannu adnoddau a meithrin galluoedd; mae elusennau yn aml yn gweithredu gydag adnoddau cyfyngedig, felly gall cefnogaeth gan gyrff cyhoeddus—boed ar ffurf cyllid, hyfforddiant, neu gymorth gweinyddol—fod yn amhrisiadwy.

- Sefydliad cymdeithas sifil

[Beth sy’n cefnogi cymdeithas sifil i arloesi?] Meithrin galluoedd a hyfforddiant: mae darparu hyfforddiant i CSOs (sefydliadau cymdeithas sifil) mewn meysydd fel arweinyddiaeth, rheolaeth, technoleg a dadansoddi data yn helpu i fagu’r sgiliau mewnol sydd eu hangen i arloesi. Mae cryfhau eu galluoedd yn eu galluogi i ymateb yn fwy effeithiol i broblemau cymdeithasol.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Awgrymodd ymatebwyr hefyd y byddai’n fuddiol i fodelau cyllido gefnogi ac annog hyblygrwydd a meddwl arloesol wrth weithio mewn partneriaeth, oherwydd y gall hyn arwain at waith cydweithredol ac effeithiol.

Defnyddio mentrau cyllido cyfatebol yn fwy, gan ysgogi mwy o ddyngarwch i hybu arloesedd.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae’n rhaid i’r llywodraeth annog arloesedd a chymryd risgiau e.e. trwy Bartneriaethau Canlyniadau Cymdeithasol sy’n annog cydweithredu i ddarganfod datrysiadau ac sy’n canolbwyntio ar yr effeithiau.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Astudiaeth achos - Bwrdeistref Camden yn Llundain - cyllid anghyfyngedig a hirdymor

Ers 2015, mae Bwrdeistref Camden yn Llundain wedi gweithredu cynllun cymorth hirdymor i’r sector gwirfoddol, gan gynnwys cynnig grantiau 7 mlynedd drwy’r Gronfa Partneriaid Cymunedol. Nod y dull hwn o weithredu yw cynyddu sefydlogrwydd, galluogi cynllunio strategol, a lleihau’r biwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â cheisiadau grant mynych.

Lansiodd y cyngor raglen Cronfa Partneriaid Cymunedol 7 mlynedd o hyd (2024 i 2031), gan ddarparu grantiau craidd i sefydliadau cymdeithas sifil lleol sy’n cyflawni newid cymdeithasol sylweddol. Cafodd 38 o sefydliadau grantiau a oedd yn amrywio rhwng £10,000 a £100,000 y flwyddyn, a hynny’n rhan o fuddsoddiad blynyddol ehangach o £4 miliwn. Mae’r cyllid aml-flwyddyn wedi cryfhau perthnasoedd yn sylweddol, gan feithrin amgylchedd cydweithredol sy’n canolbwyntio ar nodau cymunedol cyffredin. Roedd cyllido hyblyg yn galluogi sefydliadau i ddefnyddio cyllid arall yn well ac addasu i anghenion newidiol. Wrth ddylunio’r rhaglen hon, arweiniwyd y cyngor gan egwyddorion y Sefydliad dros Weithgareddau Gwirfoddol (Institute for Voluntary Action; IVAR) o ran dod i benderfyniad ar grantiau mewn ffordd agored a llawn ymddiriedaeth. Daeth y cyngor yn un o’r asiantaethau cyhoeddus cyntaf i gofrestru am y fenter hon sy’n annog arfer gorau mewn cyllido trwy grantiau. Gan dynnu ar wersi o raglenni cyllido blaenorol ac ymateb i anghenion allanol sy’n newid mewn cymunedau a sefydliadau lawr gwlad, mae Camden yn parhau i ddatblygu ecosystem cyllido amrywiol i gefnogi rhagor o sefydliadau ar wahanol gamau o’r gwaith datblygu.

Prif wersi: Mae’r dull hwn o weithredu wedi annog rhagor o gydweithredu, cefnogi cydfuddiannol, a chydweithio, gan arwain perthnasoedd at fod o natur drafodathol i natur strategol, a grymuso sefydliadau i gyflawni effaith barhaol yn y gymuned.

Modelau comisiynu hyblyg a chydweithredol

Clywsom gan sawl un fod gan waith comisiynu yn y sector cyhoeddus botensial i fod yn blatfform pwerus ar gyfer adeiladu partneriaethau effeithiol pan mae’n digwydd yn gydweithredol, mewn ffordd hygyrch ac ar sail cyllido teg. Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith bod modelau comisiynu effeithiol yn dod â sefydliadau cymdeithas sifil i mewn i’r broses yn gynnar fel y gellir datblygu nodau contractau, canlyniadau a dyluniad gwasanaeth ar y cyd gyda budd arbenigedd cymdeithas sifil.

Ailystyried y rhaglen gomisiynu gyfan. Dewch â sefydliadau VCSE yn rhan o’r drafodaeth lawer iawn, iawn yn gynt i drafod sut i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned a llunio’r contract. Ystyriwch sut i ymgysylltu â sefydliadau llai wrth gyflawni’r nod. Darparu gwell adnoddau i gefnogi’r sector. Sicrhau bod contractau’n cynnig adennill costau llawn.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Clywsom hefyd y gall comisiynwyr fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol er mwyn sicrhau bod prosesau comisiynu a chaffael o fewn cyrraedd i gymdeithas sifil, yn enwedig i sefydliadau llai. Er enghraifft, tynnodd ymatebwyr sylw at sicrhau ymgysylltu amserol â’r farchnad, dyddiadau cau realistig, a gofynion adrodd a thendro cymesur fel elfennau pwysig i allu agor cyfleoedd comisiynu i ystod eang o sefydliadau cymdeithas sifil.

Chwalu’r rhwystrau comisiynu a chontractio sy’n atal llawer o CSOs rhag darparu gwasanaethau cyhoeddus.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Byddai cynnwys setliadau aml-flwyddyn a hysbysiad ymlaen llaw o ffrydiau cyllido, yn ogystal â phrosesau bidio cymesur, yn hwyluso mwy o allu i gyflawni mewn partneriaeth ar lefel leol a chenedlaethol.

- Awdurdod lleol

Byddwch yn fwy parod i gomisiynu ac ariannu gwasanaethau gan sefydliadau cymdeithas sifil o wahanol feintiau i ddiwallu anghenion lleol a rhanbarthol (yn hytrach na chomisiynau mawr, gydag un ateb yn addas i bawb, nad ydynt yn diwallu anghenion ac a allai danseilio’r gwaith da sy’n digwydd eisoes).

- Sefydliad cymdeithas sifil

Astudiaeth achos - AllChild a Better Society Capital: comisiynu hyblyg ar gyfer gweithredu cynnar effeithiol

Mae AllChild yn elusen a grëwyd i fanteisio ar adnoddau cymunedol i weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, dyngarwyr, y llywodraeth a’r sector gwirfoddol a chymunedol i wella cyfleoedd bywyd i’r 20% o blant sydd fwyaf dan berygl o ganlyniadau gwael. Mae’r rhaglen yn becyn dwy flynedd ddwys o gymorth wedi’i deilwra i gryfderau, anghenion a dyheadau unigryw pob plentyn.

O ran ei fodel ariannu, mae AllChild yn cael ei gefnogi gan gomisiynu sy’n seiliedig ar ganlyniadau, a bod buddsoddwyr cymdeithasol fel Better Society Capital yn cyfeirio arian trwy reolwyr cronfeydd i ddarparu cyfalaf gweithredol i’r sefydliad. Dim ond talu’r arian unwaith y bydd canlyniadau targed wedi’u cyrraedd, fel gwell les i blant, y mae’r comisiynydd, sef llywodraeth leol yn yr achos hwn. Mae’r model cyllido hwn yn lleihau’r risg ariannol i gyrff cyhoeddus, a thrwy hynny’n annog buddsoddiad mewn rhaglenni arloesol a hyblyg.

Prif wersi: Mae contractau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn darparu hyblygrwydd a chynaliadwyedd i sefydliadau’r sector cymdeithasol, gan alluogi iddynt greu partneriaethau â rhanddeiliaid (gan gynnwys y sector cyhoeddus lleol, dyngarwyr a buddsoddwyr) wrth ddarparu gwasanaethau effeithiol, wedi’u teilwra.

Data o ansawdd da

Trwy gydol yr ymgysylltu, clywsom fod perthnasoedd gwaith effeithiol yn cael eu hategu gan arferion data da, sy’n rhoi sylfaen ar gyfer datrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwneud penderfyniadau gwybodus. 

Annog rhannu data a chydweithio: Rhoi mynediad at setiau data perthnasol, gwaith ymchwil ac offer dadansoddol i helpu CSOs gyda datblygu datrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

- Llywodraeth ganolog

Gofynnwyd yn glir am gefnogi’r sector i wella’r ffordd mae’n casglu a defnyddio data, er mwyn mesur effaith gwasanaethau yn gywir, a gwella dyluniad polisïau a gwasanaethau.

Mae arferion data cadarn yn galluogi CSOs i ddangos angen, effeithio ac alinio’n fwy effeithiol â nodau cyrff cyhoeddus.

- Awdurdod lleol

Tynnodd ymatebion sylw at y ffaith bod rhannu data rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer ychwanegu at dystiolaeth gyffredin a gwella cyd-ddealltwriaeth.

Datblygu sail o dystiolaeth gyffredin (trwy rannu data yn well a gwell ddealltwriaeth o fylchau mewn data presennol).

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae rhannu data yn agored a gwaith ymchwil cydweithredol rhwng cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil yn gwella dulliau o weithredu, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o ran heriau cymhleth.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Astudiaeth achos - Government Outcomes Lab, rhannu data a gweithio mewn partneriaeth

Mae’r Government Outcomes Lab (GO Lab) yn ganolfan ymchwil a pholisi yn y Blavatnik School of Government, Prifysgol Rhydychen, a sefydlwyd trwy bartneriaeth â Llywodraeth y DU. Cenhadaeth GO Lab yw galluogi’r llywodraeth i bartneru’n fwy effeithiol â’r sectorau preifat a chymdeithasol i wella bywydau pobl. Mae GO Lab yn cynnig canolfan gydweithredol i wella dysgu yn y llywodraeth o gomisiynu sy’n seiliedig ar ganlyniadau trwy waith ymchwil o’r radd flaenaf, curadu a rhannu data, ac ymgysylltu â pholisïau ymatebol.

Trwy fentrau fel INDIGO (Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Data ar Effaith a Chanlyniadau’r Llywodraeth; International Network for Data on Impact and Government Outcomes), mae gwaith GO Lab yn dangos sut y gall gwneud penderfyniadau dan arweiniad data gefnogi perthnasoedd gwaith effeithiol ar draws sectorau. Mae INDIGO yn gorff data byd-eang cydweithredol sy’n rhannu data yn agored ac yn dryloyw am bartneriaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae menter INDIGO yn cynnwys cynnal cymuned o ymarferwyr, system ar gyfer rhannu data a setiau data mynediad agored sydd wedi’u cynllunio i wasanaethu fel nwyddau cyhoeddus, megis set ddata gynhwysfawr ar bartneriaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cymdeithasol, a chanlyniadau a gyflawnir gan brosiectau’r Gronfa Cyfleoedd Bywyd (Life Chances Fund).

Prif wersi: Mae rhannu data yn agored rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn creu sylfaen o dystiolaeth gyffredin ac yn gwella cyd-ddealltwriaeth, ac ar yr un pryd grymuso cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill i ddeall ac ymgysylltu â mentrau’r llywodraeth yn well.

4. Pa ffactorau sy’n rhwystr i bartneriaethau a chydweithredu ystyrlon?

Un o brif ffocws ein gwaith ymgysylltu oedd ‘Beth yw’r rhwystrau i bartneriaeth a chydweithredu ystyrlon?’

Gwnaethom ganfod bod tua 70% o sefydliadau cymdeithas sifil a ymatebodd i arolwg NCVO wedi dweud eu bod yn profi rhwystrau wrth ymgysylltu â chyrff cyhoeddus. Ar ben hynny, mae sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn nodi sawl rhwystr allweddol, gan gynnwys:

  • Diffyg cyd-ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth

  • Perthnasoedd anghyfartal a phŵer anghytbwys

  • Strwythurau biwrocrataidd ac ynysig

  • Cyfathrebu ac ymgysylltu gwael

  • Cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti

  • Modelau comisiynu sy’n eithrio cymdeithas sifil neu’n ei gosod dan anfantais

Tynnodd llawer o ymatebwyr sylw at y ffaith bod y rhwystrau hyn yn fwy arwyddocaol i sefydliadau cymdeithas sifil llai.

Diffyg cyd-ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth

Thema gyson oedd bod diffyg dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o rôl, cryfderau neu gyfyngiadau’r naill a’r llall yn rhwystr sylfaenol i berthnasoedd effeithiol, ac mae’n golygu na fydd arbenigedd cymdeithas sifil yn cael ei werthfawrogi na’i fanteisio arni’n llawn.

Ni all partneriaeth ystyrlon fodoli lle nad yw un partner yn deall nac yn gwerthfawrogi’r llall.

- Awdurdod lleol

Awgrymodd rhai ymatebwyr fod y rhwystr hwn yn waeth i sefydliadau cymdeithas sifil llai, gan nodi bod rhai cyrff cyhoeddus yn fwy parod i gydnabod ac ymgysylltu â sefydliadau mwy, gan fod y rhain yn fwy adnabyddus ac felly bod ymddiriedaeth ynddynt eisoes.

Mae angen ymgysylltu a dealltwriaeth fwy cyfartal o sefydliadau llai sy’n canolbwyntio ar y gymuned – y tu hwnt i sefydliadau cymdeithas sifil mawr adnabyddus neu sefydliadau proffil uchel eraill a allai fod yn cyflawni rhai canlyniadau cymdeithas sifil.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Fel CIO (Cwmni Buddiannau Cymunedol; Community Interest Company) cymharol fach/o faint canolig sydd wedi bod yn gweithredu ers dim ond 4/5 mlynedd, rydym wedi ei chael hi’n anodd cael ein cydnabod gan ddylanwadwyr lleol a rhanbarthol. Mae’n teimlo fel bod y sefydliadau mwy adnabyddus yn cael eu cysylltu i gynrychioli’r sector.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd llawer o sefydliadau cymdeithas sifil sylw at y ffaith nad yw cyrff cyhoeddus bob amser yn deall y cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti sy’n wynebu’r sector, gan arwain at ddisgwyliadau afrealistig ynghylch cyflawni a phartneriaethau.

Pan nad oes gan gyrff cyhoeddus adnoddau digonol yn eu lle i gyflawni dyletswyddau a phwerau statudol, gan arwain at ddisgwyliadau afrealistig y bydd sefydliadau cymdeithas sifil yn llenwi bylchau yn y gwasanaeth heb y cyllid na’r adnoddau i wneud hynny. O ganlyniad, mae hyn yn dargyfeirio’r sefydliadau rhag cyflawni eu gwaith craidd o fewn cymunedau.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Neges gyffredin oedd nad yw’r llywodraeth na chyrff cyhoeddus bob amser yn deall nac yn cydnabod rolau eirioli ac ymgyrchu sefydliadau cymdeithas sifil, yn enwedig pan fydd cymdeithas sifil yn ceisio darparu beirniadaeth adeiladol neu ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.

Mae angen i elusennau allu dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif fel cyfaill beirniadol, gan ymgyrchu ar ran ein buddiolwyr i sicrhau bod y materion sydd fwyaf bwysig i bobl a chymunedau yn cael eu clywed.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Perthnasoedd anghyfartal a phŵer anghytbwys

Clywsom hefyd y gall pŵer anghytbwys rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus ddarparu rhwystr arwyddocaol i weithio gyda’n gilydd yn effeithiol. Mae llawer yn disgrifio perthnasoedd lle nad yw cyrff cyhoeddus yn ystyried sefydliadau cymdeithas sifil i fod yn gyfartal a bod angen i’r sefydliadau hyn weithio’n galed i ddangos eu gwerth a’u harbenigedd. I lawer o ymatebwyr, roedd y mater hwn yn gysylltu’n agos â diffyg dealltwriaeth rhwng y sectorau.

Pan fo cyrff cyhoeddus yn methu â chydnabod a rhoi rhywfaint o barch i faes/meysydd arbenigol unigryw sefydliadau cymdeithas sifil, gan arwain at anghydraddoldeb a phŵer anghytbwys yn eu perthnasoedd â’i gilydd.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Yn ogystal â hyn, roedd awgrymiadau nad yw sefydliadau cymdeithas sifil yn cael eu trin yn gyfartal gan gyrff cyhoeddus, a bod sefydliadau arbenigol llai yn fwyaf tebygol o gael eu hanwybyddu.

Nid ydym yn cael ein hystyried oherwydd eu bod nhw’n ein hystyried yn rhy fach iddyn nhw ryngweithio â ni.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd rhai ymatebwyr, gan gynnwys rhai o’r llywodraeth, sylw at y ffaith bod lle i osod perthnasoedd ar sail fwy cyfartal trwy fwy o dryloywder, rhannu arweinyddiaeth a datganoli penderfyniadau ac adnoddau i gymdeithas sifil a sefydliadau ar lefel gymunedol. 

Dangos parodrwydd i drosglwyddo pŵer, arweinyddiaeth ac adnoddau lle bo eraill mewn sefyllfa well i ddarparu datrysiadau ystyrlon i faterion lleol.

- Awdurdod lleol

Gall diffyg tryloywder o ran cyllid, gwneud penderfyniadau, a mecanweithiau atebolrwydd fod yn rhwystr, gan ei gwneud hi’n anodd sefydlu partneriaethau parhaus a theg. Mae mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn gofyn am ymdrechion bwriadol i drin pawb yn yr un modd a meithrin ymgysylltu cynhwysol.

- Awdurdod lleol

Biwrocratiaeth a gwaith ynysig

Neges glir oedd bod biwrocratiaeth a gwaith ynysig yn gallu ei gwneud hi’n her i gael mynediad at sefydliadau’r sector cyhoeddus, yn ogystal â’u llywio a rhyngweithio â nhw. Tynnodd ymatebion sylw at y ffaith y gall systemau a phrosesau biwrocrataidd, cymhleth arwain at strwythurau yn y llywodraeth a ffyrdd o weithio sy’n anhyblyg, anhygyrch, neu wedi’u tynnu oddi wrth y gymuned. Mae hwn yn arbennig yn fater i sefydliadau a grwpiau llai sy’n cynrychioli cymunedau ymylol.

Yn aml, mae cymhlethdod, anhryloywder ac anghysondeb diangen ar draws gwahanol adrannau’r llywodraeth a chyrff cyllido eraill sy’n ceisio’r un canlyniadau neu ganlyniadau tebyg, a bod hyn yn ychwanegu at y baich ar gynghorau lleol a sefydliadau VCSE/cymdeithas sifil.

- Awdurdod lleol

Gall prosesau biwrocrataidd a chyfathrebu gwael ddieithrio grwpiau ymhellach, yn enwedig y rhai sy’n cynrychioli cymunedau ymylol.

- Awdurdod lleol

Nododd rhai ymatebwyr hefyd fod gwaith sefydliadol ynysig y sector cyhoeddus yn gallu ei gwneud hi’n draul ar amser, yn fwy tameidiog ac yn fwy heriol wrth ymgyslltu. Er enghraifft, clywsom fod sefydliadau yn aml yn gorfod cael mwy nag un sgwrs â gwahanol swyddogion yn yr un sefydliad, a gall diffyg cydlynu mewnol arwain at negeseuon neu flaenoriaethau sy’n tynnu’n groes i’w gilydd o fewn yr un sefydliadau.

Mae prosesau tameidiog ac ymdrechion ynysig yn atal gweithredu cyfannol a chydnaws

- Awdurdod lleol

Mae polisïau sy’n effeithio ar gleifion canser ifanc yn rhan o sawl adran (e.e. iechyd, addysg, lles), gan greu ymgysylltiad tameidiog a rhwystro atebion cydlynol.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Tynnodd ymatebwyr sylw hefyd at heriau ymarferol, fel dod o hyd i’r swyddog cywir yn y llywodraeth a throsiant rheolaidd o staff, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i ffurfio perthnasoedd ystyrlon ac ymddiriedus.

Mae trosiant o staff yn golygu bod yn rhaid i chi dreulio amser yn adeiladu perthnasoedd newydd.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Yn olaf, nododd ymatebwyr y gall biwrocratiaeth fygu arloesedd a hyblygrwydd o fewn cymdeithas sifil. Yn gysylltiedig â hyn, tynnwyd sylw at y ffaith bod amharodrwydd i gymryd risgiau yn y sector cyhoeddus hefyd yn gallu cyfyngu ar arloesedd a hyblygrwydd o fewn cymdeithas sifil.

Gall y sector cyhoeddus dal i fod yn amharod i gymryd risgiau yn y ffordd y mae’n mynd i’r afael â chymdeithas sifil sy’n cyfyngu ar ddulliau o weithredu arloesol a hyblyg.

- Awdurdod lleol

Ymgysylltu a chyfathrebu gwael

Roedd dulliau o ymgysylltu â chyrff cyhoeddus yn aml yn cael eu hystyried yn gyfyng ac yn aml yn symbolaidd. Disgrifiodd ymatebwyr y gwaith o gyfathrebu â chyrff y llywodraeth fel ymarfer ‘ticio blychau’, gan gyfeirio at achosion pan nad yw ymgysylltu â chymdeithas sifil yn ystyrlon nac yn cael ei werthfawrogi. Mae’r diffyg cyfathrebu strwythuredig hwn yn rhwystro ymgysylltu cyson ac ystyrlon.

Mae yna awydd i ymgysylltu ond mae’r prosesau yn parhau i fod mor heriol ag erioed. Efallai fod gan gynrychiolwyr VCSE eu traed dan y bwrdd, ond mae’n dal i deimlo’n gymharol symbolaidd, ac mae’r strwythurau yn atal ymgysylltu teg go iawn.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Gall fod ffordd anghyson o gydweithio neu amserlenni amhriodol sy’n atal deialog ystyrlon. Mae cydgynhyrchu yn cymryd amser, ac nid yw’r sector statudol bob amser yn caniatáu digon o amser i gydweithio’n ystyrlon.

- Awdurdod lleol

Tynnodd ymatebwyr sylw hefyd at y ffaith bod dulliau neilltuedig o gyfathrebu, fel dim ond cyfathrebu trwy blarfformau digidol, a’r defnydd o iaith orgymhleth yn cael eu hystyried yn rhwystr i gyfathrebu ystyrlon.

Bydd partneriaethau ‘wyneb yn wyneb’ yn hanfodol … er bod gan gydweithredu digidol rôl i’w chwarae, gallwch gamddeall gohebiaeth ddigidol yn hawdd a gall hynny arwain at negeseuon cymysg neu ddiffyg ymgysylltu â’r chynulleidfaoedd dan sylw.

- Awdurdod lleol

Nodwyd rhwystr arall wrth gyfathrebu mewn meysydd gwaith sensitif neu gyfrinachol. Yma, amlygwyd yr her barhaus wrth rannu gwybodaeth mewn modd tryloyw a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth o’r fath.

Gall rhwystrau cyfreithiol ac ymarferol i rannu data rwystro cydweithio.

- Adran o’r llywodraeth ganolog

Yn olaf, nododd ymatebwyr nad oedd cymdeithas sifil yn cael digon o amser i ymgysylltu’n ddyfnach neu’n fwy ystyrlon â llywodraeth. Tynnodd ymatebwyr sylw at adegau pan oedd diffyg ymgysylltu cynnar wedi rhwystro gallu sefydliadau i lunio polisïau a dylunio gwasanaethau. Rhybuddiodd ymatebwyr, os bydd cysylltu â sefydliadau cymdeithas sifil yn digwydd yn rhy hwyr, yna efallai y bydd cyfleoedd i gydweithredu’n ystyrlon yn cael eu colli.

Gormod o weithiau, mae cyrff cyhoeddus yn diffinio’r mater, yn dod o hyd i ddatrysiad, ac yna’n gofyn i sefydliadau cymdeithas sifil fidio amdano.  [Erbyn hynny], rydym yn colli cyfleoedd am welliannau ystyrlon.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti

Mae llawer o ymatebwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus fel arfer yn gweithredu mewn cyd-destun ariannol ansicr a heriol.

Mae’r ansicrwydd ariannol yn rhwystr enfawr i allu bwrdeistrefi i fod yn fwy cynhyrchiol a chynllunio gwasanaethau yn strategol a dod i benderfyniadau ‘buddsoddi i arbed’.

- Awdurdod lleol

Wrth i incymau gael eu hymestyn a bod blaenoriaethau’n symud, mae elusennau yn ceisio ymdopi â llai o roddion tra’u bod nhw’n wynebu costau gweithredol uwch ac ymchwydd yn y galw am eu gwasanaethau.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Neges glir gan gymdeithas sifil a’r llywodraeth yw bod cyfyngiadau ar adnoddau a chapasiti yn rhwystr sylweddol i adeiladu a chynnal partneriaethau effeithiol. Tynnodd nifer sylw at y ffaith bod adeiladu perthnasoedd a chydweithredu yn dod â manteision gwirioneddol, ond yn gofyn am fuddsoddi amser yn amyneddgar ac ymdrech sy’n dod ar gost ac mae hyn yn heriol pan fo adnoddau yn brin.

Mae her ariannol barhaus yn cyfyngu ar y gallu i weithio mewn partneriaeth yn gadarnhaol. Mae’n bwysig bod yn glir am y diffygion y mae cyfyngiadau cyllidebol yn eu gosod.

- Awdurdod lleol

Mae’r lleihau buddsoddiad i’r sectorau cyhoeddus a’r sectorau VCFSE [gwirfoddol, cymunedol, ffydd, menter gymdeithasol] dros y degawd diwethaf, a’r ‘corddi’ canlyniadol wedi bod yn rhwystr i gyfranogi ac ymgysylltu wrth i’r capasiti gael ei leihau a’i bod hi’n dod yn anoddach datblygu a magu partneriaethau hirdymor.

- Awdurdod lleol

Yn gysylltiedig â hyn, nododd rhai fod gan gyrff sector cyhoeddus ddisgwyliadau afrealistig neu afresymol yn aml o lefelau priodol o gyllid ar gyfer cymdeithas sifil. Er enghraifft, disgrifiodd rhai’r camargraff bod sefydliadau cymdeithas sifil yn cynnig opsiwn ‘rhad’ neu’n gallu cyflawni am ‘ddim’. Yn aml, roedd hyn yn cael ei ddisgrifio fel sefydliadau cymdeithas sifil yn rhoi cymhorthdal i gontractau neu grantiau’r llywodraeth gyda’u cyllid a’u hadnoddau eu hun.

Cyllid annigonol a disgwyliadau afrealistig - nid yw contractau’r sector cyhoeddus yn talu’r holl gostau o gyflawni’r contractau, felly mae cymdeithas sifil yn rhoi cymhorthdal tuag at y costau hyn yn y pen draw. Yn ogystal, maen nhw’n disgwyl i chi gyflawni ymhell tu hwnt i’r hyn oedd wedi’i gyllidebu ar ei gyfer.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Yn gyffredinol, awgrymodd ymatebwyr fod materion o ran capasiti yn creu problemau mwy i sefydliadau cymdeithas sifil llai, gan arwain at allgáu sefydliadau llai o’r broses o lunio polisïau a gwneud penderfyniadau, a bod sefydliadau mwy o faint yn dod yn drech yn y meysydd hyn.

Mae sefydliadau llai yn aml yn cael trafferth cymryd rhan oherwydd capasiti neu gyllid annigonol, tra bo sefydliadau mwy o faint yn drech wrth wneud penderfyniadau.

- Awdurdod lleol

Ar hyn o bryd, mae’n teimlo fel bod yr elusennau mwy o faint yn cael eu gwahodd i’r drafodaeth, ond dydyn nhw ddim yn cynrychioli nac yn gallu cyfathrebu ystod lawn o’r newid sydd ei angen gan nad ydyn nhw’n arbenigwyr ym mhopeth. Dyw’r elusennau o faint canolig ddim yn aml yn cael cyfathrebu â Gweinidogion allweddol, ymgynghoriadau allweddol.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Modelau comisiynu sy’n allgáu cymdeithas sifil neu’n ei rhoi o dan anfantais

Clywsom fod modelau ac arferion comisiynu’r sector cyhoeddus yn gallu creu rhwystrau i gydweithio a phartneriaethau â chymdeithas sifil. Yn gyntaf, tynnodd ymatebwyr sylw at rwystrau gweinyddol neu sy’n rhan o’r broses, a bod y rhain yn rhoi cymdeithas sifil o dan anfantais neu’n ei hallgáu. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion bidio cymhleth ac sy’n draul ar amser, dyddiadau cau byr, diffyg mynediad amserol at gronfeydd neu wybodaeth ariannol, ansicrwydd ynghylch pryd y bydd cyllid yn cyrraedd, penderfynu ar gyllideb a’i dyrannu funud olaf, yn ogystal â diffyg tryloywder. Mae’r ffactorau hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i sefydliadau cymdeithas sifil gynllunio ymlaen llaw a meddwl yn strategol. Dywedodd llawer o ymatebwyr bod y ffactorau hyn yn ei gwneud hi’n arbennig o anodd i sefydliadau llai ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a cheisio cyllid.

Mae gan rai cyrff cyhoeddus brosesau gweinyddu cymhleth, a all achosi oedi (e.e. oedi wrth i uwch-arweinwyr gymeradwyo rhywbeth neu benderfyniadau ac atebolrwydd aneglur).

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae natur fiwrocrataidd / rheoleiddiol y system dendro / grantiau yn ei gwneud hi’n eithriadol o anodd i elusennau llai ymgysylltu / elwa.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Gall rheolau caffael, a/neu ddehongli a rhoi’r rheolau hynny ar waith, ymddwyn fel rhwystr i ymgysylltu â sefydliadau cymdeithas sifil. Yn aml, gall gofynion bidio allgáu rhannau o’r sector rhag ymgysylltu, yn enwedig sefydliadau llai sy’n aml heb yr adnoddau a’r gallu i wireddu gwahanol fidiau a llenwi ffurflenni cysylltiedig.

- Llywodraeth ganolog

Yn ehangach, cyfeiriodd ymatebwyr at arferion comisiynu sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cyllid byrdymor (am flwyddyn neu’n llai), ac roedden nhw’n is na chost lawn sefydliadau cymdeithas sifil i’w adennill, gan arwain at sefydliadau sy’n rhoi cymhorthdal i gontractau o’u hadnoddau eu hun.

Mae’r ffordd mae’r sector cyhoeddus yn comisiynu darparwyr VCS yn rhy aml yn is na’r gost wirioneddol o gyflawni, a bod y VCS yn gorfod rhoi cymhorthdal i gontractau trwy godi arian, cronfeydd wrth gefn neu ddefnyddio adnoddau i fynd ar drywydd cyllid amgen. Mae’n trosglwyddo’r baich o gynaliadwyedd i’r VCS, ac nid yw hyn yn cael ei gydnabod gan gomisiynwyr.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Yn olaf, dywedodd llawer o ymatebwyr fod arferion comisiynu cystadleuol yn llywio ymddygiadau ar draws cymdeithas sifil, a hynny’n gweithio yn erbyn partneriaethau a chydweithio. Er enghraifft, mae’n arwain at sefydliadau yn cystadlu dros adnoddau yn hytrach na gweithio gyda’i gilydd. Mae hefyd yn creu perthynas o gyfnewid un peth am y llall rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus.

Nid yw contractau sydd wedi’u comisiynu a’u gwneud yn gyfyngedig yn galluogi cydweithredu. Yn hytrach, mae’n creu cystadleuaeth rhwng sefydliadau cymdeithas sifil. Mae creu cystadleuaeth am adnoddau prin yn annefnyddiol i berthnasoedd â’r llywodraeth, ond hefyd i gydweithredu lleol a chenedlaethol ar draws sectorau. Mae’n creu gwaith ynysig ac yn tanseilio ymddiriedaeth.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae mwy o gystadleuaeth sy’n cael ei llywio gan bwysau ariannu, costau cynyddol, ac amserlenni anghyson yn bygwth cydweithio. Mae ganddo botensial i danseilio nodau’r cyfamod.

- Sefydliad cymdeithas sifil

5. Gwreiddio’r cyfamod

Roeddem eisiau archwilio syniadau ar gyfer gwreiddio egwyddorion y Cyfamod ar draws cymdeithas sifil a’r llywodraeth ar bob lefel. Gwnaethon ni ofyn y canlynol: ‘Sut ydyn ni’n sicrhau bod y Cyfamod hwn yn dal dŵr ac yn effeithiol?’ a ‘Sut ydyn ni’n dod â’r berthynas newydd yn fyw, yn enwedig yn y cyd-destun economaidd presennol?’. Roedd y prif themâu ddaeth i’r amlwg yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Llywodraethu ac atebolrwydd

  • Gweithredu a chyflawni

  • Mesur effaith

  • Dathlu llwyddiannau ac arfer gorau

Llywodraethu ac atebolrwydd

Roedd neges gryf y dylai trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ategu’r Cyfamod ond doedd dim consensws clir ynghylch beth fyddai’n effeithiol neu’n gymesur. Mae’r rhan fwyaf o ymatebion yn mynegu awydd am atebolrwydd ar bob parti, nid dim ond y llywodraeth a chyrff cyhoeddus.

Dylai’r Cyfamod fod yn ymrwymiad ar y cyd yn seiliedig ar gydberchnogaeth o’r weledigaeth a’r nodau lle mae pob parti yn cytuno ac yn atebol ar y cyd.

- Awdurdod lleol

Mae llywodraethu priodol a chymesur ac atebolrwydd ar y cyd yn hanfodol ar lefel leol a chenedlaethol.

- Awdurdod lleol

Galwodd rhai am drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ffurfiol, gan gynnwys rhoi’r Cyfamod ar sail statudol gyda chorff goruchwylio annibynnol i lywio gweithredu a monitro cynnydd. Awgrymodd eraill gyflwyno gofynion adrodd newydd, yn enwedig ar gyfer Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill, fel adroddiadau cynnydd blynyddol i Senedd y DU.

Dylai adrannau’r llywodraeth gymryd cyfrifoldeb dros fonitro perfformiad gwahanol [gyrff] yn erbyn egwyddorion y Cyfamod, efallai hyd yn oed gwreiddio cynlluniau perfformiad ac adrodd (KPIs?)  ar gyfer cyflawni cynnydd penodol yn y maes hwnnw.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Ar gyfer cyrff cyhoeddus, byddai cryfhau’r mecanweithiau o fewn y llywodraeth ar gyfer goruchwylio a rhoi cymorth i’r sector gwirfoddol yn cael ei groesawu

- Sefydliad cymdeithas sifil

Fodd bynnag, roedd yna hefyd gais clir i beidio â chynyddu gofynion neu feichiau ar gymdeithas sifil neu gyrff cyhoeddus eraill, o ystyried capasiti prin ac adnoddau cyfyng. Awgrymodd rhai pe byddai’r Cyfamod yn darparu fframwaith gwirfoddol ar gyfer atebolrwydd ar y cyd y byddai hynny’n ddull mwy priodol o fynd ati er mwyn annog dysgu a gwella o fewn partneriaethau.

Atebolrwydd a dysgu ar y cyd – fframwaith ar gyfer atebolrwydd ar y cyd a chylch adborth ar gyfer dysgu a gwella parhaus.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Gweithredu a chyflawni

Daeth barn glir i’r amlwg bod gwreiddio egwyddorion y Cyfamod ar draws cymdeithas sifil, y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn her sylweddol a fydd yn gofyn am ddull parhaus a chydlynol o weithredu ar lefel leol a chenedlaethol. Roedd llawer o ymatebwyr wedi nodi y gallai hyn fod yn heriol yng nghyd-destun cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti.

Galwodd sawl ymateb ar Lywodraeth y DU i arwain yn ôl esiampl a sicrhau bod adrannau yn berchen ar y Cyfamod a bod y Cyfamod wedi’i wreiddio ar draws adrannau.

Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen rhoi egwyddorion y Cyfamod ar waith yn ymarferol, ar lefel genedlaethol. Ar y lleiaf, byddai angen gwreiddio’r Cyfamod yn amlwg ar draws holl adrannau’r llywodraeth.

- Awdurdod lleol

Er mwyn bod y Cyfamod hwn yn effeithiol, mae’n rhaid i’r llywodraeth gyfan berchen arno ac mae’n rhaid i’r Cyfamod lywio arfer da ar draws pob adran a bod y sawl sydd ar frig y llywodraeth yn arwain y ffordd ar hynny.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Clywsom hefyd neges glir bod angen eglurder ynglŷn â chwmpas y Cyfamod a’r disgwyliadau neu’r gofynion y mae’n eu gosod ar lywodraethau datganoledig neu leol. Awgrymodd sawl un na ddylai’r Cyfamod gael ei roi ar waith drwy model ‘un ateb yn addas i bawb’ a dylai fod hyblygrwydd i addasu’r Cyfamod i anghenion lleol neu drefniadau presennol. Awgrymodd ymatebwyr ffordd o gefnogi a grymuso llywodraeth leol drwy drosglwyddo pŵer a’r gallu i wneud penderfyniadau pan fo eraill mewn sefyllfa well i gyflawni datrysiadau, a chreu arweiniad a phecynnau cymorth i bartneriaid lleol i’w helpu gyda gwreiddio’r Cyfamod yn lleol.

Hyblygrwydd i ddatblygu MOUs/fframweithiau lleol ar sail yr egwyddorion a nodi trefniadau a disgwyliadau clir ar gyfer atebolrwydd a llywodraethu.

- Awdurdod lleol

Oherwydd amrywiaeth y sector, a sut mae’r sector wedi’i siapio yn ôl man daearyddol, mae’n debygol y bydd llawer o ardaloedd yn parhau i ddatblygu strategaeth leol. Fel y nodwyd uchod, mae egwyddorion y Cyfamod yn rhoi lle i ystod o gefnogaeth i waith cynllunio lleol cyflenwol. Nid yw cyfamodau ar eu pen eu hun yn cyflawni newid, a bydd yn bwysig bod y Cyfamod, a’r strategaeth sydd wedi’i chynllunio’n lleol, yn cael eu cefnogi gan gynlluniau gweithredu sy’n dryloyw ac yn fesuradwy, ac yn gysylltiedig â chyllid cysylltiedig lle bo hynny’n bosibl.

- Awdurdod lleol

Mae gwaith cymdeithas sifil mor eang a hollgynhwysfawr – fel y nodir yn y Cyfamod, mae’n cwmpasu pob un o 5 cenhadaeth y llywodraeth. Mae hyn yn golygu bod angen gwreiddio’r Cyfamod ar draws pob maes y llywodraeth. Mewn gwirionedd, dim ond trwy gytundeb ar y cyd ar egwyddorion a ffyrdd o weithio y gall Cyfamod fel hwn fod yn effeithiol, felly mae’n hollbwysig ymgysylltu â’r ddwy ochr i’w ddeall a’i roi ef ar waith.

- Awdurdod lleol

Awgrymodd ymatebwyr hefyd fod angen offer ac adnoddau ymarferol ar sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus i’w defnyddio i weithredu egwyddorion y Cyfamod ar draws perthnasoedd presennol a newydd. Gallai hyn gynnwys adnoddau at ddatblygiad proffesiynol a sefydliadol, platfformau cyfnewid gwybodaeth, mentrau mentora a throsglwyddo sgiliau, ynghyd â hyfforddiant ar sicrhau contractau’r sector cyhoeddus, a chyfleoedd hyfforddi ehangach.

Mae’n rhaid darparu adnoddau, offer a chymorth digonol i alluogi rhanddeiliaid i fodloni eu hymrwymiadau yn ôl y Cyfamod. Gall hyn gynnwys cyllid, hyfforddiant, neu yn syml fynediad at arbenigedd.

- Awdurdod lleol

Darparu rhaglenni sy’n datblygu sgiliau ac arweinyddiaeth gynaliadwy

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mesur effaith

Myfyriodd yr ymatebwyr ar ba mor fuddiol y byddai i’r Cyfamod fod yn ddogfen fyw, fel bod modd asesu ei effaith yn rheolaidd, a bod y ddogfen gael ei haddasu yn ôl yr angen. Awgrymwyd y dylai’r effeithiau hyn ganolbwyntio ar anghenion lleol, canlyniadau a gwerth cymdeithasol.

Dylid sefydlu prosesau clir, cadarn a rheolaidd yn y llywodraeth i gynnal egwyddorion y Cyfamod yn weithredol, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn fframwaith byw ac effeithiol. Bydd monitro cynnydd wrth roi e ar waith, asesu canlyniadau a mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion yn hanfodol.

- Sefydliad cymdeithas sifil

Mae cynnwys adolygiadau rheolaidd yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y Cyfamod yn cyflawni’r hyn yr oedd yn bwriadu ei gyflawni – cael adborth gan bawb am yr hyn sy’n gweithio ac nad yw’n gweithio, a defnyddio hyn i addasu a gwella arfer.

- Awdurdod lleol

Dathlu llwyddiant ac arfer gorau

Er mwyn i’r Cyfamod fod yn llwyddiannus, tynnodd ymatebwyr sylw at bwysigrwydd ymrwymiad ac ennyn diddordeb gan arweinwyr cenedlaethol a lleol. Gallwch ddangos hyn trwy ddangos cefnogaeth cyhoeddus i’r Cyfamod, gan gynnwys cyfathrebu a gweithredu cadarnhaol, tynnu sylw at gymelliannau a manteision go iawn y Cyfamod trwy ddathlu enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus a chydnabod hynny trwy wobrau a rhaglenni.

Mae angen i bob partner ddangos ymrwymiad i’r Cyfamod.

- Awdurdod lleol

Dylai’r llywodraeth a’r holl bartneriaid ddathlu’r berthynas newydd arfaethedig â chymdeithas sifil yn weithredol, gan gynnwys trwy gydnabod y partneriaethau, rhannu effeithiau’r hyn sydd wedi gweithio’n dda, ac amlygu unrhyw wersi. Dylai’r llywodraeth a’r holl bartneriaid hefyd nodi a hyrwyddo cyfleoedd i gynnwys y Cyfamod mewn dogfennau, polisïau a chynlluniau strategol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

- Awdurdod lleol

Yn olaf, awgrymodd ymatebwyr fod eisiau tynnu sylw at astudiaethau achos o fel mae’r Cyfamod yn gweithio’n ymarferol, a chydnabod a defnyddio gwersi o drefniadau partneriaethau presennol ledled y DU.

Dylai’r Cyfamod adeiladu ar yr arfer da presennol, [oherwydd] bod llawer o waith ardderchog eisoes yn digwydd yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

- Awdurdod lleol

6. Casgliadau a’r camau nesaf

Diben yr ymgysylltu hyn oedd cael dealltwriaeth hollbwysig o berthynas waith gyfredol rhwng y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau cymdeithas sifil yn y DU. Fel bod y Cyfamod yn cael ei roi ar waith yn effeithiol, roedd angen i’r DCMS glywed gan y rhai ar lawr gwlad am berthnasoedd presennol, beth sy’n cynorthwyo gweithio’n gadarnhaol mewn partneriaeth, pa rwystrau sy’n bresennol, a sut y gallai’r Cyfamod gefnogi a gwella’r rhain orau. Mae ystod a chwmpas yr ymgysylltu hyn wedi taflu goleuni prin a gwerthfawr ar hynny.

Mae’n amlwg o’r canfyddiadau hyn bod angen gwaith i wella’r berthynas rhwng cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus a’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae hefyd yn amlwg o’r canfyddiadau hyn bod llawer i’w ennill o berthynas waith agosach, fwy effeithiol. Mae’r Cyfamod yn gyfle cyffrous i bob parti weithio tuag at nodau ar y cyd, a mynd i’r afael â heriau’r genedl gyda’i gilydd.

Ar ôl y cyfnod ymgysylltu hwn, mae swyddogion yn y DCMS wedi defnyddio’r canfyddiadau hyn i ddatblygu Cyfamod Cymdeithas Sifil terfynol, sy’n rhoi’r sylfaen ar gyfer ailddechrau’r berthynas. Nid dyma ddiwedd y broses ddysgu i gymdeithas sifil a’r llywodraeth, a’r bwriad yw bod y Cyfamod yn arwain pob parti at bartneriaethau mwy effeithiol a ffrwythlon yn yr hirdymor.

Atodiad A – Methodoleg

Crynodeb

Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024, cynhaliodd y DCMS, NCVO ac ACEVO ymarfer ymgysylltu helaeth i gasglu barn ar Fframwaith Cyfamod Cymdeithas Sifil. Yn ystod y cyfnod ymgysylltu hwn, rydym yn ceisio estyn llaw ac ymgysylltu ag amrywiaeth lawn cymdeithas sifil, gan gynnwys sefydliadau at ddibenion o bob math, maint, lleoliadau daearyddol, a’r rhai y mae grwpiau lleiafrifol yn eu harwain.

Hefyd ceisiodd y DCMS ymgysylltu â swyddogion ac arweinwyr ar draws cyrff cyhoeddus, gan gasglu barn o bob lefel o’r llywodraeth, gan gynnwys llywodraethau canolog, lleol a datganoledig, yn ogystal ag awdurdodau strategol a chyrff hyd braich.

Yn gyffredinol, clywodd y DCMS, NCVO ac ACEVO gan dros 1,200 o sefydliadau ledled cymdeithas sifil, a chan y llywodraeth ar bob lefel. Mae dadansoddiad o’r gweithgareddau ymgysylltu wedi’i roi isod.

Gweithgareddau ymgysylltu

Ymgysylltu â chymdeithas sifil

  • Dyluniodd y DCMS, NCVO ac ACEVO arolwg ymgysylltu ar-lein ar y cyd a gynhaliwyd gan NCVO a oedd yn agored i gymdeithas sifil gyfan. Cafodd yr arolwg ei rannu’n eang trwy NCVO, ACEVO a rhwydweithiau partneriaid cymdeithas sifil, gan gyrraedd dros 2,000 o dderbynwyr a cawson nhw 488 o ymatebion dilys.

  • Gwnaeth y DCMS hefyd wahodd cymdeithas sifil i ddarparu cyflwyniadau a thystiolaeth fanylach yn uniongyrchol i’r Adran. Cawson ni 92 o gyflwyniadau gan ystod eang o sefydliadau, ac efallai fod rhai ohonyn nhw hefyd wedi ymateb i’r arolwg ar-lein.

  • Cyflwynodd NCVO gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ‘galw heibio’ undydd ar-lein i roi cyfleoedd mwy hygyrch i sefydliadau ac unigolion ymgysylltu, a fyddai’r sefydliadau ac unigolion hyn yn wynebu rhwystrau i ymgysylltu trwy ddigwyddiadau ffurfiol neu ymgynghori ysgrifenedig.

  • Cynhaliodd NCVO gyfweliadau manwl ag arweinwyr cymdeithas sifil yn ystod y cyfnod hwn. Fe wnaethant ganolbwyntio ar ystod o faterion fel rhan o’r cyfweliadau, gan gynnwys darparu a chontractio gwasanaethau, ymgyrchu, ffocws sefydliadau llai a sefydliadau ethnig leiafrifol, er mwyn cael persbectif amrywiol ar ganfyddiadau a chasgliadau NCVO ar gyfer y gwaith hwn.

  • Mewn partneriaeth â Rhif 10, cynhaliodd y DCMS 9 cyfarfod bord gron a daeth 220 o sefydliadau i’r rhain. Ceisiodd y cyfarfodydd bord gron ymgysylltu â set amrywiol o sefydliadau cymdeithas sifil, gan gynnwys grwpiau ac is-sectorau a allai fod wedi’u tangynrychioli neu’n wynebu rhwystrau wrth gymryd rhan yn y broses ymgysylltu. Daeth amrywiaeth o arweinwyr ynghyd yn sgil y cyfarfodydd bord gron i gynrychioli gwahanol safbwyntiau o bob rhan o’r DU.  Roeddent yn cynnwys arweinwyr o gymunedau ffydd, y rhai a oedd yn cynrychioli grwpiau ethnig leiafrifol, sefydliadau â phrofiad o gefnogi a rhedeg mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol, yn ogystal â phobl sy’n arwain sefydliadau’n lleol yng nghanol eu cymunedau a Sefydliadau Seilwaith Lleol.

Cyrff cyhoeddus ac ymgysylltu â’r llywodraeth

  • Gwnaeth y DCMS groesawu ymatebion uniongyrchol a manwl gan gyrff cyhoeddus ac ar draws y llywodraeth, trwy lythyr gan SoS y DCMS. Anfonwyd llythyrau at weinidogion y llywodraethau datganoledig, meiri a phrif weithredwyr awdurdodau strategol Lloegr ac awdurdodau lleol Lloegr, gan annog iddynt gymryd rhan yn yr ymgysylltu.

  • Cynhaliodd swyddogion y DCMS weminar llywodraeth leol wedi’i anelu at Gyfarwyddwyr Cymunedau i’w briffio ar y Cyfamod, clywed eu barn ac annog cyflwyniadau. Roedd 120 o swyddogion o awdurdodau lleol ac awdurdodau strategol Lloegr yn bresennol.

  • Cynhaliodd y DCMS ddigwyddiad undydd ar y cyd â Pro Bono Economics wedi’i anelu at uwch-weision sifil ac uwch-arweinwyr yn y sector. Roedd tua 150 o bobl yn bresennol wyneb yn wyneb a 192 o bobl ar-lein. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar alluogi a chefnogi cydweithredu effeithiol rhwng cymdeithas sifil a’r gwasanaeth sifil.

  • Gwnaeth y DCMS ymgysylltu’n helaeth ar draws adrannau’r llywodraeth ganolog, trwy gydol y cyfnod ymgysylltu. Defnyddiodd swyddogion y DCMS hefyd waith ymgysylltu presennol â gweinidogion a swyddogion er mwyn hyrwyddo’r Cyfamod, lle bo’n addas.

  • Ymgysylltodd swyddogion y DCMS â swyddogion o bob un o’r cenhedloedd datganoledig a’r swyddfeydd tiriogaethol trwy gydol y cyfnod ymgysylltu er mwyn rhoi gwybod iddynt am y diweddaraf ynglŷn â’r Cyfamod ac fel y byddai’n cael ei roi ar waith ledled y DU, yn ogystal â chasglu adborth ar ei gynnwys. Rhoddodd yr ymgysylltu hyn gyfle i swyddogion y DCMS ddysgu am drefniadau presennol gyda chymdeithas sifil ym mhob un o’r cenhedloedd datganoledig.

  • Yn gyffredinol, daeth 72 o ymatebion i law’r DCMS gan bob rhan o adrannau Whitehall, awdurdodau lleol, awdurdodau strategol a llywodraethau datganoledig.

Cyfyngiadau o ran data

Prif gyfyngiad yr ymgysylltu hyn yw bod y canfyddiadau yn adlewyrchu profiadau a barn y rhai yn y sector a ddewisodd gymryd rhan yn unig. Efallai nad oed gan eraill yr amser na’r adnoddau i gymryd rhan yn yr ymgysylltu hyn.

Cwestiynau ymgysylltu

Fe wnaethom ddefnyddio’r cwestiynau ymgysylltu allweddol canlynol i ddarparu fframwaith i ymatebwyr gael rhannu eu hadborth ar Fframwaith y Cyfamod.

Cwestiynau ymgysylltu allweddol:

  • Ai’r 4 egwyddor allweddol – cydnabyddiaeth, partneriaeth, cyfranogiad, tryloywder – yw’r rhai cywir?

  • Beth sy’n galluogi partneriaeth effeithiol a beth yw’r enghreifftiau o arfer da?

  • Beth yw’r rhwystrau i bartneriaethau a chydweithredu ystyrlon?

  • Sut ydyn ni’n defnyddio gallu rhagorol cymdeithas sifil i arloesi a dod o hyd i atebion newydd i broblemau cymdeithasol a sut ydyn ni’n cefnogi’r meddylfryd hwnnw i gydio ar draws y sector?

  • Sut ydyn ni’n sicrhau bod y Cyfamod hwn yn dal dŵr ac yn effeithiol?

  • Sut ydyn ni’n dod â’r berthynas newydd yn fyw, yn enwedig yn y cyd-destun economaidd presennol?

Er mwyn casglu adborth gan gymdeithas sifil, fe wnaethom aralleirio’r cwestiynau ymgysylltu allweddol ar gyfer Arolwg Ymgysylltu’r NCVO. Gwnaethon ni hyn i sicrhau bod y cwestiynau yn briodol i gynulleidfa cymdeithas sifil, a chawson nhw eu llunio i alluogi sefydliadau i ateb y cwestiynau’n llawn. Penderfynwyd ar y newidiadau hyn gan swyddogion y DCMS, NCVO ac ACEVO.

Cwestiynau Arolwg Ymgysylltu’r NCVO:

  • A oes angen Cyfamod arnon ni i wella’r berthynas rhwng sefydliadau cymdeithas sifil a’r llywodraeth?
    • I ba raddau y mae’r 4 egwyddor hyn yn cefnogi perthynas effeithiol rhwng cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus?
    • Pa newidiadau neu ychwanegiadau, os oes gennych rai o gwbl, fyddech chi’n eu gwneud i’r egwyddorion drafft?
  • Beth sy’n cefnogi perthynas effeithiol rhwng sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus?

  • Ydych chi’n profi rhwystrau wrth ymgysylltu â chyrff cyhoeddus?
    • Dywedwch ragor wrthym am eich profiad
  • Sut gallwn ni sicrhau bod sefydliadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn glynu wrth yr egwyddorion hyn?

  • Beth sy’n cefnogi cymdeithas sifil i arloesi a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau cymdeithasol?

  • Pa gamau dylai sefydliadau cymdeithas sifil eu cymryd i wella’r berthynas â chyrff cyhoeddus?

  • Pa gamau dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd i wella’r berthynas â sefydliadau cymdeithas sifil?

Dadansoddiad y DCMS o Arolwg Ymgysylltu’r NCVO

Gwnaethon ni ddadansoddi ymatebion yr arolwg gan ddefnyddio cyfuniad o ddadansoddi meintiol, codio ansoddol a dadansoddi thematig anwythol. Dechreuodd tîm o ymchwilwyr yn y DCMS arni drwy ymgyfarwyddo â’r ymatebion a nodi codau o fewn dyfyniadau. Dilynwyd dull anwythol ar gyfer ymatebion testun rhydd, lle daeth codau a themâu i’r amlwg yn uniongyrchol o’r data a’r ymatebion. Cymerwyd y dull ‘o’r dechrau’n deg’ hwn gan ei fod yn sicrhau bod y dadansoddi a’r canfyddiadau dilynol yn adlewyrchu profiadau a safbwyntiau’r rhai o fewn y sector yn agos. Er mwyn sicrhau bod y codau yn cael eu safoni ar draws y tîm, roedd ymchwilwyr yn aml yn dod at ei gilydd i brofi’r dull ar gyfer pob cwestiwn a mireinio codau. Yna, dadansoddodd y tîm y codau a grwpio codau yn ôl themâu sy’n amlygu eu hun. Cafodd data eu triongli ar draws y gwahanol weithgareddau ymgysylltu i ffurfio canfyddiadau’r ymchwil.

Er mwyn sicrhau ansawdd y dadansoddi, asesodd 2 ymchwilydd bob ymateb. Cafodd unrhyw ymatebion, lle nad oedd ymchwilydd yn gallu dod i gasgliad ynglŷn â beth oedd y neges neu’r ystyr, eu nodi ar gyfer dadansoddi mwy manwl.

Cynrychiolaeth weledol ymatebion cymdeithas sifil yr NCVO

Fel y dangosir gan y graffiau isod, roedd ystod eang o ymatebion i arolwg cymdeithas sifil yr NCVO.

Yn nhermau daearyddiaeth, sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithredu ledled y DU oedd y math mwyaf cyffredin o ymatebwyr. Ymatebodd sefydliadau i’r arolwg hwn sy’n gweithredu ym mhob cwr o’r DU ac sy’n gweithredu’n rhyngwladol.

Clywodd y DCMS gan sefydliadau sydd ag incymau sy’n amrywio rhwng llai na £10,000 y flwyddyn (sefydliadau micro) a sefydliadau hynod fawr (incwm dros £100 miliwn y flwyddyn). Daeth yr ymatebwyr mwyaf cyffredin o sefydliadau o faint canolig (incwm rhwng £100,000 ac £1 miliwn y flwyddyn).

Clywodd y DCMS gan amrywiaeth o sefydliadau. Y math mwyaf cyffredin o ymatebwyr oedd sefydliadau ‘cyflawni gwasanaethau’.