Ymchwil a dadansoddi

Adroddiad terfynol astudiaeth marchnad ar ofal cymdeithasol plant

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol ar ei astudiaeth o'r farchnad ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol plant

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Crynodeb Cymru

Manylion

Ar 12 Mawrth 2021 bu i ni gyhoeddi astudiaeth marchnad ar ofal cymdeithasol plant yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mewn ymateb i ddau bryder sylweddol a godwyd ynghylch sut mae’r farchnad lleoliadau yn gweithredu. Yn gyntaf, yn rhy aml o lawer nid oedd awdurdodau lleol yn gallu sicrhau lleoliadau addas i fodloni gofynion plant mewn gofal. Yn ail, roedd y prisiau a dalwyd gan awdurdodau lleol yn uchel, ac roedd hyn, ynghyd â’r nifer cynyddol o blant sy’n cael eu gofalu, yn rhoi pwysau sylweddol ar gyllidebau awdurdodau lleol, gan gyfyngu ar eu gallu i gyllido gweithgareddau eraill pwysig mewn gwasanaethau plant a meysydd eraill.

Mae’r adroddiad terfynol yn cyfllwyno ein canfyddiadau a’n hargymhellion i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. I gydnabod y cyd-destunau gwahanol sy’n bodoli yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, rydym wedi casglu ynghyd prif ganlyniadau ac argymhellion pob cenedl fel crynodeb penodol i bob un.

Cyhoeddwyd ar 10 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 March 2022 + show all updates
  1. Welsh translation of Wales summary published.

  2. HTML version of Final report published.

  3. First published.