Promotional material

Children travelling to the UK (Welsh accessible)

Updated 9 August 2023

Mae gan Lu’r Ffiniau ddyletswydd dan Adran 55 o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant.

Cymerwn y ddyletswydd hon o ddifrif a gweithio i

ddiogelu plant bregus a’r rhai a allai fod mewn perygl o gael eu masnachu.

Os ydych yn teithio gyda phlentyn (dan 18) ac nid chi yw rhiant y plentyn, neu’n ymddangos nad chi yw’r rhiant (er enghraifft, os oes gennych chi enw teulu gwahanol), gallem ofyn ychydig o gwestiynau i chi ynglŷn â’ch perthynas â’r plentyn. Gwnawn hynny’n gyflym bob amser ac mewn ffordd sensitif ac sy’n ystyried lles y plentyn a’r oedolyn dan sylw.

Gobeithiwn eich bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r gwiriadau ychwanegol a gwblheir gennym ar gyfer y plant sy’n teithio i mewn i’r DU ac yn deall y rhesymau amdanynt petaech chi farn y cawsoch eich oedi yn ddiangen.

Nid yw’n fwriad gennym oedi’ch taith yn hirach na’r angen. Y tro nesaf y byddwch yn teithio, gall fod o gymorth i chi gludo tystiolaeth o’ch perthynas â’r plentyn a/neu’r rheswm pam yr ydych yn teithio gyda’r plentyn.

Gallai’r dystiolaeth hon gynnwys copïau o:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu sy’n dangos eich perthynas â’r plentyn
  • tystysgrifau ysgariad / priodas os mai chi yw’r rhiant ond bod gennych gyfenw gwahanol i’r plentyn
  • llythyr gan riant neu rieni’r plentyn yn rhoi awdurdod i’r plentyn deithio gyda chi ac sy’n rhoi manylion cyswllt os nad chi yw’r rhiant

Bydd Llu’r Ffiniau yn ceisio sefydlu’r berthynas rhwng plant a’r oedolion sydd gyda nhw neu sydd yn eu cwrdd wrth gyrraedd y DU, cyn caniatáu iddynt adael ffin y DU.

Am fwy o wybodaeth am Adran 55, ewch i’r wefan gov.uk.