Ffurflen

Credydau treth: os credwch fod penderfyniad yn anghywir (WTC/AP)

Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflen ar-lein er mwyn gofyn i benderfyniad Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith gael ei ystyried eto.

Dogfennau

Anghytuno gyda phenderfyniad ynghylch credydau treth ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Anghytuno drwy’r post â phenderfyniad ynghylch credydau treth a wnaed ar ôl 6 Ebrill 2014

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Anghytuno drwy’r post â phenderfyniad ynghylch credydau treth a wnaed cyn 6 Ebrill 2014

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn credu bod penderfyniad neu gosb ynghylch Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith yn anghywir, gallwch ofyn i’r Swyddfa Credydau Treth ei ailystyried.

Fel arfer, mae angen i chi wneud eich cais cyn pen 30 diwrnod o’r penderfyniad gwreiddiol.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • dyddiad y penderfyniad yr ydych am i ni edrych arno
  • manylion pam yr ydych am i ni edrych arno
  • y dyddiad y gwnaethoch ofyn i ni ailystyried penderfyniad ynghylch Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad

Os oes gennych gynrychiolydd yn eich helpu gyda’ch cais, bydd hefyd angen ei enw a’i gyfeiriad arnoch.

Anfon ffurflen bost

Gallwch ofyn i CThEM ailystyried penderfyniad drwy argraffu un o’r ffurflenni post, ei llenwi â llaw a’i phostio i CThEM.

Bydd angen i chi anfon y ffurflen bost i:

Swyddfa Credydau Treth
CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
Porthmadog
LL49 9BF

Cyhoeddwyd ar 8 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2024 + show all updates
  1. A new version of the postal forms for English and Welsh have been added for the 2023 to 2024 tax year.

  2. A new version of the postal forms for English and Welsh have been added for the 2020 to 2021 tax year.

  3. A new version of the postal forms for English and Welsh have been added for the 2019 to 2020 tax year

  4. The latest English and Welsh versions of form WTC/AP has been added to this page.

  5. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.

  6. The postcode has been updated to BX9 1ER.

  7. English and Welsh versions of form WTC/AP for 2017 to 2018 has been added to this page.

  8. The latest version of form WTC/AP has been added to this page.

  9. An online forms service is now available.

  10. The latest version of form WTC/AP has been added to this page.

  11. The 2015 to 2016 form has been added to this page.

  12. First published.