Canllawiau

Canllawiau i'r cyhoedd ar y cynllun (accessible version)

Diweddarwyd 3 April 2023

Gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw â Phlant, a elwir hefyd yn “Ddeddf Sarah”, gan gynnwys sut i ymgeisio, beth i’w ddisgwyl, a sut i gyrchu gwybodaeth a chymorth pellach i ddiogelu plant.

Ebrill 2023

Y cynllun datgelu i droseddwyr rhyw yn erbyn plant

Mae’r Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw â Phlant (CSODS) yn gadael i chi ofyn i’r heddlu a oes gan rywun sydd â mynediad at blentyn euogfarn am drosedd rhyw â phlant.

Nid yw’n ddeddf, ond mae’r cynllun yn aml yn cael ei adnabod fel “Deddf Sarah” ar ôl Sarah Payne, dioddefwraig llofruddiaeth proffil uchel yn 2000.

Nid yw CSODS yn disodli’r gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer cyflogeion. Am ragor o wybodaeth, gweler: www.gov.uk/government/organisations/disclosure-and-barring-service

Sut mae’r cynllun yn helpu

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn drosedd erchyll sy’n cael effaith ddinistriol ar fywydau dioddefwyr. Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn amcangyfrif bod 15% o ferched a 5% o fechgyn yn profi rhyw fath o gam-drin rhywiol cyn eu bod yn 16 oed.[footnote 1]

Myth cyffredin yw bod y rhan fwyaf o droseddau rhyw yn cael eu cyflawni gan ddieithriaid. Mewn gwirionedd, mae’r mwyafrif llethol o droseddwyr rhyw â phlant yn cael eu hadnabod gan y dioddefwr ac yn aml maent yn ffrind neu’n aelod o’r teulu.

Os ydych chi’n poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn, gallwch ddefnyddio CSODS i ofyn i’r heddlu a oes ganddyn nhw unrhyw euogfarnau blaenorol am droseddau rhyw â phlant neu’n peri risg hysbys am ryw reswm arall.

Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Am gymorth nad yw’n argyfwng, gallwch ymweld â’ch gorsaf heddlu leol yn bersonol, mynd i wefan eich llu lleol, neu ffonio 101.

Pwy all ymgeisio?

Gall unrhyw un wneud cais o dan CSODS, nid rhieni neu ofalwyr plentyn yn unig. Mae hyn yn cynnwys pobl fel taid, cymydog, neu ffrind.

Dim ots pwy sy’n gwneud y cais, os oes rhywfaint o wybodaeth mae’r heddlu’n penderfynu ei rhannu, byddan nhw’n dweud wrth bwy bynnag sydd yn y sefyllfa orau i gadw’r plentyn yn ddiogel. Efallai nad hwn yw’r person a wnaeth y cais; efallai ei fod yn rhywun arall (fel rhieni’r plentyn) yn lle.

Y tu allan i’r broses CSODS, gall yr heddlu rannu gwybodaeth i helpu i gadw plant yn ddiogel trwy weithdrefnau eraill fel y Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA).

I gael rhagor o wybodaeth am MAPPA, gweler www.gov.uk/government/publications/multi-agency-public-protection-arrangements-mappa-guidance

Sut i ymgeisio a beth fydd yn digwydd

Cam 1

Cysylltwch â’ch heddlu lleol dros y ffôn, mewn gorsaf heddlu, neu ar-lein.Gallwch ddod o hyd i wefan eich heddlu lleol yma: www.police.uk/pu/contact-the-police/uk-police-forces

Cam 2

Llenwch ffurflen ymholiad gan rannu manylion y plentyn a’r unigolyn yr ydych yn holi amdano, a’ch manylion sylfaenol.

Cam 3

Bydd yr heddlu yn cynnal gwiriadau cychwynnol o fewn 24 awr i wirio a oes angen gweithredu ar frys i ddiogelu’r plentyn.

Os yw’r heddlu’n penderfynu ar unrhyw adeg bod risg uniongyrchol o niwed i blentyn, fe fyddan nhw’n cymryd camau brys i gadw’r plentyn yn ddiogel. Mae dyletswydd o hyd ar yr heddlu i ymchwilio i unrhyw droseddau sy’n cael eu honni yn ystod cais CSODS. Fodd bynnag, mae’n bosibl i gais CSODS redeg ar yr un pryd ochr yn ochr ag ymchwiliad troseddol.

Ar yr adeg hon, bydd yr heddlu’n cytuno ar ffordd ddiogel o gyfathrebu â chi.

Cam 4

O fewn 10 diwrnod, bydd angen i chi naill ai fynychu cyfarfod wyneb yn wyneb neu gael sgwrs fanwl ar alwad ffôn/fideo.Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod eich cais yn ddilys ac i ddarganfod rhagor o fanylion.Ar yr adeg hon gofynnir i chi ddarparu:

  1. prawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad;
  2. prawf o’ch perthynas â’r plentyn yr ydych yn holi amdano.

Yn ddelfrydol, byddwch yn gallu dangos 2 ffurf o adnabod a allai gynnwys:

  • pasbort;

  • trwydded yrru;

  • math dibynadwy arall o adnabod â llun y gellir ymddiried ynddo ;

  • bil cyfleustodau cartref (trydan, treth y cyngor, nwy, dŵr); a/neu

  • cyfriflen banc.

Gellid defnyddio tystysgrif geni neu gofnod iechyd personol plentyn (llyfr coch) i brofi eich perthynas â’r plentyn.Os nad oes gennych y mathau hyn o’ch adnabod, ni fydd hynny o reidrwydd yn eich atal rhag gwneud cais. Siaradwch gyda’r heddlu i benderfynu ar ateb. Gall fod yn bosibl, er enghraifft, i rywun arall (fel gweithiwr cymdeithasol neu ymwelydd iechyd) gadarnhau hunaniaeth eich plentyn.

Ni all yr heddlu ddweud unrhyw beth wrthych chi o dan CSODS os na allan nhw gadarnhau eich hunaniaeth, neu os ydych chi’n dewis aros yn ddienw. Nid yw hyn yn golygu y bydd yr heddlu yn anwybyddu eich pryderon. Fe fyddan nhw’n dal i gymryd pa bynnag gamau sydd eu hangen i gadw plentyn yn ddiogel.

Ni fyddwch yn cael gwybod unrhyw beth am y person yr ydych yn gwneud cais amdano ar yr adeg hon. Byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am y cynllun a gwybodaeth gyffredinol am gadw’r plentyn yn ddiogel.

Cam 5

Bydd yr heddlu’n cynnal asesiad risg llawn lle byddan nhw’n cynnal archwiliadau manylach ar y person rydych chi’n holi amdano ac yn gweithio gyda phobl eraill fel gwasanaethau cymdeithasol i ddysgu rhagor.

Os yw’r heddlu’n credu eu bod yn debygol o rannu rhywfaint o wybodaeth, byddant fel arfer yn siarad â’r person rydych chi wedi gofyn amdano ar yr adeg hon, oni bai bod ganddyn nhw reswm i feddwl nad yw hyn yn briodol.Os bydd datgeliad yn digwydd gall yr unigolyn dan sylw gael gwybod bod rhywun yn mynd i dderbyn datgeliad amdanynt, ond dim ond ar ôl asesiad a yw’n ddiogel i wneud hynny y bydd hyn yn cael ei wneud. Bydd yr heddlu yn trafod hyn gyda chi.

Cam 6

Os bydd yr heddlu’n penderfynu ei bod hi’n briodol rhannu rhywfaint o wybodaeth, byddan nhw’n dweud wrth bwy bynnag sydd yn y sefyllfa orau i amddiffyn y plentyn. Efallai nad hwn yw’r person a wnaeth y cais yn y lle cyntaf. Er enghraifft, pe bai taid a nain yn gwneud y cais, gellir rhoi’r wybodaeth i riant yn lle.

Os nad oes cofnod blaenorol o droseddau rhywiol yn erbyn plant, ac nad yw’r person yn peri unrhyw risgiau hysbys i’r plentyn, yna ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rannu.

Mae’n bwysig cofio bod cadw plant yn ddiogel yn broses barhaus a, hyd yn oed os nad oes gwybodaeth yn cael ei rhannu, nid yw o reidrwydd yn golygu nad oes perygl o niwed i’r plentyn. Dylech barhau i gadw’r plentyn yn ddiogel drwy ddilyn y cyngor sy’n cael ei roi.

Cam 7

Os yw’r heddlu’n bwriadu rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi, gofynnir i chi lofnodi cytundeb sy’n addo peidio â dweud wrth unrhyw un arall. Ni fydd yr heddlu yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi os nad ydych yn llofnodi’r cytundeb cyfrinachedd hwn.

Dim ond er mwyn i chi allu cymryd camau i amddiffyn y plentyn y bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi. Rhaid i chi beidio â rhannu’r wybodaeth ymhellach. Os oes pobl eraill rydych chi’n teimlo y dylent wybod, p’un eich teulu neu bobl eraill mae’r unigolyn dan sylw yn cysylltu â nhw, dywedwch wrth yr heddlu a byddan nhw’n delio ag ef.

Mae’n bosib y bydd yr heddlu yn gweithredu yn eich erbyn os yw’r wybodaeth y byddwch yn ei derbyn yn cael ei rhannu ymhellach heb eu caniatâd.

28 diwrnod yw’r uchafswm graddfa amser ar gyfer cwblhau’r ymholiad.

Cyngor a chymorth

  • Stop it now - mae Stop it Now! yn darparu cymorth a gwybodaeth i oedolion i’w helpu i greu cymunedau mwy diogel ac amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol.

  • Parents Protect - Mae Parents Protect yn helpu rhieni a gofalwyr i amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio drwy ddarparu adnoddau diogelwch plant.

  • CEOP – Asiantaeth gorfodi’r gyfraith yw’r Gorchymyn Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol a meithrin perthynas amhriodol ar-lein.

  • NSPCC - Mae’r NSPCC yn darparu gwybodaeth am atal cam-drin a nodi arwyddion cam-drin, yn ogystal â chynnig cymorth i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin.

  • Barnardo’s – Mae Barnardo’s yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin rhywiol, i’w gwneud yn ddiogel a’u helpu i wella.

  • Stop Abuse Together – Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i unrhyw un sy’n poeni am gam-drin plant yn rhywiol.

  • Sefydliad Marie Collins – Y Mae Sefydliad Marie Collins yn elusen sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i gefnogi eu hadferiad yn dilyn cam-drin rhywiol yn ymwneud â thechnoleg.

Cwestiynau Cyffredin

A fydd yr heddlu’n ymchwilio’n llawnach os oes mwy nag un adroddiad am yr un unigolyn?

Mae’r heddlu’n ymchwilio’n llawn i bob ymholiad. Os bydd mwy nag un person yn holi am yr un unigolyn, bydd gwiriadau’r ymchwiliad yn cael eu gwneud eto ac mae’n bosib y bydd cwestiynau’n cael eu gofyn am pam bod gwahanol bobl yn gwneud ymholiadau am yr un unigolyn. Fel rhan o’r cynllun, mae manylion llawn yn cael eu cymryd gan bob ymgeisydd yn gofyn i’r heddlu wirio unigolyn penodol allan. Bydd hyn yn helpu’r heddlu i ganfod unrhyw ddefnydd maleisus o’r system.

A fydd yr unigolyn rwy’n gofyn amdano yn gwybod bod yr heddlu’n ymchwilio iddo?

Na, oni wneir penderfyniad i ddatgelu. Mewn achosion o’r fath, bydd yr heddlu’n gwneud yr unigolyn yn ymwybodol bod datgeliad yn cael ei wneud oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny. Bydd yr heddlu yn trafod hyn gyda chi.

A fydd yr unigolyn rwy’n gofyn amdano yn gwybod fy mod wedi dechrau’r ymchwiliad?

Na, bydd eich cyfrinachedd yn cael ei gynnal oni bai ei fod yn cael ei benderfynu y dylid gwneud datgeliad.Os bydd datgeliad yn digwydd gall yr unigolyn dan sylw gael gwybod bod rhywun yn mynd i dderbyn datgeliad amdanynt, ond dim ond ar ôl asesiad a yw’n ddiogel i wneud hynny y bydd hyn yn cael ei wneud. Bydd yr heddlu yn trafod hyn gyda chi.

A fydd yr unigolyn yr ymchwilir iddo yn cael unrhyw fath o gofnod dim ond oherwydd fy mod wedi gofyn amdanynt?

Bydd yr heddlu yn cadw cofnod o’r ymholiad. Fodd bynnag, dylid nodi nad cofnod troseddol o unrhyw fath yw hwn. Bydd yn caniatáu i’r heddlu nodi a yw patrwm yn datblygu mewn perthynas ag unigolyn penodol.

Rydych yn sôn am weithdrefnau diogelu plant. Ydy hyn yn golygu bod modd mynd â fy mhlentyn oddi arna i?

Dim ond o dan amgylchiadau prin y mae plant yn cael eu tynnu o’u teuluoedd mewn amgylchiadau prin lle maen nhw’n wynebu risg o niwed difrifol os ydyn nhw’n aros yn yr amgylchedd hwnnw. Mae hwn yn gynllun i helpu rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid i ddiogelu eu plant yn well. Ni fydd plant yn cael eu cludo o gartref y teulu os yw’r rhiant, gofalwr neu warchodwr yn gweithio gyda’r heddlu, y gwasanaethau plant ac asiantaethau perthnasol eraill i ddiogelu eu plentyn neu blant rhag unrhyw risg a nodwyd.

  1. Karsna, K., Kelly, L (2021). ‘Maint a natur cam-drin plant yn rhywiol: Adolygiad o dystiolaeth’. Ar gael yn: www.csacentre.org.uk/documents/scale-nature-review-evidence-0621