Papur polisi

Gostyngiadau treth i elusennau: canllawiau ar bolisi'r Comisiwn Elusennau

Canllawiau i ymddiriedolwyr elusen ar ddefnyddio'r gostyngiadau treth sydd ar gael i elusennau wrth reoli a gweinyddu eu helusen.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu canllawiau rheoleiddio’r comisiwn i ymddiriedolwyr ar ddefnyddio’r gostyngiadau cyllidol i elusennau, gan gynnwys elusennau yn cymryd rhan mewn trefniadau osgoi trethi.

Mae’n esbonio:

  • sut mae’r defnydd rhesymol a doeth o ostyngiadau cyllidol a chynllunio treth gan elusennau yn angenrheidiol ac yn synhwyrol
  • sut mae’n rhaid i ymddiriedolwyr, wrth ddefnyddio gostyngiadau cyllidol, ystyried eu dyletswydd i weithredu’n ddoeth er lles gorau eu helusen ac ni ddylent wneud unrhyw drefniadau a all niweidio enw da’r elusen a dwyn anfri arni
  • sut na all elusennau ymwneud ag efadu neu dwyll trethi, neu fod yn gysylltiedig ag efadu neu dwyll trethi - mae hynny’n anghyfreithiol

Mae efadu trethi, twyll trethi a chamddefnyddio’r system drethi fel arall, gan gynnwys datblygu neu gymryd rhan mewn trefniadau osgoi trethi, yn faterion i Gyllid a Thollau EM (HMRC) yn bennaf.

Ond bydd gan y comisiwn bryderon rheoleiddio difrifol iawn pan fydd defnydd ymddiriedolwyr o ostyngiadau cyllidol yn groes i’w dyletswydd i weithredu’n ddoeth ac er lles gorau eu helusen ac yn unol â’u cyfrifoldebau fel y’u hamlinellwyd y canllaw hwn.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2015