Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Cyhoeddiad 67

Cyhoeddwyd 29 March 2022

Applies to England and Wales

Argyfwng Wcráin

Mae’r sefyllfa yn Wcráin yn newid yn gyflym. Rydym yn cydnabod yr her gymhleth mae hyn yn ei rhoi i elusennau sy’n ymateb i’r argyfwng gartref neu dramor. Rydym wedi nodi ein canllawiau ar y cwestiynau a ofynnir yn fwyaf aml a byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn yn rheolaidd.

Byddwch yn sicr mewn amserau ansicr

Mae ein hymgyrch ddiweddaraf oedd â’r nod i helpu ymddiriedolwyr i adnewyddu eu gwybodaeth ynghylch eu dyletswyddau hanfodol yn mynd yn fyw yr wythnos hon. Mae’n arddangos cyfres y Comisiwn o ganllawiau 5-munud a luniwyd i roi gwybodaeth hawdd-ei-deall i ymddiriedolwyr ar yr holl faterion llywodraethu sylfaenol. Ehangwyd y gyfres hon ym mis Tachwedd, gyda chyflwyno canllaw ar Ddiogelu.

Eleni, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau’n effeithiol, rydym hefyd yn lansio set o fideos wedi’u hanimeiddio sy’n esbonio’r pwyntiau allweddol o bob un o’n canllawiau.

Gwyliwch y cyntaf yn y gyfres newydd nawr.

Y bil elusennau: y newyddion diweddaraf am y camau gweithredu

Yn hwyr y mis diwethaf, derbyniodd Deddf Elusennau 2022 Gydsyniad Brenhinol, a’i gwneud yn gyfraith.

Rydym yn croesawu darpariaethau’r ddeddfwriaeth, sydd â’r nod o wneud bywyd yn haws i ymddiriedolwyr, gan eu helpu i gynyddu’r buddion mae eu helusen yn eu rhoi. Dysgwch beth mae’n ei olygu i’ch elusen a sut mae’n debygol y bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu.

Bil Elusennau: y camau nesaf

Bygythiad seiber yn cynyddu

Mae’r llywodraeth yn rhybuddio sefydliadau, gan gynnwys elusennau, i fod yn wyliadwrus oherwydd ymosodiadau seiber posibl.

Nid yw’r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol yn ymwybodol o unrhyw fygythiadau seiber penodol i elusennau’r DU mewn perthynas â goresgyniad Wcráin gan Rwsia.

Fodd bynnag, tra bod y sefyllfa yn Wcráin yn aros yn anwadal, anogir elusennau’n gryf i ddilyn y camau posibl i’w gweithredu yng nghanllawiau’r Ganolfan Diogelwch Seiber Genedlaethol sy’n lleihau’r risg o ddioddef ymosodiad.

National Cyber Security Centre - actions to take when the cyber threat is heightened.

Datganiad Blynyddol 2022

Disgwylir i’r Datganiad Blynyddol ar gyfer 2022 gael ei lansio ar ddiwedd Ebrill. Argymhellir bod elusennau sy’n gallu ffeilio’n gynnar yn gwneud hynny.

Ar ôl adborth gan ymddiriedolwyr, rydym wedi diweddaru ein canllawiau i elusennau sy’n gweithio y tu allan i Loegr a Chymru.

Mae’r testun nawr yn egluro ardal gweithredu fel y man lle mae elusen yn darparu ei diben.

Er enghraifft, os bydd elusen â’i chanolfan yn Llundain yn rhedeg cartref plant amddifad yn Romania, dylid cofnodi ei ardal gweithredu fel Romania.

Mae’r un peth yn gymwys ar gyfer elusennau’n sy’n darparu cyllid neu grantiau i sefydliadau eraill y tu allan i Loegr a Chymru.

Felly, os bydd elusen yng Nghaerdydd yn rhoi grant i NGO lleol yn Yemen i adeiladu ysgol, cofnodir ei hardal gweithredu fel Yemen.

Fodd bynnag, nid yw elusen sy’n rhoi rhodd neu grant cyffredinol i elusen arall sydd wedi’i chofrestru a all weithredu dramor yn cyfrif fel elusen sy’n gweithredu dramor.

Elusennau a’r cyflog isafswm cenedlaethol

Mae CThEM yn atgoffa elusennau sy’n ymgysylltu â nifer o wahanol fathau o weithwyr i wybod pryd mae hawl gan weithiwr i Gyflog Isafswm Cenedlaethol. Bydd hyn yn dibynnu a ystyrir unigolyn fel gweithiwr, gwirfoddolwr neu weithiwr gwirfoddol.

Dylid rhoi sylw arbennig i unrhyw wirfoddolwyr a delir swm enwol llawer mwy na mân dreuliau dilys. Mae unrhyw daliad, naill ai arian parod, buddion mewn nwyddau neu addo taliad yn y dyfodol yn debygol o olygu ei fod yn weithiwr i ddibenion cyflog isafswm ac felly dylid rhoi tâl am yr holl oriau a weithir.

Mae gweminar ar gael i roi rhagor o wybodaeth i chi am y cyflog isafswm cenedlaethol a gweithwyr di-dâl neu’r rhai a delir ar sail ‘treuliau’n unig’

Diweddaiadu i’r Siartr Gwybodaeth Bersonol

Mae Ein Siartr Gwybodaeth Bersonol yn dweud wrthych pan fyddwn yn prosesu’ch data personol, pam, a beth sy’n digwydd â hi. Rydym wedi’i ddiweddaru’n ddiweddar â rhagor o fanylion am yr hyn sy’n digwydd i’ch data personol pan fyddwch yn ffonio ein canolfan gyswllt.

I edrych ar y siartr wedi’i diweddaru, ewch i’n gwefan ar siartr Gwybodaeth bersonol - Y Comisiwn Elusennau - GOV.UK