Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Cyhoeddiad 66

Cyhoeddwyd 12 October 2021

Applies to England and Wales

Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Comisiwn ei Gyfarfod Cyhoeddus Blynyddol, lle gwahoddwyd elusennau, y cyhoedd a phartïon eraill oedd â diddordeb i glywed wrth ein cadeirydd a’n prif weithredwr am ein hymateb i’r pandemig a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cymerodd yr uwch dîm hefyd ystod o gwestiynau mewn Q+A byw.

Oherwydd y pandemig roedd cyfarfod eleni yn ddigwyddiad rhithiol a oedd yn agored i bob aelod o’r cyhoedd a chynrychiolwyr elusennau. Os na wrandawoch ar y recordiad mae nawr ar gael ar YouTube

Cymerwch rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Dwyll Elusennau, 18-22 Hydref

Nawr yn ei chweched flwyddyn, bydd Wythnos Ymwybyddiaeth o Dwyll 2021 yn annog elusennau i gadw eu sefydliadau yn ddiogel rhag niwed ariannol yn yr oes ôl-Covid.

Yn ystod yr wythnos byddwch yn gallu cyrchu awgrymiadau da a chyngor manwl ar bynciau amserol megis sut i ymladd twyll grant neu twyll codi arian a rheoli seiber-ymosodiadau.

Eleni, rydych yn cael eich annog i ymuno âg Addewid Atal Twyll a gwneud ymrwymiad cyhoeddus i fynd i’r afael â thwyll yn eich elusen. Mae llu o elusennau eisoes wedi cymryd yr addewid - ystyriwch ymuno â nhw heddiw.

Wythnos yr Ymddiriedolwyr - 1-5 Tachwedd

Mae wythnos yr Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos y gwaith gwych y mae ymddiriedolwyr yn gwneud. Rydym am ddiolch i chi i gyd am chwarae rhan mor hanfodol, gwirfoddoli eich amser a’ch egni i lywio gwaith eich elusen.

Nawr yn ei 11eg flwyddyn, mae hwn yn gyfle i ddefnyddio’r ystod eang o ganllawiau, adnoddau a hyfforddiant ar-lein i ddatblygu eich sgiliau, gwneud cysylltiadau newydd âg ymddiriedolwyr eraill a rhannu eich cyflawniadau.

Mae yna lawer o ddigwyddiadau wedi’u rhestru eisoes y gallwch chi eu bwcio heddiw. Mae’r mwyafrif ohonynt yn rhad ac am ddim, gyda mwy yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

Nodyn Atgoffa Blynyddol

Atgoffir yr elusennau hynny sydd â dyddiad diwedd blwyddyn o Ragfyr y 31ain i ffeilio eu ffurflenni a’u cyfrifon blynyddol (lle bod hynny’n berthnasol) y mis hwn. Cyn i chi ddechrau, gwiriwch y gallwch fewngofnodi, neu gofynnwch am gyfrinair newydd os bydd ei angen arnoch. Gall eich ffurflen flynyddol gynnwys cwestiynau am eich elusen a’r hyn y mae’n ei wneud, yn dibynnu ar eich incwm a’ch strwythur.

Darganfyddwch sut i baratoi ffurflen flynyddol a’r hyn sydd angen i chi gynnwys.

Ymladd seiberdroseddau: Offer seiberddiogelwch am ddim i elusennau

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yw llais awdurdodol y DU ar seiberddiogelwch ac mae ar genhadaeth bwysig i’n helpu i wella diogelwch y sector elusennol.

Er mwyn helpu i leihau’r risg o seiber-ymosodiadau, maen nhw’n cynnig trwyddedau di-derfyn i elusennau cofrestredig i’w offer Rhybudd Cynnar, a 1000 o drwyddedau i offer Gwirio Gwe a Gwirio E-byst, am ddim.

  • Mae rhybudd cynnar yn anfon rhybudd atoch os yw’n sylwi ar unrhyw wendidau, neu’n sylwi bod eich rhwydwaith neu’ch cyfrifiadur wedi cael ei hacio
  • Mae gwiriad E-byst yn ei wneud hi’n anoddach i droseddwyr ffugio eich e-byst
  • Mae Gwirio Gwe yn nodi gwendidau gwefan ac yn cynghori’r hyn y gallwch ei wneud i’w datrys

Nodwedd newydd

Nawr gallwch fewngofnodi i’n gwasanaethau ar-lein ac argraffu tystysgrif gofrestru eich elusen.

Darllenwch y newyddion a’r arweiniad comisiwn elusennol diweddaraf.

Cadw mewn cysylltiad â ni

Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 066 9197. Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh.

Cofrestru ar gyfer hysbysiadau e-bost GOV.UK yw’r ffordd fwyaf syml o dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad pwrpasol.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i’n dilyn trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Twitter a LinkedIn.