Guidance

Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus: cyflwyniad a throsolwg

Published 1 March 2012

Cyflwyniad

Am beth mae’r canllaw hwn?

Mae’r cyflwyniad hwn i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer elusennau llai yn bennaf a’r elusennau hynny sy’n ystyried darparu gwasanaethau cyhoeddus am y tro cyntaf. Mae’r Comisiwn Elusennau yn gobeithio y bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r elusennau hynny sydd eisoes yn darparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhoi trosolwg o’r materion cyfreithiol ac ymarfer da y mae’n rhaid i elusennau eu hystyried. Rhai o’r cwestiynau allweddol y mae’r canllaw yn eu hystyried yw:

  • Beth yw gwasanaethau cyhoeddus?
  • All elusennau ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?
  • All elusennau ddefnyddio eu cyllid eu hunain i dalu am wasanaethau neu gyfrannu at wasanaethau y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu darparu neu’n eu hariannu fel arfer?
  • Beth yw’r gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i elusennau gydymffurfio â nhw?
  • Pa arfer da cymeradwy y dylai elusennau ei ystyried?
  • Pa risgiau ddylai elusennau fod yn ymwybodol ohonynt?
  • Pa ffynonellau o gymorth a chyngor sydd ar gael?

Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y materion rheolaethol y mae’n rhaid i elusennau eu hystyried. Mae’r comisiwn hefyd yn cyfeirio at ganllawiau gan sefydliadau eraill sy’n rhoi rhagor o gyngor yn y maes hwn.

‘Rhaid’ a ‘dylai’: beth mae’r comisiwn yn ei olygu

Defnyddir y gair ‘rhaid’ os oes gofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol penodol y mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag ef. Defnyddir ‘dylai’ i roi arweiniad ar yr arferion da lleiaf y dylech eu dilyn oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Mae’r comisiwn hefyd yn cynnig cyngor llai ffurfiol ac argymhellion a allai fod yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr wrth iddynt reoli eu helusen.

Canllawiau blaenorol

Mae’r canllaw hwn yn disodli Elusennau a Chontractau (CC37). Mae wedi cael ei ailysgrifennu’n llwyr mewn fformat newydd. Mae pwyslais y canllaw wedi symud y tu hwnt i gontractau’n unig i ariannu a darparu gwasanaeth, gan adlewyrchu’r newidiadau yn y sector elusennol a’i berthynas â’r sector cyhoeddus.

Sut i ddefnyddio’r canllaw hwn

Mae strwythur y canllaw hwn yn dilyn y prif benawdau a ddefnyddir yn yr adran nesaf, ‘Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus - cipolwg cyflym’. O dan bob pennawd mae’r comisiwn yn gofyn nifer o gwestiynau y gallai ymddiriedolwyr neu reolwyr elusennau eu gofyn ynghylch darparu gwasanaeth cyhoeddus. Yn gyffredinol, mae ateb cryno (‘yr ateb byr’) ac yna mwy o gefndir (‘yn fwy manwl’).

Rhai termau technegol a ddefnyddir

Er bod y comisiwn wedi ceisio ysgrifennu’r canllaw hwn mewn iaith bob dydd, roedd rhaid iddo ddefnyddio termau technegol mewn mannau. Mae’r rhestr hon yn esbonio rhai ohonynt:

Buddiolwr: term cyfreithiol am rywun sy’n gymwys i elwa o waith yr elusen. Diffinnir grwˆp buddiolwyr elusen yn ‘nogfen lywodraethol’ yr elusen. Weithiau gall buddiolwyr gael eu galw’n gleientiaid neu’n ddefnyddwyr gwasanaeth.

Y Compact, sefydlwyd yn 1998: fframwaith ar gyfer partneriaeth a luniwyd gan y llywodraeth a’r sector gwirfoddol a chymunedol (nid yw’n gytundeb sy’n ymrwymo’n gyfreithiol). Hefyd mae compactau lleol rhwng y sector, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus lleol eraill. Mae gan y Compact godau o arfer da ar gyfer Grwpiau Ethnig Lleiafrifol a Du, Grwpiau Cymunedol, Ymgynghori a Gwerthuso Polisi, Cyllido a Chaffael a Gwirfoddoli. I gael rhagor o wybodaeth gweler www.compactvoice.org.uk.

Cynllun y Sector Gwirfoddol: Mae Cynllun y Sector Gwirfoddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflawni’r un swyddogaeth yng Nghymru ag y mae’r Compact yn ei gwneud yn Lloegr. Mae’r cynllun yn amlinellu egwyddorion eang a gwerthoedd cyffredin sy’n rheoli’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Cynllun y Sector Gwirfoddol ar wefan Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk.

Dogfen lywodraethol: dogfen gyfreithiol sy’n amlinellu dibenion yr elusen ac, fel arfer, sut y caiff ei gweinyddu. Gall fod yn weithred ymddiriedolaeth, cyfansoddiad, memorandwm ac erthyglau cymdeithasu, ewyllys, trawsgludiad, Siarter Frenhinol, cynllun y comisiwn, neu ddogfen ffurfiol arall.

Cenhadaeth neu ddatganiad cenhadaeth: term a ddefnyddir gan nifer o elusennau i ddisgrifio pam eu bod yn bodoli a pha effaith y maent yn dymuno ei chael. Gall datganiad cenhadaeth:

  • roi eglurhad o ‘amcanion’ neu ‘ddiben’ yr elusen mewn iaith bob dydd
  • helpu i gyfathrebu ethos a gwerthoedd yr elusen
  • darparu ffocws ar gyfer cynllunio strategol drwy ddiffinio’r canlyniadau neu’r nodau arbennig yr hoffai’r elusen eu cyflawni

Rhaid i genhadaeth (neu ddatganiad cenhadaeth) elusen fod yn gyson â’i hamcanion a heb fod yn ehangach na’i hamcanion.

Amcanion neu ddibenion: y diben(ion) cyfreithiol y mae elusen yn bodoli i’w cyflawni, neu’r peth(au) y cafodd ei sefydlu i’w cyflawni, fel sy’n cael eu datgan yn ei dogfen lywodraethu. Gall yr amcanion gael eu geirio’n gyffredinol a’u mynegi mewn iaith gyfreithiol. Maent yn cyfeirio (ac o ganlyniad yn cyfyngu ar) sut y mae’n rhaid defnyddio asedau’r elusen.

Awdurdod cyhoeddus: unrhyw sefydliad sy’n rhan o lywodraeth genedlaethol neu leol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, adrannau’r llywodraeth, cynghorau sir a dosbarth a chyrff y GIG. Yn aml cyfeirir at sefydliadau o’r fath fel ‘comisiynwyr’, h.y. cyrff sy’n comisiynu gwasanaethau.

Comisiynu a chaffael: prosesau lle mae awdurdodau cyhoeddus fel rheol yn cael gwasanaethau, gan ddechrau drwy nodi’r angen am wasanaeth, sefydlu manyleb y gwasanaeth hyd at gaffael neu brynu’r gwasanaeth. Ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen: dyma’r bobl sy’n gwasanaethu ar gorff llywodraethu’r elusen. Gellir eu galw’n ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr, aelodau pwyllgor neu ryw deitl arall. Maen nhw’n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. (Ni sonnir am fathau eraill o ymddiriedolwr yn y canllaw hwn.)

TUPE: mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 yn diogelu hawliau gweithwyr sy’n cael eu trosglwyddo o un cyflogwr i un arall ac mae’n ofynnol i’r cyflogwr newydd gynnal rhai amodau a thelerau megis tâl, gwyliau a hawliau pensiwn.

Y Sector Gwirfoddol a Chymunedol: mae elusennau’n rhan arwyddocaol o’r sector ehangach mewn cymdeithas a elwir y Sector Gwirfoddol neu’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol. Nid yw pob sefydliad gwirfoddol a chymunedol yn elusen. Mae’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol yn cynnwys yr holl sefydliadau nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth (y sector cyhoeddus neu wladol) na’r sector preifat (er elw). Mae llawer o ddogfennau ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yn cyfeirio at y Sector Gwirfoddol a Chymunedol ac nid at elusennau’n unig.

Weithiau gelwir y sector hwn y ‘Trydydd Sector neu Gymdeithas Sifil’. Mae’r diffiniad o’r Trydydd Sector a ddefnyddir yn gyffredinol hefyd yn cynnwys mentrau cymdeithasol (rhai ohonynt yn elusennau), mentrau cydweithredol a chymdeithasau cydfuddiannol.

Elusennau a darparu gwasanaeth cyoeddus

Elusennau a gwasanaethau cyhoeddus - cipolwg cyflym

Wrth sôn am ‘wasanaethau cyhoeddus’ mae’r comisiwn yn golygu gwasanaethau y mae awdurdodau cyhoeddus neu’r comisiwn yn eu darparu fel rheol. Nid yw pob gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei ddarparu o dan ddyletswydd gyfreithiol; darperir rhai o dan bwerau dewisol (mewn geiriau eraill, nid oes raid eu darparu). Hyd yn oed pan fydd dyletswydd gyfreithiol, nid yw’r gyfraith bob amser yn pennu yn union pa lefel o wasanaeth y mae’n rhaid ei darparu.

Elusennau sy’n penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o ateb anghenion eu buddiolwyr. Yn achos yr elusennau hynny sy’n dewis darparu gwasanaeth cyhoeddus, mae’r comisiwn yn eu cynghori fel a ganlyn:

  • glynwch wrth eich cenhadaeth
  • gwarchodwch eich annibyniaeth
  • sylweddolwch eich gwerth

Fframwaith y gyfraith elusennau (gofyniad cyfreithiol)

Nid oes gwaharddiad cyfreithiol cyffredinol ar elusennau rhag darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus nac yn erbyn defnyddio’u harian eu hunain i wneud hynny. Nid yw hynny’n newid cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr i gydymffurfio â’r gyfraith elusennau a gofynion dogfen lywodraethol yr elusen.

Mae’r rheolau cyfreithiol canlynol yn berthnasol i bob elusen ond yn arbennig o berthnasol i elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus:

  • rhaid i elusennau ymgymryd â gweithgareddau sydd o fewn eu hamcanion a’u pwerau yn unig
  • rhaid i elusennau fod yn annibynnol ar y llywodraeth a chyllidwyr eraill
  • rhaid i ymddiriedolwyr weithredu er budd yr elusen a’i buddiolwyr yn unig
  • rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau yn unol â’u dyletswydd gofal a’u dyletswydd i weithredu’n ddoeth

Deall y risgiau (gofyniad cyfreithiol)

Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn golygu bod cyfleoedd yn ogystal â risgiau i elusennau. Mae’r meysydd risg allweddol yn cynnwys risgiau ariannol, y risg o gyfaddawdu annibyniaeth yr elusen, y perygl o grwydro o’r genhadaeth, risgiau i ddarparu gwasanaeth a chytundebau, a risgiau i enw da.

Dylai unrhyw elusen sy’n ystyried darparu gwasanaeth cyhoeddus bwyso a mesur y risgiau a’r cyfleoedd. Mae’n bwysig cydnabod a rheoli risgiau a sicrhau eu bod yn cael eu rhannu’n briodol rhwng yr elusen a’r awdurdod cyhoeddus.

Rhaid i ymddiriedolwyr beidio â chytuno i unrhyw gontract neu gytundeb cyllido oni bai eu bod yn fodlon bod y telerau er budd yr elusen. Dylent felly ystyried yr angen am gyngor proffesiynol (cyfreithiol a chyfrifyddol) ar delerau dogfennau o’r fath.

Glynwch wrth eich cenhadaeth (gofyniad cyfreithiol)

Rhaid i genhadaeth elusen a’i holl weithgareddau fod o fewn ei hamcanion a’i phwerau. Yn yr un modd dylai fod yn glir sut mae unrhyw weithgaredd yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion a’r genhadaeth.

Ymddiriedolwyr sydd â’r prif gyfrifoldeb am lywio materion eu helusen, a rhaid iddynt dderbyn y cyfrifoldeb hwnnw. Dylent sicrhau eu bod yn cyfranogi’n briodol i’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau y mae’r elusen yn ymgymryd â nhw. Os yw’r broses o wneud penderfyniadau wedi’i dirprwyo, dylai’r ymddiriedolwyr osod ffiniau clir ynghylch sut, a chan bwy, y gall penderfyniadau o’r fath gael eu gwneud, a sut y bydd yr ymddiriedolwyr yn cael gwybod am weithgareddau’r elusen.

Dylai pob ymddiriedolwr ateb y cwestiynau canlynol wrth ystyried a ddylai’u helusen ymgymryd ag unrhyw weithgaredd neu wasanaeth, ond maent yn arbennig o berthnasol i elusennau sy’n ystyried darparu gwasanaethau cyhoeddus:

  • Ydy’r gweithgaredd yn cyfateb ag amcanion a phwerau’r elusen?
  • Sut mae’n cyd-fynd â chenhadaeth yr elusen ac unrhyw nodau ac amcanion penodol o fewn ei chynllun gwaith presennol?
  • Sut bydd yn ateb anghenion buddiolwyr yr elusen?
  • Sut caiff ei gyllido? (Trafodir hyn yn fwy manwl yng ngweddill y canllaw hwn.)
  • Ydy’r elusen wedi asesu’r risgiau’n llawn ac wedi cymryd camau i’w lleddfu?

Fel arfer da, dylai’r ymddiriedolwyr adolygu amcanion a chenhadaeth yr elusen o dro i dro er mwyn sicrhau eu bod dal i fod yn briodol.

Gwarchodwch eich annibyniaeth (gofyniad cyfreithiol)

Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau, mae’n rhaid i ymddiriedolwr weithredu er budd yr elusen yn unig. Nid yw ymddiriedolwr yn ddirprwy nac yn gynrychiolydd unrhyw gorff penodi neu gyllido. Mae’n hanfodol bod yr holl ymddiriedolwyr yn deall eu dyletswyddau cyfreithiol a bod gwrthdaro buddiannau’n cael ei reoli.

Ni ddylai elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus deimlo eu bod wedi’u rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol neu ymgyrchu; mae’r un rheolau’n berthnasol i bob elusen, beth bynnag fo’i gweithgareddau eraill. Am ragor o wybodaeth darllenwch Dweud eich dweud: canllaw ar ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9).

Sylweddolwch eich gwerth

Mae ‘sylweddolwch eich gwerth’ yn golygu:

  • deall beth yw costau llawn gwasanaethau’r elusen
  • cydnabod gallu’r elusen i gyflenwi ac unrhyw gyfyngiadau
  • nodi unrhyw rinweddau unigryw neu nodedig gwasanaethau’r elusen
  • defnyddio’r rhain a ffactorau perthnasol eraill i osod pris ar gyfer y gwasanaethau hynny

Dylai elusen adfer costau llawn ym mhob achos pan fydd awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth gan elusen, oni bai ei bod er budd yr elusen i ildio adfer y gost lawn. Mae gan elusennau hawl i gael arian yn weddill ar gytundebau cyllido.

Os yw elusen naill ai’n ystyried dechrau, neu adnewyddu, gytundeb cyllido ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus lle na fydd y cyllid sydd ar gael yn talu am gostau llawn y gwasanaeth, gallai:

  • gynnal trafodaethau i gael rhagor o gyllid
  • cynnig lefel is o wasanaeth yn gymesur â’r cyllid sy’n cael ei gynnig
  • penderfynu defnyddio cyllid arall i wneud iawn am y diffyg
  • gwrthod y cytundeb cyllido a pheidio â darparu’r gwasanaeth

Rhaid i benderfyniad yr elusen fod yn seiliedig ar fuddion yr elusen ac anghenion ei buddiolwyr. Mae cwestiynau penodol y dylai’r ymddiriedolwyr eu hystyried cyn penderfynu defnyddio arian elusennol i dalu’r diffyg, a cheir manylion yn y canllaw hwn.

Efallai y gallai’r elusen gymryd camau i orfodi awdurdod cyhoeddus i gydymffurfio â’r Compact neu’r ddyletswydd statudol. Ceir manylion yn adran 8 y canllaw hwn.

Canllawiau i elusennau sy’n rhoi grantiau

Dim ond pan fydd cyfiawnhad clir dros wneud hynny y dylid gofyn i elusennau sy’n rhoi grant sybsideiddio gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth gyhoeddus arall a dim ond pan fydd cyfiawnhad o’r fath y dylai’r elusen gytuno.

Wrth ystyried ceisiadau am gyllid ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus, mae’r comisiwn yn argymell fod elusennau sy’n rhoi grantiau yn:

  • ystyried yr amrywiaeth lawn o ddewisiadau cyllido
  • sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar y gyfraith a buddion buddiolwyr yr elusen
  • defnyddio’u profiad o’r hyn y mae awdurdodau cyhoeddus wedi’i gyllido yn y gorffennol
  • gofyn cwestiynau a herio rhagdybiaethau ynghylch beth mae awdurdodau cyhoeddus yn barod i’w gyllido neu y mae dyletswydd ganddynt i’w gyllido
  • defnyddio ystyriaethau o’r fath i lywio polisïau rhoi grantiau

Materion eraill i’w hystyried

Gall elusennau gymryd camau i reoli rhai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys mabwysiadu ffurf cwmni cyfyngedig (‘ymgorffori’), defnyddio yswiriant neu ddarparu gwasanaeth trwy gwmni masnachu.

Os yw partneriaeth yn addas gallai hynny alluogi elusennau i gystadlu am gytundebau mwy neu elwa ar enillion effeithlonrwydd wrth leihau dyblygu gwaith gweinyddol. Gallai hyn fod o fudd arbennig i elusennau llai. Rhaid i elusennau ystyried y manteision a’r peryglon cyn llunio partneriaeth neu drefniadau cydweithio. Mae’r rhain yn cael eu hegluro’n fanylach yn y canllaw Cydweithio a chyfuniadau: cyflwyniad (CC34).

Yn gyffredinol, nid yw elusennau yn cael unrhyw driniaeth arbennig ar gyfer TAW ar eu gweithgareddau busnes. Mae’n rhaid cofrestru ar gyfer TAW os yw’r trosiant trethadwy’n fwy na’r terfyn statudol. Gall elusen drafod unrhyw agwedd ar TAW sy’n effeithio arni â Chanolfan Cyngor Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM.

Elusennau a gwasanaethau cyoeddus

Beth yw gwasanaethau cyhoeddus?

Yr ateb byr

Wrth sôn am ‘wasanaethau cyhoeddus’ mae’r comisiwn yn golygu gwasanaethau y mae awdurdodau cyhoeddus neu’r comisiwn yn eu darparu fel rheol. (Mae rhai enghreifftiau yn dilyn.)

Yn fwy manwl

Mae ‘gwasanaethau cyhoeddus’ yn cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau a ddarperir neu a gomisiynir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • cyngor ac eiriolaeth
  • gofalu am yr henoed a darparu llety gwarchod
  • addysg
  • gofal a thriniaeth feddygol
  • amgueddfeydd, orielau celf a llyfrgelloedd
  • gwasanaethau adloniant a hamdden
  • ailgylchu, casglu a gwaredu sbwriel
  • tai cymdeithasol
  • adfywio trefol neu wledig

Ers canrifoedd, mae elusennau wedi ymgymryd â gweithgareddau y mae pobl erbyn hyn yn tueddu i feddwl amdanynt fel ‘gwasanaethau cyhoeddus’, ac yn aml roedd elusennau’n gweithredu cyn darpariaeth statudol. Er enghraifft, nid oedd addysg wladol yn bodoli tan ganol y 19eg ganrif, a sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948. Cyn hynny, elusennau oedd yn darparu ysgolion ac ysbytai. Mae canfyddiad y cyhoedd am yr hyn y dylai’r llywodraeth ei ddarparu yn newid gydag amser, fel y mae lefelau cymharol y ddarpariaeth gan y sector elusennol a chyhoeddus. Mae awdurdodau cyhoeddus wedi derbyn y cyfrifoldeb am rai gwasanaethau wrth i ddisgwyliadau’r cyhoedd, polisi’r llywodraeth a dyletswyddau statudol newid. Yn fwy diweddar, tra’n cadw’r cyfrifoldeb am ddarparu (neu gyllido) gwasanaethau, mae awdurdodau cyhoeddus wedi contractio’r gwaith o ddarparu rhai gwasanaethau i sefydliadau’r sector preifat neu wirfoddol.

Nid oes gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswyddau cyfreithiol bob amser i ddarparu pob un o’u gwasanaethau; darperir rhai gwasanaethau o dan bwerau dewisol (mewn geiriau eraill, nid oes raid iddynt eu darparu). Hyd yn oed os oes dyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaeth, nid yw’r gyfraith bob amser yn nodi pa lefel gwasanaeth mae’n rhaid ei ddarparu.

Ni all y comisiwn roi cyngor awdurdodol ar ddyletswydd awdurdodau cyhoeddus i ddarparu neu gyllido gwasanaethau penodol, ond mae adran 8 o’r canllaw hwn yn nodi rhai o’r camau y gallai elusen eu cymryd i gael eglurhad o ddyletswydd awdurdod cyhoeddus.

Oes ymagwedd wahanol gan Gymru a Lloegr?

Mae llywodraeth Cymru a Lloegr yn gyfrifol am ddatblygu eu mentrau eu hunain ar gyfer cynnwys elusennau a sefydliadau VCS eraill mewn darparu gwasanaeth cyhoeddus.

Gall fod pwyslais gwahanol rhwng Cymru a Lloegr, ond mae elusennau yn y ddwy wlad yn wynebu problemau tebyg fel y nodir yn y canllaw hwn.

All elusennau gyfrannu at wella gwasanaethau heb eu darparu?

Gall elusennau chwarae rôl allweddol wrth wella’r gwasanaethau y mae eu buddiolwyr yn eu derbyn (os ydynt yn darparu’r gwasanaethau neu beidio) wrth ddefnyddio eu profiad o anghenion a barn buddiolwyr, gan gynnwys yr hyn sy’n eu rhwystro rhag cael gwasanaethau, a hysbysu a dylanwadau ar gynllun a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

Pan fydd elusennau’n rhoi cyngor ynghylch cynllun a darpariaeth gwasanaethau, dylent ystyried a ydynt, mewn gwirionedd, yn darparu ‘ymgynghoriaeth’ rhad ac am ddim neu’n rhoi eiddo deallusol am ddim. Gallai’r wybodaeth hon fod yn werthfawr a dylai elusennau ystyried a ydynt yn cael eu gwobrwyo neu eu cyllido’n deg amdano.

Fframwaith y gyfraith elusennau

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus? (gofyniad cyfreithiol)

Yr ateb byr

Ychydig iawn. Nid oes gwaharddiad cyfreithiol cyffredinol ar elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus o dan gytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus neu sy’n defnyddio eu cyllid eu hunain i wneud hynny, hyd yn oed os oes dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod i ddarparu’r gwasanaeth. Nid yw hyn yn newid cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr i gydymffurfio â gofynion a chyfyngiadau cyfraith elusennau fel sy’n cael ei grynhoi yn yr adran hon, na gofynion dogfen lywodraethol yr elusen a gofynion cyfreithiol eraill a all fod yn gymwys i’r elusen.

Yn fwy manwl

Mae’r egwyddorion cyfreithiol allweddol fel a ganlyn:

  • mae’r dibenion elusennol yn eang, ac mae’n bosibl y byddant yn gorgyffwrdd â dyletswyddau awdurdod cyhoeddus
  • nid oes gwaharddiad cyfreithiol ar ddefnyddio cyllid elusennol i ddarparu gwasanaethau neu gyfleusterau cyhoeddus, ond mae cyfraith achosion yn sefydlu’r egwyddor y dylid defnyddio cyllid elusennol yn rhesymol ac yn ddoeth
  • nid yw nifer o ddyletswyddau cyfreithiol awdurdodau cyhoeddus wedi’u diffinio’n fanwl gan y gyfraith

Nid yw hyn yn newid cyfrifoldeb ymddiriedolwyr i gydymffurfio â chyfraith elusennau a dogfen lywodraethol yr elusen.

Elusennau newydd: gellir sefydlu elusen i ddarparu gwasanaeth neu wasanaethau cyhoeddus penodol, naill ai’n gyfan gwbl neu fel rhan o ystod ehangach o weithgareddau. Mae’n rhaid sefydlu’r corff at ddibenion elusennol yn unig neu er budd y cyhoedd (y prawf cyfreithiol ar gyfer statws elusennol), ac nid yn unig fel modd o ymgymryd â dyletswyddau neu bolisi’r awdurdod cyhoeddus.

Elusennau sy’n bodoli: mae gostyngiad treth yn ddiben elusennol ar yr amod ei fod er budd y cyhoedd. Ychydig iawn o elusennau sydd â’r amcan elusennol penodol hwn, ond gallant hwy ac elusennau sydd â dibenion elusennol cyffredinol sybsideiddio cyllid cyhoeddus yn uniongyrchol, ar yr amod eu bod yn gallu dangos bod hyn er budd y cyhoedd.

Heb naill ai’r amcan penodol hwn neu ddibenion elusennol cyffredinol, ni all elusen ddefnyddio ei chyllid yn uniongyrchol ar gyfer gostwng treth. Ond ni fyddai angen yr amcanion penodol hyn ar elusen os yw’r ymddiriedolwyr yn fodlon mai dim ond canlyniad damweiniol i gyflawni diben elusennol penodol yr elusen yw hwn.

Gofynion cyfreithiol eraill: wrth gwrs, rhaid i elusennau gydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau eraill sy’n gymwys iddynt. Mae rhai cyfreithiau yn gymwys i bob elusen; bydd eraill yn gymwys i elusennau arbennig oherwydd y math o waith a wnânt neu’r buddiolwyr y maent yn gweithio â nhw. Mae’n rhaid i elusennau geisio cyngor ar hyn fel y bo’n briodol yn ôl eu hamgylchiadau. Efallai y bydd angen i elusennau ystyried, er enghraifft:

  • Y gyfraith Cyflogaeth
  • Y gyfraith Iechyd a Diogelwch
  • Y gyfraith Cydraddoldeb (i gael rhagor o wybodaeth gweler y canllaw ar Elusennau a’r Ddeddf Cydraddoldeb)
  • Diogelu buddiolwyr agored i niwed (am ragor o wybodaeth gweler y canllaw Diogelu plant)

Pa ofynion y gyfraith elusennau y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â nhw wrth ddarparu gwasanaeth cyhoeddus? (gofyniad cyfreithiol)

Yr ateb byr

Mae’r rheolau cyfreithiol canlynol yn berthnasol i bob elusen ond yn arbennig o berthnasol i elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus:

  • rhaid i elusennau ymgymryd â gweithgareddau sydd o fewn eu hamcanion a’u pwerau yn unig
  • rhaid i elusennau fod yn annibynnol ar y llywodraeth a chyllidwyr eraill
  • rhaid i’r ymddiriedolwyr weithredu er budd yr elusen a’i buddiolwyr yn unig
  • rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau yn unol â’u dyletswydd gofal a’u dyletswydd i weithredu’n ddoeth

Yn fwy manwl

Amcanion a phwerau’r elusen: rhaid i’r elusen weithredu o fewn yr amcanion yn eu dogfennau llywodraethol bob amser. Mae’n bosibl y bydd yr amcanion yn cyfeirio at leoliad neu grŵp penodol o fuddiolwyr (er enghraifft wedi’u seilio ar ryw, oedran, anabledd neu angen). Gellir nodi’r mathau penodol o wasanaethau neu weithgareddau y gall elusen ymgymryd â nhw.

Rhaid i elusennau weithredu o fewn eu pwerau cyfreithiol hefyd. Fel arfer, bydd pwerau’r elusen i’w gweld yn ei dogfen lywodraethol, ond gall pwerau gael eu cynnwys mewn deddfwriaeth neu gyfraith achosion hefyd.

Dylai ymddiriedolwyr ddeall, a gallu esbonio, pam y mae’r elusen yn ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a sut y mae hynny’n hyrwyddo amcanion yr elusen.

Annibyniaeth gyfreithiol: er mwyn bod yn elusen, rhaid i gorff fodoli at ddibenion elusennol yn unig, ac nid er mwyn cyflawni polisïau neu gyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus. Fel tystiolaeth o hyn, byddai’r comisiwn yn edrych am nifer o nodweddion, a esbonnir yn Annibyniaeth elusennau ar y wladwriaeth (RR7).

Ni fyddai hyn yn atal awdurdod cyhoeddus rhag enwebu neu benodi ymddiriedolwyr, neu hyd yn oed bod yn ymddiriedolwr yn ei rhinwedd gorfforaethol. Serch hynny, os yw hyn yn digwydd, mae’n rhaid rheoli gwrthdaro buddiannau yn briodol (gweler adran 7, Gwarchodwch eich annibyniaeth).

Buddiannau’r elusen: mae prif ddyletswydd gan ymddiriedolwyr i weithredu er lles yr elusen a’i buddiolwyr. Mae hyn yn golygu:

  • rhaid iddynt beidio byth â gadael i’w buddion personol, neu fuddion sefydliad neu gorff arall, liwio eu barn
  • rhaid iddynt beidio byth â rhoi cyfyngiadau arnynt eu hunain, neu ganiatáu i eraill osod cyfyngiadau arnynt, a fyddai’n cyfyngu ar eu gallu i wneud penderfyniadau er budd yr elusen
  • Yn ymarferol, ychydig iawn o elusennau sy’n gallu cynorthwyo pob buddiolwr posibl, a rhaid i ymddiriedolwyr wneud dewisiadau anodd ynghylch blaenoriaethau. Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried anghenion buddiolwyr presennol ac yn y dyfodol a chaniatáu i hyn llywio penderfyniadau ynghylch nawdd a chynaliadwyedd. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd ymddiriedolwyr yn teimlo y gellir cael manteision byrdymor, megis y gallu i gyrraedd buddiolwyr newydd, drwy ddarparu gwasanaeth nad yw’n talu am ei gostau ei hunan. Serch hynny, yn y tymor hwy, mae’n bosibl y bydd yr effaith ar lefel cronfeydd wrth gefn yr elusen, ei sefydlogrwydd ariannol cyffredinol a’i gallu i ymgymryd â gwaith arall yn drech na’r manteision

Dyletswydd pwyll: er mwyn cydymffurfio â’u dyletswydd pwyll, rhaid i ymddiriedolwyr:

  • sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled ac yn parhau’n ddiddyled
  • defnyddio arian ac asedau elusennol yn rhesymol, a dim ond er mwyn hybu amcanion yr elusen
  • osgoi ymgymryd â gweithgareddau a allai roi gwaddol, cronfeydd, asedau neu enw da’r elusen mewn perygl gormodol, a chymryd gofal arbennig wrth fuddsoddi arian yr elusen neu fenthyca arian i’w ddefnyddio

Gall hyn olygu, er enghraifft, gymryd cyngor proffesiynol annibynnol ar faterion pan nad oes gan yr ymddiriedolwyr ddigon o arbenigedd (a allai gynnwys drafftio a thrafod cytundeb - gweler adran 5.4 y canllaw hwn).

Am wybodaeth bellach ynghylch y ddyletswydd hon, gweler [Yr ymddiriedolwr hanfodol: yr hyn y mae angen i chi wybod (CC3).

Dyletswydd gofal: rhaid i ymddiriedolwyr roi digon o amser, ystyriaeth ac egni i’w dyletswyddau a gwneud defnydd rhesymol o’u sgiliau a’u profiad. Y ‘dyletswydd gofal’ penodol yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000 yw arfer y gofal a’r sgil sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau gan roi ystyriaeth arbennig i:

  • unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig sydd gan yr ymddiriedolwr neu mae’r ymddiriedolwr yn honni sydd ganddo
  • os yw ymddiriedolwr yn gweithredu wrth ymgymryd â busnes neu broffesiwn, unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig y mae’n rhesymol ei ddisgwyl gan rywun sy’n gweithredu wrth ymgymryd â’r math hwn o fusnes neu broffesiwn

A bod yn fanwl gywir, mae hyn yn gymwys i ymddiriedolwyr elusennau anghorfforedig yn unig sy’n defnyddio pwerau yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000, neu pan fyddant yn arfer pwerau tebyg sy’n deillio o ffynhonnell arall. Fodd bynnag, mae cyfraith achosion a Deddf Cwmnïau 2006 yn gosod dyletswyddau tebyg ar gyfarwyddwyr cwmnïau elusennol. Mae arfer da yn golygu y dylid ystyried fod dyletswydd gofal yn berthnasol i bob ymddiriedolwr ac i bob agwedd ar eu gwaith wrth wneud penderfyniadau am eu helusen.

Esbonnir dyletswydd gofal ymddiriedolwyr yn fanylach yn Yr ymddiriedolwr hanfodol (CC3) a chyfarwyddyd gweithredol y comisiwn ar y ddyletswydd gofal statudol (OG86 B6).

Deall y risgiau

Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn creu nifer o gyfleoedd i elusennau, ond gallai risgiau godi hefyd. Dylai ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ddylid ymgymryd â’r math hwn o weithgaredd ac ar ba delerau y dylid gwneud hynny.

Pa gyfleoedd allai darparu gwasanaeth cyhoeddus eu cynnig i elusennau?

Mae darparu gwasanaeth cyhoeddus yn un ffordd y gall elusennau hyrwyddo eu cenhadaeth, ehangu eu gweithgareddau a darparu gwasanaethau newydd i ateb anghenion eu buddiolwyr. Mewn egwyddor, dylai gael ei gyllido’n briodol ac felly bod yn ffynhonnell incwm bosibl.

Ar yr un pryd gall fod yn ffordd o wella’r gwasanaethau cyhoeddus y mae’r buddiolwyr yn eu derbyn, ac yn gyfle i ddylanwadu ar bolisi’r awdurdodau cyhoeddus tuag at fuddiolwyr.

Pa risgiau ddylai elusennau fod yn ymwybodol ohonynt?

Yr ateb byr

Mae risg yn rhan o fywyd bob dydd. Ni all elusennau osgoi risg yn gyfan gwbl, ac weithiau dim ond wrth gymryd risg y gellir arloesi a newid.

Mae profiad elusennau o ddarparu gwasanaeth cyhoeddus hyd yma wedi tynnu sylw at y meysydd risg posibl canlynol:

  • ariannol, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn a chynaliadwyedd
  • llywodraethu, gan gynnwys cyfansoddiadol ac annibyniaeth
  • gwasanaeth, gan gynnwys risgiau cytundebol, ac ansawdd gwasanaeth
  • enw da, gan gynnwys canfyddiad y cyhoedd a’r berthynas ag awdurdodau cyhoeddus

Nid risgiau sy’n benodol i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus yw llawer o’r rhain ac mae’n bosibl y bydd elusennau yn gyfarwydd â nhw drwy agweddau eraill o’u gwaith.

Mae’n bwysig bod elusennau yn ymwybodol o’r risgiau sy’n codi. Mae’r comisiwn yn cynghori elusennau i ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth ystyried a thrafod telerau unrhyw gytundeb ariannu.

Yn fwy manwl

Risgiau ariannol:

  • Tanariannu: er enghraifft, mae’n bosibl y bydd hyn yn digwydd os nad yw elusennau yn gwybod costau llawn gwasanaeth nac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y cytundebau ariannu. Gall defnyddio cronfeydd wrth gefn neu gyllid arall i wneud iawn am gost darparu gwasanaeth effeithio ar gynaliadwyedd hirdymor elusen
  • Cyfnod ariannu amhriodol: gall ariannu gwasanaeth yn y tymor byr lesteirio cynlluniau’r elusen yn yr hirdymor. Gall hefyd ddargyfeirio amser ac adnoddau staff i chwilio am ragor o arian. Noda Guidance to Funders Trysorlys EM y dylid pennu cyfnod yr ariannu gan yr hyn y bwriedir i’r arian ei gyflawni
  • Ariannu bloc neu ariannu gwaith penodol: mae rhai cytundebau ariannu wedi’u seilio ar daliad fesul cleient (ariannu gwaith penodol); ac mae eraill ar gyfer ‘bloc’ o wasanaethau (ariannu bloc). Mae’n bosibl y bydd gwahanol drefniadau yn gweddu i amgylchiadau gwahanol. Gall fod yn anodd gwneud trefniadau ariannu gwaith penodol os nad oes gan yr elusen reolaeth dros faint o gleientiaid sy’n cael eu hatgyfeirio at yr elusen, gan ei gwneud yn anodd cynllunio ar gyfer lefelau staffio ac adnoddau. Gallai hefyd olygu y bydd rhaid trafod mwy o gytundebau hefyd. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall fod yn fwy hyblyg os byddai angen teilwra’r gwasanaethau (a’u prisio) yn ôl anghenion penodol unigolion
  • Ariannu hwyr (ôl-daliadau): mae ôl-daliadau yn gorfodi’r elusen i dalu costau (gan gynnwys costau cyfalaf) o flaen llaw, a allai achosi problemau llif arian. Mae rheolau caffael y llywodraeth yn caniatáu talu o flaen llaw mewn rhai amgylchiadau
  • Gall cyllid sydd wedi’i gysylltu ag ansawdd gwasanaeth, neu ganlyniadau (e.e. taliad drwy ganlyniadau) o dan rai cytundebau cyllido, gael ei dynnu’n ôl os nad yw ansawdd y gwasanaeth yn bodloni safonau penodedig, neu nid yw canlyniadau penodedig (nad ydynt efallai o fewn rheolaeth lawn yr elusen) wedi’u cyflawni. Os nad yw’r fanyleb yn hollol glir, gallai arwain at anghydfod rhwng yr elusen a’r cyllidwr
  • Adfachu: mae rhai cytundebau ariannu yn gofyn am ad-dalu unrhyw arian dros ben. Serch hynny, mae Guidance to Funders Trysorlys EM yn ei gwneud yn glir na ddylid adfachu oni bai ei fod yn angenrheidiol i ddiogelu budd y cyllidwr mewn ased a ariannir yn gyhoeddus (e.e. adeilad), na ddylid ei ddefnyddio wrth gaffael nwyddau neu wasanaethau, ac y dylai’r amodau sydd ynghlwm â’r ariannu fod yn hyblyg ac yn bragmatig
  • Rhwymedigaethau statudol: os yw staff yn trosglwyddo o’r sector cyhoeddus i elusen, mae’n bosibl y bydd eu telerau a’u hamodau’n cael eu diogelu o dan reoliadau TUPE. Gallai’r elusen fod yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau cyflog, pensiwn neu golli swyddi ychwanegol. Mae’n bosibl y bydd staff presennol yn gwrthwynebu os yw’r staff sy’n cael eu trosglwyddo yn cael amodau a thelerau gwell

Risgiau llywodraethu:

  • Risgiau yn gysylltiedig ag amcanion a chenhadaeth: er mwyn sicrhau cyllid, mae risg y bydd elusennau sy’n ymgymryd â gweithgareddau neu’n cyflenwi gwasanaethau sydd y tu hwnt i’w hamcanion neu eu pwerau. (Gelwir hyn yn wyro o’r genhadaeth fel arfer ac fe’i trafodir yn fanylach yn adran 4.)
  • Colli annibyniaeth: gweler adran 7

Risgiau yn gysylltiedig â’r gwasanaeth:

  • Risgiau cytundebol/ymgyfreitha: fel yn achos unrhyw gytundeb, mae llunio cytundeb i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn golygu asesu’r risgiau, ynghyd â’r cyfleoedd. Mae’n bosibl y bydd cosbau ar gyfer methu â chyflenwi neu dorri’r cytundeb mewn ffyrdd eraill. Mae’n bosibl y bydd gofyn i’r elusen dderbyn risgiau cytundebol eraill megis prydlesu eiddo neu offer a chyflogi staff. Efallai y bydd hi’n anodd terfynu cytundeb os nad yw’r trefniadau yn troi allan fel y disgwylir. Gall telerau’r cytundeb fod yn gymhleth neu’n afresymol

Gall telerau rhai prosesau tendro glymu ymgeiswyr mewn cytundebau. Mewn achosion o’r fath gellir ystyried, drwy dendro, bod elusen wedi derbyn y telerau cytundebol oni bai ei bod wedi gwarchod ei safle yn benodol o flaen llaw. I’r gwrthwyneb, wrth geisio gwarchod ei safle mae’n bosibl bod risg y caiff tendr yr elusen ei wrthod.

Mae delio ag aelodau’r cyhoedd hefyd yn cynnwys risg o atebolrwydd, er enghraifft anaf personol.

  • Lefelau amhriodol o fonitro: er y disgwylir y bydd cyllidwr yn gofyn am lefel benodol o fonitro i sicrhau bod y canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu, mae’n bosibl y bydd lefelau amhriodol o fonitro yn creu baich gweinyddol na ellir ei gyfiawnhau a chostau ychwanegol diangen. Gallai monitro amhriodol hefyd danseilio cyfrinachedd proses yr ymddiriedolwyr o wneud penderfyniadau (er enghraifft, sylwedyddion yn mynychu pob cyfarfod yr ymddiriedolwyr)
  • Dyletswydd awdurdod cyhoeddus: mae gan awdurdodau cyhoeddus nifer o gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, rhyddid gwybodaeth a chydraddoldeb. Mae’n bosibl y bydd gofyn i elusennau sy’n darparu gwasanaethau o dan gytundeb ar ran awdurdod lleol, o dan delerau cytundebol, gydymffurfio â’r dyletswyddau hyn, gan greu gofynion gweinyddol a chostau ychwanegol. Dylai’r elusen ystyried ei rhwymedigaethau yn ofalus. Mae’r maes hwn o’r gyfraith yn cael ei adolygu ar hyn o bryd
  • Synnwyr o ddyletswydd: yn ddealladwy mae nifer o elusennau yn teimlo teyrngarwch neu gyfrifoldeb tuag at eu buddiolwyr. Er hynny, ni ddylent deimlo fod rhaid derbyn cytundebau ariannu ar delerau nad ydynt er budd defnyddwyr gwasanaeth neu fuddiolwyr eraill (presennol neu yn y dyfodol)
  • Risgiau i ddarpariaeth neu ansawdd gwasanaeth: gall y fframwaith a’r broses o drosglwyddo gwasanaethau i elusennau leihau eu gallu i gwrdd â disgwyliadau comisiynwyr gwasanaeth a buddiolwyr. Gall manylebau cytundebol gwael, trefniadau monitro amhriodol ac ariannu annigonol gael effaith niweidiol ar ansawdd y gwasanaeth a’i werth

Risgiau i enw da:

  • Gallai ffurfio perthnasoedd cytundebol ag awdurdod cyhoeddus, ac yn benodol defnyddio incwm a roddwyd i ariannu darparu gwasanaeth, leihau hyder y rhoddwyr mewn elusen unigol, oni bai bod yr elusen yn esbonio ei hymagwedd yn glir
  • Gallai amharodrwydd i ddangos annibyniaeth neu herio cyllidwyr effeithio ar enw da elusen hefyd
  • Gallai ansawdd gwasanaeth gwael niweidio enw da elusen. Mae’n bosibl y gallai rhwystredigaethau defnyddwyr gwasanaeth gael eu cyfeirio tuag at yr elusen sy’n darparu’r gwasanaeth yn hytrach na’r awdurdod comisiynu, yn enwedig os yw’r awdurdod yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am wasanaethau ar gytundeb; ond gallai enw da’r ddau ddioddef. Dylid amlinellu’n glir yn y cytundeb ariannu pwy sy’n gyfrifol am ddatrys cwynion ynghylch y gwasanaeth. Fel mater o arfer da, dylai elusennau gael polisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer ymdrin â chwynion
  • Gallai risg i enw da godi hefyd drwy beidio â chyflenwi gwasanaeth pe byddai hynny’n groes i ddisgwyliadau buddiolwyr a rhanddeiliaid eraill yr elusen

Dylai’r ymddiriedolwyr nodi ac asesu’r risgiau a phenderfynu ar y ffordd orau i’w lleihau, eu hosgoi a’u rheoli ar gyfer pob agwedd ar waith yr elusen. Dylai trafod cytundeb ariannu gydag awdurdod cyhoeddus olygu archwilio’r cydbwysedd a rhannu’r risgiau rhwng yr elusen a’r awdurdod. Nid yw o fudd i unrhyw un bod yr elusen yn cael baich annheg o ran risgiau pe byddai hynny’n tanseilio effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a’r gwerth am arian.

Ffordd arall o reoli neu leihau rhai risgiau ariannol, cytundebol neu o ran darparu yw cymryd rhan yn y broses gomisiynu (cynllun a manyleb y gwasanaeth) ar gam cynnar. Gall elusennau gael dylanwad cadarnhaol ar y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu llunio, gan ddefnyddio eu dealltwriaeth o anghenion buddiolwyr.

A ddylai elusennau ystyried ceisio cyngor cyn llofnodi cytundeb neu gontract ariannu?

Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)

Dylai. Yn benodol, dylai ymddiriedolwyr ystyried maint y cytundeb ac unrhyw risgiau posibl penodol wrth benderfynu pa gyngor y mae ei angen arnynt.

Yn fwy manwl

Mae cytundebau yn ddogfennau cyfreithiol. Mae’n bosibl y gellir gorfodi telerau’r cytundebau a chytundebau ariannu eraill yn erbyn yr elusen ac efallai y byddant yn cynnwys cosbau am ddiffyg perfformiad. Mae gwahanol ystyriaethau cyfreithiol yn dibynnu ar natur y cytundeb ariannu (gweler 8.3, Gwahanol fathau o gytundebau ariannu). Dylai’r telerau gynnwys, er enghraifft, manylion y gwasanaeth sydd i’w ddarparu, telerau talu, trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso, gwneud iawn am wasanaeth gwael, darpariaethau ar gyfer unrhyw arian dros ben neu ddiffyg, adolygu a therfynu. Yn aml bydd rhwymedigaethau ar yr elusen i indemnio’r awdurdod yn erbyn hawliadau trydydd parti, neu o bosibl i gymryd eiddo neu staff penodol. Mae’n bosibl na fydd telerau’r cytundeb er budd yr elusen.

Gall awdurdod cyhoeddus geisio mynnu nad oes modd newid telerau’r cytundeb, ond yn gyfreithiol dylai elusen gael y dewis bob amser i drafod neu wrthod llofnodi. Serch hynny dylai elusennau ystyried yn ofalus gymryd rhan mewn prosesau tendro os yw’n bosibl y bydd telerau cytundebol yn cael eu gorfodi ar yr elusen oni bai ei bod wedi nodi yn y tendr yr hyn y mae’n dymuno ei drafod.

Rhaid i ymddiriedolwyr sicrhau nad yw unrhyw ddogfen gyfreithiol yn cael ei llofnodi oni bai eu bod yn fodlon bod y telerau er budd yr elusen; byddai gwneud fel arall yn torri eu dyletswydd. Felly, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ystyried a oes angen cyngor proffesiynol (cyfreithiol a chyfrifyddol); yn enwedig os yw’r elusen yn ystyried llunio cytundeb sydd o werth uchel o’i gymharu â maint yr elusen neu os oes risgiau posibl. Gall y cyngor hwn gael ei roi gan arbenigwyr allanol neu fewnol. Rhaid i unrhyw ymddiriedolwr sy’n gymwys yn broffesiynol ystyried eu dyletswydd gofal (gweler adran 4.2 o’r canllaw hwn) wrth benderfynu a yw’n briodol iddynt gynghori eu helusen ar unrhyw fater penodol.

Glynwch wrth eich cenhadaeth

Mae’n hanfodol bod elusennau yn glir ynghylch pam eu bod yn bodoli a phwy y maent yno i’w cynorthwyo, ac felly nid ydynt yn colli cyfeiriad. Gall ddiffyg eglurder ynghylch cyfeiriad a diben fod yn gam cyntaf tuag at wyro o’r genhadaeth. Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng amcanion neu ddibenion cyfreithiol elusen a’i chenhadaeth, beth mae’n ceisio ei gyflawni, a sut dylai hyn lywio ei gweithgareddau (a allai gynnwys darparu gwasanaeth cyhoeddus).

Sut dylai amcanion elusen reoli ei chenhadaeth a’i gweithgareddau? (gofyniad cyfreithiol)

Rhaid i genhadaeth elusen a’i holl weithgareddau ddod o fewn cwmpas ei hamcanion a’i phwerau. Pan fydd ymddiriedolwyr yn ailystyried eu cenhadaeth, dylent gyfeirio yn ôl at yr amcanion bob amser. Yn ogystal dylai fod yn glir sut mae unrhyw weithgaredd yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion a’r genhadaeth. Mae hyn yn hanfodol pan fydd elusennau yn llunio cytundebau i ddarparu gwasanaethau pan fydd telerau neu gwmpas cytundeb ariannu yn cyd-fynd yn union ag amcanion yr elusen.

Pwy ddylai wneud penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau y mae’r elusen yn ymgymryd â nhw? (gofyniad cyfreithiol)

Yr ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb pennaf dros gyfarwyddo materion yr elusen a rhaid iddynt dderbyn y cyfrifoldeb hwnnw, gan sicrhau bod yr elusen yn ddiddyled, yn cael ei rhedeg yn dda ac yn sicrhau’r canlyniadau elusennol y cafodd ei sefydlu i’w gwneud er budd y cyhoedd. Yn gyffredinol gall ymddiriedolwyr ddirprwyo pwerau penodol i asiantau neu weithwyr, ac yn ymarferol gall rheolwyr chwarae rhan allweddol ym mhenderfyniadau beunyddiol (yn enwedig mewn elusennau mwy). Er hynny, yr ymddiriedolwyr sy’n dal, a rhaid iddynt bob amser gadw, y cyfrifoldeb pennaf dros redeg yr elusen. Nhw hefyd sydd â’r prif gyfrifoldeb am sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â thelerau unrhyw gytundeb.

Penderfynu pa weithgareddau i’w ymgymryd â nhw yw un o’r penderfyniadau pwysicaf y bydd elusen yn ei wneud. Mae’n dilyn y dylai ymddiriedolwyr sicrhau eu bod yn cymryd rhan briodol mewn gwneud penderfyniadau ynghylch pa weithgareddau y bydd yr elusen yn ymgymryd â nhw. Pan fydd penderfyniadau’n cael eu dirprwyo i staff neu i unrhyw un arall, dylai ymddiriedolwyr osod ffiniau clir ynghylch sut, a phwy sydd â’r hawl, i wneud penderfyniadau o’r fath, a sut y bydd yr ymddiriedolwyr yn cael gwybodaeth am weithgareddau’r elusen.

Beth ddylai elusen feddwl amdano cyn ymgymryd â gweithgaredd neu wasanaeth? (gofyniad cyfreithiol)

Rhaid i benderfyniadau ynghylch gweithgareddau neu wasanaethau gael eu cyfeirio gan amcanion yr elusen, ac fe ddylai’r elusen ddilyn ei chenhadaeth a’i blaenoriaethau arfaethedig yn hytrach na chyfleoedd ariannu. Mae’n bosibl y bydd ystyriaethau ariannu yn ffactor, ond ni ddylent lywio na phennu’r genhadaeth.

Dylai’r ymddiriedolwyr ofyn y cwestiynau canlynol wrth ystyried unrhyw weithgaredd neu wasanaeth:

  • Ydy’r gweithgaredd yn cyd-fynd ag amcanion a phwerau’r elusen?
  • Sut mae’n cyd-fynd â chenhadaeth yr elusen ac unrhyw nodau neu amcanion penodol o fewn ei chynllun gwaith presennol?
  • Sut bydd yn ateb anghenion buddiolwyr yr elusen?
  • Sut bydd yn cael ei gyllido?
  • Ydy’r elusen wedi asesu’r risgiau’n llawn ac wedi cymryd camau i’w lliniaru?

Dylai ymddiriedolwyr gofio na fydd awdurdodau cyhoeddus sy’n caffael gwasanaethau cyhoeddus efallai’n ymwybodol o amcanion yr elusen neu gyfrifoldebau cyfreithiol yr ymddiriedolwyr. Gall elusennau annog staff cyllid a staff eraill yr awdurdodau cyhoeddus i fanteisio ar unrhyw wasanaethau hyfforddi a gwybodaeth sydd ar gael iddynt, er enghraifft gall staff cyllid â chymwysterau CIPFA yn y sector cyhoeddus fanteisio ar arbenigedd Panel Elusennau CIPFA.

Oes modd diweddaru cenhadaeth neu amcanion yr elusen, ac a allwn ni newid yr amcanion er mwyn darparu gwasanaeth penodol? (gofyniad cyfreithiol)

Mae’n debygol y bydd cenhadaeth yr elusen yn datblygu ac yn newid dros amser mewn ymateb i newid mewn anghenion cymdeithas. Dylai’r ymddiriedolwyr adolygu amcanion a chenhadaeth yr elusen yn achlysurol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n briodol.

Mae diweddaru datganiad cenhadaeth yn benderfyniad polisi y gallai’r ymddiriedolwyr ei wneud (ond dylai’r genhadaeth barhau i adlewyrchu’r amcanion). Mae newid amcanion yr elusen yn broses gyfreithiol. Rhaid dilyn y darpariaethau yn y ddogfen lywodraethol, y gyfraith a phwerau’r comisiwn fel y bo’n briodol. Esbonnir hyn mewn canllawiau eraill y comisiwn gan gynnwys Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36).

Os oes angen cymeradwyaeth, caniatâd neu awdurdod cyfreithiol y comisiwn, ni fyddai fel arfer yn awdurdodi newid os mai’r ‘unig’ reswm dros wneud hynny yw sicrhau cytundeb ariannu penodol. Amcanion a chenhadaeth yr elusen dylai lywio ei strategaeth ariannu, nid i’r gwrthwyneb.

Gwarchodwch eich annibyniaeth

Mae annibyniaeth yn mynd y tu hwnt i statws cyfreithiol sefydliad: dylai gwarchod annibyniaeth fod yn weithgaredd parhaus. Rhaid i ymddiriedolwyr fod â barn annibynnol bob amser a rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau yn briodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos elusennau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus, lle gall awdurdodau cyhoeddus geisio dylanwadu neu gyfarwyddo penderfyniadau’r elusen. Mae perygl hefyd y gallai’r cyhoedd feddwl bod yr elusen yn cyfaddawdu ei hannibyniaeth os yw’n cael arian gan awdurdod cyhoeddus. Mae camau y gall elusennau eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw eu hannibyniaeth yn cael ei chyfaddawdu.

Sut gall elusennau fod yn annibynnol a rheoli gwrthdaro buddiannau?

Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)

Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr weithredu er budd yr elusen yn unig. Nid yw ymddiriedolwr yn ddirprwy nac yn gynrychiolydd unrhyw gorff penodi neu gyllido. Mae’n hanfodol bod pob ymddiriedolwr yn deall ei ddyletswyddau cyfreithiol. Pan fydd angen gwarchod buddiannau eu buddiolwyr, dylai elusennau arfer eu hannibyniaeth ac esbonio ei phwysigrwydd wrth gomisiynwyr a chyllidwyr gwasanaeth.

Yn fwy manwl

Llywodraethu da: dylai ymddiriedolwyr a rheolwyr elusennau ddilyn arfer da wrth reoli. Dylai ymddiriedolwyr newydd gael eu sefydlu a’u hyfforddi yn briodol. Dylid nodi, cydnabod a rheoli gwrthdaro buddiannau a dylai’r prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau fod yn atebol ac yn dryloyw. Dylai elusennau ystyried y cod llywodraethu ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol.

Y Compact: mae’r Compact yn cydnabod bod elusennau a sefydliadau gwirfoddol eraill yn annibynnol ar y llywodraeth, a bod ganddynt hawl i arfer yr annibyniaeth honno sut bynnag maent yn cael eu hariannu. Mae’r Cynllun Sector Gwirfoddol yng Nghymru hefyd yn cydnabod natur annibynnol y sector. Dylai pob awdurdod cyhoeddus gydnabod a dilyn yr egwyddorion hyn.

Rheoli gwrthdaro buddiannau: mae gwrthdaro buddiannau yn unrhyw sefyllfa lle gall buddion personol yr ymddiriedolwr, neu fuddion sy’n codi i gorff arall, ddylanwadu ar benderfyniad yr ymddiriedolwr (neu ymddangos ei fod yn dylanwadu ar ei benderfyniad). Dylai ymddiriedolwyr gyfeirio at ganllaw’r comisiwn ar wrthdaro buddiannau.

Os yw awdurdod cyhoeddus yn ymddiriedolwr elusen fel endid corfforaethol gall hyn greu gwrthdaro penodol. Byddai unrhyw gytundeb ariannu rhwng yr awdurdod â’r elusen yn golygu hunan-ddelio ac mae’n bosibl y gallai’r cytundeb ariannu fod yn agored i’w herio oni bai ei fod wedi’i awdurdodi gan y llys neu’r comisiwn. Byddai’n rhaid i’r comisiwn fodloni ei hun bod gan yr elusen drefniadau ar gyfer rheoli gwrthdaro buddiannau, a bod y cytundeb arfaethedig er budd yr elusen.

Telerau ac amodau cytundebol: mewn rhai achosion, mae awdurdodau cyhoeddus yn ceisio cynnwys amodau mewn cytundebau ariannu a allai olygu bod yr ymddiriedolwyr yn torri eu hymddiriedaeth cyfamod neu’n cyfyngu ar eu gallu i weithredu er budd yr elusen yn unig. Gallai’r rhain gynnwys hawliau i enwebu cleientiaid neu fuddiolwyr, i benodi ymddiriedolwyr neu anfon cynrychiolwyr i gyfarfodydd ymddiriedolwyr. Gallant hefyd gynnwys gofynion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n effeithio ar benodi ymddiriedolwyr neu’r ffordd y mae buddiolwyr yn cael eu dewis.

Er ei fod yn ddealladwy y bydd awdurdod am gael rhywfaint o reolaeth dros ddarparu ei wasanaethau, rhaid i’r elusen beidio â derbyn unrhyw delerau neu amodau sy’n groes i delerau’r ddogfen lywodraethu (er enghraifft, y dulliau o benodi ymddiriedolwyr). Rhaid i’r ymddiriedolwyr beidio ag ildio eu disgresiwn, a rhaid iddynt beidio â chyfyngu ar eu disgresiwn oni bai eu bod nhw’n sicr bod hyn er budd yr elusen.

Dweud na: ni ddylai elusennau deimlo rheidrwydd neu deimlo eu bod yn cael eu gorfodi gan eu cyllidwyr i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, neu wasanaeth penodol. Cyfrifoldeb ymddiriedolwyr yr elusen yw penderfynu pa waith y dylai’r elusen ei wneud, a rhaid seilio’r penderfyniad hwnnw ar fuddiannau’r elusen ac anghenion ei holl fuddiolwyr. Gallai fod yn fwy anodd i wneud penderfyniad o’r fath, wrth gwrs, os yw’r elusen yn ystyried adnewyddu cytundeb cyfredol pan fydd buddiolwyr eisoes yn eu lle.

Esbonnir annibyniaeth yn fwy manwl yn ein canllaw Annibyniaeth elusennau ar y wladwriaeth (RR7).

Os yw elusen yn darparu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn gallu parhau i ymgyrchu?

Yr ateb byr

Bydd, yn amodol yn unig ar y rheolau a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol i bob elusen.

Yn fwy manwl

Ni ddylai elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol neu ymgyrchu; mae’r un rheolau yn berthnasol i bob elusen, oes yw ei gweithgareddau’n gysylltiedig â chyflenwi gwasanaeth cyhoeddus neu beidio. Esbonnir y rheolau hyn yn y canllaw Dweud eich dweud - ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau.

Ni ddylid annog elusen i beidio ag ymgyrchu neu geisio dylanwadu ar bolisi cyhoeddus ar faterion os yw’r ymddiriedolwyr yn credu eu bod er budd i’r buddiolwyr wneud hynny. Efallai y bydd yn bwysig hefyd o ran canfyddiad a hyder y cyhoedd i’r elusen ddangos y gall arfer ei hannibyniaeth drwy leisio ei barn.

Sylweddolwch eich gwerth

Dylai elusennau fod yn gwbl glir ynghylch agweddau ariannol ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus.

Beth mae’r comisiwn yn ei olygu wrth ‘sylweddolwch eich gwerth’?

Yr ateb byr

Mae ‘sylweddolwch eich gwerth’ yn golygu:

  • deall beth yw costau llawn gwasanaethau’r elusen
  • cydnabod gallu’r elusen i gyflenwi ac unrhyw gyfyngiadau
  • nodi unrhyw rinweddau unigryw neu nodedig mewn gwasanaethau’r elusen
  • defnyddio’r rhain a ffactorau perthnasol eraill i osod pris ar gyfer y gwasanaethau hynny

Yn fwy manwl

Cost y gwasanaeth: mae costau llawn gwasanaeth yn cynnwys ei gostau uniongyrchol yn ogystal â’r costau anuniongyrchol (a elwir weithiau yn gostau gorbenion, gweinyddol neu ‘graidd’) sy’n gysylltiedig â hynny. Mae’r costau craidd yn cynnwys cyfran o gostau rheoli (megis amser uwch staff a chyfarfodydd bwrdd), costau ymchwil a datblygu (gan gynnwys hyfforddiant) a chostau cynnal eraill (gan gynnwys costau eiddo a chyfleustodau) y gellir eu dyrannu’n deg i’r gwasanaeth.

Dylai elusennau wybod beth yw costau llawn unrhyw wasanaeth y maent yn ei ddarparu neu’n bwriadu ei ddarparu.

Drwy wybod a deall beth yw eu costau llawn, gall ymddiriedolwyr wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch ymgymryd â gwasanaethau penodol neu dderbyn cynigion o gyllid.

Cydnabod cyfyngiadau’r elusen: mae’n bwysig gwybod cyfyngiadau gallu’r elusen. Ni ddylai elusen ymgymryd â gwasanaethau, prosiectau neu weithgareddau na fydd yn gallu eu darparu neu eu cwblhau.

Rhinweddau unigryw neu nodedig: mae’n bosibl bod gan elusennau rhinweddau unigryw neu nodedig a fyddai’n golygu y gallant ddarparu gwasanaethau’n well. Mae’n bosibl y byddai nodweddion o’r fath yn cynnwys gwybodaeth neu brofiad arbenigol, ethos yr elusen (er enghraifft, wedi’i arwain gan y defnyddiwr), neu gyflenwi gwasanaeth mewn ffordd arloesol. (Yn aml disgrifir y nodweddion hyn yn ‘werth ychwanegol’). Os oes gan elusen nodweddion o’r fath, dylai lywio barn yr elusen pan fydd yn:

  • pwyso a mesur a fyddai darparu gwasanaeth penodol yn ffordd effeithiol i’r elusen hyrwyddo ei hamcanion (a’i chenhadaeth)
  • cyfrifo costau llawn darparu’r gwasanaeth (gan gynnwys costau darparu ansawdd neu lefel uwch o wasanaeth), a gosod pris sy’n adlewyrchu ‘pwyntiau gwerthu unigryw’ yr elusen
  • penderfynu a fyddai o fudd i’r elusen a’i buddiolwyr ddarparu’r gwasanaeth am lai na’r costau llawn

Prisio gwasanaeth: Heblaw am gostau llawn ac unrhyw nodweddion penodol, ffactorau eraill y mae’r comisiwn yn cynghori ymddiriedolwyr i’w hystyried wrth brisio gwasanaeth yw unrhyw ffactorau risg neilltuol (er enghraifft, mae’n bosibl y byddai angen prisio gwasanaethau newydd neu gytundebau byrrach yn benodol er mwyn gwneud iawn am y ffaith y gallai’r risg fod yn uwch), eu perthynas â’r awdurdod comisiynu, cryfder enw neu frand yr elusen, a’i chystadleuaeth yn y farchnad.

Mae’n hollol resymol i elusen ennill arian dros ben. Fel yr amlinellwyd yn The Reform of Public Services: the Role of the Voluntary Sector (NCVO, 2005), os yw hynny o fudd i’r elusen, gellir gosod pris y gwasanaeth er mwyn:

  • adennill costau llawn ei ddarparu
  • cael arian dros ben i’w ailfuddsoddi yng ngwaith parhaus yr elusen
  • colled fwriadol (sybsideiddio’r gwasanaeth)

Sut gall elusennau ddeall beth yw eu costau llawn?

Mae nifer o adnoddau ar adennill costau llawn ar gael i elusennau, gan gynnwys modelau prisio, hyfforddiant a chyngor.

  • Gall pecyn cymorth Full Cost Recovery Acevo helpu elusennau i ddyrannu costau craidd mewn ffordd sy’n gydnaws â’r rheolau ynghylch cyllid yn y sector cyhoeddus
  • Mae Atodiad A Guidance to Funders y Trysorlys yn cynnwys enghreifftiau o’r costau sy’n debygol o godi wrth ddarparu gwasanaethau
  • Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys Acevo, yn darparu hyfforddiant ar adfer costau llawn

Dylai ymddiriedolwyr ddeall natur y gwasanaeth sydd i’w ddarparu a’r ffordd y mae costau’n gweithio er mwyn sicrhau bod y cytundeb yn cael ei reoli’n dda. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai costau yn amrywio’n uniongyrchol yn ôl lefel y defnydd o’r gwasanaeth; gall eraill fod yn sefydlog neu’n rhannol sefydlog ac ni fydd newidiadau mewn defnydd gwasanaeth yn effeithio cymaint arnynt. Mae’n rhaid deall y costau, gan gynnwys yr hyn sydd y tu ôl iddynt er mwyn eu defnyddio yn y prosesau cynllunio, tendro a chyllidebu.

Pryd ddylai elusennau ddisgwyl a thrafod adennill costau llawn?

Yr ateb byr

Dylai elusennau ddisgwyl a thrafod adennill costau llawn mewn unrhyw achos pan fydd awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth ganddynt, oni bai bod yr elusen yn penderfynu ei fod o fudd i’w fuddiolwyr i beidio ag adennill costau llawn.

Yn fwy manwl

Gwahanol fathau o gytundebau ariannu: gall y derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio cytundebau ariannu fod yn ddryslyd ac amwys iawn. Mae gwahaniaethau pwysig rhwng y gwahanol fathau o gytundebau ariannu. Mae’r gwahaniaethau hyn yn gymhleth yn gyfreithiol, ond at ddiben y canllaw hwn:

  • Mae grant yn anrheg neu’n rhodd. Nid oes gan y rhoddwr hawl i gael unrhyw beth yn gyfnewid amdani, ond fe all atodi amodau a thelerau ar sut y dylid gwario’r grant, a allai ei wneud yn gronfa gyfyngedig yng nghyfrifon yr elusen. Byddai gwario’r grant ar unrhyw beth arall yn dor-ymddiriedaeth. Bydd yr un cyfyngiadau ar unrhyw arian dros ben oni bai bod telerau’r grant yn nodi’n wahanol

  • Gellir gorfodi’r cytundeb yn gyfreithiol rhwng dau (neu ragor) o bartïon pan fydd un parti yn cytuno i ddarparu gwasanaethau am dâl. Mae tâl o dan gytundeb yn ffi ac nid yn grant, a rhaid talu TAW (gweler adran 10.3). Ni fydd unrhyw arian dros ben o dan y cytundeb yn gyllid cyfyngedig, ond gall amodau a thelerau cytundebol fod yn berthnasol iddo

  • Nid yw cytundeb lefel gwasanaeth yn derm cyfreithiol. Fel arfer mae cytundeb lefel gwasanaeth yn ddogfen sy’n amlinellu dealltwriaeth yr awdurdod cyhoeddus a’r elusen ynghylch y gwasanaeth sydd i’w ddarparu. Nid yw’n gytundeb oni bai ei fod yn bodloni’r holl feini prawf cyfreithiol ar gyfer cytundeb dilys, gan gynnwys bod y ddau barti yn bwriadu iddo fod yn gyfreithiol rwymol

Diben yr arian: mae’n bwysig bod elusennau yn deall diben yr arian. Gan amlaf bydd awdurdod cyhoeddus am sicrhau (prynu) gwasanaeth cyhoeddus penodol. Mewn achosion o’r fath, mae’r cytundeb ariannu yn debygol o bennu amodau a thelerau.

Mae’n bosibl y bydd awdurdod cyhoeddus hefyd yn darparu cyllid ar ffurf rhoddion er mwyn cefnogi gweithgareddau elusennol y mae’n cydnabod eu gwerth, efallai gan eu bod yn cefnogi amcanion cymunedol ehangach yr awdurdod.

Adennill costau’n llawn: mae’r ymrwymiadau ar gyfer y llywodraeth yn y Compact yn cydnabod pan fydd elusennau’n gwneud cais am gyllid gallant gynnwys gorbenion priodol a pherthnasol.

Dylai elusennau gynllunio a chyllidebu i adennill eu costau yn llawn mewn unrhyw achos lle mae’r awdurdod cyhoeddus yn prynu gwasanaeth ganddynt, oni bai bod yr elusen yn penderfynu ildio adennill costau llawn.

Beth os nad yw’r arian a gynigir yn talu am gostau llawn y gwasanaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn ei brynu? (gofyniad cyfreithiol)

Yr ateb byr

Os yw elusen naill ai’n ystyried dechrau, neu adnewyddu, cytundeb ariannu ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus ac ni fydd y cyllid sydd ar gael yn talu am gostau llawn y gwasanaeth, gall:

  • gynnal trafodaethau i gael rhagor o gyllid
  • cynnig lefel is o wasanaeth sy’n gymesur â’r cyllid sy’n cael ei gynnig
  • penderfynu defnyddio cyllid arall i wneud iawn am y diffyg
  • gwrthod y cytundeb ariannu a pheidio â darparu’r gwasanaeth

Rhaid seilio penderfyniad yr ymddiriedolwyr ar fuddion yr elusen ac anghenion ei buddiolwyr.

Yn fwy manwl

Rhaid i’r ymddiriedolwyr gytuno i beidio â defnyddio unrhyw gyllid yr elusen os nad ydynt yn fodlon ei fod o fudd i’r elusen a’i buddiolwyr ac y byddai hynny’n cyfateb â’i hamcanion. Rhaid i’r elusen wneud unrhyw benderfyniad i sybsideiddio neu ategu gwasanaeth ac ni ddylid ei orfodi i wneud hynny fel amod o’r ariannu.

Cyn penderfynu defnyddio cyllid yr elusen ei hun naill ai i sybsideiddio neu wella gwasanaeth, dylai’r ymddiriedolwyr ystyried y cwestiynau a ganlyn:

  • Pa lefel o ddyletswydd gyfreithiol sydd gan unrhyw awdurdod cyhoeddus i ddarparu’r gwasanaeth dan sylw? A oes dyletswydd gyfreithiol lwyr (heb ddisgresiwn dros lefel y gwasanaeth i’w darparu); dyletswydd gyfreithiol ond â disgresiwn dros lefelau gwasanaeth, neu a yw’r gwasanaeth yn ddewisol yn unig

  • Fyddai darparu’r gwasanaeth hwn yn ddefnydd priodol ac effeithiol o adnoddau’r elusen?

  • Fyddai hyn yn ffordd effeithiol o helpu buddiolwyr yr elusen?

  • Pa werth fyddai’r elusen yn ei ychwanegu, neu sut byddai’n gwella darparu’r gwasanaeth drwy ddefnyddio ei gyllid ei hun yn y modd hwn?

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosibl y bydd elusennau yn gallu sicrhau cyllid neu adnoddau ychwanegol na fyddai ar gael fel arfer i awdurdod cyhoeddus. Pan fydd adnoddau o’r fath ar gael, dylai elusennau geisio defnyddio’r rhain i wella’r gwasanaethau ar gyfer buddiolwyr. Ni ddylai awdurdodau cyhoeddus gymryd yn ganiataol bod elusennau yn gallu cael cyllid ychwanegol yn awtomatig neu fod ‘gwerth ychwanegol’ yn golygu darparu gwell gwasanaeth heb gost ychwanegol.

Pan fydd gan awdurdod cyhoeddus ddyletswydd gyfreithiol lwyr i ddarparu gwasanaeth a heb ddisgresiwn dros lefel y gwasanaeth, byddai’n rhaid cael cyfiawnhad clir iawn o ran y budd a ddaw i’r elusen drwy sybsideiddio’r gwasanaeth.

A all elusennau orfodi awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â’r Compact (neu’r Cynllun Sector Gwirfoddol yng Nghymru)?

Disgwylir i holl adrannau’r llywodraeth gydymffurfio â’r Compact neu’r Cynllun Sector Gwirfoddol (fel y bo’n berthnasol). Bellach mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol wedi sefydlu compactau sy’n adlewyrchu telerau’r Compact cenedlaethol a’r Cynllun Sector Gwirfoddol. Dylai’r egwyddorion yn y cytundebau hyn fod yn sail i unrhyw berthynas rhwng elusen ac awdurdod cyhoeddus, ac felly mae’r comisiwn yn argymell bod elusennau yn ymgyfarwyddo â’r dogfennau hyn ac yn gwneud defnydd ohonynt.

Ni ellir gorfodi’r cytundebau hyn yn gyfreithiol, ond mae nifer o’u hegwyddorion wedi’u cynnwys ym mholisi’r llywodraeth neu mewn cyfraith gyhoeddus. Defnyddiwyd y Compact yn llwyddiannus mewn achosion cyfraith gyhoeddus, ac mae wedi bod o gymorth wrth ddatrys anghydfodau cyfreithiol. Mae’n bosibl y bydd elusennau yn gallu sicrhau cymorth a chyngor ynghylch methu â chydymffurfio â’r Compact gan Raglen Eiriolaeth Compact (manylion ar gael gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol) neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar weithredu’n groes i’r Cynllun Sector Gwirfoddol.

Sut gall elusen fynd ati i nodi neu orfodi dyletswydd gyfreithiol awdurdod cyhoeddus?

Yr ateb byr

Gall fod yn anodd iawn yn ymarferol i nodi yr union ddyletswydd gyfreithiol sydd gan awdurdod cyhoeddus i ddarparu neu ariannu gwasanaeth penodol, ond gall elusen ofyn am eglurhad o gyfrifoldeb yr awdurdod. Mae rhai camau penodol y gall elusennau ystyried eu cymryd wrth orfodi dyletswydd o’r fath.

Yn fwy manwl

Gan fod awdurdodau cyhoeddus yn gallu darparu gwasanaethau o dan ddyletswydd gyfreithiol lwyr, dyletswydd gyfreithiol sy’n rhoi disgresiwn iddynt dros lefel y gwasanaeth, neu o dan bwˆ er dewisol, mae’n anodd nodi dyletswydd statudol mewn gwirionedd.

Byddai’n rhesymol i ofyn i’r awdurdod am eglurhad ysgrifenedig ynghylch ba ddyletswydd y mae’n rhaid iddo ddarparu gwasanaeth, neu ba arian sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Os bydd angen, gellid gwneud cais yn ffurfiol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 am gopïau o unrhyw wybodaeth sydd gan yr awdurdod ynghylch ei ddyletswydd. Gallai’r elusen hefyd geisio cyngor annibynnol ar ddyletswyddau cyfreithiol yr awdurdod, er y byddai costau cyfreithiol yn codi.

Pan fydd elusen yn penderfynu nad yw gwasanaeth sy’n effeithio ar ei defnyddwyr yn cael ei ddarparu i’r lefel ofynnol o gyllid cyhoeddus, mae’n bosibl y bydd yn ystyried a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i ddarbwyllo’r awdurdod cyhoeddus i ddarparu cyllid i lanw’r bwlch. Gallai’r elusen, naill ai ar ei phen ei hun neu gyda sefydliadau eraill, geisio trafod â’r awdurdod cyhoeddus am gyllid ychwanegol.

Mae’n dderbyniol i elusennau, ar yr amod eu bod yn gweithredu yn unol â’u hamcanion, i ddwyn pwysau cyfreithiol, gwleidyddol neu weinyddol er mwyn sicrhau lefel well o gyllid cyhoeddus ar gyfer y gwasanaeth dan sylw i’w buddiolwyr. Mae’r comisiwn yn argymell darllen y canllaw Dweud eich dweud - ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol gan elusennau (CC9) os yw elusen yn ystyried dwyn pwysau gwleidyddol i wella ariannu cyhoeddus.

Mae nifer o gamau cyfreithiol y gall elusennau a’u buddiolwyr eu hystyried, gan gynnwys adolygiad barnwrol o benderfyniad awdurdod cyhoeddus, neu ddwyn achos o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae’n bosibl y bydd elusen yn dymuno helpu buddiolwr i ddwyn achos os nad oes gan y buddiolwr yr arian i wneud hynny fel arall ac mae’r elusen yn fodlon y byddai hyn yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ei ddibenion elusennol. Ni ddylid cymryd camau cyfreithiol ar chwarae bach neu heb geisio cyngor proffesiynol yn gyntaf.

Oni bai bod yr ymddiriedolwyr yn cael awdurdod o flaen llaw gan y comisiwn i ddefnyddio cyllid yr elusen i dalu costau achos cyfreithiol, mae risg y byddant hwy’n bersonol yn atebol am y costau hyn. Felly, dylai ymddiriedolwyr drafod â’r comisiwn cyn dechrau cymryd camau cyfreithiol. Dylai’r elusennau gofio hefyd bod terfynau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol.

Beth os yw dogfen lywodraethol yr elusen yn gwahardd sybsideiddio cyllid statudol? (gofyniad cyfreithiol)

Yr ateb byr

Ni all elusennau gymryd unrhyw gamau y mae eu dogfen lywodraethol yn eu gwahardd yn benodol. Os yw’r ymddiriedolwyr o’r farn bod pwˆ er neu gyfyngiad penodol yn atal yr elusen rhag cyflawni ei dibenion, dylent ystyried diwygio’r ddogfen lywodraethol. Fel y crybwyllwyd yn adran 7.4, gall y comisiwn gynghori elusennau ynghylch diwygiadau a’u hawdurdodi yn ôl yr angen.

Yn fwy manwl

Gwaharddiad penodol: mae rhai dogfennau llywodraethol yn gwahardd yr elusen yn benodol rhag cynorthwyo neu sybsideiddio cyllid statudol. (Gellir datgan hyn mewn termau cadarnhaol fel ‘ni fydd’.) Rhaid peidio ag anwybyddu gwaharddiad o’r fath; rhaid i’r ymddiriedolwyr ddeall beth yn union sy’n cael ei wahardd.

Beth sy’n cael ei ganiatáu? Ni fyddai unrhyw anhawster mewn unrhyw achos lle’r oedd yr elusen yn darparu gwasanaeth ar delerau adennill costau llawn. Pe na bai’r elusen yn adennill costau llawn, byddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr fod yn glir ynghylch lefel y ddyletswydd gyfreithiol fyddai gan yr awdurdod ariannu, ac a oedd lefel y cyllid yn bodloni’r ddyletswydd honno. Os oedd gan yr awdurdod ddyletswydd lwyr, byddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried a fyddai’r ddogfen lywodraethol yn caniatáu i’r elusen sybsideiddio cyllid statudol.

Diwygio dogfennau llywodraethol: mae’r rhan fwyaf o ddogfennau llywodraethol yn cynnwys pwˆ er diwygio ac yn amlinellu’r broses ddiwygio. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd neu gymeradwyaeth ysgrifenedig y comisiwn o flaen llaw ar gyfer diwygio cymalau allweddol, megis yr amcanion a’r cymalau eraill sy’n effeithio ar sut y defnyddir asedau’r elusen, neu efallai y cânt eu gwrthod yn gyfan gwbl.

Mae pwˆer gan y comisiwn i awdurdodi rhai newidiadau na all elusennau eu hunain eu gwneud, ond byddai’n rhaid iddo ystyried unrhyw gais gan yr elusen yn unol ag amgylchiadau penodol a buddiannau’r elusen. Esbonnir hyn yn y canllaw Newid dogfen lywodraethol eich elusen (CC36).

Canllawiau i elusennau sy’n rhoi grantiau

Gellir cymhwyso rhai o egwyddorion sylfaenol y canllaw hwn i elusennau sy’n rhoi grantiau, ond mae materion eraill y dylai’r elusennau hynny eu hystyried. Nid yw’r rhain fel arfer yn darparu gwasanaethau eu hunain nac yn cael cyllid gan y llywodraeth. Serch hynny, mae’n bosibl eu bod yn derbyn ceisiadau am arian, naill ai’n uniongyrchol gysylltiedig â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau cyhoeddus, neu gan elusen neu sefydliad arall sydd wrthi’n cyflenwi gwasanaeth cyhoeddus.

Pa faterion dylai elusennau sy’n rhoi grantiau eu hystyried?

Yr ateb byr

Wrth ystyried ceisiadau am arian grant, mae’r comisiwn yn argymell bod elusennau yn:

  • ystyried yr ystod lawn o ddewisiadau rhoi grantiau rhesymol
  • sicrhau bod y penderfyniadau wedi’u seilio ar y gyfraith a buddiannau’r elusen
  • defnyddio’u profiad o’r hyn y mae awdurdodau cyhoeddus wedi’i gyllido yn y gorffennol
  • gofyn cwestiynau a herio rhagdybiaethau ynghylch beth mae awdurdodau cyhoeddus yn barod i’w gyllido neu sydd â dyletswydd i’w gyllido
  • defnyddio ystyriaethau o’r fath i ddatblygu polisïau rhoi grantiau

Yn fwy manwl

Dilyn egwyddorion cyfreithiol: mae’r un egwyddorion cyfreithiol allweddol yn berthnasol i elusennau sy’n rhoi grantiau. Nid oes gwaharddiad cyfreithiol ar elusennau sy’n defnyddio eu cyllid eu hunain i sybsideiddio neu gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus, ond dim ond pan fydd hynny o fewn eu hamcanion a’u pwerau, a phan fydd er lles ei helusen a’i buddiolwyr i wneud hynny.

Yn gyffredinol dylai elusennau ddisgwyl i awdurdodau cyhoeddus ariannu cost y gwasanaeth maent yn prynu yn llawn, ac yn benodol dalu’n llawn am gost rhwymedigaethau statudol. Felly, dim ond os oes cyfiawnhad clir dros roi grantiau i sybsideiddio gwasanaethau cyhoeddus neu ddarpariaeth gyhoeddus arall y dylid gofyn i elusennau am grantiau ar gyfer hynny.

Profiad y gorffennol: dylai’r elusen ystyried a yw’r gwasanaeth o dan sylw yn wasanaeth newydd. Os nad ydyw, pwy oedd yn ei ddarparu yn y gorffennol, a pha lefel gwasanaeth oedd yr awdurdodau cyhoeddus yn ei hariannu?

Dyletswyddau awdurdodau cyhoeddus: efallai y bydd yn bosibl canfod a oes dyletswydd gan awdurdod cyhoeddus i ddarparu’r gwasanaeth hwn, beth yw lefel ofynnol y gwasanaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod ei hariannu, a pha lefel o ariannu statudol sydd ar gael. Fel yr esboniwyd yn adran 9, y ffordd fwyaf ymarferol o wneud hyn fyddai gofyn i’r awdurdod. Gellir gwneud cais o’r fath yn ysgrifenedig a’i wneud o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os bydd angen.

Gosod paramedrau polisi: cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw penderfynu ar flaenoriaethau a pharamedrau’r elusen ar gyfer rhoi grantiau. Yn yr un modd ag agweddau eraill ar ddiffinio polisi rhoi grantiau, efallai y bydd hyn yn golygu blaenoriaethu rhai buddiolwyr dros eraill. Mae’n bosib y bydd yn cynnwys ystyried blaenoriaethau ac anghenion ariannu yn y fyr dymor a’r hir dymor hefyd.

Mae rhai elusennau sy’n rhoi grantiau yn pryderu bod perygl i awdurdodau cyhoeddus ddibynnu ar arian elusennol ychwanegol yn y tymor hir, neu y bydd gallu elusennau rhoi grantiau i ariannu darpariaeth ychwanegol neu arloesol yn lleihau. Mae’r rhain yn ffactorau y gall ymddiriedolwyr ddewis eu hystyried wrth lunio polisïau rhoi grantiau.

Materion eraill i’w hystyried

Mae llawer o’r dadlau ynghylch darparu gwasanaeth cyhoeddus yn canolbwyntio ar ariannu, ond mae materion eraill i’w hystyried, yn enwedig ynghylch rheoli risg a bod mor effeithiol â phosibl.

Pa gamau eraill gall elusennau eu cymryd i reoli risg?

Yr ateb byr

Mae rhai camau y gall elusennau eu cymryd i reoli rhai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio ffurf cwmni cyfyngedig, yswiriant neu ddarparu’r gwasanaeth trwy gwmni masnachu.

Yn fwy manwl

Corffori’r elusen: os yw’r elusen yn anghorfforedig (yn ymddiriedolaeth neu’n gymdeithas), byddai unrhyw atebolrwydd cytundebol yn disgyn ar ysgwyddau’r ymddiriedolwyr yn bersonol yn hytrach nag ar yr elusen. Dylai ymddiriedolwyr unrhyw elusen anghorfforedig sy’n ystyried darparu gwasanaeth cyhoeddus ystyried sefydlu strwythur corfforedig yn gyntaf.

Manteision elusen gorfforedig yw, yn gyntaf mae’n endid cyfreithiol ei hun (yr elusen, yn hytrach na’r ymddiriedolwyr unigol, sy’n arwyddo cytundebau ac yn cyflogi staff); ac yn ail, o dan amgylchiadau arferol, mae atebolrwydd yr aelodau yn gyfyngedig. Er hynny, dylid nodi na fyddai corffori yn diogelu’r elusen ei hun rhag y risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaeth cyhoeddus.

Ceir dau opsiwn ar gyfer sefydlu elusen gorfforedig:

  • y Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE). Mae hwn yn ffurf syml o gorffori ar gyfer elusennau - mae’r SCE yn cael ei gofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn unig, ac yn atebol iddo
  • Cwmni Cyfyngedig Elusennol. Mae hwn:
    • yn cael ei sefydlu a’i gofrestru fel cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau
    • yn cael ei gofrestru ar wahân fel elusen gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
    • mae’n ofynnol iddo ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau a Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Gallwch ddarllen rhagor am strwythurau elusennau yn ein canllaw Mathau o elusennau: sut i ddewis strwythur (CC22a).

Pan fydd gan yr elusen sy’n corffori gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio, mae’n bwysig ceisio cyngor proffesiynol a chadarnhau cyn corffori gyda’r Rheolydd Pensiynau beth fyddai effaith corffori ar y gronfa bensiwn. Mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gael ar GOV.UK: Cynlluniau pensiwn â buddion wedi’u diffinio - cwestiynau ac atebion.

Sefydlu cwmni ar wahân: dewis arall i elusen anghorfforedig yn hytrach na ‘chorffori’ yw sefydlu cwmni ar wahân yn benodol ar gyfer darparu gwasanaeth neu wasanaethau o dan y cytundeb. Mae hyn hefyd yn ddewis ar gyfer cwmnïau elusennol. Byddai defnyddio cwmni ar wahân yn galluogi’r ymddiriedolwyr i ‘glustnodi’r’ rhwymedigaethau o dan y cytundeb drwy eu cadw ar wahân i weithgareddau eraill yr elusen. Mae costau ynghlwm wrth sefydlu a rhedeg cwmni, a bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr bwyso a mesur a fyddai o fudd i’r elusen drosglwyddo gweithgaredd i gwmni ar wahân neu gadw gweithgaredd, a’r risg, o fewn yr elusen.

Gallai’r cwmni ar wahân fod yn elusen ei hun, neu fe allai fod yn gwmni masnachu anelusennol. Gall elusen gael ei sefydlu i fasnachu ac ymgymryd â masnachu sy’n cyflawni ei diben elusennol. Bydd yn ofynnol iddo gofrestru fel elusen yn y ffordd arferol.

Mae cwmni masnachu anelusennol yn cael ei ddefnyddio’n aml i alluogi elusen i godi arian neu fasnachu y tu allan i gwmpas ei hamcanion, er enghraifft trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, boed yn elusennol neu beidio, o dan gontract. Er hynny, gan nad yw’r cwmni ei hunan yn elusen bydd mewn egwyddor yn gorfod talu treth a TAW. Gellir osgoi treth incwm a threth corfforaeth drwy ddefnyddio Rhodd Cymorth i drosglwyddo elw i’r elusen.

Mae manteision ac anfanteision i sefydlu cwmnïau masnachu anelusennol, a’r cyfyngiadau cyfreithiol sy’n rhaid i elusennau eu parchu yn gymhleth. Esbonnir y rhain yn fanylach yn y canllaw Ymddiriedolwyr, masnachu a threth (CC35).

Yswiriant: esbonnir y gwahanol fathau o yswiriant sydd ar gael i elusennau yn fanylach yn y canllaw Elusennau ac yswiriant (CC49).

Mae cytundebau yn aml yn cynnwys cymalau sy’n gofyn i’r elusen indemnio’r awdurdod cyhoeddus yn erbyn hawliadau trydydd parti sy’n deillio o ddarparu’r gwasanaeth (er enghraifft, os yw defnyddiwr gwasanaeth yn cael anaf o ganlyniad i esgeulustod un o weithwyr yr elusen). Mae angen yr indemniad er mwyn diogelu’r awdurdod cyhoeddus rhag hawliadau yn ei erbyn, er enghraifft mewn achosion pan fydd yr elusen fel darparwr y gwasanaeth wedi bod yn esgeulus. Mae gan yr ymddiriedolwyr ddyletswydd i ddiogelu eiddo’r elusen hefyd. Dylai’r ymddiriedolwyr ystyried a ddylai’r elusen gymryd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus er mwyn diogelu’r elusen a’r corff cyhoeddus.

Mae rhai cytundebau yn cynnwys cymalau indemnio eang iawn, ac efallai y byddai hyn yn fater y bydd angen i’r ymddiriedolwyr gael cyngor penodol yn ei gylch (gweler adran 5.4).

A ddylai elusennau ystyried cydweithio ag elusennau eraill er mwyn darparu gwasanaethau?

Mae manteision a risgiau yn gysylltiedig â gweithio mewn partneriaeth neu ar y cyd ag elusennau eraill. Gall gweithio mewn partneriaeth alluogi elusennau i gystadlu am gytundebau mwy neu elwa o enillion effeithlonrwydd drwy leihau dyblygu swyddogaethau gweinyddol. Gallai hyn fod o fudd arbennig i elusennau llai. Rhaid i elusennau fod yn glir ynghylch eu rôl benodol mewn unrhyw bartneriaeth, yn enwedig o ran rhannu cyfrifoldebau cytundebol.

Mae’r comisiwn wedi cyhoeddi canllaw manwl, Cydweithio a chyfyngiadau: cyflwyniad (CC34), sy’n amlinellu’r materion i’w hystyried yn fanylach.

Beth yw goblygiadau sy’n codi o ran TAW drwy ddarparu gwasanaeth cyhoeddus?

Yn gyffredinol, nid yw elusennau yn cael unrhyw driniaeth arbennig o ran TAW ar eu gweithgareddau busnes a rhaid cofrestru ar gyfer TAW, os yw eu trosiant trethadwy yn fwy na’r terfyn statudol. Mae Cyllid a Thollau EM yn cynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau sy’n esbonio sut mae elusennau’n cael eu trin at ddibenion treth a TAW. Fe welwch fanylion pellach ar ei wefan www.hmrc.gov.uk.

Beth yw goblygiadau’r gyfraith gystadlu ar gyfer elusennau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus?

Rhaid i elusennau fod yn ymwybodol y gall y gyfraith gystadlu effeithio ar gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus o dan rai amgylchiadau. Mae canllawiau ar y gyfraith gystadlu ar gael ar GOV.UK.