Ffurflen

Canllawiau: newid eich enw ar ôl priodas neu bartneriaeth sifil

Diweddarwyd 1 February 2024

Applies to England and Wales

Y rheswm mwyaf cyffredin dros newid enw yn y gofrestr (a elwir weithiau yn ‘weithredoedd tŷ’) yw ar ôl priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil. Byddwn yn edrych yma ar sut i wneud cais i ddiweddaru eich enw yn y Gofrestr Tir ar ôl ichi glymu’r cwlwm.

1. Gwirio eich enw ar y gofrestr

Un o’r achosion mwyaf o oedi wrth ymdrin ag eiddo yw pan fo enw’n wahanol i’r enw a gofnodwyd yn y gofrestr. Mae Cofrestrfa Tir EF, banciau a chyfreithwyr yn cynnal gwiriadau hunaniaeth cyn i drafodiad ddigwydd, yn enwedig wrth ailariannu.

Mae’n gyffredin i roddwyr benthyg wrthod rhoi benthyg arian oni bai bod eich manylion yn cyfateb yn union i’r gofrestr. Felly, os priodoch chi ac ailforgeisio ar yr un pryd, efallai bydd y rhoddwr benthyg yn mynnu eich bod yn diweddaru eich enw gyda ni cyn awdurdodi cynnig morgais.

Defnyddiwch ein gwasanaeth Chwilio am wybodaeth eiddo gan Gofrestrfa Tir EF i wneud yn siwr bod eich enw yn gywir ar y gofrestr. £3 yw’r gost am gopi o gofrestr teitl.

2. Newid enw trwy briodas

I wneud cais i newid eich enw yn y gofrestr yn dilyn priodas neu bartneriaeth sifil, lawrlwythwch a llenwch ffurflen AP1. Anfonwch y ffurflen wedi ei llenwi, ynghyd â’ch tystiolaeth, trwy’r post at:


HM Land Registry Citizen Centre

PO Box 74

Gloucester

GL14 9BB

Does dim ffi i newid eich enw.

2.1 Paneli gofynnol

Panel 1: gallwch ddod o hyd i’ch awdurdod lleol ar eich bil y dreth gyngor.

Panel 2: mae rhif y teitl ar frig eich cofrestr teitl. Defnyddiwch ein gwasanaeth Chwilio am wybodaeth eiddo gan Gofrestrfa Tir EF i lawrlwytho eich cofrestr teitl.

Panel 3: mae eich cais yn debygol o effeithio ar yr eiddo cyfan yn hytrach na dim ond rhan ohono. Rhowch ‘X’ yn y blwch cyntaf (‘y teitl(au) cyfan’).

Panel 5: nodwch y dogfennau rydych wedi eu cynnwys gyda’ch ffurflen AP1 megis tystysgrif priodas.

Panel 6: nodwch eich enw chi os ydych yn gwneud y cais, neu enw’r sawl sy’n gwneud cais.

Panel 7: nodwch eich enw, cyfeiriad a chyfeiriad ebost (os oes gennych un).

Panel 9: rhowch ‘X’ yn y blychau sy’n dangos pa gyfeiriad y dylem ei ddefnyddio i gysylltu â chi. Gallwch gael hyd at 3 chyfeiriad, gan gynnwys ebost.

Panel 15: llofnodwch a dyddiwch eich ffurflen AP1.

2.2 Paneli nad oes angen ichi eu llenwi

I newid eich enw, nid oes angen ichi lenwi panel:

  • 8 (hysbysu trydydd parti)

  • 10 (arwystlon newydd)

  • 11 (buddion gor-redol dadlenadwy)

  • 12 (cadarnhau hunaniaeth)

  • 13 (i’w ddefnyddio gan drawsgludwyr)

  • 14 – os ydych yn anfon eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil atom fel tystiolaeth

3. Cofiwch gynnwys eich tystiolaeth

Rhaid ichi anfon copi ardystiedig o’r ddogfen a ddefnyddiwyd gennych i newid eich enw, megis eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil. Gallwch ardystio dogfen eich hunan. Ar wyneb y ddogfen a gopïwyd, ysgrifennwch:

Tystiaf fod hwn yn gopi cywir o’r gwreiddiol dyddiedig ……… wedi ei lofnodi……..Enw wedi ei argraffu…….dyddiad………….

4. Priodi tramor

Os priodoch chi y tu allan i’r DU ac nad yw eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil yn Gymraeg neu Saesneg, rhaid ichi anfon cyfieithiad wedi ei ddilysu o’r dystysgrif atom. Dogfen wedi ei chyfieithu, ei llofnodi, ei stampio a’i dyddio gan ieithydd proffesiynol a chymwys (neu asiantaeth gyfieithu) i gadarnhau ei bod yn gynrychioliad gwir (cywir a chyflawn) o’r testun gwreiddiol yw cyfieithiad wedi ei ddilysu.

5. Cyfnod rhybudd

Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fyddwn yn prosesu cais i newid enw, oni bai bod cyfreithiwr wedi ei anfon atom, byddwn yn anfon llythyr at y perchennog cofrestredig i ddweud wrthynt y bu cais i newid ei enw. Mae hyn er mwyn diogelu rhag twyll. Ni allwn gwblhau’r cais nes bod unrhyw gyfnod rhybudd a nodir ar y llythyr wedi mynd heibio neu fod y rhybudd wedi ei lofnodi a’i ddychwelyd atom, felly gallai gymryd ychydig wythnosau i’w gwblhau.

6. Eich diogelu rhag twyll

Ym mhob achos, mae angen prawf o unrhyw newid enw arnom i warchod rhag twyll. Os ydych yn penderfynu defnyddio enw arall ar eich cyfer ond nad oes gennych unrhyw ddogfennaeth, ni fyddwn yn gallu diweddaru’r gofrestr.

I gael rhagor o wybodaeth am newid eich enw ar y gofrestr, gweler Cofrestru tir neu eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF.