Skip to main content
Ffurflen

Tystysgrif cyflwyno mewn achosion teulu: Ffurflen FP6

Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrth y llys sut a phryd y gwnaethoch gyflwyno dogfennau. Peidiwch â defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer achosion plant nac achosion am orchymyn i'ch amddiffyn chi.

Dogfennau

Tystysgrif cyflwyno mewn achosion teulu: FP6

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gwiriwch eich bod yn defnyddio’r ffurflen gywir

I hysbysu’r llys am sut a phryd y gwnaethoch gyflwyno dogfennau mewn achos am blentyn, defnyddiwch ffurflen C9. Mae hyn yn cynnwys gorchmynion trefniadau plant, cyfrifoldeb rhiant a chamau gwaharddedig.

I ddweud wrth y llys am sut a phryd wnaethoch gyflwyno dogfennau mewn achos am orchymyn i’ch amddiffyn chi, defnyddiwch ffurflen FL415. Mae hyn yn cynnwys gorchmynion rhag molestu, anheddu, amddiffyn rhag priodas dan orfod ac amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod.

Argraffu'r dudalen hon