Tystysgrif cyflwyno mewn achosion plant: Ffurflen C9
Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrth y llys sut a phryd wnaethoch gyflwyno dogfennau mewn achos am blentyn, fel trefniadau plant neu gyfrifoldeb rhiant.
Dogfennau
Manylion
Beth mae’r ffurflen hon yn ei gynnwys
Mae’r ffurflen hon yn cynnwys achosion am blant, gan gynnwys:
- gorchmynion trefniadau plant
- gorchmynion cyfrifoldeb rhiant
- gorchmynion camau gwaharddedig
- materion gorchymyn penodol
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.