Gwobrau am roi gwybodaeth am gartelau
Cyhoeddwyd 31 Mawrth 2014
Os oes gennych chi wybodaeth am gartel, gallwch chi:
-
roi gwybod amdano ar-lein: Rhowch wybod am gartel i’r CMA
-
ffoniwch: 0800 085 1664 neu 020 3738 6888
-
e-bost: cartelshotline@cma.gov.uk
Mae’r CMA yn cynnig gwobrau ariannol o hyd at £250,000 am wybodaeth am weithgarwch cartelau. Os oes gennych wybodaeth, neu os oes gennych fynediad at wybodaeth am gartelau a’ch bod yn ystyried cysylltu â ni i gynnig y wybodaeth honno yn gyfnewid am wobr bosibl, bydd yn ddefnyddiol i chi ddarllen y canllawiau sydd yma.
Pam mae’r CMA yn cynnig gwobrau ariannol am wybodaeth am ymddygiad cartel
Mae cartelau, yn enwedig cytundebau anghyfreithlon rhwng busnesau i bennu prisiau a rhannu marchnadoedd, yn achosi niwed difrifol i fusnesau a’r economi ac yn costio arian i ddefnyddwyr.
Mae cartelau yn anghyfreithlon o dan y gyfraith sifil a throseddol.
O dan y gyfraith sifil (Deddf Cystadleuaeth 1998), mae’r CMA yn gallu dirwyo cwmnïau hyd at 10 y cant o’u trosiant os cânt eu cael yn euog o weithgarwch cartel.
Gall unigolion sy’n ymwneud â gweithgarwch cartel gyflawni trosedd a gallant gael eu carcharu am hyd at bum mlynedd a gallant gael dirwy ddiderfyn.
Gallai unrhyw gyfarwyddwyr cwmni sy’n gysylltiedig â gweithgarwch cartel gael eu hanghymhwyso rhag gweithredu fel cyfarwyddwr yn y dyfodol am hyd at 15 mlynedd hefyd.
Yn gyffredinol, cynhelir cartelau yn gyfrinachol a gallant fod yn anodd eu canfod a’u profi. Am y rheswm hwn, mae’r CMA yn credu y dylai gynnig gwobrau ariannol am wybodaeth sy’n helpu i ganfod ac ymchwilio i gartelau ac sydd, mewn achosion priodol, yn arwain at ddirwyo’r cwmnïau neu erlyniad troseddol ar gyfer yr unigolion dan sylw.
Beth yw cartel?
Mae’r term ‘cartel’ yn derm cyffredinol sy’n cwmpasu unrhyw un o’r trefniadau cydgynllwyniol canlynol rhwng busnesau:
-
gosod prisiau’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol rhwng busnesau - lle mae dau fusnes neu fwy yn cytuno i godi pris eu cynnyrch neu wasanaeth yn lle gosod eu prisiau’n annibynnol ar ei gilydd a chystadlu yn y farchnad. Gelwir hyn yn osod prisiau
-
cyfyngu neu atal cyflenwad neu gynhyrchu rhwng busnesau - lle mae dau fusnes neu fwy yn cytuno i gyfyngu neu atal cyflenwad neu gynhyrchu cynnyrch
-
rhannu cwsmeriaid neu ddarpar gwsmeriaid rhwng busnesau - lle mae dau fusnes neu fwy yn cytuno na fyddant yn dwyn cwsmeriaid ei gilydd a/neu na fydd busnes 1 yn cystadlu â busnes 2 yn ardal A, os yw busnes 2 yn cytuno i drefniant tebyg er budd busnes 1 yn ardal B. Gelwir hyn yn rhannu’r farchnad
-
mewn ymateb i gais gan drydydd parti i dendro am gontract, cytundeb cyfrinachol rhwng busnesau y bydd un neu fwy ohonynt yn cytuno i beidio â thendro am y contract neu y bydd un neu fwy ohonynt yn rhoi pris artiffisial o uchel am y contract i ganiatáu i fusnes arall ennill y contract - efallai i ddychwelyd ffafr ar achlysur arall pan fydd contract arall yn cael ei dendro. Gelwir hyn yn rigio cynigion
Os oes gen i unrhyw wybodaeth am gartelau, pwy ddylwn i ffonio?
I gysylltu â ni gallwch ffonio ein llinell gymorth cartelau ar 0800 085 1664 neu 020 3738 6888.
Byddwch yn cael eich trosglwyddo i flwch post llais ar unwaith. Gadewch neges gyda’ch manylion cyswllt a bydd ymchwilydd yn ceisio ymateb i’ch galwad o fewn dau ddiwrnod busnes.
Fel arall, anfonwch e-bost at: cartelshotline@cma.gov.uk.
Ar ba gam ddylwn i gysylltu â’r CMA?
Mae’n well gennym i chi gysylltu â ni cyn i chi gael yr holl wybodaeth am y cartel. Mae hyn er mwyn i ni allu trafod gyda chi ymlaen llaw pa risgiau a allai fod ynghlwm wrth gael y wybodaeth honno a sut y gellid lleihau’r risgiau hynny - neu a ddylid eu cymryd o gwbl.
Yn ogystal, mae dull cynnar yn caniatáu inni drafod gyda chi pa wybodaeth fydd o’r gwerth mwyaf i ni.
Wrth gwrs, bydd gan rai pobl eisoes y wybodaeth y maent am ei rhannu ac nid oes unrhyw obaith y byddant yn gallu cael rhagor. Unwaith eto, gorau po gyntaf sy’n bwysig. Yn gyffredinol, bydd hen wybodaeth sy’n ymwneud â chartel a oedd ar waith beth amser yn ôl o lai o bwys i ni na gwybodaeth am gartel sy’n dal i fynd rhagddo neu a ddaeth i ben yn ddiweddar. Wedi dweud hynny, os oes gennych wybodaeth am gartel arwyddocaol iawn a ddaeth i ben beth amser yn ôl, mae’n dal yn werth cysylltu â ni oherwydd mae’n bosibl y byddwn eisiau ymchwilio iddo o hyd.
Os byddaf yn rhoi gwybodaeth, sut byddaf yn gwybod y bydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol?
Rydym yn cydnabod mai dim ond os oes gwarant na ddatgelir hunaniaeth ‘chwythwr chwiban’ i drydydd partïon y bydd llawer o bobl sydd am roi gwybodaeth i ni am weithgarwch cartel yn barod i wneud hynny.
Am y rheswm hwn dim ond swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, y rhan fwyaf â chefndir mewn gorfodi’r gyfraith, fydd yn delio â chi. Byddant yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch yn ofalus iawn i ddiogelu eich hunaniaeth rhag cael ei datgelu.
Sut fydd y broses o roi gwybodaeth yn gweithio mewn gwirionedd?
Bydd ein swyddog eisiau siarad â chi i gael cymaint o fanylion â phosibl. I ddechrau, gellid cynnal y sgwrs heb enw os oes angen, er byddai’n well gennym wybod bob amser pwy ydych chi o’r cychwyn cyntaf. Os yw asesiad cychwynnol y swyddog yn dweud bod gennych wybodaeth a/neu y gallwch gael gwybodaeth sy’n debygol o fod o werth i ni ac a allai fod yn sail inni dros ymchwiliad pellach, byddwn eisiau cwrdd â chi i drafod y wybodaeth yn fanylach. Yn y cyfarfod hwnnw bydd angen i ni wybod pwy ydych chi fel rhan hanfodol o asesu eich hygrededd a dibynadwyedd tebygol y wybodaeth y gallech ei rhoi inni.
Gall pobl gael eu temtio i roi gwybodaeth am bob math o resymau ac mae’n bwysig y gallwn archwilio eich holl gymhellion i gysylltu â ni. Mae hyn er ein diogelwch ni yn ogystal â diogelu unrhyw unigolion neu fusnesau a allai fel arall fod yn agored i honiadau di-sail.
Pryd fyddaf yn gwybod a fyddaf yn cael gwobr ariannol a sut mae’r CMA yn cyfrifo unrhyw swm?
Mae’n hanfodol deall bod gwobrau’n cael eu rhoi yn ôl disgresiwn y CMA. Mae’r CMA yn gwbl rydd i wrthod cynigion o wybodaeth ac nid oes rhaid iddo roi rhesymau dros wneud hynny. Ar ben hynny, lle mae’r CMA wedi cytuno i dderbyn rhywfaint o wybodaeth gan unigolyn a bod y wybodaeth yn darparu sail gredadwy dros ymchwiliad pellach, mae’r CMA yn dal yn rhydd i benderfynu, ar sail blaenoriaethau eraill mwy dybryd, na fydd yn defnyddio’r wybodaeth a roddir ac felly na fydd yn rhoi gwobr ariannol. Dyma reswm arall pam ei bod hi’n well trafod gyda ni ymlaen llaw pa wybodaeth y gallech ei chael i ni a pha mor ddefnyddiol fyddai hynny i ni.
Lle mae gwobr ar gael, bydd ei swm yn dibynnu ar nifer o ffactorau:
-
gwerth y wybodaeth o ran yr hyn yr ydym wedi gallu ei gyflawni ohoni
-
faint o niwed i’r economi a defnyddwyr yr ydym yn credu bod y wybodaeth wedi helpu i’w atal a/neu wedi helpu i’w ddatgelu
-
yr ymdrech rydych chi wedi gorfod ei roi er mwyn rhoi’r wybodaeth i ni
-
y risg y bu’n rhaid i chi ei chymryd er mwyn rhoi’r wybodaeth i ni
Mae’n bwysig deall na fyddwn yn taro bargen ynghylch faint fydd yn cael ei dalu - ond ein nod yw talu pris teg.
Ni all y CMA gyfrifo ‘ymlaen llaw’ faint o wobr y byddwch yn ei chael - yn enwedig oherwydd ei fod yn dibynnu ar werth terfynol y wybodaeth a roddir a fydd ond yn dod yn gwbl amlwg ar ddiwedd ymchwiliad. Mae’n dilyn o hyn mai dim ond ar ddiwedd yr ymchwiliad y gallwn dalu gwobrau. Fodd bynnag, byddwn yn ad-dalu treuliau wrth iddynt godi. Er na fyddwn yn cyfrifo symiau ymlaen llaw, byddwn yn ceisio rhoi rhyw syniad i chi yn fuan yn ein trafodaethau â chi ynghylch ystod eang swm y wobr ariannol bosibl. Dylid deall, serch hynny, na fydd yr amcangyfrif eang iawn hwn yn ein rhwymo i roi gwobr sy’n dod o fewn yr amcangyfrif a roddir - nac yn wir unrhyw wobr.
A ddylwn i gymryd cyngor cyfreithiol cyn penderfynu a ddylwn i gynnig gwybodaeth i’r CMA?
Yn amlwg, bydd y CMA yn gweithredu’n llwyr o fewn y gyfraith yn y ffordd y mae’n defnyddio hysbyswyr. Yn benodol, os bydd amgylchiadau’n mynnu, bydd y CMA yn cael ffurf arbennig o awdurdodiad o dan ddarn o ddeddfwriaeth a elwir yn Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000. Os llwyddir i gael yr awdurdodiad hwn, bydd yn diogelu gweithredoedd hysbyswr wrth ddarparu gwybodaeth i’r CMA, ar yr amod bod y gweithredoedd hynny yn unol â’r awdurdodiad. Felly, ar yr amod eich bod ond yn gweithredu yn y ffordd yr ydym wedi’ch cyfarwyddo, ni all eich gweithredoedd wrth ddarparu gwybodaeth i ni fod yn destun unrhyw atebolrwydd sifil na throseddol.
Er hynny, efallai y byddwch yn dal i fod yn bryderus ynghylch agweddau cyfreithiol eraill fel eich sefyllfa o ran cyfraith cyflogaeth, er enghraifft, os oeddech yn bwriadu rhoi gwybodaeth am eich cyflogwr. Chi sydd i benderfynu a ddylid cymryd cyngor cyfreithiol mewn amgylchiadau o’r fath. Fodd bynnag, os ydych chi am gymryd cyngor cyfreithiol, efallai yr hoffech gysylltu â ni yn gyntaf a gweld a fydd y wybodaeth sydd gennych, neu y gallech fod â mynediad ati, o ddefnydd posibl i ni a beth fyddai’r risgiau i chi wrth gael y wybodaeth. Os ydych chi wedyn yn teimlo y byddai’n dda cymryd cyngor cyfreithiol cyn bwrw ymlaen ymhellach, bydd gennych bob cyfle i wneud hynny, ond ni fydd y CMA yn eich talu i gymryd y cyngor hwnnw. Ni fydd y CMA yn gallu cynnig cyngor cyfreithiol i chi - er byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod gennych ddealltwriaeth resymol o unrhyw risgiau dan sylw y gallwch eu hystyried yn ofalus.
Y peth pwysig ychwanegol i’w gofio yw, ac eithrio yn yr achosion prin hynny lle rydych chi’n cytuno i fod yn dyst, dim ond fel cudd-wybodaeth y byddwn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth er mwyn diogelu eich hunaniaeth rhag cael ei datgelu. O’r herwydd, ni ddylai’ch cyflogwr byth wybod eich bod wedi ein cynorthwyo. Serch hynny, mae’n werth nodi na all cyflogwr ddiswyddo nac erlid gweithiwr fel arall am chwythu’r chwiban ar weithgarwch anghyfreithlon. Gweler Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 ar wefan Protect.
Mae gan y sefydliad Public Concern at Work wybodaeth ddefnyddiol ar ei wefan hefyd am chwythu’r chwiban yng nghyd-destun gweithle ac mae’n gweithredu llinell gyngor. Ewch i wefan Protect am ragor o wybodaeth.
Rwyf wedi bod yn rhan uniongyrchol o’r gweithgarwch cartel y dymunwn roi gwybod amdano. A fyddaf yn dal yn gymwys i gael gwobr ariannol?
O dan bolisi trugaredd y CMA, gall unrhyw gwmni neu unigolyn sydd wedi bod yn rhan uniongyrchol o gartel gael imiwnedd sifil a throseddol llwyr rhag sancsiwn ar yr amod:
-
mai nhw yw’r cyntaf i roi gwybod a chyfaddef eu bod wedi bod yn rhan o’r cartel
-
maent yn cydweithredu’n llawn â’r CMA drwy gydol yr ymchwiliad
-
nid oedd gan y CMA unrhyw ymchwiliad blaenorol i’r cartel.
Nid yw’r CMA yn ystyried y dylai unigolyn mewn amgylchiadau o’r fath fel arfer ennill gwobr ariannol hefyd.
Fodd bynnag, efallai y bydd amgylchiadau lle bydd y CMA yn ystyried gwobr yn ogystal ag imiwnedd rhag sancsiwn o dan y polisi trugaredd. Mae hyn yn fwyaf tebygol o gael ei ystyried lle roedd rôl yr unigolyn yn y cartel yn gymharol ymylol - er enghraifft, gweithiwr a gyfarwyddwyd o bryd i’w gilydd gan ei uwch swyddogion i fynychu cyfarfod cartel ac na ofynnwyd iddo gymryd rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau am y cartel.
Os ydw i’n rhedeg busnes ac yn credu fy mod i wedi bod yn ddioddefwr cartel, a fyddaf yn cael gwobr am roi gwybod am fy mhryderon?
Mae’r rhaglen wobrwyo ariannol mewn gwirionedd wedi’i bwriadu ar gyfer y rhai sydd â’r hyn y gellid ei alw’n wybodaeth ‘fewnol’ am fodolaeth cartel. Yn aml, mae’r CMA yn derbyn cwynion gan fusnesau bod eu cystadleuwyr neu gyflenwyr wedi bod yn rhan o weithgarwch gwrth-gystadleuol ac yn gyffredinol, am resymau amlwg, nid yw cwynion o’r fath yn gallu cael eu cefnogi gan wybodaeth ‘fewnol’ sylweddol am y cartel. O’r herwydd, mae’n annhebygol iawn y bydd gwobr ar gael mewn achosion lle mae achwynwyr yn syml yn rhoi gwybod am eu pryderon cyffredinol am weithgarwch cartel posibl gan gystadleuwyr - hyd yn oed os yw’r pryderon hynny wedi’u hategu gan o leiaf rywfaint o dystiolaeth.