Canllawiau

Cartrefi gofal: hawliau defnyddwyr i breswylwyr a’u teuluoedd

Cyhoeddwyd 16 November 2018

Mae dewis cartref gofal yn benderfyniad hynod bwysig ac yn aml yn un emosiynol. Gall symud i gartref gofal gwahanol os nad oedd y cyntaf yn addas ar eich cyfer chi fod yn faich mawr, felly rhaid i chi fod yn hyderus bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddewis y cartref cywir ar eich cyfer chi. Mae gennych hawliau defnyddwyr hyd yn oed os ydych chi’n talu holl gostau eich gofal neu bod yr awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’r GIG yn talu peth neu’r holl gostau. Bydd gwybod yr hawliau hyn yn eich helpu chi, ac unrhyw un sy’n eich cynorthwyo, i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus wrth i chi ddewis eich cartref gofal. Gall eich hawliau defnyddwyr hefyd eich helpu chi i sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg a’ch diogelu petai pethau yn mynd o chwith.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o’ch hawliau dan gyfraith defnyddwyr. Mae gennych amddiffyniadau eraill sy’n gysylltiedig â’ch diogelwch a safon eich gofal, dan orfodaeth y rheolyddion cenedlaethol canlynol sy’n gyfrifol am arolygu cartrefi gofal:

Dewis cartref gofal

Pan rydych chi, neu rywun sy’n eich cynorthwyo chi, yn cysylltu â chartref gofal am y tro cyntaf, rhaid i’r cartref hwnnw roi gwybodaeth allweddol benodol i chi. Dylai hon fod yn glir ac yn hawdd i’w deall ac angenrheidiol i’ch helpu chi benderfynu, er enghraifft, pa un ai i roi’r cartref hwnnw ar restr fer, trefnu ymweliad neu wneud ymholiadau pellach ai peidio.

Mae’r wybodaeth allweddol hon yn cynnwys:

  • Pa un ai a yw’r cartref gofal yn derbyn pobl a fydd yn talu eu ffioedd eu hunain a hefyd y rheiny y telir eu ffioedd gan yr awdurdod lleol, Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r GIG.
  • Trosolwg o’r mathau o ofal, cyfleusterau a’r gweithgareddau sydd ar gael.
  • Disgrifiad cryno o’r trefniadau staffio.
  • Lle bo’n berthnasol, sgôr neu raddau arolygiad diweddaraf y rheolydd ar gyfer y cartref a lle gallwch ddod o hyd i adroddiad yr arolwg mwyaf diweddar.
  • Unrhyw delerau ac amodau annisgwyl neu bwysig a all fod yn berthnasol ar eich cyfer chi, megis pan fydd y cartref yn gofyn i chi brofi y gallwch dalu am eich gofal eich hun am gyfnod gofynnol a’r posibilrwydd y bydd eich ffioedd gyn cnyddu yn ystod eich arhosiad, os ydych yn talu am eich gofal eich hun.
  • Faint y byddwch yn ei dalu i aros yn y cartref. Bydd hyn yn cynnwys awgrym o beth fydd y costau wythnosol os ydych yn talu am eich gofal eich hun (bydd yr union swm yn dibynnu ar asesiad o’ch anghenion gofal a’r math o ystafell a ddewiswch) ac unrhyw daliadau eraill a fyddwch o bosibl yn gorfod eu gwneud ymlaen llaw, megis blaendaliadau.
  • Pa wasanaethau sy’n cael eu cynnwys yn y ffioedd wythnosol ac a oes unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, am gael cwmni staff gyda chi i apwyntiadau ysbyty) neu ‘ychwanegion’ opsiynol, megis trin gwallt.

Dylai’r wybodaeth allweddol hon gael ei phwysleisio’n amlwg ar wefan y cartref gofal ac mewn unrhyw becynnau wybodaeth neu ddeunydd arall y rhoddir i chi (er enghraifft, mewn taflen ‘ffeithiau allweddol’) a’i egluro i chi, ymlaen llaw, ar eich galwad ffôn cyntaf ac ar ddechrau eich ymweliad cyntaf.

Yn ogfystal, i’ch helpu chi i ddewis cartref, dylai’r cartref eich darparu chi â gwybodaeth ychwanegol bwysig (yn cynnwys gwybodaeth ynghylch unrhyw gyfnod prawf a gynigir, ac o dan ba amgylchiadau y gallent ofyn i chi adael). Dylai’r wybodaeth hon fod yn hawdd i chi ei chyrraedd o ddechrau eich chwiliad a dylai’r cartref gofal ei darparu i chi yn bwrpasol mewn da bryd i chi ei ystyried cyn cytuno i gael asesiad anghenion gofal.

Dylai’r wybodaeth ychwanegol fod yn hawdd i’w chanfod ar wefan y cartref gofal, fod wedi’i chynnwys yn y pecynnau gwybodaeth a gewch ganddynt a’i egluro i chi ar unrhyw ymholiad dilynol. Dylai’r cartref hefyd eich darparu chi, ymlaen llaw, â chopi o’r telerau ac amodau safonol y bydd gofyn i chi eu llofnodi (os ydych yn talu am eich gofal).

Unwaith y bydd y cartref wedi asesu eich anghenion gofal ac rydych wedi dewis y gwasanaethau yr ydych ei eisiau, rhaid iddo gadarnhau’r swm terfynol y bydd angen i chi ei dalu, gan gynnwys cyfradd cyfanswm y ffi wythnosol terfynol.

Dylech gael digon o amser i ystyried y cynnig terfynol cyn i chi ei dderbyn.

Telerau ac amodau

Os ydych yn talu am eich gofal eich hun, bydd cytundeb rhyngoch chi a’r cartref gofal. Rhaid i’r telerau ac amodau yn y cytundeb hwnnw fod wedi’u hysgrifennu yn syml a chlir, yn osgoi jargon, fel y gallwch ddeall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau yn rhwydd.

Rhaid i’r telerau gael eu hysgrifennu a’u cytuno gyda chi mewn ffordd deg ac agored.

Os yw amod mewn cytundeb yn annheg, ni fydd yn ddilys ac ni all y cartref gofal ei ddefnyddio yn eich erbyn. Mae telerau annheg yn cynnwys y rheiny sy’n eich rhoi chi, neu’r unigolyn sy’n arwyddo’r cytundeb ar eich rhan, dan anfantais (er enghraifft, oherwydd eu bod yn rhoi mwy o hawliau i’r cartref gofal nag i chithau).

Gall telerau a all fod yn annheg gynnwys y rheiny sy’n:

  • Defnyddio telerau ‘cuddiedig’ nad ydych wedi cael cyfle i’w darllen a’u deall.
  • Ddim yn gwneud y cartref gofal yn gyfrifol os yw pethau’n mynd o chwith a bod y bai arnynt hwy.
  • Gofyn i’r ffioedd gael eu talu am gyfnodau estynedig wedi i breswylydd farw.
  • Caniatáu i’r cartref gofal wneud newidiadau annisgwyl i’ch ffioedd.
  • Gofyn am unrhyw daliadau ymlaen llaw, oni bai ei fod yn flaendal teg neu daliad o’r ffioedd preswyl rheolaidd ymlaen llaw.

Beth os bydd rhywbeth yn newid tra byddaf yn y cartref gofal?

Dylech dderbyn y gwasanaeth yr ydych wedi cytuno arno gyda’r cartref gofal ac nid rhywbeth sy’n sylweddol wahanol.

Os yw’r cytundeb yn caniatáu i’r cartref gofal wneud llawer o newidiadau er ei fudd ei hun, mae hyn yn debygol o fod yn annheg. Dylai’r sefyllfaoedd ble gall telerau eich cytundeb neu’r gwasanaeth a ddarperir gan y cartref gofal newid fod yn sefyllfaoedd prin yn unig.

Os bydd newidiadau, dylech gael o leiaf 28 diwrnod o rybudd ohonynt. Os ydych yn anhapus, dylech allu adael y cartref heb gosb cyn bod y newid yn dod i rym.

Dylai telerau eich cytundeb hefyd egluro’n glir dan ba amgylchiadau all eich ffioedd newid a sut fydd y newidiadau yn cael eu cyfrifo. Mae hyn yn cynnwys lle bydd adolygiad blynyddol o’r ffioedd neu lle mae anghenion eich gofal yn newid yn sylweddol. Os yw eich cytundeb yn rhoi hawl digyfyngedig i’r cartref gofal gynyddu eich ffioedd neu wneud newidiadau annisgwyl, mae hyn yn debygol o fod yn annheg.

Gofyn i chi adael cartref gofal

Dylai’r cartref gofal egluro’n glir, ymlaen llaw, y rhesymau pam y gallent ofyn i chi adael a gosod y rhain yn eich cytundeb.

Rhaid i’r rhesymau hyn fod yn rhai dilys, er enghraifft:

  • Ni all y cartref gofal fodloni anghenion eich gofal mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud newidiadau rhesymol.
  • Nid ydych wedi talu’ch ffioedd dro ar ôl tro a bod gennych ôl-ddyledion sylweddol.

Ni ddylai’r cartref gofal ofyn i chi adael heb ymgynghori â chi yn gyntaf, unrhyw un sy’n eich cynorthwyo chi, ac unrhyw bobl broffesiynol annibynnol perthnasol eraill.

Dylech gael o leiaf 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig i adael.

Lefel y gwasanaeth

Rhaid i staff y cartref gofal ymddwyn â gofal a medrusrwydd rhesymol a darparu’r gwasanaeth a addawyd ganddynt. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallech hawlio iawndal yn sgil tor-cytundeb.

Er enghraifft, rhaid iddynt sicrhau bod adeiladau ac offer y cartref gofal yn addas a diogel, a rhaid i chi gael eich trin ag urddas a pharch. Os ydynt yn datgan eu bod am ddarparu math penodol o ofal (megis gofal lliniarol), dylent wneud hynny mewn ffordd gymwys.

Beth allwch chi ei wneud os bydd rhywbeth yn mynd o chwith?

Mae gennych hawl i gwyno am eich gofal neu sut cewch eich trin bob amser.

Rhaid i’r cartref gofal ei gwneud hi’n hawdd i chi gwyno ac ymdrin â’ch cŵyn yn sydyn a theg. Dylent eich cyfeirio chi at bobl all eich cefnogi a’ch cynorthwyo chi, megis eiriolaeth, dehonglydd neu wasanaethau cynghori.

Ni ddylai staff eich cartref gofal fyth geisio eich perswadio i beidio â gwneud cŵyn. Ni ddylent fygwth i gyfyngu neu wahardd eich ymwelwyr neu ofyn i chi adael os ydych yn gwneud cŵyn.

Rhaid i weithdrefn ymdrin â chwynion y cartref gofal fod yn ysgrifenedig a dylai:

  • Bod yn hawdd ei chanfod ar eu gwefan, yng nghanllaw eu gwasanaeth ac yn y cartref gofal ei hun.
  • Bod yn hawdd ei deall a’i defnyddio, ac egluro’n glir pa bryderon a materion mae’n ymdrin â nhw.
  • Bod ar gael mewn gwahanol ieithoedd a ffurfiau (mewn cymaint ag sy’n bosibl) megis print mawr, Braille a chlywedol.
  • Gosod amserlenni clir a rhesymol os yw cŵyn yn gofyn am ymchwiliad pellach.
  • Diogelu’ch anhysbysrwydd, mor bell â phosibl.
  • Egluro sut allwch ddwysáu eich cŵyn i rywun uwch yn y cartref gofal os nad ydych yn credu ei fod wedi’i drin yn briodol.
  • Egluro ble gallwch fynd (er enghraifft i’r Ombwdsmon, neu’r Arolygiaeth Gofal yn yr Alban) os ydych yn anhapus gyda sut mae’r cartref gofal wedi ymdrin â’ch cŵyn.

Fel preswylydd cartref gofal, mae gennych hawliau defnyddwyr. Gall cartrefi gofal nad ydynt yn bodloni eu rhwymedigaethau dorri cyfraith defnyddwyr a gallent wynebu gweithred o orfodaeth gan Wasanaethau Safonau Masnach neu’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).

Os nad ydych yn credu eich bod yn cael eich trin yn deg, neu’n credu bod cartref gofal yn torri cyfraith defnyddwyr, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr cenedlaethol Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06 (neu cysylltwch â 03454 04 05 05 i siarad ag ymgynghorydd Cymraeg), neu ewch i wefan Cyngor ar Bopeth. Yn ogystal â rhoi cyngor i chi, gall y llinell gymorth defnyddwyr drosglwyddo gwybodaeth ynghylch cwynion i Safonau Masnach. Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Consumerline ar 0300 123 6262, neu ymweld â gwefan Consumerline.

Gallwch gael rhagor o gyngor a chymorth i’ch cynorthwyo wrth ddewis cartref gofal o ystod o wefannau eraill fel Which?, neu, yn ddibynnol ar ba wlad yr ydych ynddi, mae yna nifer o gyrff eraill a all roi cymorth:

Nodwch: nid yw’r farn a gyflwynir gan y sefydliadau hyn o anghenraid yn adlewyrchu barn y CMA. Nid yw’r CMA yn gyfrifol nac yn hyrwyddo’r cynnwys sydd ar gael ar wefannau eraill nac unrhyw gynnyrch neu wasanaethau y gallent eu cynnig i chi.