Canllawiau

Twyll gosod cynigion: cyngor ar gyfer caffaelwyry y sector cyhoeddus

Diweddarwyd 20 June 2016

Beth yw twyll gosod cynigion?

Twyll gosod cynigion yw pan fydd cyflenwyr yn cytuno i gyfyngu cystadleuaeth yn y broses gaffael, gan wadu pris teg i’r cwsmer. Gall cytundebau twyll gosod cynigion fod ar sawl ffurf, megis:

  • cylchdroi cynigion – pan fydd cwmnïau yn cytuno i gymryd eu tro i gyflwyno’r cynnig isaf
  • ffrwyno cynigion – pan fydd un cwmni neu fwy yn cytuno i beidio cynnig, neu i dynnu cynnig yn ôl
  • prisio ffug – bydd cynigwyr yn trefnu i un neu fwy ohonynt gyflwyno cynnig ffug uchel, gan greu camargraff i’r caffaelwr o’r pris cystadleuol

Pam ddylai caffaelwyr ofidio am dwyll gosod cynigion

Gall gostio arian i’r trethdalwr a gall eithrio cystadleuwyr mwy effeithiol o’r broses fidio.

Gall hefyd leihau ysgogiad cyflenwyr i wella ansawdd neu arloesi.

Sut i nodi patrymau cynnig amheus

  • cynigion a dderbyniwyd ar yr un pryd neu sy’n cynnwys geiriad tebyg neu anarferol
  • gwahanol fidiau gyda phrisiau unfath
  • cynigion yn cynnwys llai o fanylion na’r disgwyl
  • y cynigiwr tebygol yn methu cyflwyno cynnig
  • y cynigiwr isaf yn peidio cymryd y contract
  • cynigion sy’n gostwng pan fydd cynigiwr newydd neu anghyson yn ymddangos
  • y cynigiwr llwyddiannus yn mynd ymlaen i roi’r gwaith ar gontract i gyflenwr oedd wedi cyflwyno cynnig uwch
  • gostyngiadau disgwyliedig yn diflannu neu newidiadau munud olaf eraill
  • cynigion sy’n amheus o uchel heb wahaniaethau cost rhesymegol (er enghraifft, pellteroedd danfon)
  • cynigiwr sy’n cyfaddef i drafodaethau gydag eraill neu sydd â gwybodaeth am fidiau blaenorol

Beth all caffaelwyr y sector cyhoeddus ei wneud i leihau’r risgiau o ymddygiad gwrthgystadleuol?

  • chwiliwch am batrymau cynnig amheus, a hysbysu cyflenwyr y byddwch yn chwilio
  • ystyriwch ofyn i gynigwyr lofnodi cymalau atal cydgynllwynio ac/neu dystysgrifau o gynigion annibynnol
  • dylech osgoi rhestrau rheoli tendr sy’n annog cwmnïau i roi cynnig hyd yn oed os nad ydynt eisiau’r gwaith
  • rhannwch eich profiad gyda chaffaelwyr eraill yn y sector cyhoeddus

Gall twyll gosod cynigion gostio arian i’r trethdalwr. Byddwch yn effro i’r posibiliad bod eich cyflenwyr yn rigio cynigion ac adrodd am unrhyw ymddygiad amheus i’r CMA.

Adrodd am gartél:

Llinell cartéls: 020 3738 6888

E-bost: Cartelshotline@cma.gov.uk

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.