Papur polisi

Adolygiad Canol Tymor y BBC 2024

Asesiad y llywodraeth o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoleiddio’r BBC a’r argymhellion dilynol.

Dogfennau

Adolygiad Canol Tymor y BBC 2024

Manylion

Sefydlwyd y BBC gan y Siarter Frenhinol. Yn dilyn Adolygiad y Siarter yn 2015/16, gwnaed newidiadau sylweddol i’r trefniadau llywodraethu a rheoleiddio ar gyfer y BBC: cynhelir llywodraethiant y BBC bellach gan Fwrdd unedol, tra bo rheoliad wedi’i drosglwyddo i reoleiddiwr annibynnol, sef Ofcom. 

Asesodd yr Adolygiad Canol Tymor berfformiad y gwaith o lywodraethu a rheoleiddio’r BBC hanner ffordd drwy gyfnod y Siarter. Fe’i cynhaliwyd ar sail ymgynghoriad wedi’i dargedu â rhanddeiliaid sydd â diddordeb, gan gynnwys y BBC ac Ofcom. Asesodd y llywodraeth dystiolaeth ar draws 7 thema benodol ac mae wedi nodi argymhellion i’r BBC ac Ofcom, sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad hwn. Gyda’i gilydd, bydd y pecyn yn cefnogi gwelliannau yn y ffyrdd y mae llywodraethiant a rheoliad y BBC yn gweithredu er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus yn well am weddill y cyfnod hwn o’r Siarter. Mae’r Adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at faterion a oedd y tu hwnt i gwmpas yr Adolygiad Canol Tymor, ond a fydd yn llywio ffocws y llywodraeth yn Adolygiad nesaf y Siarter.

Cyhoeddwyd ar 22 January 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 April 2024 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.