Canllawiau

Anfonwch Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol

Diweddarwyd 27 May 2021

O fis Ebrill 2021 ymlaen, os oes angen i chi wneud cywiriad i swm a gyflwynwyd mewn Amser Real ar gyfer blwyddyn sydd wedi’i chau, bydd angen i chi ddefnyddio’r broses Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS). Dylech ddefnyddio Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 neu cyn hynny yn unig.

Basic PAYE tools - home page (Welsh)

Rhagarweiniad

Dyma’r canllaw Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol ar gyfer gwneud Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU). Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol i weithredu’r gyflogres ar hyn o bryd.

Y sgrinluniau yn y canllaw hwn yw’r prif rai y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Nid ydym wedi cynnwys yr holl sgriniau gan fod rhai na fydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu defnyddio oherwydd eu bod yn berthnasol i amgylchiadau mwy anarferol.

Oherwydd gwelliannau parhaus, gall y sgriniau yn y gwasanaeth Offer TWE Sylfaenol edrych ychydig bach yn wahanol i’r rheiny a ddangosir yn y canllaw hwn.

Dechrau arni

Mae’r canllaw hwn yn tybio eich bod yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol i redeg y gyflogres a’ch bod eisoes wedi:

  • lawrlwytho a gosod y feddalwedd
  • gosod y cyflogwr
  • gosod eich cyflogeion

Cael gwybod a allwch greu cyflwyniadau EYU lluosog

Awgrymwn eich bod yn cwblhau’r broses lawn isod ar gyfer pob cyflogai ar wahân.

Cam 1: dewis y cyflogwr cywir

Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr at yr Offer TWE Sylfaenol, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr cywir.

O’r sgrin hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o gornel chwith uchaf eich sgrin.

Yn yr enghraifft isod, mae ‘Harveys’ wedi ei ddewis.

Basic PAYE tools - home page (Welsh)

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y Cyflogwr’ fel y dangosir isod.

Gwiriwch fod y flwyddyn dreth gywir wedi ei dewis, dangosir hyn yn y blwch coch yn yr enghraifft isod.

Er enghraifft, os ydych yn creu EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y flwyddyn dreth 2019 i 2020, fel y dangosir isod.

Basic PAYE tools - (Welsh)

Cam 2: dewis y cyflogai cywir ar gyfer y cyflwyniad EYU

Dewiswch y cysylltiad ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen.

Basic PAYE tools - employer details (Welsh)

Mae’r sgrin nesaf yn dangos rhestr o’r holl ‘Cyflogeion cyfredol’ ar gyfer y cyflogwr.

Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr.

Basic PAYE tools - employer details - manage employees (Welsh)

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’, dewiswch ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ o’r ddewislen.

Basic PAYE tools - manage employees (Welsh)

Darllenwch yr arweiniad ar y sgrin nesaf ac yna dewiswch ‘Ychwanegu Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ i fynd yn eich blaen.

Basic PAYE tools - employee details (Welsh)

Nodi’r wybodaeth gywir

Byddwch nawr yn gweld y sgrin ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) – Manylion y cywiriad’.

Pwrpas y sgrin hon yw rhoi cyfle i chi nodi’r symiau cywir pan fo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys:

  • mae swm wedi’i ddangos yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’
  • mae gennych ffigurau newydd i’w rhoi ar gyfer eitemau nad ydynt wedi’u cyflwyno o’r blaen

Byddwch yn gweld bod y symiau yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’ wedi eu mewnforio o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) diwethaf ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Gwiriwch fod y rhain yn unol â’r disgwyl.

Darllenwch y neges rybuddio a ddangosir ar y sgrin nesaf oherwydd gallai hyn effeithio ar eich cyflwyniad EYU.

Os nad ydynt, gwiriwch yr arweiniad drwy ddewis y botwm ‘?’, os nad ydych yn siŵr o hyd, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

Basic PAYE tools - Earlier Year Update (Welsh)

Enghraifft

Os gwnaethoch gyflwyno ffigur ar gyfer cyflog o £20,000 ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn ar eich FPS diwethaf ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020 ond rydych wedi sylweddoli y dylai hyn wedi bod yn £21,000, mae’n rhaid i chi nodi £21,000 ar y cam hwn.

Pwysig

Os na wnaethoch anfon yr FPS diwethaf ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020 i CThEM, yna ni fydd y gwerthoedd yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’ yn dangos y data diweddaraf a anfonwyd i CThEM.

Os oes unrhyw daliadau wedi’u creu nad ydynt erioed wedi’u cyflwyno ond y dylid bod wedi’u hanfon, bwriwch olwg dros y ‘Crynodeb o’r flwyddyn hyd yn hyn ar gyfer y cyflogai’ a’i argraffu er mwyn rhoi cofnod o’r ffigur cywir i’w ddefnyddio wrth i chi lenwi’r EYU. Wedyn dilëwch y taliadau sydd heb eu cyflwyno cyn creu’r EYU.

Os yw’ch cyflogai wedi cael dynodydd (ID) y gyflogres, rhif gwaith neu rif cyflogai, a gwnaethoch ei ddefnyddio wrth osod eich cyflogai yn wreiddiol, mae’n rhaid i chi ei nodi yma. Gallai methu â gwneud hynny arwain at greu cofnod cyflogaeth dyblyg ar gyfer y cyflogai hwn. Fel arall, gadewch y maes hwn yn wag.

Cod treth

Yn y blwch ‘Manylion treth’, nodwch y cod treth a’r sail weithredu sy’n gywir ar gyfer y flwyddyn honno.

Llythrennau categori Yswiriant Gwladol

Mae llythyren Yswiriant Gwladol eisoes wedi’i dangos ynghyd â symiau’r enillion sy’n agored i Yswiriant Gwladol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn flaenorol. Nodwch y symiau cywir ar gyfer y llythyren Yswiriant Gwladol honno.

Os oes angen i chi nodi manylion ar gyfer llythyren Yswiriant Gwladol wahanol, sgroliwch lawr i’r gwymplen nesaf fel y dangosir yn y sgrinlun isod.

Basic PAYE tools - Earlier Year Update - correction details (Welsh)

Os oes swm negyddol o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) y cyflogai ar yr EYU wrth lenwi’r sgrin hon:

  • nodwch ‘Iawn’:
    • os oes gordaliad o CYG y cyflogai sydd wedi’i ad-dalu i’r cyflogai
    • er mwyn cadarnhau mai diben yr EYU yw diwygio cyflwyniad blaenorol ond nad yw ad-daliad o CYG y cyflogai yn ddyledus
  • nodwch ‘Na’ os oes gordaliad o CYG y cyflogai nad yw wedi’i ad-dalu i’r cyflogai
Basic PAYE tools - Earlier Year Update - correction details - National Insurance details (Welsh)

Taliadau statudol a benthyciadau myfyrwyr

Nodwch fanylion unrhyw rai o’r canlynol y mae angen eu haddasu:

  • taliadau statudol
  • didyniadau benthyciad myfyriwr
  • didyniadau benthyciad ôl-raddedig

Pan fyddwch wedi llenwi pob blwch perthnasol ar y sgrin hon, dewiswch ‘nesaf’ i fynd yn eich blaen.

Pwysig

Mae’n rhaid i chi nodi’r symiau llawn yn y golofn ‘Swm cywir’, ac nid y gwahaniaeth rhwng y ffigur a gyflwynwyd yn flaenorol a’r ffigur cywir.

Dewiswch ‘nesaf’ i symud i’r sgrin nesaf.

Adolygu EYU

Bydd y sgrin nesaf yn dangos y gwahaniaethau rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a’r symiau cywir.

Y ‘gwahaniaethau’ yw’r ffigurau y bydd angen eu hanfon i CThEM ar yr EYU.

Basic PAYE tools - home page (Welsh)

Sicrhewch eich bod yn adolygu’r sgrin hon yn llwyr a gwiriwch fod y gwahaniaethau rhwng y ffigurau blaenorol a’r rhai wedi’u cywiro yn cyfateb â’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl.

Bydd y data hwn yn ffurfio’r cyflwyniad a anfonir i CThEM.

Dewiswch ‘nesaf’ i symud i’r sgrin nesaf.

Cael gwybod a ydych wedi gwneud camgymeriad

Os nad ydych wedi cyflwyno’r EYU hyd yn hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • newid y manylion ‘swm cywir’
  • dileu’r EYU a dechrau eto

I wneud hyn, dewiswch y cyflogai perthnasol o’r ddewislen, yna dewiswch ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ o’r ddewislen.

Basic PAYE tools - Earlier Year Update - correction details - overpayment (Welsh)

Pwysig

Unwaith yr ydych wedi cyflwyno EYU ar gyfer cyflogai, ni allwch ei newid. Os oes rhaid i chi wneud newidiadau pellach ar gyfer y cyflogai hwn ar gyfer yr un flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi greu EYU arall.

Cam 3: anfon yr EYU

Rydych nawr wedi creu’r EYU yn barod i’w anfon i CThEM.

Gallwch greu EYU ar gyfer cyflogeion eraill drwy ailadrodd Cam 2 uchod, ond efallai y byddai’n well gennych anfon yr un rydych wedi’i greu cyn dechrau gyda chyflogai arall.

Pan fyddwch wedi gorffen creu’r EYU, mae’n rhaid i chi anfon y cyflwyniad(au) i CThEM.

Dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr o gyflogwyr ar y ‘sgrin gartref’.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’.

Basic PAYE tools - review Earlier Year Update (EYU) (Welsh)

Gallwch weld yma fod un cyflwyniad sydd heb ei wneud, sef yr EYU ar gyfer Ethan Morgan.

Dewiswch ‘anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno’.

Basic PAYE tools - oustanding submission details (Welsh)

Darllenwch yr wybodaeth ar y sgrin nesaf, ac yna dewiswch ‘nesaf’. Dewiswch y cysylltiad ‘Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud’ o’r ddewislen.

Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y blychau gwag isod ar gyfer cyflwyniadau ar-lein, ac yna dewiswch nesaf.

Basic PAYE tools - employer details - change employer details (Welsh)

Dylech wedyn gael y neges o lwyddiant ganlynol.

Yn olaf, byddwch yn cael sgrin sy’n dangos canlyniadau’ch cyflwyniad ac yn cynnwys cyfeirnod unigryw ar gyfer eich cyflwyniad.

Pwysig

Ewch ati i argraffu unrhyw gyflwyniadau EYU, a’u cadw gyda chofnodion eich cyflogres, er mwyn eich atgoffa os bydd unrhyw ymholiadau pellach ynghylch cofnod y cyflogai hwn.

Cam 4: Codau gwall Offer TWE Sylfaenol

Mae CThEM yn ymwybodol bod rhai defnyddwyr Offer TWE Sylfaenol wedi cael negeseuon gwall wrth geisio cyflwyno EYU. Mae’r negeseuon hyn yn golygu nad yw’ch cyflwyniad wedi cyrraedd CThEM yn llwyddiannus. Mae’r tabl canlynol yn dangos y neges wall y gallech ei gweld, yn ogystal â disgrifiad o’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i gywiro’r cyflwyniad.

Neges wall Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Mae Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon neu Gyfeirnod TWE y Cyflogwr yn anghywir Mae Cyfeirnod y Cyflogwr a/neu Gyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon yn anghywir. Gwiriwch y ddau ohonynt yn erbyn gwaith papur oddi wrth CThEM a diwygio’r un anghywir. I gael help i wneud hyn, gweler y canllaw sy’n ymwneud â defnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer hysbysu mewn amser real ac ewch drwy’r adrannau ‘Llywio drwy’r Offer TWE Sylfaenol’ a ‘Trosolwg cyflogwr’ nes eich bod yn dewis ‘Newid manylion y cyflogwr’.
Ni ellir derbyn y cyflwyniad hwn gan nad yw’r dyddiad rhagddiffiniedig ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol wedi mynd heibio eto Os oeddech yn ceisio anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2017 i 2018, ni allwch anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2017 i 2018 tan 20 Ebrill 2018. Arhoswch tan 20 Ebrill 2018, yna anfonwch yr EYU.
Ni ellir derbyn y cyflwyniad hwn gan nad yw’n syrthio o fewn y cyfnod cyflwyno cymwys Os oeddech yn ceisio anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2012 i 2013, ni allwch gyflwyno cyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar gyfer y flwyddyn dreth 2012 i 2013, oni bai eich bod ymhlith un o’r nifer fach o gyflogwyr a gymerodd ran yn y peilot RTI yn ystod y blynyddoedd dreth 2012 i 2013 neu 2013 i 2014.
Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflenni diwygiedig P35 a P14. Ni allwch wneud hyn gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol. Efallai y bydd y feddalwedd a ddefnyddioch i redeg eich cyflogres yn ystod y flwyddyn dreth 2012 i 2013 yn eich galluogi i wneud hyn, fel arall gallwch ddefnyddio’r ffurflenni ar-lein sydd yn rhan o wasanaeth TWE Ar-lein CThEM.
- Cod gwall: 7900
- Mae’r [ECON] yn orfodol os yw un o’r canlynol, ‘D’, ‘E’, ‘I’, ‘K’, ‘L’, ‘N’, ‘O’, yn rhan o unrhyw [LYTHYRENYG]
- Mae [ECON] yn orfodol os yw un o’r canlynol, ‘D’, ‘E’, ‘I’, ‘K’, ‘L’, ‘N’, ‘O’, yn rhan o unrhyw [LYTHYRENYG]
- Neges ddiagnostig:
Methiant i arddel:
Ni ellir anfon yr EYU hwn i CThEM gan fod gan y cyflogai lythyren CYG sydd wedi’i chontractio allan (D, E, I, K, L, N neu O) ond nid ydych wedi darparu Rhif Contractio Allan y Cyflogwr (ECON).

Cefndir:
- cyfeirnod yw ECON a bennir i gyflogwr sy’n gweithredu, neu sy’n rhan o grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu, cynllun pensiwn wedi’i gontractio allan ar gyfer ei gyflogeion
- gall cyflogai fod ar lythyren CYG wedi’i chontractio allan (D, E, L, I, K, N neu O) dim ond os oes gan y cyflogwr gynllun pensiwn wedi’i gontractio allan y mae’r cyflogai yn aelod ohono
- os oes gennych gynllun pensiwn wedi’i gontractio allan, bydd gennych ECON

Camau sydd eu hangen:
Mae’n rhaid i chi naill ai:
- Ychwanegu’r ECON at fanylion y cyflogwr. I gael help i wneud hyn, gweler y canllaw sy’n ymwneud â defnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer hysbysu mewn amser real ac ewch drwy’r adrannau ‘Llywio drwy’r Offer TWE Sylfaenol’ a ‘Trosolwg cyflogwr’ nes eich bod yn dewis ‘Newid manylion y cyflogwr’.
Mae’r ECON i’w weld ar y dystysgrif contractio allan a anfonir gan CThEM, ac a anfonwyd yn flaenorol gan Gyllid y Wlad neu’r Adran Nawdd Cymdeithasol, pan fo cyflogwr yn dewis cael ei gontractio allan. Os na allwch ddod o hyd i’ch ECON, cysylltwch â’r llinell gymorth ar gyfer Pensiynau wedi’u Contractio allan.

NEU
Os nad oes gennych ECON cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM drwy ffonio: 0300 200 1900, a rhowch wybod iddynt eich bod yn gweld cod gwall 7900 ac nad oes gennych ECON.