Canllawiau

Osgoi gwneud camgymeriadau wrth lenwi ffurflen atwrneiaeth arhosol

Diweddarwyd 5 October 2023

Applies to England and Wales

Crynodeb

Mae Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi (y ‘rhoddwr’) benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn ‘atwrneiod’) i’ch helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros yr hyn sy’n digwydd i chi os cewch chi ddamwain neu salwch ac nad ydych chi’n gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun (‘nid oes gennych alluedd meddyliol’).

Ynglŷn â’r canllawiau hyn

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni LPA ac osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.

Yn y canllawiau hyn, mae ‘chi’ yn golygu’r rhoddwr.

Mae’n bwysig bod y ffurflenni LPA yn cael eu llenwi’n gywir. Efallai na fydd yr atwrneiod a benodwyd gennych yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os oes camgymeriad yn yr LPA.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich LPA, gallai olygu:

  • oedi yn y broses gofrestru

  • nad yw eich LPA yn ddilys dan y gyfraith

  • ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) gofrestru’r LPA o gwbl

Weithiau gall y broses ymgeisio ymddangos yn gymhleth. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut mae osgoi’r camgymeriadau mwyaf cyffredin.

I’ch helpu i leihau’r siawns o wneud camgymeriadau, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein ‘Gwneud atwrneiaeth arhosol’ Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk. Mae hefyd yn helpu i’ch tywys drwy’r broses. Dim ond yn Saesneg y mae’r gwasanaeth hwn ar gael.

Defnyddio’r ffurflen gywir ar gyfer eich LPA

Mae dwy ffurflen LPA ar gael:

  • LP1F ar gyfer materion ariannol ac eiddo

  • LP1H ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles

Mae’r rhan fwyaf o adrannau’r ffurflenni yn debyg. Gwnewch yn siŵr bod gennych:

  • y tudalennau cywir ar gyfer eich math o chi o LPA

  • pob tudalen â rhif 1 i 20, gan gynnwys y dudalen wybodaeth (adran 8, tudalen 9)

  • unrhyw daflenni parhad gofynnol (dim ond os yw’n berthnasol)

Edrychwch ar waelod ochr dde pob tudalen i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ffurflen gywir a bod ei thudalennau mewn trefn.

Tynnir sylw at hyn yn y blychau coch yn y delweddau isod.

Enghreifftiau o iechyd a lles. Nodyn ‘LP1H’:

Enghreifftiau o faterion ariannol ac eiddo. Nodyn ‘LP1F’:

Os ydych chi’n gwneud cais am y ddau LPA ar yr un pryd, cadwch y tudalennau iechyd a lles ar wahân i’r tudalennau materion eiddo ac ariannol. Os byddwch yn cymysgu’r tudalennau, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud LPA newydd a thalu’r ffi eto.

Argraffu eich LPA

Y ffordd hawsaf o lenwi LPA yw defnyddio ‘gwasanaeth ar-lein ‘Gwneud atwrneiaeth arhosol’. Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n helpu i’ch tywys drwy’r broses a gall helpu i leihau camgymeriadau. Ar y diwedd, bydd angen i chi argraffu’r ffurflen er mwyn iddi gael ei llofnodi a’i dyddio. Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Saesneg yn unig.

Neu, efallai y byddwch yn penderfynu argraffu’r ffurflenni i’w llenwi eich hun. Os na allwch chi argraffu’r ffurflenni eich hun, gallwch ofyn i ni anfon pecyn LPA i’ch cyfeiriad drwy ffonio ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300.

Mae’r LPA yn ffurflen gyfreithiol, felly mae angen ei hargraffu’n glir; dylai’r ffurflenni gyfateb i sut maen nhw’n edrych ar-lein. Gwnewch yn siŵr bod eich meddalwedd PDF yn cael ei ddiweddaru i atal problemau posibl.

Gwiriwch bopeth ar y ffurflen cyn ei hargraffu, gan gynnwys manylion sydd wedi’u llenwi’n barod os ydych chi wedi gwneud eich LPA ar-lein. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl eiriau wedi’u hargraffu ar y tudalennau cywir ac nad ydynt yn parhau i’r dudalen nesaf.

Ewch i dudalen ffurflen atwrneiaeth arhosol i weld sut dylai’r ffurflenni edrych. Os nad yw eich ffurflenni LPA yn cyfateb i sut maen nhw’n edrych ar-lein, rhaid i chi eu hailargraffu neu argraffu’r ffurflenni’n uniongyrchol o’r wefan.

Darparwr y dystysgrif

Mae darparwyr tystysgrifau yn bobl ddiduedd sy’n cadarnhau eich bod yn deall beth rydych chi’n ei wneud, ac nad oes neb yn eich gorfodi i wneud yr LPA.

Rhaid i chi ddewis darparwr tystysgrif sy’n ddiduedd. Mae bod yn ddiduedd yn golygu y gall darparwr y dystysgrif farnu neu ystyried yr LPA yn deg heb adael i’w buddiant eu hun ddylanwadu ar eu rôl. Dyma enghreifftiau o bobl na fyddant yn cael eu derbyn: aelodau o’r teulu, atwrnai, eich cyflogai.

Gallwch edrych ar y rhestr o bwy all ac na all fod yn ddarparwr tystysgrif yn canllawiau LP12 (Rhan A10 – Llofnod: darparwr tystysgrif) Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Gwneud camgymeriadau a gwneud cywiriadau i’ch LPA

Bydd angen i’ch atwrneiod ddangos eich dogfen LPA i drydydd partïon pan fyddant yn dechrau gweithredu ar eich rhan. Felly, mae’n bwysig bod yr holl fanylion ar yr LPA yn gywir.

Peidiwch â defnyddio unrhyw fath o hylif cywiro na sticeri gan na fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu cofrestru eich LPA a bydd yn rhaid i chi dalu eto am LPA newydd.

Mae angen cywiro a llofnodi pob camgymeriad ar ffurflen LPA.

Rhaid i’r person a wnaeth y camgymeriad roi llythrennau cyntaf ei enw wrth ymyl y cywiriad. Dangosir hyn yn yr enghreifftiau isod.

Enghreifftiau o gywiriadau

Enghraifft 1

Os ydych wedi rhoi’r dyddiad geni anghywir ar gyfer eich atwrnai yn adran 2, dylech chi (y rhoddwr):

  • roi llinell drwy’r dyddiad anghywir

  • ysgrifennu’r dyddiad cywir wrth ei ymyl

  • ysgrifennu eich llythrennau cyntaf wrth ymyl y cywiriad

Yn yr enghraifft hon, ‘Mr Joe Bloggs’ yw’r atwrnai a ‘Mr John Smith’ yw’r rhoddwr.

Enghraifft 2

Os yw’r tyst wedi rhoi’r cyfeiriad anghywir ar adran 9, dylai’r tyst:

  • roi llinell drwy’r cyfeiriad anghywir

  • ysgrifennu’r cyfeiriad cywir wrth ei ymyl

  • ysgrifennu eu llythrennau cyntaf wrth ymyl y cywiriad

Manylion y rhoddwr a’r atwrnai

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod yr holl fanylion ar eich cyfer chi a’ch atwrneiod yn gywir. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • enw llawn (yr enw ar eich dogfen(nau) adnabod)

  • dyddiad geni yn y fformat DD/MM/BBBB

  • cyfeiriad a chod post

Byddwch yn ysgrifennu’r wybodaeth hon yn adran 1 ac adran 2 y ffurflen. Mae hyn hefyd yn berthnasol i adran 4 os byddwch yn penderfynu cael atwrneiod gwahanol.

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad, er enghraifft eich bod wedi ysgrifennu dyddiad geni anghywir, cyfeiriwch at yr adran ‘Gwneud camgymeriadau a gwneud cywiriadau i’ch LPA’ yn y canllawiau hyn.

Iechyd a lles: triniaeth cynnal bywyd (adran 5)

Rhaid i chi ddewis naill ai opsiwn A neu opsiwn B. Rhaid i chi lofnodi a dyddio un opsiwn yn unig.

Mae gan yr adran hon gynllun gwahanol i adrannau eraill y ffurflen LPA. Y gwahaniaeth yw sut mae manylion y tystion yn cael eu gosod. Maent yn mynd ar draws gwaelod y ffurflen.

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod y tyst yn rhoi ei enw a’i gyfeiriad llawn, ac yn llofnodi yn y blwch cywir:

Rhaid llenwi’r adran hon yn gywir er mwyn i’r LPA fod yn ddilys. Gall unrhyw wallau ar y dudalen hon olygu y bydd yn rhaid i chi wneud LPA newydd a thalu’r ffi eto.

Llofnodi a dyddio eich LPA

Rhaid i chi (y rhoddwr) bob amser fod y person cyntaf i lofnodi eich LPA. Os na allwch lofnodi neu farcio eich LPA, gweler ‘Rhoddwyr na allant lofnodi na marcio: Tudalen barhad 3’ yng nghanllawiau LP12 Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhaid i chi sicrhau bod adrannau eich LPA yn cael eu llenwi, eu llofnodi a’u dyddio (ar y diwrnod llofnodi) yn y drefn ganlynol:

  1. rydych chi yn llofnodi ac yn dyddio adran 5 (LPA iechyd a lles yn unig)

  2. mae eich tyst yn llofnodi adran 5 (LPA iechyd a lles yn unig)

  3. rydych chi yn llofnodi ac yn dyddio dalennau parhad 1 a 2 (dim ond os yw’n berthnasol)

  4. rydych chi yn llofnodi ac yn dyddio adran 9

  5. mae eich tyst yn llofnodi adran 9

  6. mae’r darparwr tystysgrif o’ch dewis yn llofnodi a dyddio adran 10

  7. mae’r atwrnai o’ch dewis yn llofnodi ac yn dyddio adran 11 (os oes gennych fwy nag un atwrnai, rhaid i chi sicrhau bod pob atwrnai yn llofnodi ac yn dyddio ar ôl i adran 10 gael ei chwblhau)

  8. mae tyst eich atwrnai yn llofnodi adran 11

  9. rhaid i’r ceisydd/ceiswyr (chi neu atwrnai/atwrneiod) lofnodi a dyddio adran 15 ar ôl i’r holl atwrneiod gwblhau eu hadran 11

Dyma enghraifft o lofnodi a dyddio eich LPA mewn trefn:

Adran 5 wedi’i llenwi gan y rhoddwr a’r tyst- 09/09/2022
Dalen barhad 1 a gwblhawyd gan y Rhoddwr- 09/09/2022
Adran 9 wedi’i llenwi gan y rhoddwr a’r tyst- 09/09/2022
Adran 10 wedi’i llenwi gan ddarparwr y dystysgrif- 15/09/2022
Adran 11 wedi’i llenwi gan atwrnai a’u tyst- 20/09/2022
Adran 11 wedi’i llenwi gan atwrnai a’u tyst- 01/10/2022
Adran 15 wedi’i llenwi gan bwy yw’r ymgeisydd- 03/10/2022

Gall pawb hefyd lofnodi a dyddio eu hadrannau yn eu trefn, i gyd ar yr un diwrnod.

Os oes camgymeriad wedi’i wneud a bod y dyddiad anghywir wedi’i ysgrifennu, gweler yr adran ‘Gwneud camgymeriadau a gwneud cywiriadau i’ch LPA’.

Tystion

Rhaid i dystion fod yn 18 oed neu’n hŷn a rhoi eu henw llawn a’u cyfeiriad. Mae enw llawn yn golygu enw(au) cyntaf ac enw olaf, er enghraifft ‘John Michael Smith’.

Gwnewch yn siŵr bod pob llofnod yn cael ei dystio ar gyfer yr adrannau canlynol:

Adran 5 (iechyd a lles yn unig)
Ni all y tyst ar gyfer adran 5 fod yn atwrnai.

Adran 9
Ni all y tyst ar gyfer adran 9 fod yn atwrnai.

Adran 11
Gall y tyst fod yn atwrnai arall.
Ni allwch chi (y rhoddwr) fod yn dyst i lofnod atwrnai.

Gwneud dewisiadau neu roi cyfarwyddiadau ar gyfer eich LPA

Gall dewisiadau a chyfarwyddiadau yn eich LPA achosi cymhlethdodau os na wneir hynny’n gywir. Efallai y byddwch yn dymuno cymryd cyngor cyfreithiol i osgoi cymhlethdodau.

Fodd bynnag, dyma rai awgrymiadau isod i’ch helpu:

Nid yw dewisiadau yn orfodol

Mae hyn yn golygu nad yw dewisiadau yn ei gwneud yn ofynnol i’ch atwrneiod wneud rhywbeth. Arweiniad yw’r rhain i’ch atwrneiod ystyried eich dymuniadau. Os ydych chi eisiau cynnwys dewis, defnyddiwch ymadroddion fel:

  • ‘Hoffwn i…’

  • ‘Hoffwn i fy atwrneiod…’

Mae cyfarwyddiadau’n orfodol

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’ch atwrneiod ddilyn cyfarwyddiadau. Os ydych chi eisiau cynnwys cyfarwyddyd, defnyddiwch ymadroddion fel:

  • ‘Rhaid i fy atwrneiod…’

  • ‘Mae’n rhaid i fy atwrneiod…’

Os byddwch yn cynnwys cyfarwyddiadau sy’n anghyfreithlon, bydd angen i’r cyfarwyddyd gael ei ddileu o’r LPA gan y Llys Gwarchod cyn y gellir ei gofrestru. Er enghraifft, bydd angen dileu cyfarwyddyd sy’n gofyn i’ch atwrneiod ddarparu cymorth i farw o’ch dogfen LPA oherwydd bod cymorth i farw yn mynd yn groes i’r gyfraith. Bydd hyn yn peri oedi sylweddol o ran cofrestru eich LPA.

Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gyfarwyddiadau rydych chi’n eu hysgrifennu ar gyfer y math cywir o LPA. Ni allwch gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer iechyd a lles ar LPA materion ariannol ac eiddo. Allwch chi ddim cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer eiddo a arian ar LPA iechyd a lles.

Y gwiriad terfynol

Cyn i chi anfon eich LPA atom, mae angen i chi wneud yn siŵr:

  • bod pob tudalen 1 i 20 yn bresennol (peidiwch â’u styffylu, eu rhoi yn sownd na’u rhwymo gyda’i gilydd mewn unrhyw ffordd)

  • mae’r math o dudalen LPA (LP1F/LP1H) yr un fath drwyddi draw

  • nid oes gwallau argraffu

  • eich bod wedi dewis naill ai opsiwn A neu opsiwn B yn adran 5 (iechyd a lles yn unig)

  • mae’r adrannau wedi’u llofnodi a’u dyddio yn y drefn gywir

  • mae eich manylion a manylion eich atwrneiod yn gywir

  • mae pob tyst wedi nodi ei enw llawn ar bob adran

  • mae beiro ddu neu las wedi cael ei defnyddio bob amser. Ni chaniateir pensil

  • mae llawysgrifen yn glir ac yn hawdd ei darllen

  • does dim hylif cywiro na sticeri ar yr LPA

  • mae unrhyw gywiriadau wedi cael eu llofnodi gan y person cywir

Os ydych chi’n anfon nifer o LPA au yn yr un amlen, dylech eu gwahanu’n glir fel nad ydynt yn cymysgu.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am greu atwrneiaeth arhosol, darllenwch ein canllawiau LP12. Os oes unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr ohono, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 456 0300.