Canllawiau

Osgoi gwneud camgymeriadau wrth lenwi ffurflen atwrneiaeth arhosol

Mae’r canllaw hwn wedi cael ei ysgrifennu i helpu’r rhoddwr osgoi gwneud camgymeriadau wrth lenwi ffurflen atwrneiaeth arhosol (LPA).

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni LPA ac osgoi gwneud camgymeriadau cyffredin.

Yn y canllawiau hyn, mae ‘chi’ yn golygu’r rhoddwr.

Mae’n bwysig bod y ffurflenni LPA yn cael eu llenwi’n gywir. Efallai na fydd yr atwrneiod a benodwyd gennych yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig ar eich rhan os oes camgymeriad yn yr LPA.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich LPA, gallai olygu:

  • oedi yn y broses gofrestru

  • nad yw eich LPA yn ddilys dan y gyfraith

  • ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) gofrestru’r LPA o gwbl

Weithiau gall y broses ymgeisio ymddangos yn gymhleth. Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut mae osgoi’r camgymeriadau mwyaf cyffredin.

I’ch helpu i leihau’r siawns o wneud camgymeriadau, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein ‘Gwneud atwrneiaeth arhosol’ Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk. Mae hefyd yn helpu i’ch tywys drwy’r broses. Dim ond yn Saesneg y mae’r gwasanaeth hwn ar gael.

Cyhoeddwyd ar 31 August 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 October 2023 + show all updates
  1. Information updated under order of signing.

  2. Added translation