Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfanaeth
Adroddiad annibynnol ac argymhellion gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfanaeth ar ffyrdd o wella hygyrchedd awyrenneg.
Dogfennau
Manylion
Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Hygyrchedd Hedfanaeth ym mis Tachwedd 2024 i ddod â chynrychiolwyr y diwydiant, defnyddwyr ac Awdurdod Hedfan Sifil ynghyd. Cafodd y Grŵp y dasg o:
- nodi’r heriau a’r rhwystrau allweddol y mae teithwyr anabl yn eu hwynebu wrth deithio ar awyren
- datblygu camau ymarferol a chyraeddadwy i wella hygyrchedd ar draws y sector hedfanaeth
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp, wedi’u strwythuro o amgylch 5 maes ffocws allweddol:
- hyfforddiant
- gwybodaeth a chyfathrebu â theithwyr
- namau and ydynt yn amlwg
- dylunio a thrin cymhorthion symudedd
- gwasanaeth a chyflenwi wedi’u teilwra