Guidance

Penodi enwebeion a cheidwaid: arweiniad o dan adran 19(4) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 (CC42)

Published 1 February 2001

1. Am beth mae’r cyhoeddiad hwn?

Mae’r cyhoeddiad hwn:

  • yn disgrifio’r darpariaethau ar gyfer penodi enwebeion a cheidwaid a gafodd eu cyflwyno gan Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000

  • manylion am y gofynion y mae’n rhaid i ymddiriedolwyr a hoffai arfer y pwerau hynny gydymffurfio â nhw

Yn arbennig mae’n cynnwys yn adran 5 i 9 y canllawiau statudol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 19(4) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000, ac mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydymffurfio â nhw hefyd.

2. Diffiniadau o ‘enwebai’ a ‘cheidwad’

At ddiben y cyhoeddiad hwn, ‘enwebai’ yw rhywun sy’n dal y teitl i eiddo’r ymddiriedolaeth elusennol (neu ryw ran o’r eiddo hwnnw) ar ran ei ymddiriedolwyr cyfan. Yr enwebai yw’r sawl y caiff ei enw ei roi ar gofrestr cyfranddaliadau unrhyw gwmni y mae ei gyfranddaliadau yn cael eu dal gan yr ymddiriedolaeth honno. Yn achos tir cofrestredig, yr enwebai yw’r sawl y mae ei enw yn cael ei roi ar y gofrestr perchnogaeth. Mae ‘ceidwad’ yn unigolyn sydd, ar ran yr ymddiriedolwyr cyfan, yn gofalu am asedau’r ymddiriedolaeth, sef dogfennau neu dystiolaeth arall fel arfer o deitl yr ymddiriedolaeth i’w heiddo - er enghraifft, tystysgrifau cyfranddaliadau a thir. Defnyddir y geiriau hyn yn yr ystyr hon yn Neddf Ymddiriedolwyr 2000.

Gall yr un person fod yn ‘enwebai’ ac yn ‘geidwad’: defnyddir yr ymadrodd ‘ceidwad’ i ddisgrifio rhywun sy’n enwebai ac yn geidwad weithiau, neu sy’n darparu gwasanaethau yn ychwanegol at y rhai a ddisgrifir uchod.

3. Deddf Ymddiriedolwyr 2000

Cafodd Deddf Ymddiriedolwyr 2000 (y cyfeirir ati fel ‘y Ddeddf’ o hyn ymlaen) ei phasio ar 23 Tachwedd 2000 a daeth i rym ar 1 Chwefror 2001. Yn amodol ar rai cymwysterau, mae’r Ddeddf yn cynnig modd i ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth, gan gynnwys ymddiriedolaeth elusennol, i benodi rhywun i weithredu fel eu ‘henwebai’ a/neu i’r un person neu rywun gwahanol i weithredu fel eu ‘ceidwad’ ar gyfer asedau’r ymddiriedolaeth.

Mae’r pŵer statudol newydd yn ychwanegol i unrhyw bŵer i benodi enwebai/ceidwad yn nogfen lywodraethol yr elusen, ac ni fydd yn disodli’r pŵer statudol i benodi ymddiriedolwr gwarchod. Ni fydd yn disodli, yn achos tir elusen, bŵer ymddiriedolwyr i ofyn i’r Comisiwn drosglwyddo’r teitl i’r tir i enw’r Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau. Hefyd, bydd modd rhoi pwerau i ymddiriedolwyr elusen o hyd i benodi enwebeion a cheidwaid sy’n ehangach na’r rhai a roddir gan y Ddeddf, os yw hyn er lles yr elusen.

Mae’n bosibl y bydd y pŵer statudol newydd yn gymwys i unrhyw eiddo sy’n cael ei ddal ar ymddiriedolaeth. Felly, mae’n gymwys i eiddo cymdeithasau anghorfforedig elusennol, ac elusennau eraill y mae eu heiddo yn cael ei ddal ar ymddiriedolaeth, yn ogystal ag eiddo ymddiriedolaethau elusennol eu hunain. Felly, at ddiben y canllaw hwn, mae ‘ymddiriedolaeth elusennol’ yn cynnwys ‘cymdeithas elusennol’ ac unrhyw elusen arall o’r fath: bydd yr ‘ymddiriedolwyr elusen’ ym mhob achos yn gyfrifol am arfer y pŵer. Ond ni fydd y pŵer newydd yn gymwys:

  • i eiddo cronfeydd buddsoddi cyffredin (heblaw cronfeydd cynllun cronni) neu gronfeydd adnau cyffredin - bydd y rhai sy’n rheoli’r cronfeydd hyn yn parhau i ddefnyddio’r pwerau penodol i benodi enwebeion/ceidwaid sy’n cael eu rhoi yn y cynlluniau a ddefnyddir i reoleiddio’r cronfeydd

  • os yw ymddiriedolwr gwarchod gan ymddiriedolaeth elusennol - rhaid i ymddiriedolwr gwarchod ddal y teitl i holl eiddo’r ymddiriedolaeth y mae’n ymddiriedolwr gwarchod ar ei gyfer. Hefyd mae’n rhaid iddo ddal y dogfennau teitl i’r eiddo hwnnw. Felly, ni fyddai penodi rhywun ar wahân fel enwebai/ceidwad yn gydnaws â chyfrifoldebau ymddiriedolwr gwarchod

  • i eiddo a ddelir gan y Ceidwad Swyddogol - unwaith eto, ni fyddai penodi rhywun ar wahân fel enwebai/ceidwad yn gydnaws â chyfrifoldebau statudol y Ceidwad Swyddogol

  • i eiddo corfforaethol cwmni elusennol neu elusen arall sydd wedi’i ymgorffori gan neu o dan statud - nid yw eiddo o’r fath wedi’i ddal ar ymddiriedolaeth

Ni fydd y pŵer statudol newydd ar gael os yw dogfen lywodraethol ymddiriedolaeth elusennol yn gwahardd yn benodol neu drwy ymhlygiad angenrheidiol defnyddio enwebai/ceidwad.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth sy’n datgan bod rhaid i ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth elusennol sydd heb fod yn elusen a esgusodir weithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a roddir gan y Comisiynwyr Elusennau ynghylch dewis rhywun i’w benodi fel enwebai neu geidwad o dan y pwerau a roddir gan y Ddeddf.

O ran y pwerau y mae’n eu rhoi i benodi enwebai/ceidwad, mae’r Ddeddf yn cydnabod bod risgiau yn ogystal â manteision o gael ymddiriedolwyr i benodi enwebeion a cheidwaid. Rhaid cael cydbwysedd rhwng economi a chyfleuster gweinyddu’r ymddiriedolaeth ar un llaw, a diogelwch ar gyfer eiddo’r ymddiriedolaeth ar y llaw arall. Mae’n rhaid i unrhyw un a benodir yn enwebai/ceidwad o dan y pwerau y mae’r Ddeddf yn eu rhoi naill ai fod yn:

  • rhywun sy’n cynnal busnes sy’n cynnwys gweithredu fel enwebai/ceidwad

  • corff corfforaethol a reolir gan yr ymddiriedolwyr

  • cwmni enwebai cyfreithwyr a gydnabyddir o dan adran 9 o Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1985

Mewn rhai amgylchiadau, gall darparu gwasanaethau enwebai/ceidwad, fod yn ddosbarth o fusnes buddsoddi at ddibenion y Ddeddf Gwasanaethau Ariannol 1986.

Bydd darpariaeth o’r fath yn ddosbarth o fusnes buddsoddi os:

  • yw’r gwasanaethau a ddarperir gan yr enwebai/ceidwad yn cynnwys ‘gweinyddu’, er enghraifft mae’r enwebai/ceidwad hefyd yn delio â gohebiaeth gan y cwmni y mae ei gyfranddaliadau yn cael eu dal, neu’n ymdrin ag ad-daliadau treth ar ddifidendau, ar ran yr ymddiriedolwyr

  • mae’r asedau o fewn cwmpas y gwasanaethau a ddarperir gan yr enwebai/ceidwad yn cynnwys ‘buddsoddiadau’ o fewn ystyr yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (e.e. cyfranddaliadau, debenturon ac ati ond nid tir), neu a allai, o dan delerau’r cytundeb rhwng yr enwebai/ceidwad a’r ymddiriedolwyr, gynnwys ‘buddsoddiadau’

  • mae’r enwebai/ceidwad yn cynnal busnes sy’n darparu’r gwasanaethau perthnasol yn y DU

Fel y nodwyd yn adran 3, gall y pŵer statudol newydd i benodi enwebai/ceidwad gael ei eithrio gan ddarpariaeth briodol yn nogfen(nau) llywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, mae’r pŵer statudol wedi’i fynegi mewn termau sydd, os yw ar gael, yn ddigon eang i alluogi cyflawni’r dibenion y cyfeirir atynt yn adran 4 isod.

Mae’r Ddeddf yn amlinellu’r rheolau a dyletswyddau cyffredinol canlynol ar gyfer defnyddio enwebeion/ceidwaid o dan y pŵer y mae’n eu rhoi:

  • ni all unig ymddiriedolwr benodi ei hun fel enwebai/ceidwad, ac ni all corff o ymddiriedolwyr benodi dim ond un o’u plith fel enwebai neu geidwad, oni bai bod yr enwebai/ceidwad yn gorfforaeth ymddiriedolaeth.

  • mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr gyflawni’r ddyletswydd statudol o ofal wrth ddewis yr enwebai/ceidwad ac wrth benderfynu ar ba delerau y bydd yr enwebai/ceidwad yn gweithredu. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob ymddiriedolwr arfer y gofal a’r sgiliau sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau, gan roi sylw arbennig i unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig sydd gan yr ymddiriedolwr, neu mae’n honni sydd ganddo/ganddi. Yn achos ymddiriedolwr proffesiynol, ystyrir hefyd unrhyw wybodaeth neu brofiad arbennig y mae’n rhesymol i’w ddisgwyl gan rywun yn y proffesiwn perthnasol

  • dim ond os yw’n rhesymol angenrheidiol i wneud hynny, gall yr ymddiriedolwyr benodi enwebai/ceidwad ar delerau sy’n caniatáu iddo/iddi - yn y cyhoeddiad hwn, wrth gyfeirio at enwebai/ceidwad, a all fod yn unigolyn o’r naill ryw neu’r llall, ond sydd yn aml yn gorff corfforaethol, sy’n ddefnyddiwr y rhagenwau yn eu hystyr cyfreithiol cynhwysol. I benodi dirprwy, neu sy’n cyfyngu atebolrwydd yr enwebai/ceidwad neu’r dirprwy, neu sy’n caniatáu i’r enwebai/ceidwad weithredu mewn amgylchiadau sy’n gallu esgor ar wrthdaro buddiannau.

  • mae’n rhaid i benodi’r enwebai/ceidwad fod yn ysgrifenedig, neu raid cael tystiolaeth ysgrifenedig

  • mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr adolygu’n barhaus trefniadau gweithredu’r enwebai/ceidwad, a sut y caiff y trefniadau hynny eu rhoi ar waith. Mae’n rhaid iddynt ystyried a yw’r amgylchiadau yn ei gwneud hi’n briodol i roi cyfarwyddiadau i’r enwebai/ceidwad, neu derfynu’r penodiad, ac yn yr amgylchiadau hynny, mae dyletswydd arnynt i roi cyfarwyddiadau neu i derfynu’r penodiad yn ôl yr achos. Mae’r ddyletswydd statudol o ofal y cyfeirir ati uchod hefyd yn gymwys i’r ddyletswydd adolygu hon

4. Dibenion ar gyfer defnyddio enwebai/ceidwad

Mae defnyddio enwebeion/ceidwaid wrth weinyddu ymddiriedolaeth elusennol yn cyflawni’r dibenion canlynol:

  • mae’n dileu’r angen i drosglwyddo’r teitl i eiddo ymddiriedolaeth pryd bynnag y mae newidiadau yn y corff ymddiriedolwyr: mae hefyd yn dileu’r anfanteision gweinyddol sydd, yn ymarferol, yn codi pryd mae’r angen i wneud hyn yn cael ei ddiystyru

  • mae’n hwyluso trosglwyddo’r eiddo ymddiriedolaeth i’r ymddiriedolaeth ac o’r ymddiriedolaeth er enghraifft, pan fydd cyfranddaliadau yn cael eu prynu a’u gwerthu

  • mae’n lleihau’r risg o ddogfennau ymddiriedolaeth yn rhoi tystiolaeth o’r teitl i’r eiddo ymddiriedolaeth a gollwyd - ar wahân i’r risg ddilyniannol o golled i’r eiddo ymddiriedolaeth ei hun, gall fod yn gostus iawn i gael dogfennau newydd yn eu lle

Ond, ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau ar ddefnyddio enwebeion a cheidwaid. Esbonnir y cyfyngiadau hyn, a pham eu bod yn bodoli, yn Atodiad A.

5. Canllaw y Comisiwn

Mae’r Ddeddf yn cydnabod, yn achos elusennau, bod pryderon arbennig ynghylch y cwestiwn o ddiogelwch eiddo ymddiriedolaeth, na fydd efallai’n codi yn achos ymddiriedolaeth anelusennol. Mae elusennau’n gweithredu er lles y cyhoedd, a heb fuddiolwyr adnabyddadwy i ofalu am eu buddiannau eu hunain yn yr ymddiriedolaeth. Felly dyma’r rheswm am y ddarpariaeth o dan adran 19(4) o’r Ddeddf ar gyfer canllawiau gan y Comisiwn. Nid yw’r ddyletswydd i weithredu yn unol â’r canllawiau hynny yn codi yn achos elusennau sydd wedi’u hesgusodi o awdurdodaeth reoleiddio’r Comisiwn.

Mae’r canllawiau yn cwmpasu pedwar prif faes:

  • y berthynas rhwng yr enwebai sydd i’w ddewis a’r elusen adran 6

  • cymhwyster a lleoliad yr enwebai/ceidwad sydd i’w ddewis adran 7

  • annibyniaeth yr enwebai a’r ceidwad sydd i’w ddewis, ar ei gilydd ac ar unrhyw un y mae’r ymddiriedolwyr elusen wedi dirprwyo’r swyddogaeth o reoli buddsoddiadau’r elusen iddo/iddi adran 8

  • adrodd gan yr enwebai/ceidwad sydd i’w ddewis adran 9

Mae’r canllawiau’n gymwys yn uniongyrchol i arfer y pwerau yn y Ddeddf i benodi enwebeion/ceidwaid yn unig. Nid yw hyn yn gymwys yn uniongyrchol i arfer unrhyw bŵer arall i benodi enwebai/ceidwad, ond mae’r Comisiwn yn argymell y dylai ymddiriedolwyr elusen sy’n arfer pŵer o’r fath gadw’r canllawiau hyn mewn cof. Mae’r canllawiau statudol eu hunain mewn teip trwm; mae gweddill y testun yn y paragraffau isod yn wybodaeth ac yn gyngor ategol.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ymddiriedolwyr ddirprwyo dewis enwebai neu geidwad i asiant; fel arfer bydd yn rheolwr buddsoddi dewisol yr ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, mae enwebai/ceidwad a ddewisir fel hyn yn parhau i gael ei ddewis ar ran yr ymddiriedolwyr. Mae’r canllawiau isod yn gymwys os yw’r ymddiriedolwyr wedi dewis yr enwebai/ceidwad yn uniongyrchol neu drwy asiant megis rheolwr buddsoddi dewisol. Os yw’r ymddiriedolwyr wedi defnyddio asiant i ddewis yr enwebai/ceidwad bydd rhaid iddynt wybod pwy sydd wedi cael ei ddewis ar eu rhan ac ar ba delerau y mae’r enwebai/ceidwad wedi cael ei benodi. Heb yr wybodaeth hon ni fyddai modd iddynt gyflawni’r dyletswyddau adolygu a nodwyd ar ddiwedd adran 3 uchod yn gywir.

6. Y berthynas rhwng yr enwebai sydd i’w ddewis a’r elusen

O dan gyfraith Lloegr, y berthynas gyfreithiol arferol rhwng enwebai a’r sawl y mae’n dal yr eiddo ar ei ran yw ymddiriedolwr a buddiolwr. Ar y sail honno, mae’r teitl i eiddo’r elusen yn cael ei ddal gan yr enwebai, ond yr elusen sydd â’r berchnogaeth fuddiol.

Nid yw’r berchnogaeth fuddiol hon wedi’i heffeithio gan ansolfedd yr enwebai: nid yw credydwyr eraill yr enwebai yn gallu cael mynediad i’r eiddo. Ac os yw’r enwebai wedi gwaredu asedau’r elusen heb awdurdod, gall fod modd i’r elusen adennill yr asedau o’r derbynnydd (‘dilyn’). Neu gall fod modd i’r elusen hawlio budd perchnogol yn yr asedau sydd erbyn hyn yn cynrychioli’r ased a waredwyd yn amhriodol, boed yn nwylo’r enwebai neu beidio (‘olrhain’). Mae’r hyn a olygir wrth ‘ddilyn’ ac ‘olrhain’ wedi’i esbonio’n glir mewn achos llys diweddar (Foskett v McKeown (2000) 3 All ER 97): mae’r darn perthnasol o’r achos hwn, gydag esboniad byr o gyfyngiadau unrhyw hawl berchnogol, i’w weld yn Atodiad B.

Gellid dadlau bod y pŵer y mae’r Ddeddf yn ei roi i benodi enwebai dim ond yn ymestyn i greu’r math o berthynas a ddisgrifir yn y paragraff blaenorol. Ond hyd yn oed os yw’n rhoi pŵer i benodi enwebai ac mae’r berthynas rhwng yr elusen a’r enwebai yn gytundebol yn unig, rhaid i ymddiriedolwyr elusen osgoi dewis enwebai fel rheol sy’n mynnu cael perthynas gytundebol yn unig.

Mewn achos o’r fath mae gan yr enwebai y teitl i’r asedau a pherchnogaeth fuddiol drostynt. Felly ni all gael mwy nag atebolrwydd cytundebol i roi cyfrif i’r elusen am werth yr asedau y mae’n eu rheoli ar ei rhan. Os yw’r enwebai yn troi’n ansolfent nid yw’r elusen mewn sefyllfa well o ran diogelu ei buddiannau nag unrhyw gredydwr anwarantedig arall. Os yw’r enwebai yn diflannu y tu hwnt i afael y gyfraith, nid oes gan yr elusen unrhyw obaith o allu adennill eiddo o drydydd parti y gallai’r eiddo hwnnw neu’r eiddo sy’n ei gynrychioli fod wedi cael ei ddilyn neu ei olrhain i’w ddwylo fel arall.

Fel yr esbonnir yn gynharach, ymddiriedolaeth yw sail hawl berchnogol yr elusen. Er mwyn i’r ymddiriedolaeth fodoli, rhaid cael tystiolaeth o fwriad i greu ymddiriedolaeth, ac mae’n rhaid i destun yr ymddiriedolaeth allu gael ei adnabod yn briodol. Felly, mae’n bwysig i’r ymddiriedolwyr sicrhau bod y trefniadau arfaethedig gyda’r enwebai a ddewiswyd:

  • yn egluro bod y cyfranddaliadau neu’r eiddo arall y mae’r enwebai i’w dal ar ran yr ymddiriedolaeth elusennol yn perthyn, mewn gwirionedd, i’r ymddiriedolaeth (o dan gyfraith Lloegr ni all ymddiriedolaethau gael eu cydnabod ar gofrestri cyfranddaliadau cwmnïau - adran 126 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006)

  • bydd rhaid i’r enwebai adnabod yr y mae’n ei ddal ar ran yr ymddiriedolaeth elusennol, a’i gadw ar wahân i unrhyw eiddo y mae’n ei ddal ar ei ran ei hun - gall trefniadau sy’n rhoi perchnogaeth fuddiol ar y cyd i elusen unigol o ased gyda chleientiaid eraill yr enwebai fod yn dderbyniol

Mae’n rhaid i’r trefniadau alluogi’r ymddiriedolwyr, os oes angen, i brofi’n eu hunig berchnogaeth fuddiol, neu eu perchnogaeth fuddiol ar y cyd, o’r asedau a ddelir gan yr enwebai ar eu rhan, er enghraifft, os yw’r enwebai yn ansolfent. Os ydynt yn ansicr a fydd y trefniadau a gynigir gan yr enwebai sydd i’w ddewis yn cael yr effaith hon, dylent geisio cyngor cyfreithiol.

Mae dyletswydd glir gan ymddiriedolwyr hefyd o dan y Ddeddf i adolygu’r trefniadau a gytunwyd, a chymryd camau addas i sicrhau bod y trefniadau hynny yn cael eu gweithredu’n briodol gan yr enwebai. Os nad ydynt yn ei gyflawni, gallant fod yn atebol yn bersonol am golledion sy’n deillio o gamymddygiad yr enwebai.

Fel y nodwyd uchod, fel rheol ystyrir mai gallu’r elusen i hawlio unig fudd perchnogol neu fudd perchnogol ar y cyd yn yr asedau a ddelir gan yr enwebai yw’r ffordd fwyaf boddhaol i ddiogelu ei sefyllfa. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau pan fydd gwarantu atebolrwydd cytundebol yr enwebai gan gwmni yswiriant neu gwmni arall o allu ariannol priodol fod yn ddewis arall derbyniol. Cynghorir bod ymddiriedolwyr elusen sy’n ystyried trefniadau o’r fath yn trafod y mater yn gyntaf â’r Comisiwn.

7. Cymhwyster a lleoliad yr enwebai/ceidwad sydd i’w ddewis

Oni bai bod yr enwebai/ceidwad yn gwmni a reolir gan yr ymddiriedolwyr, neu’n gwmni enwebai cyfreithwyr, mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r sawl a ddewisir ymwneud â’r busnes o ddarparu gwasanaethau enwebai/ceidwad. Fel y nodwyd uchod, gall darparu’r gwasanaethau hyn fod yn ddosbarth o fusnes buddsoddi at ddibenion yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf yn cyfyngu ar hunaniaeth yr enwebeion/ceidwaid a allai gael eu dewis gan yr ymddiriedolwyr o dan y pŵer y mae’n ei roi, drwy gyfeirio at ofyniad awdurdodi neu eithrio o dan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Mae’r pwerau yn y Ddeddf yn ddigon eang i ganiatáu penodi enwebai/ceidwad sydd heb fod o dan reolaeth yr ymddiriedolwyr nac yn ddarostyngedig i’r math o reolaeth reoleiddio a fyddai’n gymwys i rywun sy’n ymwneud â busnes buddsoddi yn y DU. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen sy’n cynnig dewis enwebai/ceidwad o’r fath fod yn arbennig o ofalus i ystyried cymwysterau a nodweddion unigol y sawl y maent yn cynnig ei benodi fel enwebai/ceidwad, ac addasrwydd y telerau arfaethedig.

Gwerthfawrogir os yw ymddiriedolwyr elusen yn gwneud buddsoddiadau y tu allan i’r DU, efallai na fydd unrhyw ddewis ganddynt ond defnyddio gwasanaethau enwebai/ceidwad sy’n byw yn lleol, a derbyn nad oes unrhyw ddiogelwch rheoleiddio cymaradwy i’r hyn sydd ar gael wrth ddefnyddio gwasanaethau tebyg yn y DU.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen ystyried y risgiau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â throsglwyddo’r eiddo ymddiriedolaeth i’r awdurdodaeth lle mae’r enwebai/ceidwad wedi’i leoli. Dylid ystyried y risgiau hyn mewn unrhyw benderfyniad ynghylch a yw’r lleoliad perthnasol yn un addas neu beidio i fuddsoddi asedau’r elusen, ac i’r broses o adolygu buddsoddiadau sydd, wrth gwrs, yn ddyletswydd a roddir gan y Ddeddf.

Mae pedair elfen i’r risg hwn:

  • mae’n bosib nad yw cyfundrefn gyfreithiol y wlad dan sylw yn darparu unrhyw ddull effeithiol o orfodi rhwymedigaethau’r enwebai/ceidwad o dan ei gytundeb gyda’r ymddiriedolwyr, neu o orfodi trosglwyddo eiddo’r elusen yn ôl i’r ymddiriedolwyr os yw’r ymddiriedolwyr yn penderfynu terfynu’r cytundeb

  • efallai na fydd cyfundrefn gyfreithiol y wlad honno yn cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth o gwbl

  • efallai y bydd y gyfundrefn gyfreithiol yn cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth, ond efallai na fydd, yn ei chyfraith ansolfedd, yn cydnabod bod gwahaniaeth rhwng eiddo ymddiriedolaeth sy’n cael ei dal gan y sawl sy’n ansolfent, ac eiddo sydd ym mherchnogaeth fuddiol y person hwnnw

  • efallai na fydd gan y gyfundrefn gyfreithiol ddull boddhaol o ddilyn neu olrhain eiddo ymddiriedolaeth

Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen sy’n ystyried penodi enwebai/ceidwad a leolir y tu allan i’r DU gael dealltwriaeth glir o agweddau perthnasol ar y gyfraith yn y wlad lle y lleolir y person hwnnw. Efallai y bydd rhaid iddynt geisio cyngor cyfreithiol lleol.

Ni all ymddiriedolwyr elusen drosglwyddo eiddo ymddiriedolaeth, neu dystiolaeth o’r teitl iddi, i enwebai/ceidwad a leolir mewn gwlad lle nad oes unrhyw ddull effeithiol yn ymarferol o orfodi rhwymedigaethau’r enwebai/ceidwad, neu orfodi trosglwyddo eiddo’r elusen yn ôl i’r ymddiriedolwyr os yw’r ymddiriedolwyr yn penderfynu terfynu’r cytundeb. Os yw’r eiddo ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i awdurdodaeth arbennig nad yw’n cydnabod y cysyniad o ymddiriedolaeth o gwbl, neu nad yw, yn ei chyfraith ansolfedd, yn cydnabod bod gwahaniaeth rhwng eiddo ymddiriedolaeth ac eiddo ym mherchnogaeth fuddiol, mae’r elusen yn agored i’r posibilrwydd o gael dim mwy na hawl ddigolledu anwarantedig yn erbyn yr enwebai/ceidwad, os aiff pethau o’i le. Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr gydnabod y peryglon; esbonnir y rhain yn adran 6.

Gall fod modd i’r ymddiriedolwyr warchod sefyllfa’r elusen yn y ffordd a nodir yn adran 6, ond unwaith eto, cynghorir bod ymddiriedolwyr elusen sy’n ystyried trefniadau o’r fath yn trafod y mater yn gyntaf â’r Comisiwn.

Hyd yn oed os yw’r elusen yn cadw perchnogaeth fuddiol o eiddo’r teitl sydd wedi cael ei drosglwyddo i enwebai, mae bob amser rhywfaint o risg y gall ei hawl berchnogol gael ei dinistrio gan weithredu diawdurdod gan yr enwebai/ceidwad. Er enghraifft, os yw asedau’r elusen yn cael eu gwerthu i rywun nad yw’n ymwybodol o ddiffyg awdurdod priodol ar gyfer er gwerthu, ac mae’r enwebai/ceidwad yn gwastraffu’r enillion. Fodd bynnag, fel yr esbonnir yn adran 6, mae cyfraith Lloegr yn aml yn caniatáu i fuddiolwr yr hawl i fudd perchnogol mewn ased sydd wedi cael ei drosglwyddo i drydydd parti sydd wedi cyflawni tor-ymddiriedaeth (‘dilyn’), neu yn yr asedau sy’n cynrychioli’r asedau a drosglwyddwyd felly (‘olrhain’). Mae’n rhaid i ymddiriedolwyr elusen gydnabod y risgiau o drosglwyddo’r eiddo ymddiriedolaeth i awdurdodaeth nad yw’n gwarchod hawliau perchnogol drwy ganiatáu i asedau gael eu dilyn neu eu holrhain. Mewn achos o’r fath, os yw eiddo ymddiriedolaeth yn cael ei waredu heb awdurdod, gall yr elusen gael ei gadael unwaith eto dim ond gyda hawl ddigolledu anwarantedig yn erbyn yr enwebai/ceidwad.

8. Annibyniaeth yr enwebai a’r ceidwad

Mae hyn golygu annibyniaeth ar ei gilydd ac ar unrhyw un y mae’r ymddiriedolwyr elusen wedi dirprwyo’r swyddogaeth o reoli buddsoddiadau’r elusen iddynt.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu i’r un person gael ei benodi fel enwebai a cheidwad ac, yn ymarferol, gall cyfleustra gweinyddol ac ystyriaethau cost awgrymu y dylai’r un person gael ei benodi i gyflawni’r ddwy swyddogaeth ar ran yr elusen. Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pŵer i ddirprwyo’r swyddogaeth o reolaeth buddsoddi ddewisol; mae’n caniatáu i’r sawl a benodir yn rheolwr buddsoddi dewisol i fod yn enwebai neu’n geidwad neu’r ddau.

Fel yr esbonnir yn adran 3, dim ond os yw’n rhesymol angenrheidiol i wneud hynny ddylai ymddiriedolwyr benodi enwebai/ceidwad ar delerau sy’n caniatáu iddo/iddi weithredu mewn amgylchiadau sy’n gallu achosi gwrthdaro buddiannau. Rhaid i ymddiriedolwyr elusen gydnabod y risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg annibyniaeth yn y bobl sy’n gyfrifol am y broses o weinyddu buddsoddiadau’r elusen ar ei rhan. Gall gwrthdaro buddiannau yma olygu bod buddiannau’r elusen yn cael eu hisraddio gan y sawl sydd â’r gwrthdaro i’w fuddiannau ei hun, neu i fuddiannau trydydd parti.

Gall diffyg annibyniaeth hefyd ddileu’r diogelwch a fyddai wedi cael ei ddarparu drwy rannu swyddogaethau rhwng pobl annibynnol. Er enghraifft, bydd y risg o drosglwyddo asedau’r elusen heb awdurdod gan yr enwebai (gyda’r canlyniadau a ddisgrifiwyd yn gynharach yn y canllaw hwn) yn fwy os yw’r enwebai hefyd yn geidwad ac felly’n dal y dogfennau teitl i asedau’r elusen sy’n cael eu dal yn ei enw.

Er gall y risg cynyddol fod yn ddibwys os yw’r gwasanaethau’n cael eu darparu gan rywun sydd wedi’i awdurdod neu ei eithrio o dan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, gall fod yn fwy arwyddocaol yn achos enwebeion/ceidwaid sydd y tu allan i gwmpas rheoleiddio gwasanaethau ariannol. Unwaith eto gall graddfa’r risg ddibynnu ar gyflwr y gyfraith yn yr awdurdodaeth lle y lleolir y sawl dan sylw, ac unwaith eto gall fod angen i’r ymddiriedolwyr geisio cyngor cyfreithiol lleol.

9. Adrodd gan enwebeion/ceidwaid

Fel yr esbonnir yn adran 3, mae dyletswydd ar ymddiriedolwyr sy’n penodi enwebai/ceidwad o dan y pŵer statudol i adolygu’n gyson perfformiad yr enwebai/ceidwad. Mae’n bwysig i ymddiriedolwyr elusen sicrhau bod unrhyw enwebai/ceidwad y maent yn cynnig eu dewis yn barod i gytuno â threfniadau adrodd boddhaol.

Bydd y trefniadau adrodd sy’n ofynnol yn dibynnu ar yr amgylchiadau, megis gwerth yr eiddo ymddiriedolaeth, ac a yw’r enwebai/ceidwad wedi’i reoleiddio neu beidio.

Mae angen anfon datganiadau ased achlysurol i’r cwsmer yn ôl rheolau busnes IMRO. Ond erbyn hyn mae’n arfer gyffredin i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau enwebeion a cheidwaid hefyd i ofyn i gyfarwyddwyr yr enwebai/ceidwad am adroddiadau achlysurol ar y rheolaethau mewnol sy’n cael eu rhoi yn eu lle gan yr enwebai/ceidwad i sicrhau diogelwch asedau’r cwsmer. Gallai’r adroddiadau hyn gwmpasu:

  • yr amcanion rheoli cyffredinol y mae’r enwebai/ceidwad wedi’u sefydlu

  • y trefniadau ar gyfer diogelwch ffisegol asedau ac am wahaniaethu’r asedau sy’n perthyn i gwsmeriaid arbennig

  • gweithdrefnau cysoni asedau

  • rheolaethau prosesu cyfrifiadurol

  • gweithdrefnau setlo

  • gweithdrefnau benthyca stoc

  • gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfio â mandadau buddsoddi

  • gweithdrefnau monitro systemau

Os yw’r cytundeb gyda’r cwsmer yn caniatáu hynny, gallai’r gweithdrefnau ar gyfer dewis a monitro’r rhai y mae’r swyddogaethau wedi cael eu dirprwyo iddynt gael eu cwmpasu hefyd,.

Gall adroddiad yr enwebai/ceidwad ar y materion hyn gynnwys adolygiad wedi’i baratoi gan gyfrifwyr annibynnol.

Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried a oes angen i’r cytundebau gydag enwebeion/ceidwaid y maent yn cynnig eu penodi gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â throsglwyddo adroddiadau o’r fath iddynt.

10. Crynodeb

Drwy gydol y trafodaethau sydd wedi arwain at ddeddfu Deddf Ymddiriedolwyr 2000, mae’r Comisiwn Elusennau wedi cefnogi’r cynnig i ymestyn pwerau ymddiriedolwyr ymddiriedolaethau elusennol i benodi enwebeion a cheidwaid yn y ffordd y mae’r Ddeddf wedi’i wneud erbyn hyn. Wrth gwrs bydd hyn yn hwyluso gweinyddu nifer o ymddiriedolaethau elusennol. Fodd bynnag, mae defnyddio enwebeion a cheidwaid yn creu risgiau go iawn, ac mae’n bwysig y dylid cydnabod a rheoli’r rhain. Mae’r Ddeddf yn amlinellu’r fframwaith sylfaenol:

  • mae’n rhaid i enwebeion/ceidwaid ymwneud yn broffesiynol â darparu’r gwasanaeth (neu wedi’u rheoli gan yr ymddiriedolwyr, neu fod yn gwmni enwebai cyfreithwyr)

  • dylai ymddiriedolwyr arfer gofal priodol wrth ddewis yr enwebai/ceidwad a phenderfynu ar ei gylch gorchwyl

  • dylid osgoi rhai cylchau gorchwyl sy’n cynyddu’r risg i eiddo’r ymddiriedolaeth elusennol oni bai bod hynny’n anymarferol

  • dylai fod proses briodol ar gyfer adolygu perfformiad yr enwebai/ceidwad

Yn ogystal mae’r canllaw hwn yn:

  • pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod asedau sy’n cael eu dal gan enwebai/geidwad yn perthyn i’r elusen o hyd, a bod yr elusen yn gallu profi hyn yn gyfreithiol, os oes angen

  • tynnu sylw at y risgiau arbennig sy’n gysylltiedig â phenodi enwebeion/ceidwaid nad oes gan eu busnes unrhyw gysylltiad â’r DU

  • pwysleisio’r angen i ymddiriedolwyr elusen gydbwyso manteision ac anfanteision penodi fel enwebeion a cheidwaid bobl sy’n annibynnol ar ei gilydd ac ar unrhyw reolwr buddsoddi dewisol

  • tynnu sylw at y dymuniad i sicrhau adroddiadau achlysurol gan yr enwebai/ceidwad i’r ymddiriedolwyr ar y rheolaethau sydd yn eu lle i ddiogelu eiddo’r elusen

11. Atodiad A - Y gyfraith bresennol ar ymddiriedolwyr yn defnyddio enwebeion a cheidwaid

Roedd un o reolau’r gyfraith ymddiriedolaeth a ddatblygodd yn y 19eg ganrif i warchod eiddo ymddiriedolaethau rhag y risg o golled yn gofyn i’r teitl i’r cyfan o’r eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal yn enwau pob un o’r ymddiriedolwyr ar y cyd. Effaith hyn oedd bod cyfranogiad pob un o’r ymddiriedolwyr yn angenrheidiol er mwyn i’r teitl i’r eiddo ymddiriedolaeth gael ei drosglwyddo naill ai i ymddiriedolwr newydd neu i neu o drydydd parti. Roedd hyn yn lleihau’r risg o gamddefnyddio’r eiddo ymddiriedolwyr neu enillion unrhyw werthu. Byddai caniatáu i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal yn enw un neu ddau ymddiriedolwr yn unig, neu yn enw rhywun oedd heb fod yn ymddiriedolwr, ar ran yr ymddiriedolwyr cyfan (‘enwebai’) wedi golygu y gallai’r enwebai(enwebeion) yn unig drosglwyddo’r eiddo i drydydd parti heb awdurdod yr ymddiriedolwyr cyfan ar gyfer y trosglwyddiad.

Ar yr amod bod y trosglwyddai (neu unrhyw drosglwyddai dilynol o’r trosglwyddwr gwreiddiol) yn brynwr, ac nid oedd yn ymwybodol o ddiffyg awdurdod yr enwebai, ni allai’r ymddiriedolaeth adennill ei eiddo. Oni bai y gallai’r ymddiriedolaeth ‘ddilyn’ yr eiddo a oedd wedi cael ei drosglwyddo’n amhriodol neu gallai ‘olrhain’ yr eiddo hwnnw i rywbeth sy’n ei gynrychioli bellach, boed yn nwylo’r enwebai neu fel arall, gallai adennill ei cholled o’r enwebai oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad diawdurdod yn unig. Efallai na fyddai hyn yn ymarferol, e.e. oherwydd bod yr enwebai wedi diflannu neu’n ansolfent. Esbonnir yr hyn a olygir wrth ‘ddilyn’ ac ‘olrhain’ yn Atodiad B.

Felly roedd defnyddio enwebai yn cael ei ganiatáu dim ond os oedd y sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth wedi awdurdodi hynny yn nogfen lywodraethol yr ymddiriedolaeth, neu os oedd y Llys neu, yn achos elusen, y Comisiwn, wedi’i awdurdodi. Ond roedd pris i’w dalu am y lefel uchel hon o ddiogelwch ar gyfer eiddo ymddiriedolaeth. Bob tro roedd newid ymddiriedolwr, roedd rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu’r gost o drosglwyddo’r teitl i’r holl eiddo ymddiriedolaeth i enwau ar y cyd y bobl oedd yn parhau i fod, neu oedd wedi’u penodi’n ymddiriedolwyr. Bob tro roedd eiddo ymddiriedolaeth yn cael ei waredu i drydydd parti, a bob tro roedd eiddo yn cael ei gaffael gan yr ymddiriedolaeth gan drydydd parti, roedd rhaid i bob un o’r ymddiriedolwyr gymryd rhan yn y broses o drosglwyddo’r teitl i’r eiddo yn ffurfiol iddyn nhw neu oddi wrthyn nhw, yn ôl yr achos (yn amodol, yn achos elusen, ar y darpariaethau sydd wedi’u cynnwys erbyn hyn yn adran 333 o Ddeddf Elusennau 2011).

Byddai’r angen am drosglwyddiadau o deitl i eiddo ymddiriedolaeth pan fydd ymddiriedolwyr yn newid yn amlwg wedi’i ddileu drwy gael enwebai i ddal y teitl i’r eiddo. Os oedd yr enwebai yn gorff corfforaethol, a allai fodoli am gyfnod amhenodol, mae’n bosib na fyddai angen trosglwyddo’r teitl i’r eiddo ymddiriedolaeth byth. Wrth gwrs, byddai’r teitl yn parhau i gael ei ddal gan yr enwebai, er gwaetha’r newidiadau yn yr ymddiriedolwyr, ar ran yr ymddiriedolaeth. Roedd nifer o bobl oedd yn sefyllfa ymddiriedolaethau, gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol, o’r farn bod cyfleuster gweinyddol ac economi hyn yn gorbwyso’r risgiau o ganiatáu i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal gan enwebai, ac felly wedi penderfynu awdurdodi’r defnydd o enwebai. Yn ymarferol roedd y ddarpariaeth sy’n rhoi awdurdod o’r fath yn aml yn cynnwys mesurau diogelwch, e.e. gofyn i’r enwebai fod yn gorfforaeth ymddiriedolaeth, neu o leiaf yn ddau unigolyn.

Roedd Deddf Ymddiriedolwyr Cyhoeddus 1906 yn rhoi i unrhyw un oedd â’r pŵer i benodi ymddiriedolwyr ymddiriedaeth (neu sylfaenydd yr ymddiriedolaeth, neu’r llys) y pŵer yn gyffredinol i benodi “ymddiriedolaeth gwarchod” corfforaethol yr ymddiriedolaeth honno. Yn yr hyn a gafodd ei ystyried ar y pryd yn ymarfer cydbwyso priodol rhwng cyfleuster ac economi o ran gweinyddu ymddiriedolaeth, ar un llaw, a diogelwch ar gyfer eiddo’r ymddiriedolaethau ar y llaw arall, roedd y pŵer statudol hwn yn cynnig modd i’r eiddo ymddiriedolaeth gael ei drosglwyddo i ymddiriedolwr gwarchod, neu enwebai, ond yn amodol ar rai mesurau diogelwch.

Roedd deddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r ymddiriedolwr gwarchod, er lles diogelwch yr eiddo ymddiriedolaeth, fod yn gorff corfforaethol gyda rhai cymwysterau. Diffiniwyd y berthynas rhwng yr ymddiriedolwr gwarchod a’r “ymddiriedolwyr rheoli” yn Neddf 1906, ac ni ellid ei newid drwy gytundeb: yn benodol cafodd yr ymddiriedolwr gwarchod ystod o gyfrifoldebau statudol a oedd yn ceisio diogelu eiddo’r ymddiriedolaethau rhag colled. Pe byddai ymddiriedolwr gwarchod yn cael ei benodi i ymddiriedolaeth, rodd rhaid i’r eiddo ymddiriedolaeth gyfan gael ei drosglwyddo iddo. Mae’r Ceidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau yn perfformio swyddogaeth benodol i elusennau sy’n debyg i’r hyn sy’n cael ei berfformio gan ymddiriedolwr gwarchod, ond erbyn hyn yn gyffredinol mewn perthynas â thir elusen yn unig.

Gall trosglwyddiadau o eiddo i ac o ymddiriedolaeth gael eu hwyluso hefyd drwy ddefnyddio enwebai i ddal y teitl i’r eiddo. Yr enwebai yw’r unig un sy’n rhaid cymryd rhan yn y broses drosglwyddo ffurfiol, gan felly cynyddu cyflymder a lleihau costau. Mae’r ystyriaeth hon wedi cael pwysigrwydd arbennig yn y blynyddoedd diwethaf gyda mwy o soffistigeiddrwydd a chyflymder yn y broses o setlo masnachau marchnad stoc, a difateroli nifer o drosglwyddiadau stoc drwy ddefnyddio’r system “Crest”. Gall agweddau gweinyddol eraill ar reoli buddsoddiadau hefyd gael eu hwyluso drwy ddefnyddio enwebeion.

Yn wir, o ganlyniad i’r system gyfredol o drosglwyddo stocia a chyfranddaliadau yn y DU sy’n deillio o drafodion yn y farchnad, er sawl blwyddyn bellach bu’n rhaid defnyddio enwebeion yn y broses, ac mae deddfwriaeth wedi cael ei phasio i roi i ymddiriedolwyr yn gyffredinol yr awdurdod angenrheidiol (adran 5, Deddf Cyfnewidfa Stoc (Cwblhau Bargeinion) 1976; erthygl 33, Rheoliadau Gwarantau Heb Dystysgrif 1995). Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth hon yn awdurdodi defnyddio enwebeion ar gyfer cyfnod byr o amser yn unig pan fo’n rhan hanfodol o’r broses trosglwyddo stoc fodern. Os yw defnyddio enwebai yn fater o gyfleustra yn unig, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ddibynnu ar y pwerau yn eu dogfen ymddiriedolaeth o hyd fel rheol, neu awdurdodau gan y Llys neu’r Comisiwn.

Mae’r rheolau statudol sy’n ymwneud ag ymddiriedolwyr gwarchod wedi atal y math hwn o enwebai rhag bod yn ymateb ymarferol i raddau helaeth i alwadau’r system fodern o drosglwyddo stoc. Er enghraifft, byddai ymddiriedolwr gwarchod wedi cael ei atal gan delerau’r berthynas statudol rhwng ei hun a’r ymddiriedolwyr rheoli rhag gwneud y math o drefniadau gyda’r ymddiriedolwyr rheoli a fyddai’n angenrheidiol i gyflawni’r amcan o gyflymu’r’ broses trosglwyddo stoc, a’i wneud yn fwy cyfleus ac economaidd.

Yn ôl y rheol cyfraith ymddiriedolaeth y cyfeirir ati uchod roedd rhaid i’r teitl i’r eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal ar y cyd gan bob un o’r ymddiriedolwyr, a hefyd bod y dystiolaeth o’r teitl hwnnw - cyfranddaliadau a thystysgrifau tir ac ati - ym meddiant o leiaf un ohonynt. Nid oedd y rheol yn mynnu yn gyffredinol ar feddiant ar y cyd drwy adneuo, dyweder, mewn banc yn ôl gorchymyn yr ymddiriedolwyr ar y cyd, er bod pŵer statudol i adneuo dogfennau ymddiriedolaeth o deitl mewn banc neu sefydliad tebyg (adran 21 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925), ac mae dyletswydd statudol hefyd i adneuo gwarantau daliedydd (adran 7 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925). Os yw ymddiriedolwr gwarchod yn cael ei benodi, bydd rhaid iddo/iddi gael rheolaeth ar ddogfennau teitl yr ymddiriedolaeth (gall y Ceidwad Swyddogol hefyd ganiatáu i’r dogfennau gael eu cadw o dan reolaeth yr ymddiriedolwyr). Mae pŵer statudol gan yr ymddiriedolwyr elusen i adneuo dogfennau teitl gyda’r Comisiwn gyda ei ganiatâd (adran 340 o Ddeddf Elusennau 2011). Os yw dogfennau ymddiriedolaeth i’w dal gan rywun sydd heb fod yn ymddiriedolwr mewn amgylchiadau eraill, rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan ddogfen lywodraethol yr elusen neu gan y Llys neu’r Comisiwn.

Mae’r rheol hon, ddim llai na’r rheol sy’n gofyn i’r teitl i eiddo ymddiriedolaeth gael ei ddal gan yr ymddiriedolwyr ar y cyd, yn rhwystro’r system fodern o drosglwyddo stoc, ac mae’r Ddeddf yn ymestyn y pŵer presennol i adneuo dogfennau teitl yr ymddiriedolaeth. Mae’r ddyletswydd bresennol i adneuo gwarantau daliedydd wedi’i chadw, gyda mân addasiadau.

12. Atodiad B - Olrhain a dilyn

Yn Foskett v McKeown (2000) 3 All ER 97, esboniodd yr Arglwydd Millett olrhain a dilyn:

Mae olrhain a dilyn ill dau yn ymarferion mewn lleoli asedau sy’n cael neu gall gael eu cymryd i gynrychioli ased sy’n perthyn i’r buddiolwyr ac maent yn hawlio eu bod yn berchen arnynt. Fodd bynnag, mae prosesau dilyn ac olrhain yn wahanol. Ystyr dilyn yw’r broses o ddilyn yr un ased wrth iddo symud o law i law. Olrhain yw’r broses o adnabod ased newydd fel rhywbeth sy’n disodli’r hen un. Os yw un ased yn cael ei gyfnewid am un arall gall hawliwr ddewis naill ai i ddilyn yr ased gwreiddiol i ddwylo’r perchennog newydd, neu i olrhain ei werth i’r ased newydd yn nwylo’r un perchennog. Yn ymarferol mae ei ddewis wedi’i bennu yn ôl yr amgylchiadau.

Os nad oes modd adnabod unrhyw ased yn lle ased arall (e.e. oherwydd bod yr ased gwreiddiol wedi’i wasgaru) ni all fod unrhyw hawl berchnogol. Ac ni all unrhyw hawl berchnogol gael ei harddel i ased sydd wedi pasio i ddwylo’r prynwr bona fide am werth heb roi rhybudd bod teitl y gwerthwr wedi deillio o dor-ymdidriedaeth.