Cais am iawndal: canllaw cyffredinol
Diweddarwyd 7 Awst 2025
Talu iawndal
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn talu iawndal mewn amgylchiadau penodol i bobl ble mae eu heuogfarnau wedi eu gwyrdroi mewn apeliadau sydd wedi mynd tu hwnt i’r terfyn amser. Mae’r sefyllfaoedd hyn wedi eu hegluro yn Adran 133 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Os byddwch yn herio euogfarn yn llwyddiannus oherwydd camweinyddu cyfiawnder, byddwch yn derbyn iawndal fel cyfandaliad di-dreth. Am fwy o fanylion, darllenwch Canllawiau CThEF ar daliadau iawndal.
Beth fydd ei angen arnoch
Ble bo’n bosibl, dylai dogfennau i gefnogi’r cais fod ynghlwm i’r cais.
Dogfennau sydd eu hangen os bydd apêl yn cael ei wrando yn Llys y Goron
- Tystysgrif Euogfarn
- Memorandwm o Gofnod / Euogfarn
- Apêl i Lys y Goron gan Lys Ynadon Canlyniad Apêl
- Trawsgrifiad Apêl / Ail dreial
- Datganiad o’r Rhesymau CCRC (os yn berthnasol)
Dogfennau sydd eu hangen os bydd apêl yn cael ei wrando yn y Llys Apêl
- Ffurflen NG
- Seiliau’r Apêl
- Gorchymyn ar yr Apêl/Cais
- Crynodeb y Llys Apêl
- Dyfarniad y Llys Apêl
- Datganiad o’r Rhesymau CCRC (os yn berthnasol)
Os na fyddwch yn anfon y dogfennau gofynnol gall hyn arafu’r broses o ymdrin â’r cais.
Os nad oes gennych y dogfennau ar gael, efallai y bydd y gwasanaeth gwneud cais camweinyddu cyfiawnder yn gallu cael y dogfennau hyn gan y Swyddfa Apeliadau Troseddol neu Lys y Goron perthnasol.
Sut i wneud cais am iawndal
Gallwch wneud cais ar-lein am iawndal.
Gallwch hefyd wneud cais yn ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol drwy lawrlwytho’r ffurflen gais ac ei e-bostio i mojas@justice.gov.uk neu ei hanfon yn y post:
Gwasanaeth Ceisiadau Camweinyddu Cyfiawnder
Cyfarwyddiaeth Llysoedd, Cyfiawnder Troseddol a Theulu
7fed Llawr
Post Point 7.23
102 Petty France
Llundain
SW1H 9AJ
Sut mae dedfrydau’n cael eu penderfynu
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried unrhyw gais a wnaed iddynt o dan y darpariaethau statudol. Y tu allan i’r darpariaethau statudol hyn nid oes hawl i iawndal mewn perthynas ag euogfarn a ddilëwyd.
Mae’n rhaid gwneud y cais cyn diwedd cyfnod o 2 flynedd yn dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y ceisydd faddeuant neu’r dyddiad gafodd eu heuogfarn ei “gwrthdroi” (gweler ymhellach isod ynglŷn â beth mae hyn yn ei olygu).
Mewn achosion eithriadol:
- efallai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn dewis rhoi iawndal i rywun
- sy’n gallu dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oeddent wedi cyflawni trosedd ond sydd fel arall ddim yn dod o fewn y prawf adran 133 llym gall yr Ysgrifennydd Gwladol ystyried cais a wnaed y tu allan i’r terfyn o 2 flynedd. Yn gyffredinol, ni fyddai peidio bod yn ymwybodol o’r cynllun yn cyfrif fel amgylchiadau eithriadol ond byddai pob cais a dderbynnir y tu allan i’r terfyn amser yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun.
Bydd gweithiwr achos yn cael ei neilltuo unwaith y caiff cais ei gadarnhau i fod wedi’i wneud o dan y darpariaethau statudol ac mae’r cofnodion llys perthnasol ar gael.
Bydd hyd dedfryd o garchar yn cael ei ystyried wrth ddyrannu achosion. Bydd achosion ble roedd y dedfryd o garchar dros 4 blynedd yn cael blaenoriaeth. Bydd pob achos arall yn cael ei drin yn y drefn y cawsant eu derbyn.
Darpariaethau statudol
Mae iawndal yn daladwy o dan adran 133 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 os yw’r ddau beth a ganlyn yn berthnasol:
- Mae euogfarn y ceisydd wedi’i “gwrthdroi” neu maent wedi derbyn Maddeuant Rhydd.
- Mae’n rhaid i’r euogfarn fod wedi’i gwrthdroi, neu’r ymgeisydd wedi cael maddeuant, ar sail bod ffaith newydd neu newydd ei ddarganfod yn dangos y tu hwnt i amheuaeth resymol nad oedd yr unigolyn wedi cyflawni’r drosedd, oni bai bod diffyg datgelu’r ffaith hon yn gyfan neu’n rhannol briodol i’r ceisydd.
Mae euogfarn yn cael ei ystyried wedi’i “gwrthdroi” os cafodd ei dileu:
- ar apêl y tu allan i’r terfyn amser ac nid yw’r ceisydd yn destun ail dreial
- ar apêl y tu allan i’r terfyn amser, ac roedd y ceisydd yn destun ail dreial ac mae’r ymgeisydd wedi’i gael yn ddieuog o bob trosedd yn yr ail dreial neu mae’r erlyniad wedi nodi ei fod wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â’r ail dreial
- ar ôl i’r achos gael ei gyfeirio i’r Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol o dan Adran 9 Deddf Apeliadau Troseddol 1995
- ar apêl o dan Adran 7 Deddf Terfysgaeth 2000
- ar apêl o dan Atodlen 3 Deddf Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth 2011
- ar apêl o dan Atodlen 4 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
- ar apêl o dan Atodlen 9 Deddf Diogelwch Cenedlaethol 2023