Cludwr anifeiliaid yn y DU: cais am dystysgrif awdurdodi math 2
Ffurflen ar gyfer cludwyr anifeiliaid i wneud cais am dystysgrif awdurdodi math 2 ar gyfer pob taith ar y ffordd gan gynnwys rhai dros 8 awr.
Dogfennau
Manylion
Dylai’r ffurflen hon gael ei chwblhau gan gludwyr anifeiliaid i wneud cais am dystysgrifau awdurdodi math 2. Mae hon yn ddilys ar gyfer pob taith ar y ffordd gan gynnwys y rhai sydd dros 8 awr.
Mae Rheoliad y Cyngor (CE) 1/2005 yn diffinio cludwr fel unrhyw berson sy’n cludo anifeiliaid ar ei liwt ei hun neu ar ran trydydd parti.
Dim ond un cais y gellir ei wneud fesul cludwr. Gallu unrhyw berson neu fusnes wneud cais ond byddant yn cael eu cyfyngu i un awdurdodiad fesul unigolyn neu fusnes.
Yn unol â’r Rheoliadau, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystysgrifau o gymhwysedd dilys pan fyddant yn gwneud cais am dystysgrif awdurdodi cludwyr taith hir.
Mae’n rhaid bod pob gyrrwr a chynorthwyydd sy’n gyfrifol am gludo ceffylau, defaid, geifr, gwartheg, moch a dofednod ar deithiau sy’n para dros 8 awr wedi cael tystysgrif cymhwysedd taith hir benodol ar gyfer pob rhywogaeth o anifail i’w chludo.
Nid yw’n ofynnol i yrwyr na chynorthwywyr sy’n gyfrifol am gludo rhywogaethau eraill gael tystysgrif cymhwysedd.
Gellir cyflwyno’r ffurflen drwy’r post, e-bost neu ffacs. Mae’n rhaid llofnodi’r ffurflenni a e-bostir yn Rhan 3.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 January 2019 + show all updates
-
Documents updated with new email address
-
Updated forms
-
Documents updated
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
First published.