Cludwr anifeiliaid yn y DU: cais am dystysgrif awdurdodi math 1
Ffurflen ar gyfer cludwyr anifeiliaid i wneud cais am dystysgrif awdurdodi math 1 newydd ac i'w hadnewyddu ar gyfer teithiau ar y ffordd dros 65km a hyd at 8 awr.
Dogfennau
Manylion
Dylai’r cludwyr anifeiliaid nad oes ganddynt ar hyn o bryd dystysgrif awdurdodi math 1 sy’n ddilys ar gyfer teithiau ar y ffordd dros 65km a hyd at 8 awr, gwblhau ffurflen WIT1. Bydd yr awdurdodiad hwn yn ddilys am 5 mlynedd.
Nid yw tystysgrifau awdurdodi cludwyr math 1 presennol yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig ac mae’n rhaid i bob ymgeisydd ailymgeisio am awdurdodiad. Dylai’r cludwyr anifeiliaid sydd ar hyn o bryd â thystysgrif awdurdodi cludwyr math 1 sy’n dod i ben, gwblhau ffurflen WIT55 a’i chyflwyno er mwyn i’w hawdurdodiadau cael eu hadnewyddu cyn i’w hawdurdodiadau presennol ddod i ben.
Dosberthir cludwyr sy’n gadael i’w tystysgrifau awdurdodi cludwyr math 1 fynd yn ddi-rym am fwy na 4 mis yn ymgeiswyr newydd a dylent gwblhau ffurflen WIT1.
Dim ond un cais y gellir ei wneud fesul cludwr. Gallu unrhyw berson neu fusnes wneud cais am awdurdodiad ond byddant yn cael eu cyfyngu i un awdurdodiad fesul unigolyn neu fusnes.
Diffinnir cludwr yn Rheoliad y Cyngor 1/2005 fel unrhyw berson sy’n cludo anifeiliaid ar ei liwt ei hun neu ar ran trydydd parti.
Gellir cyflwyno’r ffurflenni drwy’r post, e-bost neu ffacs. Mae’n rhaid llofnodi’r ceisiadau a e-bostir yn Rhan 3.
Os oes angen fersiwn electronig o’r ffurflenni arnoch i’w cwblhau ar-lein, e-bostiwch Dîm Lles wrth Gludo yn y Ganolfan Fasnach Ryngwladol yng Nghaerliwelydd wit@apha.gsi.gov.uk.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2020 + show all updates
-
Added Welsh translation of WIT55 form
-
WIT56: Guidance note for application for a UK animal transporter authorisation for the renewal of a type 1 authorisation (valid for journey over 65km and up to 8 hours) for transport by road updated
-
Documents updated with new email address
-
Updated WIT1, WIT1(Welsh) and WIT55 forms
-
WIT55 form updated
-
WIT55, WIT01 and WIT01(Cymraeg) updated
-
Guidance note (WIT56) updated
-
Renewal form (WIT55) and guidance note (WIT56) added
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
First published.