Ffioedd am wasanaethau sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddarperir gan APHA
Diweddarwyd 5 July 2023
Yn berthnasol i England, Gymru and Scotland
Bydd rhai ffioedd yn cynyddu ar 1 Gorffennaf 2024.
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle i wneud cais am gymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol i brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid
O dan Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p’un a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu fesul chwarter awr neu lai am yr amser y bydd APHA yn ei dreulio yn archwilio eich safle, yn prosesu eich cais ac yn teithio i’ch safle ac oddi yno.
Bydd APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a theithio i’r chwarter awr (15 munud) llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Tabl 1
Gwasanaeth | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024 |
---|---|---|
Amser teithio swyddog milfeddygol i safle ac oddi yno i gyflawni’r gweithgareddau yn nhablau 1 a 2 | £22 | £22 |
Amser teithio swyddog technegol APHA i safle ac oddi yno i gyflawni’r gweithgareddau yn nhablau 1 a 2 | £12 | £12 |
Cais i gymeradwyo safle rendro. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £2,134.50 | £2,484 |
Cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid i mewn i gompost. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £1,147 | £1,343 |
Cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgil-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid i mewn i fio-nwy. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £1,147 | £1,343 |
Cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n ymdrin â sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, gan gynnwys gweithgareddau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd risg penodedig. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £586 | £687 |
Cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £586 | £687 |
Cais i gymeradwyo safle llosgydd. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £476 | £557 |
Cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n gweithgynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes. Yn cynnwys ymweliad safle o hyd at 60 munud | £476 | £557 |
Amser ychwanegol i’r swyddog milfeddygol ymweld â’r safle (dros 60 munud) i asesu ei addasrwydd i’w gymeradwyo | £22 | £22 |
Amser i swyddog technegol APHA weinyddu ymweliadau a gweithgareddau ychwanegol | £11 | £11 |
Ffi weinyddol i gynhyrchu anfonebau ar gyfer ymweliadau a gweithgareddau ychwanegol | £21 fesul anfoneb | £21 fesul anfoneb |
Ffi sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle ar gyfer ymweliadau archwilio safle
O dan Erthygl 20 o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn gwneud y canlynol:
-
archwilio eich safle os bydd yr ymweliad safle yn para mwy na 30 munud
-
trefnu ymweliad archwilio safle
Bydd APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a threfnu i’r chwarter awr (15 munud) llawn nesaf o waith. Er enghraifft, (ar ôl y 30 munud cyntaf) os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Tabl 2
Gwasanaeth | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024 |
---|---|---|
Amser y swyddog milfeddygol am ymweliad archwilio safle sy’n para mwy na 30 munud | £22 | £22 |
Amser swyddog technegol APHA am ymweliad archwilio safle sy’n para mwy na 30 munud | £12 | £12 |
Amser a dreulir yn trefnu ymweliad archwilio safle ac yn ymdrin ag unrhyw gamau gweithredu o’r ymweliad gan un o swyddogion yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) | £11 | £11 |
Ffioedd ar gyfer 30 munud cyntaf ymweliad archwilio safle lle mae angen cynnal naill ai archwiliad blynyddol neu archwiliad bob dwy flynedd o sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | £188 fesul ymweliad | £219 fesul ymweliad |
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf pob un o’r pedwar ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae angen cynnal archwiliadau chwarterol o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | £752 y flwyddyn | £876 y flwyddyn |
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf pob un o’r deuddeg ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad cymeradwy neu gofrestredig lle mae angen cynnal archwiliadau misol o dan y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | £2,256 y flwyddyn | £2,628 y flwyddyn |