The Rt Hon Lord Henley

Bywgraffiad

Penodwyd yr Arglwydd Henley fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 21 Rhagfyr 2016, ac fel Arglwydd Preswyl (Chwip y Llywodraeth) ar 21 Tachwedd 2016. Mae’n aelod Ceidwadol o Dŷ’r Arglwyddi.

Gwasanaethodd yr Arglwydd Henley fel y Gweinidog Gwladol dros Atal Troseddu a Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o fis Medi 2011 i fis Medi 2012. Gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig o 2010 tan 2011.

Roedd yr Arglwydd Henley wedi dal nifer o swyddi yn y llywodraeth Geidwadol flaenorol, yn cynnwys Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol dros yr Adran Nawdd Cymdeithasol, yr Adran Gyflogaeth a’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedd hefyd yn Weinidog Gwladol dros yr Adran Addysg a Chyflogaeth. Yn yr Wrthblaid, bu’n gwasanaethu fel Prif Chwip, Dirprwy Llefarydd ac roedd yn llefarydd yr Wrthblaid dros Faterion Cyfreithiol a Chyfiawnder.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Clifton, Bryste a Phrifysgol Durham. Galwyd ef i’r Bar yn 1977.