Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth y Bwrdd Parôl a sut rydym yn monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth


Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym yn credu y dylai ein pobl adlewyrchu a deall y gymdeithas amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.

Mae’r Bwrdd Parôl wedi gwneud y canlynol:

  • ymrwymo i greu diwylliant cynhwysol lle bydd cyfleoedd cyfartal i bob aelod a staff waeth beth yw eu tarddiad ethnig, cred grefyddol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, oedran neu unrhyw ffactor amherthnasol arall.

  • ymrwymo i hyfforddi ei aelodau i adnabod materion cydraddoldeb er mwyn gwneud yn siŵr nad oes gwahaniaethu wrth ystyried rhyddhau troseddwyr ar barôl.

Rydym yn ymgorffori cydraddoldeb yn ein hamcanion craidd, ac yn gwneud pob ymdrech i ddileu gwahaniaethu, creu cyfleoedd cyfartal a datblygu cysylltiadau gwaith da rhwng gwahanol bobl.

Mae’n ofynnol i ni ystyried pob unigolyn yn ei waith o ddydd i ddydd, ac wrth lunio polisïau a darparu gwasanaethau. Mae hyn yn unol â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb sector cyhoeddus a gyflwynwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’n cynnwys cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer pob prosiect a menter, a bydd ein Fforwm Newid yn goruchwylio hynny.

Rydym yn dymuno i staff deimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi a bod ganddynt lais, felly mae gennym Grŵp Ymgysylltu â Gweithwyr i weithredu fel pwynt canolog i staff a rheolwyr gael trafod syniadau ar gyfer gwella a fydd yn gwneud y Bwrdd Parôl yn lle gwell fyth i weithio. Rydym yn cyfrannu at arolwg staff blynyddol y Gwasanaeth Sifil, ac yn gwerthuso a datblygu cynlluniau i ymateb i’r canfyddiadau. Yn ogystal, mae nifer o rwydweithiau staff y Weinyddiaeth Cyfiawnder y gall staff ac aelodau ymuno â nhw.

Mae gennym Grŵp Cynrychioli Aelodau sydd, drwy gysylltu â’r aelodaeth gyffredinol, yn gallu gweithredu fel cwndid ar gyfer trafodaethau rhwng aelodau a rheolwyr a chynnig safbwynt ystyriol i’r Pwyllgor Gweithredol mewn perthynas â datblygu polisïau ac arferion a all wella effeithiolrwydd gweithredol y Bwrdd Parôl.

Ffordd o ymdrin â Chydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (EDAG), sef grŵp sy’n cael ei arwain gan aelodau a staff, ac mae’n gwneud y canlynol:

  • hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn y Bwrdd Parôl
  • darparu dull integredig a rhagweithiol o fonitro, herio, dylanwadu a newid diwylliant y Bwrdd Parôl o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • cynnal trafodaethau agored ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n effeithio ar bob rhan o’r Bwrdd Parôl.
  • Cynghori’r Tîm Uwch-reolwyr a’r Pwyllgor Rheoli ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n effeithio ar y Bwrdd.

Mae’r EDAG yn cyfarfod bob chwarter, a gallwch ddarllen y Cylch Gorchwyl yma: Cylch Gorchwyl 2018 (MS Word Document, 381 KB)]

Amcanion Cydraddoldeb

Ym mis Gorffennaf 2016, estynnodd yr EDAG wahoddiad i Keith Davies, Darlithydd Cyswllt o Brifysgol Kingston, i hwyluso gweithdy gyda aelodau’r EDAG, er mwyn dechrau’r broses o ddrafftio cynllun gweithredu sy’n cynrychioli barn staff ac aelodau’r Bwrdd Parôl. Mae Keith Davies wedi darparu hyfforddiant ynghlch amrywiaeth i’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, y Gwasanaeth Carchardai ac i Arolygiaeth Carchardai EM.

Ar ôl pennu fframwaith ar gyfer y cynllun gweithredu, daeth yr EDAG ynghyd eto mewn cyfarfod ym mis Hydref 2016 ac ym mis Ionawr 2017 i roi cnawd ar y cynllun ac i ystyried y camau nesaf. Cwblhawyd Strategaeth Cydraddoldeb yn ystod 2017 ac fe’i cyhoeddwyd yn fuan yn 2018.

Mae’r Strategaeth yn cynnwys tair blaenoriaeth. Y bwriad yw iddynt adlewyrchu blaenoriaethau’r Bwrdd Parôl: ein prosesau, ein pobl a gwelliant parhaus:

  1. Prosesau parôl sy’n deg, hygyrch ac ymatebol

  2. Sicrhau Bwrdd Parôl sy’n fwy cynrychiadol

  3. Hyrwyddo diwylliant cynhwysol

O dan pob blaenoriaeth mae cyfres o amcanion i gefnogi’r broses o gyflawni’r blaenoriaethau.

Drwy’r strategaeth hon byddwn yn hyrwyddo ymrwymiad y Bwrdd Parôl i gyfleoedd cyfartal a datblygu diwylliant o amrywiaeth. Mae’r egwyddorion arweiniol o ran ymddygiad yn y gweithle, recriwtio a datblygu, tâl cysylltiedig a gweithdrefnau a thrin rhanddeiliaid, yn berthnasol i bob aelod a staff.

Gallwch ddarllen y strategaeth yma:

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb 2017 - 2020

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email info@paroleboard.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Cynllun Busnes

Wrth ddatblygu ein Cynllun Busnes cylchol, byddwn yn ystyried amcanion penodol yn ymwneud â’r blaenoriaethau cydraddoldeb. Bydd yr amcanion hyn yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella.

Recriwtio Staff

Nod y Bwrdd Parôl yw bod yn gyflogwr amrywiol a chynhwysol, sy’n dod â buddion sylweddol i’r sefydliad, gan gynnwys creadigrwydd, mewnwelediad ac arloesedd.

Mae ein prosesau recriwtio a dethol wedi’u dylunio i helpu i sicrhau cyfle cyfartal i bob aelod o staff ac ymgeiswyr i’r sefydliad waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth neu fynegiant o rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn dilyn y safonau uchel a osodwyd gan ein Partner Busnes Adnoddau Dynol ar gyfer prosesau recriwtio a dethol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n deg, yn wrthrychol ac yn dryloyw. Rydym yn sicrhau yr ymdrinnir â cheisiadau yn effeithiol ac yn gyfrinachol, a’u bod nhw’n cael eu diogelu bob amser yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Os bydd ymgeisydd yn dweud bod ganddo ef/hi anabledd, byddwn yn rhoi cyfle iddynt rannu rhagor o wybodaeth gyda ni a’n helpu i ddeall a oes unrhyw addasiadau rhesymol y gallem eu gwneud fel nad ydynt dan anfantais.

Mae ein polisi hefyd yn nodi y bydd ymgeiswyr sy’n dweud bod ganddynt anabledd ac sy’n bodloni meini prawf y rôl maen nhw’n ymgeisio amdani yn sicr o gael mynd ymlaen i gam nesaf y broses.

Recriwtio Aelodau

Mae’n bwysig i sefydliad adlewyrchu’r gymuned mae’n ei gwasanaethu, ac mae’r Bwrdd Parôl yn benderfynol o gynyddu amrywiaeth ei aelodaeth.

Mae Caroline Corby, Cadeirydd y Bwrdd Parôl wedi siarad ar goedd am ymrwymiad y Bwrdd Parôl i gynyddu cynrychiolaeth BAME o fewn ei aelodaeth.

Er bod gan y Bwrdd gydbwysedd da o ran rhyw, gyda mwy na 50% o’r aelodaeth gyfredol o tua 240 yn ferched, dim ond 5% sy’n BAME a does dim cynrychiolaeth ar hyn o bryd o’r gymuned pobl dduon.

Yn ystod y tair blynedd nesaf, rydym wedi ymrwymo i raglen allgymorth a recriwtio barhaus i fynd i’r afael â’r mater hwn. Er mwyn sicrhau ei fod more effeithiol â phosib, byddwn yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Ymgyrch 2019 oedd y cyntaf o’r ymgyrchoedd hyn, a bydd yn cael ei dilyn gan ymgyrchoedd yn y Canolbarth a’r De Ddwyrain yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am precriwtio aelodau, ewch i.

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder

Fel Corff Cyhoeddus Anadrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder rydym yn croesawu’r egwyddorion a’r amcanion a nodwyd yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2018 -2025, a gellir ei darllen yma

Sefydliadau rydym ni’n gweithio gyda nhw

Mae aelodau a staff y Bwrdd Parôl yn gallu cael gafael ar dîm a rhwydweithiau Amrywiaeth a Chynhwysiant y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys:

  • Proud - Cynrychioli buddiannau Staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)
  • Rhwydwaith Anabledd - Cynrychioli buddiannau gweithwyr ag anableddau.
  • Spirit - Cefnogi buddiannau gweithwyr LGBTQI.
  • Fforwm Cydraddoldeb Rhyw - Sicrhau nad yw rhyw yn effeithio ar hawliau a chyfleoedd, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb rhyw ar draws yr adran.
  • Cristnogion yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Cynrychioli a darparu cefnogaeth i weithwyr allu mynegi eu ffydd yn briodol yn y gweithle
  • Rhwydwaith Mwslimiaid y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Gweithio i ddileu gwahaniaethu, hybu cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da ar gyfer cydweithwyr Islamaidd.
  • Rhwydwaith Gofalwyr - Darparu cymorth, arweiniad a chyngor i gydweithwyr â chyfrifoldebau gofalu
  • Rhwydwaith Rhieni - Cynrychioli a chefnogi rhieni yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Rhwydwaith Rhannu Swyddi - Cynrychioli a chefnogi staff sy’n rhannu swyddi

Mae gan bob aelod a staff fynediad at PAM Assist, sef rhaglen gyfrinachol i gynorthwyo gweithwyr.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Project Race, sef menter i wella cydraddoldeb hil ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda mwy na 20 o sefydliadau i ddatblygu ein ffordd o ymdrin â’n hymgyrchoedd recriwtio cyfredol, gan gynnwys Operation Black Vote, Black Training & Enterprise Group, JUST Yorkshire a gorsafoedd radio lleol.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Keyring a change.org i ddatblygu fersiynau hawdd eu darllen o ddogfennau fel bod pob carcharor yn gallu cael gafael ar wybodaeth sy’n berthnasol i’w wrandawiad. Gallwch ddarllen y canllawiau EasyRead yma.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiynydd Dioddefwyr i wneud yn siŵr ein bod yn trin dioddefwyr trosedd gyda pharch ac urddas. Gallwch ddarllen ein hymrwymiad i ddioddefwyr trosedd yma.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiynydd Cymraeg ac fe gyhoeddwyd ein Cynllun Iaith Gymraeg a’r Cynllun Gweithredu sy’n mabwysiadu’r egwyddor y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal cyn belled ag y bo hynny’n briodol ac yn ymarferol wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Gallwch ddarllen y Cynllun a’r Cynllun Gweithredu yma.