Canllawiau

Ein Hymrwymiad i Ddioddefwyr Troseddau

Gwella ymgysylltu dioddefwyr yn y broses barôl

Applies to England and Wales

Canllaw ar barôl i ddioddefwyr

Cynllun Cyswllt Dioddefwyr

Os ydych wedi dioddef trosedd dreisgar neu rywiol, ac mae’r troseddwr yn cael dedfryd o 12 mis neu fwy, bydd hawl gennych i dderbyn gwybodaeth oddi wrth y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr (VCS).

Mae ymuno â’r cynllun yn golygu y bydd gennych Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a fydd:

  • Yn egluro sut mae dedfrydu yn gweithio
  • Yn eich diweddaru ynghylch dedfryd carchar y troseddwr ac am ei ryddhau
  • Yn dweud wrthoch chi os yw’r troseddwr yn gymwys i gael gwrandawiad Bwrdd Parôl
  • Yn dweud wrthoch chi sut i wneud datganiad i’w gyflwyno i wrandawiadau Bwrdd Parôl
  • Yn eich helpu i wneud cais am ‘amodau trwydded’, megis atal y troseddwr rhag cysylltu â chi neu ddod yn agos i’ch cartref.

Chi sydd yn dewis ymuno â’r cynllun neu beidio, a gallwch newid eich meddwl ynghylch ymuno ar unrhyw adeg yn ystod dedfryd y troseddwr.

Bydd angen i chi ddweud wrth eich Swyddog Cyswllt Dioddefwyr pryd bynnag y byddwch yn newid eich manylion cyswllt, fel y gallent gadw mewn cysylltiad â chi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r VCS e-bostiwch: vcsenquiries@justice.gov.uk

Dyletswydd y Bwrdd parôl i ddioddefwyr

Mae’r Bwrdd Parôl yn anelu at gyflwyno gwasanaeth o’r safon uchaf. Rydym wedi ymrwymo i egluro a darparu gwybodaeth ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud ac yn gwrando ar adborth. Y rheswm am hyn yw i sicrhau bod ein gwasanaeth i ddioddefwyr yn parhau i wella.

Rydym yn anelu at gydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr, sydd yn nodi sut y gall dioddefwyr ymgysylltu â’r broses barôl, yn ogystal ag argymhellion gan adolygiadau ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Dioddefwyr. Rydym hefyd yn glynu at Egwyddorion Trin Cwynion yn Dda yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd (PHSO).

Datganiadau Personol Dioddefwyr

Mae Datganiad Personol Dioddefwr yn cyfeirio at yr effaith a gafodd y drosedd ar y dioddefwr ar y pryd ac y mae’n parhau i’w gael hyd heddiw. Gall dioddefwr ofyn am i amodau penodol gael eu gosod pe byddai’r troseddwr yn cael ei ryddhau, er enghraifft i gynnwys ardal dan waharddiad yn y fan lle mae’r dioddefwr yn byw.

Darllenwch ymhellach ynghylch gwneud Datganiad Personol Dioddefwr

Nid yw Datganiad Personol Dioddefwr (VPS) yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y penderfyniad. Y rheswm am hyn yw mai asesiad risg yw ffocws y Bwrdd Parôl ac nid yw’r VPS yn cynnwys gwybodaeth ynghylch risg. Os oes gan ddioddefwr wybodaeth sy’n ymwneud â risg gan garcharor, dylid cyflwyno’r wybodaeth i’r gwasanaeth prawf, a fydd yn ystyried ei gynnwys yn eu hadroddiad. Nid yw’r VPS yn caniatáu i’r panel ofyn cwestiynau uniongyrchol i’r carcharor ynghylch effaith eu hymddygiad, mewnwelediad i’w hymddygiad, edifeirwch ac empathi. Mae’n rhoi mewnwelediad i’r panel i’r drosedd wreiddiol a’i heffaith. Mae hefyd yn helpu’r panel i wneud penderfyniadau am amodau trwydded priodol, os yw’r carcharor i gael ei ryddhau. Gall ysgrifennu Datganiad Personol Dioddefwr fod yn brofiad trawmatig a bydd Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cefnogi’r dioddefwyr trwy gydol y broses.

Cyhoeddwyd Datganiad Personol Dioddefwyr: Canllaw newydd i swyddogion yr heddlu, ymchwilwyr ac ymarferwyr cyfiawnder troseddol ar 13 Medi 2018. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ymarferol i unrhyw un all fod ynghlwm â’r broses VPS – yn cynnwys y Bwrdd Parôl, yn ogystal â swyddogion yr heddlu, staff o Wasanaeth Erlyn y Goron, Unedau Gofal Tystion, llysoedd a phrofiannaeth.

Dioddefwyr a’r broses Barôl

Rydym yn cydnabod y gall y broses barôl fod yn ddieithr ac yn destun pryder i lawer o bobl. Er hyn, rydym yn croesawu’r ffaith bod dioddefwyr yn dewis cyfrannu ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfranogiad. Lle bynnag y bo modd rydym yn anelu at leihau’r anawsterau perthnasol a gwella profiad dioddefwyr sy’n ymgysylltu â’r broses.

Fel rhan o’r broses barôl mae gan rai dioddefwyr hawl i gael cefnogaeth a gwybodaeth am eu hachos oddi wrth Swyddog Cyswllt Dioddefwyr o fewn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol. I gyrchu’r gwasanaeth hwn rhaid i ddioddefwyr gofrestru ar y Cynllun Cyswllt Dioddefwyr, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ysgrifennu Datganiad Personol Dioddefwr.

Ceir manylion pellach yn ein taflen Gwybodaeth i Ddioddefwyr a’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau

Hyfforddiant a Dysgu am faterion dioddefwyr

Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer:

  • Aelodau o’r Bwrdd Parôl i gynyddu eu dealltwriaeth o brofiad y dioddefwr
  • Ein staff i helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad o gyfranogaeth y dioddefwr yn y broses barôl ac i drafod ymholiadau gan ddioddefwyr sy’n ymwneud ag achosion penodol
  • Rydym yn cynnal Grŵp Trafod Dioddefwyr i aelodau o’r Bwrdd Parôl lle datblygir ac adolygir ymarfer da a chanllawiau parthed profiad y dioddefwr

Os aiff pethau o chwith i ddioddefwyr

  • Mae gennym broses yn ei lle i alluogi ymchwilio a datrys pryderon a chwynion yn gyflym, yn anffurfiol ac yn ffurfiol fel ei gilydd
  • Rydym yn rhoi gwybod i’r dioddefwr am hynt y gŵyn ac yn ymateb yn eu dull dewisol o gyfathrebu
  • Mae ein proses yn cynnwys yr hawl i’r dioddefwr gwyno i’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd os nad yw’r dioddefwr yn fodlon â’n hymateb.

Mae hyn wedi ei nodi yn ein Polisi Cwynion

Er hyn, ni allwn ddelio â chwynion ynghylch penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Parôl ynghylch a ddylid rhyddhau carcharor neu beidio.

Gwella ein gwasanaeth

Rydym yn cadw log, yn dadansoddi ac yn adrodd am ein holl gwynion ac adborth. Bydd ein Tîm o Uwch Reolwyr a’n Pwllgor Rheoli yn nodi sut gellir gwella ein gwasanaeth ar sail yr adroddiad hwn. Cysylltwch â ni os hoffech adael adborth neu sylwadau ar eich profiad o’r broses barôl fel dioddefwr trosedd

Swyddog Cwynion 0203 334 6921

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Rydym yn gweithio gyda Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr (VCO),y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ), Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS) a sefydliadau eraill i rannu arferion da, nodi a mynd i’r afael â phroblemau systemau ac yn edrych ar geisio gwella’n gwasanaeth i ddioddefwyr yn gyson.

Cyhoeddwyd ar 4 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 July 2019 + show all updates
  1. First published.

  2. Added link to content about how users can challenge a parole decision due to new legislation.

  3. "A victim's guide to parole" video has been added to this page. "A Victim's guide to parole" shows the different stages of parole from a victim’s point of view — from being told a parole review has started, to receiving a summary of the final decision.

  4. Cynllun Iaith Gymraeg Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth am barôl yn Gymraeg a Saesneg, erbyn hyn rydym wedi diweddaru nifer o adrannau ar ein tudalennau gwe i'r ddwy iaith. Welsh Language Scheme As part of our commitment to providing information about parole in English and Welsh we have now updated a number of sections on our web pages into both languages.

  5. Link to updated guidance added

  6. Amended sentence