Caffael yn DVLA

Sut rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau a sut gallwch weithio gyda ni.


Yr hyn rydym yn ei wneud

Mae ein tîm caffael yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â:

  • chyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus Ewropeaidd a chyfraith y DU
  • chanllawiau Swyddfa’r Cabinet ar gyfer caffael cyhoeddus o fewn Llywodraeth Ganolog.
  • chanllawiau caffael yr Adran Drafnidiaeth (AD) gan weithio gyda theulu’r AD fel rhan o dîm caffael rhith.

Rydym yn cynnal hyn drwy:

  • reoli nifer o berthnasau gontractio strategaethol mawr ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gan gynnwys: TG, teleffoni, ystadau Menter Cyllid Preifat, gwasanaethau cwsmer swyddfa blaen (Swyddfa’r Bost), argraffu a deunydd ysgrifennu, post a negeswyr, a gorfodi (clampio olwynion). Ar ran teulu’r AD rydym hefyd yn rheoli gweithgareddau traws-lywodraethol megis datrysiadau swyddfa, staff dros dro, teithio a lifrai
  • gefnogi’r weithred rheoli contractau drwy gyfathrebu’r polisi caffael a’r canllawiau ar draws DVLA er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwerth ein harian o’n trefniadau masnachol.
  • oruchwylio’r cyflwyniad o ymarferion tendro, o nodi’r angen hyd at ddyfarnu contract ac adrodd yn ôl gyda’r sawl sy’n tendro
  • reoli’r agweddau masnachol a chyflwyno contractau data i’r sefydliadau hynny sy’n derbyn data a gwasanaethau DVLA ar sail fasnachol

Yr hyn rydym yn ei brynu

Mae rhestr o’r cyfleoedd blaenorol a’r cyfleoedd presennol ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau ar gael ar ein tudalen Chwilio am Gontractau.

Canllawiau

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn tendro am gontract y sector gyhoeddus yn y canllaw - tendro ar gyfer contractau sector gyhoeddus.

Mae gwybodaeth arall ar gyfer cyflenwyr, gan gynnwys Amodau Cyffredinol Contractau (ar gyfer nwyddau, gwasanaethau ac amodau contractau archeb brynu) ar gael ar dudalennau caffael yr AD. Efallai y byddwch hefyd yn dymuno darllen ein gwybodaeth taliad prydlon.

O haf 2020, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn symud i system meddalwedd newydd i ganfod ac ymgymryd ag ymarferion tendro. Bydd hyn yn newid sut rydych chi’n rhyngweithio â ni. Bydd rhagor o wybodaeth am y system a’r broses ar gael wrth i ni nesáu at fynd yn fyw neu drwy gysylltu â ni yn DFTprocurement@dft.gov.uk.

Gweithio gyda gwybodaeth y llywodraeth a’i thrin

O 2 Ebrill 2014 bydd Llywodraeth Ei Mawrhydi yn rhoi Polisi Categoreiddio Diogelwch y Llywodraeth, ar waith a fydd yn newid y ffordd y caiff gwybodaeth y llywodraeth ei nodi a’i thrin. Gall asedau’r llywodraeth gael eu categoreiddio dan gynllun newydd 3 ddosbarth.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â’r Grŵp Gwasanaethau Masnachol (CSG) drwy anfon e-bost i csg@dvla.gov.uk.