Ein llywodraethiant

Y prif bwyllgorau gwneud penderfyniadau a rheoli yn APHA.


Bwrdd APHA

Mae’r bwrdd yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn. Mae’n gyfrifol am y canlynol:

  • gosod cyfeiriad strategol yr asiantaeth
  • sicrhau bod yr asiantaeth yn cyflawni ei thargedau
  • rheoli risg
  • rheoli’r ffordd rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a llywodraethau Cymru a’r Alban.

Cadeirydd y Bwrdd yw Elizabeth Buchanan, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol APHA. Yr aelodau a’r bobl sy’n mynychu yw:

  • Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA
  • Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Laurie Benson, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Mike Venables, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
  • Jenny Stewart, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth APHA
  • Dan Horton, Cyfarwyddwr Galluoedd Gwyddoniaeth APHA (Dros Dro)
  • Jason Field, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwyddonol ac Ymchwil APHA
  • Nicola Hirst, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau APHA
  • Richard Knight, Cyfarwyddwr Trawsnewid APHA
  • Richard McCart, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth ac Arloesi APHA (Dros Dro)
  • Irene Cristofaro, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
  • Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol (DU)
  • Nicola Spence, Prif Swyddog Iechyd Planhigion Defra
  • Anna Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol
  • Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Iechyd a Lles Anifeiliaid a Phlanhigion

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn gyda chyfarfodydd ychwanegol os bydd angen. Mae’n gyfrifol am y canlynol:

  • cefnogi’r bwrdd yn y gwaith o reoli risg
  • asesu perfformiad yr asiantaeth
  • adolygu rheolaeth ariannol yr asiantaeth
  • hysbysu’r bwrdd am ganlyniadau’r archwiliadau mewnol ac allanol

Y cadeirydd yr Lizzie Peers, Cyfarwyddwr Anweithredol, ac yr aelodau eraill yw:

  • Mike Venables, Cyfarwyddwr Anweithredol
  • David Horne, Aelod Annibynnol
  • Laurie Benson, Cyfarwyddwr Anweithredol

Y bobl sy’n dod i’r cyfarfod yn rheolaidd yw:

  • Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA
  • Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
  • Russ Baldwin, Pennaeth Cyllid a Phartneriaeth Busnes APHA
  • Natalie Towers, Prif Archwilydd Mewnol Defra ac GIAA
  • Defra, Rheolwr Risg a Sicrwydd APHA
  • Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Tîm Arwain Cyfarwyddiaeth APHA

Mae Tîm Arwain y Gyfarwyddiaeth yn cyfarfod yn fisol ac mae’n gyfrifol am y canlynol:

  • rhediad gweithredol APHA o ddydd i ddyddgweithredu gwelliannau
  • monitro cyflawniadau yn erbyn targedau
  • awdurdodi a rheoli rhaglen newid yr asiantaeth

Y cadeirydd yw Richard Lewis, Prif Weithredwr APHA. Yr aelodau eraill yw:

  • Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Cyllid APHA
  • Jenny Stewart, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth APHA
  • Dan Horton, Cyfarwyddwr Galluoedd Gwyddoniaeth APHA (Dros Dro)
  • Nicola Hirst, Cyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau APHA
  • Richard Knight, Cyfarwyddwr Trawsnewid APHA
  • Richard McCart, Cyfarwyddwr Cynllunio Strategaeth ac Arloesi APHA (Dros Dro)
  • Irene Cristofaro, Cyfarwyddwr Milfeddygol APHA
  • Anna Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Mae pedwar Is-bwyllgor APHA yn adlewyrchu pileri strategaeth APHA. Maent yn cefnogi’r Bwrdd Gweithredol.

Is-bwyllgorau APHA

Mae Is-bwyllgorau APHA yn cynnwys y 4 piler; Hyrwyddo, Diogelu, Pobl a Lle, ac Arloesi. Mae’r is-bwyllgorau’n cyfarfod yn fisol cyn y Bwrdd Gweithredol. Mae hyn yn caniatáu i faterion brys gael eu huwchgyfeirio i’r Bwrdd Gweithredol os oes angen. Mae’r pwyllgorau’n cefnogi’r Bwrdd Gweithredol ac mae ganddynt awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau sy’n berthnasol i’r pileri a materion gweithredol o ddydd i ddydd.

Mae gorchwylion ac aelodaeth yr is-bwyllgorau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

Bwrdd Cynghori Gwyddoniaeth APHA

Mae’r bwrdd yn cyfarfod saith gwaith y flwyddyn. Mae’n cefnogi Bwrdd APHA a’r Swyddog Cyfrifyddu yn eu cyfrifoldebau o ran goruchwylio a sicrhau gwaith gwyddonol APHA.

Y Cadeirydd yw Laura Green, Cyfarwyddwr Anweithredol. Mae’r aelodau eraill yn cynnwys amrywiaeth o wyddonwyr ac arbenigwyr allanol sy’n gweithio ar wyddoniaeth ac ymchwil milfeddygol a llywodraethol.

Bwrdd Llywodraethu Iechyd a Diogelwch ar y Cyd 

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn fisol ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod APHA yn ceisio codi safonau iechyd a diogelwch yn barhaus. Mae’n goruchwylio’r canlynol:  

  • y gwaith o roi strategaethau iechyd a diogelwch ar y cyd APHA a Defra ar waith 

  • cyflawni cynlluniau iechyd, diogelwch a llesiant APHA 

  • cynnal a rheoli seilwaith safle Weybridge  

Caiff ei gyd-gadeirio gan Jenny Stewart, y Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a, y Cyfarwyddwr grŵp Eiddo Defra.  

Mae’r aelodau yn cynnwys uwch-reolwyr sy’n cynrychioli gwahanol feysydd grŵp Eiddo APHA a Defra.