Stori newyddion

Eich cyfle i ddylanwadu ar bolisi ynghylch gwaredu daearegol

Datrysiad o safon fyd-eang i wastraff ymbelydrol y DU

Yr wythnos diwethaf, aeth Llywodraeth Cymru a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n cynnwys Lloegr a Gogledd Iwerddon, ati i gychwyn ymgyngoriadau ar wahân ond ar yr un pryd ynghylch y ffordd a gynigir i weithio gyda chymunedau o ran clustnodi safleoedd posibl ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol, a’r broses gynllunio gysylltiedig.

Caiff rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd gyfle i roi adborth a fydd yn helpu i siapio’r prif bolisïau ar waredu daearegol. Yn ôl Ann McCall, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Lleoli Cyfleusterau Gwaredu Daearegol RWM, bydd gwaredu daearegol yn cynnig ateb diogel a sicr dros dymor hir i reoli gwastraff ymbelydrol y DU, ac mae RWM yn croesawu’r ymgynghoriadau cyhoeddus sy’n rhoi’r cymunedau wrth galon y broses. Gan mai ni yw’r corff cyflawni ar gyfer gwaredu daearegol, rydym ni’n awyddus i weithio gyda chymunedau i ddatblygu’r rhaglen bwysig hon ar ran y gymdeithas.

Cyhoeddwyd ar 9 February 2018