Pobl ifanc ym Mhort Talbot yn disgwyl hwb o hyd at £5m mewn swyddi
Welsh Secretary today announces a new skills initiative in Port Talbot designed to help local young people into careers in well-paid local job opportunities.
- Hyd at £5 miliwn ar gael i Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot i ehangu Canolfan Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhort Talbot
- Bydd y cyllid yn helpu pobl ifanc ym Mhort Talbot i ddod o hyd i swyddi newydd sy’n talu’n dda yng Nghymru, gan gynnwys diwydiannau gwyrdd ac ynni glân fel gwynt arnofiol ar y môr, a’u helpu i baratoi ar gyfer y swyddi hynny
- Bydd pobl ifanc yn cael cymorth gyda chyflogaeth, sgiliau, tai ac iechyd, yn ogystal â thechnoleg i’w helpu i ddod o hyd i swyddi a chael mynediad at golegau a chyflogwyr lleol mewn diwydiannau gwyrdd.
Heddiw, bydd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyhoeddi menter sgiliau newydd ym Mhort Talbot sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl ifanc leol i gael gyrfaoedd yn niwydiannau gwyrdd Cymru a chyfleoedd gwaith lleol eraill sy’n talu’n dda.
Bydd swm cychwynnol o £250,000 yn cael ei drosglwyddo yn syth o Gronfa Sgiliau’r Bwrdd Pontio i Ganolfan Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhort Talbot. Bydd hyn yn helpu i sefydlu’r cynllun a nodi cyfleoedd i ehangu’r Ganolfan gyda rhagor o gyllid o hyd at £5m sydd ar gael o gronfeydd presennol y Bwrdd Pontio.
Bydd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyhoeddi hyn yn ystod ei hymweliad â chanolfan Undeb Community ym Mhort Talbot, sy’n cynnal y Ganolfan Ieuenctid.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Mae ehangu’r Ganolfan Ieuenctid ym Mhort Talbot yn rhoi pobl ifanc wrth galon y gwaith o adnewyddu economi’r ardal.
Bydd y buddsoddiad cychwynnol o £250,000 yn helpu i roi’r ganolfan ar waith, gan roi hwb cychwynnol i’r darpariaethau i helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau sydd arnynt eu hangen i gael mynediad at swyddi Port Talbot yn y dyfodol, fel ein diwydiannau gwyrdd a dur.
Gyda hyd at £5 miliwn ar gael, bydd y buddsoddiad hwn yn datgloi cyfleoedd gwaith newydd i filoedd o bobl ifanc yn yr ardal.”
Dywedodd Pat McFadden, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau:
Y buddsoddiad hwn yng Nghanolfan Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yw’r union fath o gymorth wedi’i dargedu a’i ddarparu’n lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Drwy roi adnoddau’n uniongyrchol i gymunedau fel Castell-nedd Port Talbot, rydyn ni’n rhoi gobaith i bobl ifanc ar yr un pryd â sicrhau bod gan fusnesau staff medrus wrth i ni symud i ynni glân.
Dylai pob person ifanc gael cyfle i ffynnu, a bydd mentrau fel yr un yma, ochr yn ochr â’n cymorth cyflogaeth ieuenctid gwerth £2.5 biliwn, yn cyflawni’r uchelgais honno.”
Dywedodd Paul McKenna, Ysgrifennydd Cenedlaethol Undeb Community ar gyfer Diwydiannau Dur:
Bydd y cyllid newydd hwn yn drawsnewidiol i’r Ganolfan Ieuenctid a bydd yn sicrhau mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc ym Mhort Talbot.
Mae’n gadarnhaol iawn gweld Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn nyfodol y genhedlaeth nesaf.
Bydd y buddsoddiad hwn yn ehangu darpariaethau presennol ac yn helpu i ddarparu swyddi newydd i bobl ifanc mewn diwydiannau gwyrdd, gan adlewyrchu’r ffaith bod y DU wedi newid i ynni adnewyddadwy.
Mae hefyd yn wych gweld y bydd canolfannau allgymorth ehangach i bobl ifanc yn cael eu datblygu mewn cymunedau llai sydd yn aml â rhwystrau ychwanegol rhag sicrhau cyflogaeth oherwydd cyfyngiadau daearyddol.”
Cynllun gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r Ganolfan Ieuenctid, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru, Undeb Community, cyflogwyr, elusennau a darparwyr hyfforddiant i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
Bydd y Ganolfan Ieuenctid yn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth canolfan waith ar y safle ochr yn ochr â chymorth iechyd meddwl a thai, cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant, arweiniad gyrfaoedd a chysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr sydd â chyfleoedd gwaith a phrentisiaeth cyfredol.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn helpu i roi hwb i sgiliau pobl ifanc drwy’r canlynol:
-
Ariannu technoleg newydd i bobl ifanc ei defnyddio er mwyn dod o hyd i swyddi a phrentisiaethau mewn sectorau fel dur, gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau gwyrdd a gwasanaethau ariannol.
-
Darparu cymorth pwrpasol i bobl ifanc feithrin sgiliau a dod o hyd i waith mewn sectorau yn y dyfodol, yn enwedig mewn diwydiannau gwyrdd, gan gynnwys drwy weithio gyda cholegau a busnesau lleol.
-
Datblygu canolfannau allgymorth ehangach i bobl ifanc mewn cymunedau eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r ardal gyfagos, gyda chymorth cyflogaeth ychwanegol yn cael ei roi ar waith.
-
Ehangu’r ddarpariaeth bresennol o gymorth cyflogaeth, sgiliau, tai ac iechyd.
Dyma ymyriad diweddaraf Llywodraeth y DU sydd wedi’i ddylunio i gefnogi cymunedau cynhyrchu dur yng Nghymru, diogelu dyfodol dur yng Nghymru, a sicrhau bod Port Talbot yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o bontio i ynni glân yn y DU.
O ganlyniad i fuddsoddiad ymroddedig o fwy na £700 miliwn gan Lywodraeth y DU yn y broses bontio ym Mhort Talbot, mae 5,000 o swyddi Tata Steel UK wedi cael eu diogelu ac ni fu cynnydd yn y nifer sy’n manteisio ar fudd-daliadau diweithdra yn y rhanbarth ers cau’r ffwrneisi chwyth.
Mae Llywodraeth y DU yn gwladoli’r gweithfeydd dur yn Scunthorpe oherwydd diffyg partner preifat dibynadwy, ymroddedig fel sydd gennym ym Mhort Talbot yn Tata Steel. Y nod yn Scunthorpe yw rhoi’r gwaith hwnnw ar lwybr tuag at gynhyrchu dur proffidiol, fel yr ydym eisoes wedi’i gyflawni ym Mhort Talbot.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â Phort Talbot heddiw gyda’r Arglwydd Stockwood, y Gweinidog Buddsoddi, i weld y cynnydd a wnaed o ran adeiladu’r ffwrnais arc drydan. Bu hi hefyd yn ymweld â’r Ganolfan Ieuenctid ym Mhort Talbot, sy’n rhan o ymrwymiad y Bwrdd Pontio i gefnogi pawb y mae colli swyddi yn yr ardal yn effeithio arnynt, gan gynnwys cefnogi pobl ifanc i gael gwaith sy’n talu’n dda.
Mae ehangu Canolfan Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau ym Mhort Talbot yn dyfnhau’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu’r gymuned, gan gynnwys drwy gymorth y Bwrdd Pontio sydd wedi ariannu cannoedd o fusnesau lleol i dyfu a goroesi, a miloedd o gyn-weithwyr dur i ailhyfforddi.