Datganiad i'r wasg

Safle Wylfa yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi mewn ynni, meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae Wylfa ar Ynys Mon yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi mewn ynni, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar ol i’r safle gael ei…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Wylfa ar Ynys Mon yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi mewn ynni, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar ol i’r safle gael ei gadarnhau fel lle addas i ddatblygu ynni niwclear.

Cyhoeddwyd y rhestr fer heddiw gan Charles Hendry, y Gweinidog Gwladol dros Ynni, fel rhan o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol Llywodraeth y DU ar Ynni. Bydd y datganiadau nawr yn cael eu trafod yn y Senedd.

A hithau’n croesawu’r ffaith bod safle Wylfa wedi cael ei gynnwys fel safle addas ar gyfer datblygu ynni niwclear, dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion gwych i Ynys Mon ac i economi Gogledd Cymru. Mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith yng Nghymru. Mae Wylfa yn lleoliad delfrydol. Bydd cyhoeddiad heddiw yn hwb enfawr i’r gweithlu, ac mae’n cynnig y posibilrwydd o gynhyrchu ynni’n barhaus ar yr ynys am flynyddoedd i ddod.

“Bydd rhywfaint o gapasiti cynhyrchu’r DU yn lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud y DU yn farchnad ddeniadol i fuddsoddwyr, er mwyn rhoi ynni carbon isel, fforddiadwy sydd wedi’i warantu i ni. Mae’r datganiadau a gyhoeddwyd heddiw yn nodi’r angen am don o fuddsoddiad mewn ffynonellau ynni newydd, a byddai cyfleoedd gwaith sylweddol yn dod yn sgil hyn.

“Mae Cymru yn gwneud enw iddi ei hun fel arweinydd gwyrdd, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer prosiectau ynni a datblygiad - ac mae hyn yn sicr yn newyddion da i economi Cymru”.

Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru: “Mae’r ffaith bod safle Wylfa wedi cael ei gynnwys fel safle addas ar gyfer datblygu ynni niwclear yn hwb enfawr i Ynys Mon a Gogledd Cymru. Mae Wylfa yn gyflogwyr pwysig ar Ynys Mon, ac mae’r safle’n chwarae rol allweddol yn yr economi leol. Yn dilyn cyhoeddiad heddiw, mae’n argoeli’n dda i’r ynys at y dyfodol o safbwynt cynhyrchu ynni niwclear.” 

Nodiadau i Olygyddion:

1.)      Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Niwclear yn rhestru’r safleoedd canlynol fel rhai a allai fod yn addas ar gyfer lleoli gorsafoedd pŵer niwclear newydd erbyn 2025: Bradwell, Essex; Hartlepool, Bwrdeistref Hartlepool; Heysham, Lancashire; Hinkley Point, Gwlad yr Haf; Oldbury, South Glos.; Sellafield, Cumbria; Sizewell, Suffolk; Wylfa, Ynys Mon.

2.)    Mae’r Datganiad Seneddol ar gael ar wefan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

3.)    Yr ymgynghoriad ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol: https://www.energynpsconsultation.decc.gov.uk/home. Daeth i ben ar 24ain Ionawr 2011. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol cyn hynny, rhwng mis Tachwedd 2009 a mis Chwefror 2010.

4.)    Mae’r Senedd wedi craffu ar y Datganiadau Polisi Cenedlaethol; cynhaliwyd trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ar 1 Rhagfyr 2010, bu Uwch Bwyllgor Tŷ’r Arglwyddi yn trafod Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar 11 a 13 Ionawr 2011, a chyhoeddodd y Pwyllgor Dethol ar Ynni a Newid Hinsawdd adroddiad ar 26 Ionawr 2011. Caiff Ymateb y Llywodraeth i’r Senedd, sy’n rhoi sylw i bwyntiau a wneir ym mhob un o’r rhain, ei gyhoeddi heddiw yn http://www.decc.gov.uk/en/content/cms/meeting_energy/consents_planning/nps_en_infra/nps_en_infra.aspx

Cyhoeddwyd ar 23 June 2011