Stori newyddion

Wylfa B yn symud gam yn nês, meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu cynnwys Wylfa B ar Ynys Mon ar restr fer o wyth o safleoedd ar hyd a lled y DU lle…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu cynnwys Wylfa B ar Ynys Mon ar restr fer o wyth o safleoedd ar hyd a lled y DU lle y gellid adeiladau atomfeydd.

Cyhoeddwyd y rhestr fer heddiw (dydd Llun, 18 Hydref) gan Chris Huhne, Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Hinsawdd fel rhan o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol Drafft y Llywodraeth ar Ynni, ac ochr yn ochr a chasgliadau Astudiaeth dwy flynedd o ddichonoldeb Morglawdd Hafren.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae cynnwys Wylfa ar y rhestr o safleoedd posibl ar gyfer atomfa yn newyddion da iawn i economi Ynys Mon a Gogledd Cymru - ac yn newyddion da i’r gweithwyr yn Wylfa.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dod a chynlluniau am adweithydd Wylfa B newydd gam yn nes, ac yn dilyn penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i barhau i gynhyrchu trydan ar safle presennol Wylfa am ddwy flynedd arall.

“Wedi cynhyrchu pŵer am bron i 40 mlynedd, mae Wylfa wedi profi ei bod wedi rhedeg gyrfa dda iawn.  Mae ei chynnwys ar y rhestr o safleoedd posibl ar gyfer y genhedlaeth newydd o adweithyddion niwclear yn cynnig gwir obaith y bydd cynhyrchu trydan yn parhau ar Ynys Mon am lawer blwyddyn i ddod.”

Yn y cyfamser, mae Astudiaeth o Ddichonoldeb Morglawdd Hafren wedi argymell nad oedd achos strategol dros y datblygiad morglawdd 10 milltir ar hyn o bryd.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae’r astudiaeth, a gasglwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ei gwneud yn glir nad oes achos strategol dros Forglawdd Hafren.  Ar gyfnod pan mae gwariant cyhoeddus yn cael ei wasgu, byddai’n gamwedd  neilltuo i fyny at £30biliwn i brosiect dadleuol sy’n cael ei ystyried yn risg uchel o’i gymharu a dulliau eraill o gynhyrchu’r trydan rydym ei angen.”

Ychwanegodd:  “Yn hytrach na mynd ar ol prosiect nad yw’n gwneud synnwyr economaidd ac a wrthwynebwyd gan lawer o grwpiau amgylcheddol - gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru a’r RSPB - credwn fod opsiynau carbon isel eraill, gan gynnwys ehangu prosiectau pŵer y gwynt fel y rhai rydym yn ei weld oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yn cynrychioli gwell bargen i ddiwydiant a defnyddwyr yng Nghymru ac ar hyd a lled y DU.”

Cyhoeddwyd ar 18 October 2010