Stori newyddion

Carchar Wrecsam yn cyfrannu miliynau at economi Gogledd Cymru ac yn paratoi ar gyfer bod yn gyflogwr mawr

Stephen Crabb: "Mae prosiectau sector cyhoeddus fel carchar Wrecsam yn dangos bod y rhanbarth mewn lleoliad gwych i wneud i fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd weithio"

Mae’r gwaith ar garchar newydd Wrecsam wedi cyfrannu mwy nag £19 miliwn at yr economi leol eisoes ac mae disgwyl iddo greu 1,000 o swyddi pan gaiff ei gwblhau, daeth yn amlwg heddiw.

Cadarnhawyd manylion yr hwb gwerth miliynau o bunnoedd wrth i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, a’r Gweinidog Carchardai, Andrew Selous, fynd o amgylch y cyfleuster sy’n cael ei adeiladu ar safle hen ffatri Firestone ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Cyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Michael Gove, y bydd naw carchar newydd yn cael eu hagor yng Nghymru a Lloegr fel rhan o’n diwygiadau i gau carchardai Fictoraidd aneffeithlon sydd wedi dyddio ac arbed £80 miliwn y flwyddyn.

Cyfarfu’r ddau Weinidog â chyflogeion rhai o’r busnesau sy’n gweithio ar y safle a chawsant wybod sut bydd rhyw £50 miliwn yn cael ei wario gyda chwmnïau cysylltiedig ag adeiladu - gyda mwyafrif yr arian gyda chwmnïau lleol.

Yn ystod yr awr yn mynd o amgylch y safle, gwelodd Mr Crabb a Mr Selous yr academi ddysgu arfaethedig hefyd, a’r ystafell ddosbarth lle bydd carcharorion yn dysgu sgiliau i roi iddynt well cyfle i gael gwaith ar ôl cael eu rhyddhau. Mae Carchar Wrecsam yn cael ei gynllunio gyda “diwylliant o adsefydlu” yn rhan greiddiol ohono, sy’n amrywio o hyfforddiant arbenigol i staff i addysg, cyflogaeth a hamdden.

Daeth yn amlwg heddiw y bydd hanner yr holl lafur ar gyfer y safle’n cael ei recriwtio yn lleol, a hefyd 100 o brentisiaethau a 500 o ddyddiau lleoliad gwaith y flwyddyn. Hefyd bydd y carchar yn gweithio gydag ysgolion cyfagos i gynnig help gyda gwasanaethau boreol sy’n rhoi sylw i yrfaoedd, a pharatoi CV ac ar gyfer cyfweliad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Ogledd Cymru, sydd ag economi sy’n tyfu’n gyflym yn seiliedig ar gymysgedd ddeinamig o allforwyr mawr a sector busnesau bach sy’n ffynnu.

Mae prosiectau sector cyhoeddus fel carchar Wrecsam yn dangos bod y rhanbarth mewn lleoliad gwych i wneud i fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd weithio. Mae Carchar Wrecsam yn darparu contractau ar gyfer busnesau a swyddi rhanbarthol i bobl leol.

Cafodd y Gweinidog Carchardai a’r Ysgrifennydd Gwladol weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar ddau floc a hefyd y neuadd chwaraeon a’r adeilad ategol.

Dywedodd Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai:

Mae ein carchardai’n rhy llawn ar hyn o bryd, ac wedi dyddio ac angen eu diwygio. Mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn lleihau aildroseddu, torri’n ôl ar droseddau a gwneud ein strydoedd yn fwy diogel. Heb hyn, bydd mwy o aildroseddu, mwy o droseddau, mwy o ddioddefwyr a bydd y cyhoedd yn llai diogel.

Bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn galluogi i ni drosglwyddo troseddwyr o adeiladau aneffeithiol sydd wedi dyddio i lety newydd sy’n cynnig cyfleoedd llawer gwell iddynt i ddatblygu’r sgiliau gwaith, addysg a bywyd sydd eu hangen ar gyfer adsefydlu’n effeithiol.

Yn sail i’r cyfraniad arwyddocaol a wnaiff Carchar Wrecsam at Ogledd Cymru mae penderfyniad y Llywodraeth i sicrhau cydbwysedd unwaith eto yn yr economi, heb ddibynnu ar ardaloedd fel Llundain a’r De Ddwyrain drwy’r adeg. Bydd Pwerdy’r Gogledd - sy’n cysylltu dinasoedd mawr ledled y gogledd fwy a mwy - o fudd i’r ardal, gyda thon newydd o fuddsoddiadau a swyddi.

Mae disgwyl i floc cyntaf y carchar fod ar agor ym mis Chwefror 2017 a bydd lle i 2,106 o garcharorion ynddo. Mae disgwyl i’r carchar fod yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017.

Hefyd bydd y safle hwn yn hwb enfawr i’r economi leol ac mae’n galonogol gweld yn uniongyrchol pa mor bell mae’r gwaith adeiladu wedi datblygu a’r cyfleoedd sydd ar gael eisoes i bobl a busnesau lleol.

Cyhoeddwyd ar 9 November 2015