Stori newyddion

Byddai statws dinas i Wrecsam yn ‘goron aur’ i’r dref –

Wrth i gystadleuaeth gael ei lansio heddiw i ddod o hyd i ddinas newydd a fydd yn nodi Jiwbili Diemwnt y Frenhines yn 2012, dywedodd David Jones…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wrth i gystadleuaeth gael ei lansio heddiw i ddod o hyd i ddinas newydd a fydd yn nodi Jiwbili Diemwnt y Frenhines yn 2012, dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru y bydd yn cefnogi ymgyrch i sicrhau statws dinas i Wrecsam.

 Mae cystadleuaeth yr anrhydeddau dinesig, a lansiwyd heddiw gan Mark Harper, y Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol, yn gwahodd awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig i wneud cais am statws dinas.

 Daw cais Wrecsam am statws dinas ar ol tri ymgais blaenorol ac yn awr mae Gweinidog Swyddfa Cymru yn cefnogi cais newydd mewn pryd ar gyfer dathliad Ei Mawrhydi’r Frenhines ym mis Mehefin 2012 i nodi 60 mlynedd ar yr orsedd.  

 Mae Wrecsam wedi cymryd camau sylweddol i ddatblygu ac ehangu ei hun ers y cais diwethaf yn 2002. Erbyn hyn, mae Wrecsam yn y pumed safle uchaf drwy’r DU o ran nifer y busnesau sydd wedi dechrau, ac mae cyfraddau’r gweithgarwch economaidd yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a’r DU.   

 Meddai David Jones:** “Mae’n naturiol bod Wrecsam yn cael ei chydnabod fel dinas - mae hi eisoes yn cael ei gweld fel ‘prifddinas’ Gogledd Cymru ac mae’n ffefryn gan lawer i ennill statws dinas fel canolfan addysgol a diwydiannol Gogledd Cymru.**

 ”A finnau wedi cael fy magu yn ardal Wrecsam, rwyf am weld Wrecsam yn cael yr hwb y mae’n ei haeddu ar ol yr ailddatblygu sylweddol yn ardaloedd dinesig a chyhoeddus y dref.   Byddai statws dinas i Wrecsam yn goron aur i’r dref sydd wedi datblygu i fod yn ddinas y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 1 December 2010