Stori newyddion

Rhaglen Waith yn sicrhau canlyniadau i Gymru, meddai Cheryl Gillan cyn yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Wrecsam

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [19eg Hydref], sef y diwrnod cyn yr Uwch-Bwyllgor Cymreig cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru er 10 mlynedd, dywedodd Cheryl Gillan fod…

Heddiw [19eg Hydref], sef y diwrnod cyn yr Uwch-Bwyllgor Cymreig cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru er 10 mlynedd, dywedodd Cheryl Gillan fod y Llywodraeth glymblaid, drwy’r Rhaglen Waith, yn helpu Cymru i fynd i’r afael a’r broblem ddiweithdra hirdymor y mae rhannau o Gymru wedi ei dioddef ers cenedlaethau.   

Cynhelir yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yfory yn Neuadd y Dref, Wrecsam, a bydd yn rhoi sylw i’r Rhaglen Waith a’i goblygiadau i Gymru. Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru hefyd groesawu’r penderfyniad i gynnal yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Wrecsam. Dywedodd y byddai hyn yn agor y drafodaeth i gynulleidfa ehangach. Fe wnaeth hefyd roi teyrnged i Chris Grayling, y Gweinidog dros Gyflogaeth, a fydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor.      

Dywedodd Cheryl Gillan: “Mae cynnal yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Wrecsam yn dangos bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i drafodaeth iach ac ymgysylltu ag Aelodau Seneddol Cymru ar bob mater sy’n peri pryder i bobl Cymru. Mae hefyd yn bleser gennyf groesawu fy nghydweithiwr, Chris Grayling, i’r cyfarfod. Mae sicrhau bod Gweinidogion Gwladol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor yn pwysleisio ymrwymiad cadarn y Llywodraeth hon i’r agenda parch. 

“Yn y Pwyllgor yfory, byddwn yn trafod y Rhaglen Waith, a byddaf yn pwysleisio’r ffaith bod yn rhaid i waith sicrhau canlyniadau bob amser.  Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau’r diffyg ariannol, ond mae hefyd wedi ymrwymo i greu’r amodau cywir fel bod mwy o gymhelliant i weithio. Yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r sector preifat ac yn helpu i gefnogi busnesau bach a chanolig er mwyn annog y twf cynaliadwy hirdymor y mae ar Gymru wir ei angen.  Mae’n hen bryd i ni helpu Cymru i fynd i’r afael a’r broblem ddiweithdra hirdymor y mae rhannau o Gymru wedi ei dioddef ers cenedlaethau. Mae hyn yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth glymblaid hon wedi ymrwymo iddo.   

“Mae gennym hanes llwyddiannus dros ben o sicrhau canlyniadau ar gyfer Cymru hyd yma, gan fuddsoddi’n helaeth yn y seilwaith cywir - gyda £56.9 miliwn i ehangu’r cysylltiad band eang a £1 biliwn i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Dde Cymru. Rydym wedi cyflwyno refferendwm i gael rhagor o bwerau deddfu, sef rhywbeth yr oedd y Llywodraeth flaenorol yn llusgo’i thraed yn ei gylch. Gwnaethom gyhoeddi’r Comisiwn Silk yn ddiweddar hefyd a fydd yn edrych ar ddatganoli a chyllid. 

“Rwy’n edrych ymlaen at ragor o gyfleoedd i fynd a thrafodaeth agored a chlir allan o’r siambrau traddodiadol ac i neuaddau dinas a threfi ledled y wlad, lle bynnag y bo hynny’n bosib.  Mae’r Uwch-Bwyllgor Cymreig hwn yn agored i’r cyhoedd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn gyfle i’r sawl na fyddai’n mynychu’r digwyddiadau hyn fel arfer ystyried dod i gael blas.”

Bydd yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn cyfarfod rhwng 11.00am a 4.00pm ddydd Iau 20fed Hydref ym **Mhrif Siambr Neuadd y Dref, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.  **Bydd y Pwyllgor hefyd yn clywed gan y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth, a bydd y cyfarfod yn agored i’r wasg ac i’r cyhoedd.

RHAGOR O WYBODAETH:

  • Mae’r Uwch-Bwyllgor Cymreig yn cynnwys 40 Aelod Seneddol Cymru, ac ar hyn o bryd, hyd at 5 arall. Mae’n trafod materion sy’n berthnasol i Gymru. Gallai trafodaethau’r Pwyllgor gael eu cynnal yn Gymraeg neu’n Saesneg.