Datganiad i'r wasg

Gwaith ar droed ar ‘Dro Halton’ i roi hwb i gysylltiadau rheilffordd Rhanbarth Dinas Lerpwl, Swydd Gaer a Gogledd Cymru

Alun Cairns: Bydd gwelliannau o gymorth i ryddhau cyfleoedd am dwf economaidd yng Ngogledd Cymru.

Halton Curve work gets underway

Mae gwaith wedi dechrau ar yr 1.5 milltir o drac rheilffordd, sy’n cael ei adnabod fel ‘Tro Halton’, a fydd yn rhyddhau cyfleoedd hamdden a busnes rhwng Rhanbarth Dinas Lerpwl, maes awyr y ddinas, Swydd Gaer a Gogledd Cymru.

Heddiw (dydd Gwener, 14eg Gorffennaf), bydd arweinwyr a phrif swyddogion yn nodi’r achlysur drwy fynd ar ochr y trac ar y ‘Tro’.

Mae cynllun Tro Halton, sy’n cael ei gyflwyno gan Network Rail, yn adfer defnydd llawn o’r darn o’r lein sy’n cysylltu lein Caer/Warrington â lein Lerpwl/Crewe yng Nghyffordd Frodsham.

Bydd uwchraddio hanfodol ar y trac a’r signalau ar y tro’n galluogi gwasanaeth newydd bob awr, i’r ddau gyfeiriad, rhwng Lerpwl a Chaer, gan wasanaethu Lime Street yn Lerpwl, South Parkway yn Lerpwl (ar gyfer maes awyr John Lennon yn Lerpwl) Runcorn, Frodsham a Helsby.

Bydd y gwasanaethau, y gobeithir dechrau eu gweithredu o fis Rhagfyr 2018 ymlaen, yn creu 250,000 o dripiau newydd, gan roi hwb o £100m i’r economi.

Un trên yr awr fydd y gwasanaeth i ddechrau ond mae disgwyl i’r galw gryfhau’r achos dros drenau amlach, yn enwedig gyda chynlluniau ar gyfer ymestyn y gwasanaethau i Ogledd Cymru - rhywbeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o’r fasnachfraint Cymru a’r Gororau sydd ar y gorwel.

Gan fod y siwrneiau rhwng Rhanbarth Dinas Lerpwl, Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru’n ddibynnol i raddau helaeth ar hyn o bryd ar geir, mae disgwyl i’r gwasanaeth newydd ddileu’r angen am 170,000 o siwrneiau ffordd, gan helpu i leihau’r prysurdeb ar lwybrau allweddol, fel yr M56 a’r A55.

Mae’r uwchraddio’n rhan o Brosiect Rheilffordd Mawr y Gogledd gan Network Rail, lle bydd mwy nag £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rheilffordd ledled y gogledd, fel rhan o’r Cynllun Uwchraddio Rheilffyrdd cenedlaethol.

Mae’r prosiect hwn, y mae disgwyl iddo gostio uchafswm o £18.75m, yn cael ei gyllido drwy Fargen Twf Llywodraeth y DU a Rhanbarth Dinas Lerpwl. Mae’n cael ei ddatblygu gan Ranbarth Dinas Lerpwl (gan gynnwys Cyngor Halton), Cyngor Swydd Gaer a Gorllewin Swydd Gaer a Llywodraeth Cymru, a chonsortiwm o’r chwe awdurdod sirol yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar y llwybr at wneud teithio rhwng gogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru yn llawer haws ac rwy’n hynod falch bod Llywodraeth y DU wedi gallu helpu i wneud i hyn ddigwydd. Pan fydd wedi’i chwblhau, bydd y lein yn gwella’r cysylltiadau rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru, gan ddarparu manteision i fusnesau, cymudwyr a thwristiaid a rhyddhau potensial ar gyfer twf economaidd yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd Steve Rotheram, Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl:

Rydw i’n croesawu torri’r dywarchen ar brosiect sydd wedi bod yn uchelgais ers amser maith i lawer. Ni ddylai pobl gael eu cyfyngu yn eu cyfleoedd gwaith neu hamdden, oherwydd mae cymaint i’w cael ar draws ein Rhanbarth Dinesig, yn Swydd Gaer ac yng Ngogledd Cymru. Bydd posib dechrau gwireddu’r rhain yn llawn drwy gyfrwng y cyswllt yma y mae ei wir angen.

Nid prosiect ar ei ben ei hun yw hwn, ond rhan o’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer cysylltedd â Rhanbarth Dinas Lerpwl a’r Gogledd yn ehangach i uno’r seilwaith rheilffordd HS2 o’r gogledd i’r de gyda Rheilffordd y Pwerdy Gogleddol o’r gorllewin i’r dwyrain i Lerpwl.

Dywedodd Gweinidog y Pwerdy Gogleddol, Jake Berry:

Roedd Lerpwl yn gartref i reilffordd teithwyr cyntaf y byd a nawr mae’r rhanbarth dinesig yn hawlio ei statws fel rhan o gysylltedd rheilffordd blaengar gyda Thro Halton.

Mae’r llywodraeth wedi buddsoddi mwy nag £16m yn Nhro Halton, fel rhan o’n cynlluniau i wella trafnidiaeth ledled y Pwerdy Gogleddol.

Yn union fel mae’r Pwerdy Gogleddol yn flaenoriaeth tymor hir i’r llywodraeth, bydd y buddsoddiad hwn yn darparu manteision parhaus gyda disgwyl y bydd hwb o £100 miliwn i’r economi leol.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Tro Halton yn rhan o raglen fuddsoddi gwerth £340m yn y rheilffyrdd gan Network Rail a Rhanbarth Dinas Lerpwl o nawr tan 2019. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma

  • Cyllid Bargen Twf Rhanbarth Dinas Lerpwl

Mae’r prosiect wedi cael ychydig dros £16m o gyllid gan y Fargen Twf. Ym mis Mawrth 2014, sicrhaodd LEP Rhanbarth Dinas Lerpwl gyfanswm o £232m o Gyllid Twf Lleol gan y Cynllun Twf a gyflwynwyd i’r Llywodraeth. Roedd y Cynllun hwn yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol i ryddhau potensial y rhanbarth gyda’r nod tymor hir o gyflawni twf economaidd a chreu swyddi.

Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Twf, cliciwch yma

Cyhoeddwyd ar 14 July 2017