Stori newyddion

Tynnu sianel ffacs y Gofrestrfa Tir ar gyfer cyflwyno yn ôl

O 14 Medi, mae'r Gofrestrfa Tir yn tynnu ffacs yn ôl fel sianel cyflwyno.

fax machine

Felly, ni fyddwn yn derbyn ffacsys nac yn cyhoeddi canlyniadau trwy ffacs mwyach ar gyfer:

  • unrhyw geisiadau am wasanaeth rhagarweiniol, megis copi swyddogol neu chwiliad swyddogol o’r cyfan
  • gohebiaeth megis atebion i ymholiadau, cwestiynau neu rybuddion gwrthwynebiad

Ni fydd gwasanaethau Pridiannau Tir (gan gynnwys ceisiadau i chwilio’r Mynegai Enwau Perchnogion a wneir ar ffurflen PN1) wedi’u heffeithio gan y newid hwn.

Mae’r defnydd o ffacs wedi dirywio’n raddol wrth i gwsmeriaid newid i’n gwasanaethau ar-lein. Cyflwynwyd dros 99% o geisiadau am wasanaeth rhagarweiniol yn electronig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r wybodaeth a gawn mewn ffacs yn aml wedi’i hailadrodd mewn ebost, galwad ffôn neu ohebiaeth a gawn trwy’r post neu’n electronig.

Mae nifer o ddewisiadau eraill y gall cwsmeriaid eu defnyddio i gyflwyno eu ceisiadau a gohebiaeth ar unwaith, megis y porthol (ein sianel trafodion ar-lein), ac ebost.

Er y gellir cyflwyno’r rhan fwyaf o geisiadau am wasanaeth rhagarweiniol yn electronig, rydym wedi gweld yr angen i wella’r broses gyflwyno ar gyfer ceisiadau Copïau Hanesyddol (HC1). Felly, o 14 Medi bydd cwsmeriaid sydd â chyfrifon debyd uniongyrchol newidiol yn gallu cyflwyno ceisiadau HC1 (ar gyfer cofnodion y gofrestr yn unig) trwy ebost. Bydd ffi ostyngol o £3 y teitl yn berthnasol ar gyfer y dull hwn o gyflwyno.

Mae tynnu gwasanaeth ffacs yn ôl yn gam arall ar ein taith i ddod yn sefydliad mwy digidol. Yn ogystal, mae’n ategu ein cyfraniad tuag at nodau strategaeth Greening Government: Information and Communications Technology (ICT) Strategy sy’n nodi sut y bydd TGCh y llywodraeth yn cyfrannu at ymrwymiadau gwyrdd a chyflwyno arbedion ariannol, yn ogystal ag arferion effeithlon a gwyrdd.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd ar 3 September 2015