Am ornest!
Galwodd yr Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns ar gefnogwyr chwaraeon i gefnogi'r paffiwr o Gymru, Lee Selby, wrth iddo i amddiffyn ei deitl IBF pwysau plu y byd.
Bydd Lee, sy’n 29 oed ac yn dod o’r Barri, yn camu i’r ring yng Ngwesty’r MGM Grand yn Las Vegas yn oriau mân fore Sul i wynebu Jonathan Victor Barros o’r Ariannin.
Mae Lee wedi cael ei wahodd yn flaenorol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Dŷ’r Cyffredin. Cafodd y paffiwr daith o gwmpas Dau Dŷ’r Senedd a chyfarfu ag aelodau seneddol Cymru yn San Steffan fel rhan o’i ymweliad.
Dywedodd Mr Cairns:
Mae Lee yn baffiwr sydd wedi cyrraedd y brig ac rwy’n siŵr y bydd holl gefnogwyr Lee yn aros ar eu traed i’w wylio yn yr ornest.
Roedd hi’n hyfryd cael croesawu Lee i Dŷ’r Cyffredin - dydw i ddim yn rhy siŵr a oedd yn gweld llawer o wahaniaeth rhwng y cecru ar lawr Tŷ’r Cyffredin ar hyn sy’n digwydd yn y ring paffio!
Dymunaf y gorau i Lee. Fel ein pêl-droedwyr, ein chwaraewyr rybgi a’n hathletwyr, mae’n llysgennad gwych i Gymru ac i chwaraeon.