Datganiad i'r wasg

Gorllewin Cymru yn ysbrydoliaeth fel cyrchfan i dwristiaid, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru

Mae cyrchfannau i dwristiaid, megis Folly Farm a Heatherton, yn arwain y gwaith o hybu economi Gorllewin Cymru, meddai David Jones, Gweinidog…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae cyrchfannau i dwristiaid, megis Folly Farm a Heatherton, yn arwain y gwaith o hybu economi Gorllewin Cymru, meddai David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru. Heddiw [23ain Awst], yw diwrnod cyntaf taith y Gweinidog o amgylch rai o’r parciau gwyliau a’r cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yng Ngorllewin Cymru sy’n perfformio orau yn y diwydiant ymwelwyr yn y rhanbarth.   

Mae Folly Farm a Pharc Gweithgareddau Heatherton wedi helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n dod i’r ardal, wrth i atyniadau a pharciau gwyliau weld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r twristiaid sydd ddim yn mentro’n rhy bell o’u hardal leol.

Dywedodd Mr Jones: “Mae twristiaeth yn hollbwysig i economi Cymru, gan gyfrif am 13.3% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Cymru a chefnogi oddeutu 86,000 o swyddi ledled Cymru. A hithau’n dal yn wyliau’r haf, ceir digonedd o atyniadau i ymwelwyr yng Ngorllewin Cymru.

“Rydym ni fel llywodraeth yn cydnabod rol hollbwysig twristiaeth yn ein heconomi. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer busnesau, gan gynnwys y rheini yn y sector twristiaeth. Mae rhai o’r mesurau yr ydym wedi eu cyflwyno i helpu busnesau i dyfu yn cynnwys gwell seilwaith band eang, system dreth fwy cystadleuol a llai o reoliadau.

“Mae Gorllewin Cymru yn ysbrydoliaeth fel cyrchfan i dwristiaid, a gan fod Llwybr Arfordir Sir Benfro bellach wedi cyrraedd y tri uchaf yn y rhestr o brif lwybrau cerdded y byd, mae’r ardal hon ar y ffordd i fod yn un o brif gyrchfannau twristiaid y byd.

Cyhoeddwyd ar 23 August 2011