Stori newyddion

Rydyn ni'n newid ein cyfeiriadau ebost

Diweddarwch eich cofnodion cyfeiriadau ebost ar gyfer y Gofrestrfa Tir o 30 Ionawr 2016.

gsi

O 30 Ionawr 2016

Bydd y Gofrestrfa Tir yn newid ei chyfeiriadau ebost.

Ar y dyddiad hwn byddwn yn tynnu ‘.gsi’ o’r cyfeiriadau ebost, gan eu newid o @landregistry.gsi.gov.uk i @landregistry.gov.uk.

Felly, fel enghraifft os Tomos Jones yw eich cyswllt, bydd ei gyfeiriad yn newid o:

  • tomos.jones@landregistry.gsi.gov.uk

i

  • tomos.jones@landregistry.gov.uk

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddiweddaru ail ran y cyfeiriad ebost os byddwch am gysylltu ag aelod o’n staff neu flwch negeseuon grŵp ar ôl 30 Ionawr.

Bydd hanner cyntaf y cyfeiriad ebost yn aros heb ei newid. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd negeseuon sydd â’r cyfeiriad anghywir yn cael eu hailgyfeirio’n awtomatig i’r cyfeiriad cywir.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Er mwyn osgoi amharu ar wasanaeth ac er mwyn sicrhau y bydd eich negeseuon ebost yn parhau i gael eu derbyn bydd angen i chi ddilyn y camau canlynol:

O 30 Ionawr

Bydd angen i chi ddiweddaru eich cofnodion cyfeiriadau ebost ar gyfer y Gofrestrfa Tir gan ddefnyddio’r ffurf newydd

Erbyn 29 Chwefror

Bydd angen diweddaru’ch cofnodion , gan y bydd negeseuon ebost sydd wedi’u cyfeirio’n anghywir yn derbyn neges adlam ar ôl y cofnod pontio hwn

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r newid hwn neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd ar 2 November 2015