Datganiad i'r wasg

Caeau newydd Clwb Pêl-droed y Trallwng wedi’u hariannu’n rhannol gan grant Llywodraeth y DU

Derbyniodd y clwb £66,000 gan gronfa bêl-droed ar lawr gwlad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

David TC Davies kicking a football

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod draw yng Nghlwb Pêl-droed y Trallwng er mwyn gweld y cyfleusterau newydd sydd wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU. Rhoddwyd bron i £66,000 i’r clwb er mwyn iddynt allu creu tri chae pêl-droed newydd i’r timau iau, a fyddai’n cymryd lle’r caeau a gollwyd wrth i ysgol newydd gael ei hadeiladu.

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed y Trallwng yn 1878, ac erbyn heddiw mae’r tîm cyntaf yn chwarae yng Nghynghrair Lock Stock Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru. Mae gan y clwb adran iau boblogaidd gyda deg grŵp oedran ac un tîm merched.

Ymwelodd Mr Davies â’r caeau newydd ddydd Iau (9 Chwefror) lle clywodd am gynlluniau’r clwb i ehangu a chynnig cyfleusterau ar gyfer pêl-droed cerdded, yn ogystal ag hyfforddiant a gemau i fwy o dimau merched a menywod.

Dywedodd Eva Bredsdorff, Ysgrifennydd y Clwb:

Roedd Clwb Pêl-droed y Trallwng yn falch iawn o gael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Faesydre, a chael dangos y tri chae newydd sydd wedi’u creu diolch i’r grant hael gan Lywodraeth y DU.

Buom yn trafod ein cynlluniau tymor byr a thymor hir, yn ogystal â sut rydyn ni’n gobeithio datblygu’r cyfleusterau pêl-droed yn y Trallwng.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:

Roedd yn bleser mawr ymweld â’r clwb sydd wrth galon y gymuned yn y Trallwng. Roedd hi hefyd yn bleser cael cwrdd â’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint o amser ac egni i sicrhau bod Clwb Pêl-droed y Trallwng yn parhau i ffynnu.

Rwy’n falch iawn o weld Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn cyfleusterau fel hyn, gan eu bod yn dod â manteision iechyd a chymdeithasol amhrisiadwy i bobl leol.

Dywedodd Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru:

Mae gwella cyfleusterau ar lawr gwlad yn ffocws allweddol i ni yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru. Ar ôl lansio Sefydliad Pêl-droed Cymru yn ddiweddar, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi clybiau pêl-droed ledled Cymru i fod yn ganolfannau cymunedol sy’n dod â manteision cymdeithasol, iechyd ac economaidd i’r ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd yn Nhre’r Trallwng, sydd wedi bod yn bosibl drwy gyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn enghraifft berffaith o’r gwaith hwn.

Roedd yn bleser cael ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol ar ei ymweliad i weld y caeau newydd, ac i drafod effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y gymuned leol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 February 2023