Datganiad i'r wasg

Gweithwyr Cymru i elwa ar fynediad ar-lein i wybodaeth am bensiynau

Lansio dangosfwrdd pensiynau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod ymweliad â ffatri basteiod Peter’s ym Medwas heddiw

  • Bydd cynilwyr ledled Cymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth am bensiynau ar ffôn clyfar neu gyfrifiadur tabled
  • Bydd y cynlluniau yn cynorthwyo’r diwydiant i ddarparu gwasanaethau am ddim sy’n hawdd eu defnyddio

Bydd dangosfyrddau pensiynau newydd yn cynnig mynediad i bobl at eu gwybodaeth o bensiynau lluosog ar adeg o’u dewis, cyhoeddodd Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn ystod ymweliad â Gwasanaeth Bwyd Peter’s ym Medwas heddiw (4 Ebrill).

Mae Peter’s, sy’n enwog am ei basteiod, yn un o gyflogwyr cynhyrchu bwyd mwyaf Cymru. Mae ganddo bron i 700 o weithwyr, a bydd dros 100 ohonynt yn cyrraedd oedran pensiwn yn y degawd nesaf.

Bydd y dangosfyrddau pensiwn yn galluogi pawb yng Nghymru sydd â phensiwn i weld yr holl ffeithiau a ffigurau am eu cronfeydd pensiwn ac incwm ymddeol posibl mewn un lle - ar ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled a chyfrifiaduron.

Dywedodd Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau:

Gyda’r niferoedd uchaf erioed yn cynilo ar gyfer ymddeol o ganlyniad i’n diwygiadau chwyldroadol, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl yn deall eu pensiynau ac yn paratoi ar gyfer diogelwch ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae gan ddangosfyrddau y potensial i drawsnewid y ffordd rydym i gyd yn ystyried ac yn cynllunio ar gyfer ymddeol, gan ddarparu gwybodaeth glir a syml am gynilion pensiwn mewn un lle ar-lein. Rwy’n edrych ymlaen at weld dangosfyrddau cyntaf y diwydiant yn ddiweddarach eleni.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn cadw cwmni i Ms Rudd ar yr ymweliad, lle byddant yn cwrdd â rhai o staff Peter’s a fydd yn elwa yn sgil y cyhoeddiad. Mae’r cwmni, sydd wedi ei leoli yng Nghaerffili ers bron i hanner canrif, yn gwneud pasteiod, bwydydd crwst a rholiau sy’n cael eu gwerthu i archfarchnadoedd a chwsmeriaid gwasanaethau bwyd ledled y wlad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Y dyddiau hyn gallwch weld y rhan fwyaf o’ch gwybodaeth ariannol ar-lein, ac ni ddylai eich cronfeydd pensiwn fod yn eithriad yn hynny o beth.

Mae bron i 300,000 yn rhagor o bobl ledled Cymru yn cynilo drwy bensiwn yn y gweithle erbyn hyn diolch i gofrestru awtomatig, felly ni fu erioed amser gwell i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau cynilo drwy ddarparu gwybodaeth syml wrth bwyso botwm.

Dywedodd Mike Grimwood, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Bwyd Peter’s:

Fel un o frandiau mwyaf eiconig a phoblogaidd Cymru, rydym yn croesawu’r cyfle i arddangos ein cynnyrch yn ogystal â’n staff ymroddedig sy’n eu cynhyrchu a’u darparu.

Mae Peter’s yn cyflogi ei holl staff yn uniongyrchol, sy’n anarferol i’n sector, ac rydym yn falch o’r ymrwymiad y mae pawb yn ei roi i’r busnes. Mae’n hanfodol bod pawb yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol ac mae unrhyw beth sy’n helpu unigolion i ddeall a chynllunio eu pensiynau ymddeol yn hynod bwysig, pa un ai pensiynau a ddarparwn ydynt ynteu gynlluniau eraill.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Yng Nghymru mae 787,000 o dderbynwyr pensiwn preifat, sy’n 511,000 o gynnydd ers 2012.

Mae manylion allweddol cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd heddiw yn ei hymateb i ymgynghoriad ar ddangosfyrddau, yn cynnwys:

  • Ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth ar y cyfle cyntaf i orfodi pob darparwr pensiynau i sicrhau bod data defnyddwyr ar gael iddynt drwy ddangosfwrdd;
  • Disgwyliad y bydd mwyafrif y cynlluniau yn barod i ‘fynd yn fyw’ gyda’u data o fewn ffenestr o dair i bedair blynedd;
  • Cadarnhad y bydd gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei chynnwys cyn gynted â phosibl;
  • Bydd dangosfyrddau yn helpu i ailgysylltu pobl â chronfeydd pensiwn ‘coll’, sydd o fudd i gynilwyr a darparwyr.
Cyhoeddwyd ar 4 April 2019