Datganiad i'r wasg

Gwerth dros £30,000 o ol-daliadau i'r gweithwyr yn Nghymru sydd ar y cyflog isaf

17 o gyflogwyr o Gymru yn cael eu henwi am beidio â thalu’r Isafswm Cyflog neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol

  • Dros 13,000 o’r gweithwyr sydd ar y cyflog isaf yn y DU yn cael ôl-daliad, diolch i ymchwiliadau gan Lywodraeth y DU

  • Cyflogwyr ar draws y DU yn cael dirwyon o £1.9m – y ffigur mwyaf erioed – am beidio â thalu cyfraddau isafswm cyflog

Bydd dros 13,000 o’r gweithwyr sydd ar y cyflog isaf yn y DU yn cael gwerth tua £2m o ôl-daliadau, fel rhan o gynllun y llywodraeth i enwi cyflogwyr sydd heb dalu’r Isafswm Cyflog a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Heddiw (16 Awst 2017), cyhoeddodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol restr o 233 o fusnesau a oedd heb dalu digon i’w gweithwyr.

Yn ogystal â thalu’r arian dyledus yn ôl i’w staff, mae’r cyflogwyr ar y rhestr wedi cael dirwy o £1.9m – y ffigur mwyaf erioed – gan y llywodraeth. Siopau a busnesau trin gwallt a lletygarwch oedd rhai o’r troseddwyr mwyaf cyson.

Ers 2013, mae’r cynllun wedi sicrhau gwerth £6m o ôl-daliadau ar gyfer 40,000 o weithwyr, gyda 1,200 o gyflogwyr yn cael dirwyon o £4m.

Dywedodd Margot James, y Gweinidog Busnes:

Mae’n anghyfreithlon i dalu llai na’r cyfraddau cyfreithiol ar gyfer isafswm cyflog, i beidio â thalu digon i weithwyr cyffredin ac i danseilio cyflogwyr gonest.

Bydd y set o gyflogwyr a enwir heddiw yn sicrhau gwerth £2m o ôl-daliadau i weithwyr, ac yn anfon neges glir i gyflogwyr y bydd y rheini sy’n torri’r gyfraith yn cael eu cosbi’n llym gan y llywodraeth.

Dyma rai o gamgymeriadau cyffredin y cyflogwyr yn y set hon: tynnu arian o gyflogau er mwyn talu am wisgoedd, peidio â chydnabod oriau goramser, a thalu cyfraddau prentisiaid i weithwyr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Er bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwneud pethau’n iawn, mae’n annerbyniol nad yw rhai cyflogwyr yng Nghymru yn talu o leiaf yr isafswm cyflog y mae gan eu gweithwyr yr hawl i’w gael.

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pawb sy’n gweithio yn cael cyflog teg, ac o greu economi sy’n gweithio i bawb. Mae’r cynnydd a wnaed ym mis Ebrill i’r cyfraddau isafswm cyflog a chyflog byw cenedlaethol yn sicrhau bod gan y gweithwyr sydd ar y cyflog isaf yng Nghymru fwy o arian yn eu pocedi nag erioed o’r blaen.

Ni fyddwn yn goddef esgusodion am beidio â thalu’r arian y mae gan weithwyr hawl i’w gael yn gyfreithiol.

Dywedodd Melissa Tatton, Cyfarwyddwr yng Nghyllid a Thollau EM:

Mae Cyllid a Thollau EM wedi ymrwymo i sicrhau bod y gweithwyr sydd heb gael eu talu ddigon yn cael eu harian yn ôl, ac yn dal i fynd ar ôl cyflogwyr sy’n anwybyddu’r gyfraith.

Dylai’r rheini sydd ddim yn talu’r Isafswm Cyflog neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i’w gweithwyr fod yn barod i wynebu’r canlyniadau.

Dyma’r 17 o gyflogwyr yng Nghymru sy’n cael eu henwi heddiw:

  1. Mr William Gareth Griffiths a Mrs Llinos Griffiths sy’n masnachu fel Gareth Griffiths, Ceredigion SY23, am beidio â thalu £9,230.56 i un gweithiwr.
  2. Miss Tracey Newnian sy’n masnachu fel Tracey’s Unisex Salon, Sir Gaerfyrddin SA31, am beidio â thalu £3,879.67 i un gweithiwr.
  3. Thai Lounge (Caerdydd) Limited sy’n masnachu fel Thai Lounge, Caerdydd CF14, am beidio â thalu £2,527.27 i bedwar gweithiwr.
  4. Bluestone Resorts Limited, Sir Benfro SA67, am beidio â thalu £2,378.98 i ddau weithiwr.
  5. Mr Paul Isaac a Mrs Hayley Isaac sy’n masnachu fel Refit Design Shopfitters, Castell-nedd Port Talbot SA10, am beidio â thalu £1,941.04 i un gweithiwr.
  6. Burlesque Hair Company Limited, Casnewydd NP20, am beidio â thalu £1,672.58 i dri gweithiwr.
  7. Celtic Community Services Limited, Rhondda Cynon Taf CF72, am beidio â thalu £1,521.44 i bum gweithiwr.
  8. Kingston City Properties Limited, Caerdydd CF24, am beidio â thalu £626.01 i un gweithiwr.
  9. Burrows Day Care Nursery (Porthcawl) Limited, Pen-y-bont ar Ogwr CF36, am beidio â thalu £550.30 i bedwar gweithiwr.
  10. The Wild Swan Limited, Abertawe SA1, am beidio â thalu £380.71 i bedwar gweithiwr.
  11. Mr Talal Al-Arab a Mr Hani Hussain sy’n masnachu fel Bella Pizza, Gwynedd LL55, am beidio â thalu £377.25 i un gweithiwr.
  12. Ms Mandy James sy’n masnachu fel Prince of Wales Treorci, Rhondda Cynon Taf CF42, am beidio â thalu £254.34 i un gweithiwr.
  13. M Camilleri & Sons Roofing Limited, Bro Morgannwg CF64, am beidio â thalu £1,150.68 i 11 gweithiwr.
  14. Adeiladwyr Eryri Builders CYF, Gwynedd LL52, am beidio â thalu £864 i un gweithiwr.
  15. Mr Dylan Rhys Roberts sy’n masnachu fel D R Roberts Plumbing & Heating, Sir Ddinbych LL15, am beidio â thalu £735.58 i un gweithiwr.
  16. Whistlestop Café (Gogledd Cymru) Ltd sy’n masnachu fel Whistlestop Café, Sir Ddinbych LL18, am beidio â thalu £433.68 i un gweithiwr.
  17. Ruthin Castle Hotel Ltd, Sir Ddinbych LL15, am beidio â thalu £2,182.49 i un gweithiwr.

Mae tua 2,000 o achosion yn agored ar hyn o bryd sy’n cael eu harchwilio gan Gyllid a Thollau EM. Bydd cyflogwyr perthnasol yn cael eu henwi a’u cywilyddio ar ôl i’w hachosion gael eu cau.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo £25.3m ar gyfer gorfodi’r isafswm cyflog yn 2017/18, yn ogystal ag £1.7m ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Cyhoeddodd David Metcalf, Cyfarwyddwr Labour Market Enforcement, ei adroddiad rhagarweiniol ym mis Gorffennaf 2017, gan ddweud y byddai’n gweithio gydag asiantaethau gorfodi er mwyn mynd ar ôl mwy o gyflogwyr diegwyddor.

I gael rhagor o wybodaeth am eich cyflog chi, neu os ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n cael eich talu ddigon o bosib, gallwch gael cyngor ac arweiniad yma

Nodiadau i olygyddion

  1. Dyma’r 12fed set o gyflogwyr i gael eu henwi a’u cywilyddio gan y llywodraeth am beidio â thalu’r cyfraddau isafswm cyflog a chyflog byw cenedlaethol.
  2. Mae gan gyflogwyr ddyletswydd i fod yn ymwybodol o wahanol gyfraddau cyfreithiol yr isafswm cyflog a’r cyflog byw cenedlaethol, ac i gydymffurfio â’r rheini. Os yw gweithwyr yn poeni nad ydynt yn cael y cyfraddau cywir, neu os oes angen rhagor o wybodaeth ar gyflogwyr am y gofynion cyfreithiol, gallant ofyn am gyngor gan Acas: www.acas.org.uk/nmw.
  3. Os bydd Acas yn credu nad yw’r cyflogwr wedi bod yn talu’r isafswm cyflog cenedlaethol, bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at Gyllid a Thollau EM a fydd yn ymchwilio i’r mater.
  4. Mae Cyllid a Thollau EM yn mynd ar drywydd pob cwyn sy’n dod i law gan Acas.
  5. Mae Cyllid a Thollau EM yn gweithio ar tua 2,000 o achosion ar hyn o bryd, a bydd gweithwyr cymwys yn cael eu henwi a’u cywilyddio ar ôl i’w hachosion gael eu cau.
  6. Dyma’r sectorau amlwg a gafodd eu henwi a’u cywilyddio yn y set hon: * Trin gwallt a thriniaethau harddwch eraill: tua 60 o gyflogwyr, oddeutu £121,000 o ôl-ddyledion i tua 200 o weithwyr * Lletygarwch: tua 50 o gyflogwyr, oddeutu £77,000 o ôl-ddyledion i tua 220 o weithwyr * Gwerthu: tuag 20 o gyflogwyr, £1.5 miliwn o ôl-ddyledion i tua 12,200 o weithwyr
  7. Dyma’r cyfraddau isafswm cyflog presennol: * Y Cyflog Byw Cenedlaethol (25 oed a hŷn) – £7.50 yr awr * Cyfradd oedolion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (21-24 mlwydd oed) – £7.05 yr awr * Pobl ifanc 18-20 mlwydd oed – £5.60 yr awr * Pobl ifanc 16-17 mlwydd oed – £4.05 yr awr * Cyfradd prentis – £3.50 yr awr i brentisiaid o dan 19 mlwydd oed, neu dros 19 mlwydd oed ac yn ystod blwyddyn gyntaf prentisiaeth.
  8. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cyflogwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth yn ymwneud ag isafswm cyflog, ac i’w orfodi’n effeithiol: * bydd y llywodraeth yn gwario £25.3m ar orfodi’r isafswm cyflog yn 2017/18, sy’n fwy na’r ffigur o £20m yn 2016/17 * ym mis Tachwedd y llynedd, daeth gorchmynion ac ymgymeriadau gorfodi ar gyfer y farchnad lafur i rym o dan y Ddeddf Mewnfudo. Gallai hyn, yn y pen draw, arwain at erlyniadau troseddol a dedfryd o garchar o hyd at ddwy flynedd i gyflogwyr sydd ddim yn trin eu gweithwyr yn briodol, gan gynnwys peidio â chadw at yr isafswm cyflog cenedlaethol * cyhoeddodd Syr David Metcalf, Cyfarwyddwr Labour Market Enforcement, ei adroddiad rhagarweiniol ym mis Gorffennaf 2017, yn nodi’r meysydd y bydd yn canolbwyntio arnynt dros y misoedd nesaf, gan gynnwys sicrhau bod asiantaethau gorfodi’n barod i ddefnyddio’r ymgymeriadau a’r gorchmynion newydd i anfon cyflogwyr diegwyddor i’r carchar
  9. Daeth cynllun diwygiedig yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i enwi cyflogwyr sy’n torri’r gyfraith isafswm cyflog i rym ar 1 Hydref 2013. Mae’r cynllun yn un o amryw o adnoddau sydd gan y llywodraeth i fynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd yn rhaid i gyflogwyr sy’n talu llai na’r isafswm cyflog dalu’r cyflog yn ôl i’r gweithwyr fel ôl-daliadau ar y cyfraddau isafswm cyflog presennol, a byddant hefyd yn wynebu cosbau ariannol o hyd at 200% o ôl-ddyledion, wedi’u capio ar £20,000 ar gyfer pob gweithiwr. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gellir erlyn cyflogwyr.
  10. Ar 1 Hydref 2013, cafodd y cynllun enwi ei ddiwygio gan y llywodraeth er mwyn ei gwneud hi’n haws i enwi a chywilyddio cyflogwyr sy’n torri’r gyfraith.
  11. O dan y cynllun hwn, bydd y llywodraeth yn enwi pob cyflogwr sydd wedi cael Hysbysiad o Dandaliad (NoU) oni bai y bydd cyflogwyr yn bodloni un o’r meini prawf eithriadol neu os oes ganddynt ôl-ddyledion o £100 neu lai. Doedd dim un o’r 233 o achosion a enwir heddiw (16 Awst 2017) wedi talu’r cyfraddau isafswm cyflog neu gyflog byw cenedlaethol, ac roedd angen iddynt wneud dros £100 o ôl-ddyledion.
  12. Mae gan gyflogwyr 28 diwrnod i apelio yn erbyn yr Hysbysiad o Dandaliad (mae’r hysbysiad hwn yn nodi’r cyflogau sy’n ddyledus y bydd yn rhaid i’r cyflogwr eu talu, yn ogystal â’r ddirwy am beidio â chydymffurfio â’r gyfraith o ran isafswm cyflog). Os na fydd y cyflogwr yn apelio, neu os bydd ei apêl yn erbyn yr Hysbysiad o Dandaliad yn aflwyddiannus, bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystyried ei enwi. Yna bydd gan y cyflogwr 14 diwrnod i gyflwyno sylwadau i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn egluro a yw’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf eithriadol:
  13. Byddai cael ei enwi gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gallu achosi risg o niwed personol i unigolyn neu i’w deulu;
  14. Yn yr achos hwn, byddai enwi’r cyflogwr yn arwain at risg i ddiogelwch y wlad;
  15. Ffactorau eraill sy’n awgrymu na fyddai enwi’r cyflogwr o fudd i’r cyhoedd.
  16. Os na fydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cael unrhyw sylwadau, neu os bydd y sylwadau a ddaw i law yn aflwyddiannus, bydd y cyflogwr yn cael ei enwi drwy ddatganiad i’r wasg gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol o dan y cynllun hwn.
Cyhoeddwyd ar 16 August 2017