Stori newyddion

Merched Cymru yn arwain y ffordd wrth i gyflogaeth fod ar ei uchaf erioed bron

Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf bron gyda chynnydd yn nifer y merched sy’n gweithio.

Labour Market Statistics

Daeth y tueddiad i’r amlwg yn ystadegau diwethaf y Farchnad Lafur ar gyfer Cymru yn ymwneud â Mawrth i Fai 2015. Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd bore heddiw (Mercher, Gorffennaf 15):

  • Y nifer uchaf erioed o ferched yn gweithio yng Nghymru, gyda lefelau cyflogaeth wedi cynyddu 18,000 yn ystod y chwarter diwethaf.
  • Y lefelau uchaf erioed bron o gyflogaeth yng Nghymru - wedi cynyddu 36,000 dros y flwyddyn ddiwethaf ac 19,000 yn y chwarter diwethaf yn unig.
  • Gwelodd Gymru y cynnydd mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith unrhyw un o genhedloedd neu ranbarthau’r DU dros y flwyddyn a thros y chwarter.
  • Fe wnaeth anweithgarwch economaidd yng Nghymru ostwng mwy nag yn unrhyw un o genhedloedd neu ranbarthau’r DU - 26,000 yn is dros y chwarter a 34,000 yn is dros y flwyddyn.
  • Roedd nifer y bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith 500 yn is ym Mehefin, a 4,400 yn is dros y flwyddyn.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ddiwrnod yn unig ar ôl i’r Prif Weinidog addo cau’r blwch cyflog rhwng dynion a merched, mae’n wych gweld merched Cymru yn arwain y ffordd yn ôl i’r gweithle.

Mae’r niferoedd uchaf erioed bron mewn gwaith yng Nghymru erbyn hyn, gyda’r cynnydd yn ein cyfradd gyflogaeth yn well nag yn Llundain, yr Alban a De-ddwyrain Lloegr. Wrth i’r adferiad ledu drwy Gymru, rydym yn torri’r cylchoedd dibyniaeth ac yn sicrhau bod gwaith yn talu.

Mae Cymru wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn anweithgarwch economaidd yn unrhyw le yn y DU wrth i bobl symud draw oddi wrth ddibyniaeth tuag at chwilio am waith. Mae’r cynnydd yn y gyfradd ddiweithdra yn adlewyrchu’r ffaith fod mwy o bobl nawr yn cymryd eu cam cyntaf yn ôl i’r gweithle drwy fynd ati i chwilio am waith.

Cyhoeddwyd ar 15 July 2015