Datganiad i'r wasg

NEGES BLWYDDYN NEWYDD YSGRIFENNYDD GWLADOL CYMRU SIMON HART

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi diolch i bobl ledled Cymru am eu haberth parhaus yn y frwydr yn erbyn y pandemig Covid-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Image of Simon Hart MP

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi diolch i bobl ledled Cymru am eu haberth parhaus yn y frwydr yn erbyn y pandemig Covid-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mewn neges ar gyfer y Flwyddyn Newydd, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi edrych yn ôl ar flwyddyn lle parhaodd y pandemig byd-eang i fod yn ffactor anferthol ym mywydau pawb, ond roedd hefyd yn gyfnod pan gyflwynwyd rhaglen frechu arloesol y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am eu haberthau parhaus yn ystod y pandemig. Unwaith eto, mae pobl o bob cwr o’r wlad wedi dangos y gorau o Gymru yn 2021 - boed yn helpu i edrych ar ôl eu cymunedau, rhoi cymorth a chefnogaeth i gymdogion a theulu neu drwy ddilyn y rheoliadau.

Mae’r rhaglen frechu anhygoel wedi ein rhoi ar ben y ffordd i drechu’r feirws. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech honno - o’r bobl a’i datblygodd ac a’i cynhyrchodd, i’n gweithwyr iechyd ar reng flaen y pandemig a’n Lluoedd Arfog a roddodd gymorth hanfodol i roi’r rhaglen ar waith.

Mae’rymdrech anhygoel i gyflwyno’r rhaglen frechu yn 2021 – a chyflwyno brechlynnau atgyfnerthu yn ddiweddar- wedi sicrhau bod nifer fawr o’r boblogaeth yn llawer mwy diogel. Golyga hyn yn ddiamheuaeth ein bod mewn sefyllfa well na 12 mis yn ôl. Er bod gennym lawer o waith i’w gyflawni eto, rwy’n annog pawb sydd heb gael eu brechu neu heb gael brechiad atgyfnerthu i fwrw ati i gael eu brechiadau nawr.

Cefnogi’r DU drwy gyfnod y pandemig oedd ein blaenoriaeth eleni. Mi wnaeth pecyn cymorth digynsail Llywodraeth y DU – yn cynnwys 18 mis o ffyrlo – lawer iawn i warchod busnesau a bywoliaethau. Cefnogwyd traean o swyddi yng Nghymru, sef tua 500,000 o swyddi, gyda’n cynlluniau ffyrlo a hunangyflogaeth, a helpodd hyn i warchod teuluoedd rhag y storm economaidd.

Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i warchod bywydau a bywoliaethau yng Nghymru, pa mor hir bynnag y bydd y pandemig yn parhau.

Hefyd, bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fyfyrio ar waith cyflenwi Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru yn 2021, ac edrychodd ymlaen at 2022 wrth i Lywodraeth y DU geisio adfer ei hun o’r pandemig a darparu ei agenda pwysig ar godi’r gwastad.

Dywedodd:

Hwyrach ei bod hi’n anodd dychmygu ar hyn o bryd, ond rwy’n ffyddiog y bydd gennym lawer mwy i’w ddathlu yn 2022.

Bellach yng Nghymru, mae pob rhan o’r wlad o dan gynllun bargen dwf. Mae’r cynlluniau economaidd pwysig hyn yn gyfleoedd anferthol i helpu i adfer economi Cymru. Mae Llywodraethau Cymru a’r DU yn gweithio llaw yn llaw gydag awdurdodau lleol a’r sector busnes i wireddu potensial ein rhanbarthau gwahanol i’r eithaf.

Mae codi’r gwastad yn ganolbwynt i uchelgeisiau Llywodraeth y DU ac mae Cymru i elwa’n aruthrol o’n cynlluniau. Y llynedd, gwnaethom lansio’r Gronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Adfywio Cymunedol a’r Cronfeydd Perchnogaeth Gymunedol. Mae dros 175 o brosiectau ledled Cymru, cyfran uwch na chenhedloedd eraill y DU, eisoes wedi derbyn dros £150m o arian uniongyrchol ar gyfer cynlluniau sy’n amrywio o welliannau i isadeiledd ffyrdd yn y Rhondda ac adeiladu canolfannau cymunedol yng nghanol trefi Penfro a Chaerfyrddin, i arian ar gyfer pobl leol yng Ngwynedd i helpu i brynu eu tafarn leol.

Wedi cyhoeddi’r cronfeydd hyn yng Nghyllideb yr Hydref, roeddwn wedi gallu ymweld â llawer o’r prosiectau a oedd wedi cael arian gyda’r Ysgrifennydd Codi’r Gwastad, Michael Gove. Roedd y cynlluniau a welais yng Nghanolfan Gelfyddydau Muni, Pontypridd, safleoedd twristiaeth Dyffryn Dyfrdwy a thai gwydr Cyfarthfa ym Merthyr yn gyffrous tu hwnt. Bydd cymunedau ledled Cymru yn cael eu gweddnewid yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r arian hwn gael ei roi ar waith.

Cymru yw un o gartrefi traddodiadol Lluoedd Arfog y DU ac roeddwn wrth fy modd yn gweld y cyhoeddiad y byddai nifer personél y Weinyddiaeth Amddiffyn a leolir yng Nghymru yn cynyddu. Roedd adleoli’r Marchoglu Cymreig i Sir Fynwy yn benderfyniad arwyddocaol iawn ac yn newyddion i’w groesawu. Hefyd, roeddwn yn falch iawn cyhoeddi y bydd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cael ei sefydlu, i’w recriwtio yn 2022. Daw hyn a Chymru’n unol â chenhedloedd eraill y DU sydd â chomisiynwyr ar waith eisoes.

Eleni, cynhaliodd y DU gynhadledd COP 26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, a ddaeth a phobl dros y byd at ei gilydd i fynd i’r afael ag argyfwng mawr arall ein dyddiau ni - yr argyfwng hinsawdd.

Gall Cymru arwain y byd yn y chwyldro gwyrdd hwn. Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt a thonnau oddi ar arfordir Môn ac yn y Môr Celtaidd tra bod busnesau ledled y wlad yn pontio i dechnolegau a chyfleoedd newydd.

Boed ein huchelgeisiau gwyrdd, ein cynlluniau cysylltedd digidol, neu ein hymrwymiad i ddod ag o leiaf un porthladd rhydd i Gymru, bydd y flwyddyn nesaf yn ymwneud â chreu swyddi ac adfer. Gallwn fod yn obeithiol am 2022. Rydym wedi negodi cytundebau masnach gydag Awstralia, Seland Newydd ac eraill, ac mae mwy ar y gweill. Am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, bydd ffermwyr Cymru yn gallu allforio ŵyn i’r Unol Daleithiau a bydd ardal fawr o Ogledd Orllewin Cymru yn cychwyn y Flwyddyn Newydd gyda’i statws newydd fel safle treftadaeth y byd UNESCO. Bydd yn elwa o broffil uwch a mwy o dwristiaeth ar ôl i’w dirlun llechi anhygoel gael ei gydnabod, a hynny’n haeddiannol.

Er na allwn fod yn sicr pan fydd y pandemig yn derfynol y tu cefn i ni, rydym yn glir o ran graddfa uchelgais Llywodraeth y DU dros Gymru. Byddwn yn parhau â’n gwaith yn codi’r gwastad rhwng cenedlaethau a rhanbarthau’r DU, yn blaenoriaethu iechyd a’r brechlynnau, ac yn rhoi hwb i swyddi a chyfoeth drwy’r Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd ar 30 December 2021