Stori newyddion

Datganiad Ysgrifennydd Cymru ar Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Datganiad Ysgrifennydd Cymru yn dilyn cyfarfod cyntaf Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.

Welsh Secretary, David TC Davies.

Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel. Mae £100 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU a Tata Steel ar gael i’r Bwrdd Pontio ei ddefnyddio i gefnogi’r bobl a’r busnesau yr effeithir arnynt, yn ogystal â chefnogi adfywiad hirdymor yr economi leol.

Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot, dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch iawn bod y Bwrdd Pontio wedi’i sefydlu ac mae’r cyfarfod heddiw wedi bod yn gam pwysig cyntaf. Mae’n hanfodol bod yr holl bartneriaid yn cydweithio ac yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i’r cymunedau yr effeithir arnynt, ac rydym wedi gweld y gwaith hwnnw’n dechrau heddiw.

Rydyn ni’n gwybod bod heriau o’n blaenau, ond rwy’n glir bod gennym ni’r bobl iawn o amgylch y bwrdd a fydd i gyd yn gwneud eu gorau i hwyluso’r newid i ddur mwy gwyrdd a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar y gymuned.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 19 October 2023