Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru’n croesawu cynlluniau gwerth £500m Llywodraeth y DU i gysylltu Cymru a Heathrow

Heddiw [12 Gorffennaf], mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [12 Gorffennaf], mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening, am y cyswllt gorllewinol i Heathrow gwerth £500 miliwn.

Cyhoeddwyd y cynlluniau wrth i’r Adran Drafnidiaeth gyhoeddi dogfen ymgynghori Fframwaith Polisi Hedfan drafft, sy’n nodi strategaeth hirdymor y Llywodraeth ar gyfer diwydiant hedfan cynaliadwy yn y DU. Bydd yn golygu y bydd De Cymru’n cysylltu a phrif ganolfan awyr y DU am y tro cyntaf yn hytrach na gorfod teithio i Lundain i fynd i Heathrow.

Mae’r ddogfen yn nodi nifer o fesurau a fydd yn gwella profiadau teithwyr mewn meysydd awyr yn y DU, cysylltiadau rhyngwladol ac yn gwella defnydd o lwybrau glanio. Mae’r cynigion yn amlinellu ymrwymiad i gyswllt rheilffordd newydd i Heathrow a fydd yn arbed 30 munud ar y siwrnai o Gymru i Orllewin Lloegr, a gallai fod yn weithredol mor fuan a 2021.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae ffocws Llywodraeth y DU yn mynd y tu hwnt i wledydd unigol; dyna pam y gwnaethon ni benderfynu adeiladu’r estyniad i Heathrow, a fydd yn cysylltu De Cymru am y tro cyntaf a phrif ganolfan awyr y DU, ac yn sicrhau amseroedd teithio cyflymach rhwng Caerdydd a Heathrow. Daw hyn ar ben y trydaneiddio o Lundain i Gaerdydd a gyhoeddwyd y llynedd.

“Mae Swyddfa Cymru wastad wedi cefnogi a chydnabod pwysigrwydd cysylltiadau a Heathrow fel canolfan awyr bwysig yn y DU ar gyfer busnesau a theithwyr o Gymru. Nid yn unig bydd y cyswllt rheilffordd newydd yn fwy cyfleus, ond bydd hefyd yn allweddol i ysgogi twf yn y rhanbarth.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, i wella mynediad a chysylltiadau ar gyfer sefydliadau a busnesau yng Nghymru. Wrth gwrs, gyda’r achos busnes ar gyfer trydaneiddio Abertawe a’r Cymoedd yn cael ei ystyried o hyd, rwy’n parhau i gefnogi’r cynigion pellach hyn i wella’r seilwaith yng Nghymru a phwysleisio rol hanfodol y gallai moderneiddio rheilffyrdd ei gael mewn rhoi hwb i economi Cymru.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Bydd galw am dystiolaeth ar wahan ar sut i gynnal cysylltiadau rhyngwladol y DU a’i statws fel canolfan, a fydd yn dilyn yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, ar ol i’r diwydiant gael amser i ystyried y mesurau a gyflwynir ar gyfer yr ymgynghoriad heddiw.
  • Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn ymarfer y llynedd i geisio barn gan y diwydiant a rhanddeiliaid eraill ynghylch llunio polisi hedfan ar gyfer y dyfodol drwy’r ddogfen gwmpasu: Datblygu Fframwaith Cynaliadwy ar gyfer y Diwydiant Hedfan.
  • Bydd y prosiect, Cyswllt Rheilffordd i Heathrow, yn cael ei gynnwys ym Manyleb Canlyniadau Lefel Uchel y Llywodraeth yn y dyfodol ar gyfer y cyhoeddiad am reilffyrdd.  Mae’r prosiect yn amodol ar achos busnes boddhaol a chytuno ar delerau derbyniol a’r diwydiant hedfan yn Heathrow.
Cyhoeddwyd ar 12 July 2012