Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cytundeb moderneiddio trenau

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Agility Trains - consortiwm yn cynnwys Hitachi a John Laing…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r cyhoeddiad bod Agility Trains - consortiwm yn cynnwys Hitachi a John Laing -  wedi sicrhau’r contract i gyflenwi trenau’r genhedlaeth nesaf rhwng dinasoedd ym Mhrydain.

Bydd y consortiwm yn adeiladu’r trenau ac yn eu cynnal a’u cadw dan y Rhaglen IEP, y prosiect a fydd yn disodli trenau Intercity 125 Prydain gyda threnau modern newydd gwell. Bydd y rhain yn rhedeg ar Brif Reilffordd y Great Western rhwng Llundain a De Cymru yn ogystal a rhannau eraill o’r rhwydwaith. Fel rhan o’r contract, bydd depo cynnal a chadw newydd yn cael ei adeiladu yn Abertawe.

Daw’r newyddion wythnos ar ol i’r Adran Drafnidiaeth gyhoeddi cynlluniau i drydaneiddio rhagor ar Brif Reilffordd y Great Western rhwng gorsaf Paddington Llundain ac Abertawe a Chledrau’r Cymoedd. Gyda threnau a seilwaith newydd, bydd yr amseroedd teithio rhwng Llundain a De Cymru yn llai, a bydd y daith yn fwy eco-gyfeillgar.

Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r penderfyniad i adeiladu’r trenau newydd hyn yn wych i deithwyr. Bydd eu taith yn gyflymach, yn fwy cyfforddus, ac yn fwy eco-gyfeillgar wrth iddynt deithio o Lundain i Dde Cymru ar ol i’r rhaglen trydaneiddio gael ei chwblhau.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at effaith sylweddol y buddsoddiad unwaith-mewn-cenhedlaeth yn seilwaith rheilffyrdd Cymru - nid yn unig ar deithwyr ond ar fusnesau a diwydiant hefyd. Mae’n anfon neges gref i fuddsoddwyr posib am ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nyfodol Cymru ac i bontio’r gagendor economaidd rhwng rhannau o’r DU.”

Cyhoeddwyd ar 25 July 2012